Cynllun Llesiant Sir Benfro

Cynllun Llesiant cyntaf Sir Benfro

Yn ein Cynllun Llesiant cyntaf fe wnaethom nodi dau Amcan Llesiant lefel uchel, eang i’w defnyddio fel ffocws ein Cynllun ac i weithredu fel y fframwaith y gallai’r BGC ei ddefnyddio i flaenoriaethu ei feysydd gwaith allweddol. Ar gyfer pob un o’r amcanion hyn fe wnaethom nodi pedwar maes blaenoriaeth pellach, a oedd yn nodi’r materion allweddol yn y Sir.  Wedyn fe wnaethom adnabod wyth prosiect pellach a oedd yn croesi ffiniau thematig traddodiadol, gan ein galluogi i weithio mewn ffordd fwy integredig a chydnabod natur gydgysylltiedig llesiant ar ei holl ffurfiau.

Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-22 yn disgrifio ein cynnydd dros y pum mlynedd ddiwethaf o ran cyflawni’r amcanion hyn, ac yn nodi’r hyn a gyflawnwyd gennym, a pha un a wnaethom gyflawni hynny o fewn y graddfeydd amser a nodwyd gennym. Mae’r gwersi o’n Cynllun Llesiant cyntaf, yn benodol o ran y meysydd canlynol, wedi goleuo’r modd yr aethom ati i ddatblygu ein Cynllun Llesiant ar gyfer 2023-28;

  • bod yn fwy realistig ynglŷn â nodau a chamau gweithredu
  • defnyddio dull sy’n rhoi mwy o sylw i ansawdd nag i faint er mwyn cynyddu ein heffeithiolrwydd i’r eithaf o fewn yr adnoddau sydd gennym
  • y dylai’r BGC ganolbwyntio ar rôl alluogi yn hytrach na bod yn uniongyrchol gyfrifol am gyflawni

Wrth gynnal ein Hasesiad Llesiant ac wrth ddatblygu ein hail Gynllun Llesiant mae wedi dod yn amlwg bod llawer o’r materion a nodwyd yn ein Cynllun cyntaf yn dal i fodoli. Nid yw hyn yn syndod gan bod llawer o faterion sydd, o ran eu natur, yn broblemau hirdymor y bydd yn cymryd amser i ymdrin â hwy. Trwy gydol y broses o ddatblygu’r Cynllun Llesiant drafft hwn rydym wedi gwneud yn siŵr bod y materion parhaus hyn yn cael eu cydnabod trwy’r camau gweithredu yr ydym yn bwriadu eu cymryd.

ID: 9689, adolygwyd 05/05/2023