Cynllun Llesiant Sir Benfro

Cynllun Prosiectau: Bioamrywiaeth a'r Argyfwng Natur

Cefndir y prosiect

Mae’r argyfyngau hinsawdd a natur yn heriau sy’n cydblethu ac ni ellir eu datrys ar eu pen eu hunain. Mae cynefinoedd naturiol iach yn hanfodol i storio carbon, lleihau'r perygl o lifogydd, helpu i atal erydiad arfordirol, gwella iechyd a llesiant, cynnal priddoedd iach a dŵr glân, a chefnogi adferiad rhywogaethau fel y peillwyr sydd eu hangen arnom ar gyfer ein cnydau a’n cyflenwad bwyd. Maent hefyd yn cynnal ein swyddi a’n heconomi.

Mae Sir Benfro yn enwog am ei hamgylchedd naturiol eithriadol, gan gynnwys rhwydwaith helaeth o safleoedd a gaiff eu gwarchod oherwydd eu gwerth ecolegol aruthrol.  Ond, ar draws y sir, mae ein brithwaith cyfoethog o gynefinoedd lled-naturiol daearol ac arfordirol a’r gwasanaethau hanfodol y mae’r rhain yn eu darparu yn cael eu rhoi o dan bwysau gan y canlynol:-

  • Datblygiad – sy'n arwain at gynefinoedd yn cael eu colli a'u darnio yn gynyddol, gan leihau amrywiaeth enynnol
  • Dwysáu amaethyddiaeth (e.e. y defnydd o blaladdwyr amaethyddol yn effeithio ar beillwyr, difrod i gynefinoedd ymylol fel perthi, llygredd maethynnau a gwaddodion, e.e. lefelau uchel o ffosffadau yn afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig)
  • Effeithiau rhywogaethau anfrodorol a chlefydau
  • Mwy o weithgareddau hamdden
  • Tir yn cael ei ddefnyddio yn amhriodol a diffyg rheolaeth

Mae’n debygol y bydd y newid yn yr hinsawdd yn dwysáu'r pwysau hyn ymhellach.

Mae Partneriaeth Natur Sir Benfro’n bodoli i gydlynu, hybu a chofnodi camau gweithredu presennol a newydd i warchod, hybu a gwella natur yn Sir Benfro, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, y dyfroedd mewndirol a gwely’r môr o amgylch arfordir Sir Benfro hyd at 12 milltir o’r lan, gan ystyried blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. Maent yn goruchwylio gwaith i gyflawni’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur ac yn cynnwys rhanddeiliaid y tu allan i aelodau cyfredol y BGC megis Fforwm Arfordirol Sir Benfro, Sea Trust Wales, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadwch Gymru’n Daclus a Chanolfan Parc Cenedlaethol Bluestone. Mae rhyw 188 o unigolion wedi cofrestru i gael diweddariadau ‘proffesiynol’ hefyd a 142 wedi cofrestru i gael diweddariadau ‘cyhoeddus’.

 

Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

 



Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

Prif gam gweithredu: Codi proffil bioamrywiaeth a newid y ffordd yr ydym yn meddwl am weithredu drosti, a’r rôl sydd gan holl bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth fynd i’r afael â’r argyfwng natur

Is-gam(au) gweithredu:
  • Cydnabod bod natur yn ased yn ein prosesau gwneud penderfyniadau ac ymgorffori’r ystyriaeth o fioamrywiaeth ac ecosystemau o fewn polisïau, cynlluniau, rhaglenni a phrosiectau ar bob lefel, a chefnogi'r gwaith o'u gweithredu'n ddiweddarach

Graddfa amser: Tymor canolig (1 i 5 mlynedd)

 

Prif gam gweithredu: Cydweithio i gyflawni'r camau gweithredu a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer Sir Benfro

Is-gam(au) gweithredu:
  • Bydd holl aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio tuag at gyflawni Amcanion 1 a 6 o'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer Sir Benfro, ac, yn ogystal â hyn, os ydynt yn berchen ar dir, yn ei reoli neu’n dylanwadu ar y gwaith o’i reoli, byddant yn cyfrannu at Amcanion 2 – 5
  • Bydd fframwaith yn cael ei ddatblygu ar gyfer holl bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddangos ac adrodd ar sut y maent yn cyfrannu at gynnal a gwella bioamrywiaeth ac at hyrwyddo gwytnwch ecosystemau, p’un a ydynt yn ddarostyngedig i ddyletswydd adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ai peidio
  • Bydd holl bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn sicrhau, os ydynt yn berchen ar dir neu yn ei reoli, bod gwarchod neu wella rhywogaethau a chynefinoedd a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau yn ffactor amlwg wrth iddynt fynd ati i wneud penderfyniadau rheoli
  • Nodi cyfleoedd ble bydd camau a gymerir i wella iechyd asedau naturiol yn cyfrannu'n uniongyrchol at fuddion llesiant ehangach
  • Nodi camau gweithredu penodol i roi argymhellion Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru ar waith er mwyn gweithio tuag at gyflawni targedau ‘30 erbyn 30’ y Cenhedloedd Unedig

Graddfa amser: Tymor canolig i'r tymor hwy (rhwng un a phum mlynedd a thu hwnt)

 



Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

  • Cyflwyno’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer Sir Benfro gam wrth gam
  • Bydd holl bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymrwymo i weithgarwch sy’n cyfrannu at gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau
  • Ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid a chymunedau i gymryd camau gweithredu o fewn y Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer Sir Benfro

 



Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

  • Mwy o ymwybyddiaeth o’r argyfwng natur a’r rôl sydd gan holl bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth fynd i’r afael â’r pwysau a darparu atebion ar eu cyfer, a phroffil uwch ar gyfer hyn oll
  • Bydd tir sydd dan berchnogaeth gyhoeddus yn cael ei reoli’n gynaliadwy, gan ddarparu enghreifftiau o'r arferion gorau
  • Bydd natur yn cael ei chydnabod fel ased ac yn cael ei hymgorffori'n ddangosadwy o fewn penderfyniadau, cynlluniau a strategaethau sefydliadau partner y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

 



At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

Amcan Llesiant 1

Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

  • Mae twristiaeth yn cefnogi 12,473 o swyddi ac mae amaethyddiaeth yn cyflogi 5% o weithlu Sir Benfro. Mae ecosystemau iach a gweithredol yn sylfaen sylfaenol i'r ddau.  Bydd adferiad byd natur yn sicrhau economi gynaliadwy.  Mae ein heconomi yn dibynnu’n sylfaenol ar natur a bu methiant ar y cyd i’w chydnabod fel ased.

Amcan Llesiant 2

Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

  • Mae'r buddion llesiant a geir o gael mynediad i fannau gwyrdd ac ardaloedd cyfoethog o ran natur wedi’u dogfennu’n dda. Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod dim ond cael golygfa o fan gwyrdd o'ch ffenestr werth £300 y pen bob blwyddyn. Mae mynediad i fannau gwyrdd yn ddangosydd ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Yn aml, elfennau mwyaf difreintiedig ein cymdeithas sydd â’r mynediad lleiaf at fyd natur ac sydd fwyaf agored i risgiau amgylcheddol, e.e. llifogydd.

Amcan Llesiant 3

Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur

  • Yn ei datganiad o argyfwng natur (30/06/2021), rhoddodd y Senedd yr un pwyslais ar bwysigrwydd gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng natur. Mae cysylltiad annatod rhwng y ddau. Mae ardaloedd sy'n gyfoethog o ran natur ac sydd ag ecosystemau iach a gweithredol yn tueddu i ddal a storio carbon ac maent yn gallu gwrthsefyll pwysau megis newidiadau yn yr hinsawdd yn well.

Amcan Llesiant 4

Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

  • Gallai camau gweithredu lleol gynnwys rhandiroedd cymunedol a mentrau tyfu bwyd eraill sy’n cefnogi cymunedau dyfeisgar.

 



At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

 

Meysydd Llesiant 

  • Amgylcheddol
  • Economaidd
  • Cymdeithasol
  • Diwylliannol

 

Nodau Llesiant 

Cymru LewyrchusCymru lewyrchus

cymru gydnerthCymru gydnerth

cymru iachachCymru Iachach

Cymru sy'n fwy cyfartalCymru sy’n fwy cyfartal

cymru o gymunedau cydlynusCymru o gymunedau cydlynu

cymru a diwylliant biwiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnuCymru â diwylliant biwiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd eangCymru sy’n gifrifol ar lefel fyd-eang

 

 

 

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

Hirdymor

Hirdymor - Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd

  • Nod y camau gweithredu fydd sicrhau defnydd cynaliadwy o'n hamgylchedd naturiol i gefnogi a darparu ar gyfer cymdeithas yn y dyfodol.  Bydd gweithredu nawr yn sicrhau y gellir osgoi costau uwch yn y dyfodol. Mae dulliau o adfer natur trwy ddiffiniad yn hirdymor. Mae camau gweithredu yn y tymor byr wastad wedi’u bwriadu i gyflawni cynaliadwyedd hirdymor a gweithrediad a chydnerthedd ecosystemau.

Atal

Atal - Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion

  • Bydd sicrhau adferiad byd natur a gwytnwch ecosystemau yn helpu i atal problemau a achosir gan fethiant ecosystemau megis llifogydd, sychder, gwres eithafol, erydiad pridd, llygredd a cholli carbon. Mae gwerth ecosystemau iach a gweithredol i gyfyngu ar effeithiau negyddol (e.e. o ganlyniad i newid hinsawdd) a hybu manteision cymdeithasol ehangach (e.e. manteision i lesiant sy’n deillio o fynediad at natur) wedi’u gwreiddio yn y gwaith yma.

Integreiddio

Integreiddio - Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill

  • Y gwaith hwn fydd y nod gwytnwch, sy'n cefnogi gwytnwch cymdeithasol ac economaidd yn benodol. Trwy sicrhau ecosystemau gweithredol iach bydd hyn yn cefnogi economi leol fwy cynaliadwy ac yn darparu cydnerthedd yn erbyn risg amgylcheddol yn y dyfodol.

Cydweithio

Cydweithio - Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant

  • Bydd fframwaith i gefnogi camau gweithredu cydweithredol holl bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei ddatblygu. Mae dulliau cydweithredol i gyflawni cymaint â phosibl gyda’r adnodau sydd ar gael yn ganolog i waith y Bartneriaeth Natur.

Cynnwys

Cynnwys - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu

  • Bydd y gweithgarwch yn cynnwys cyrff cyhoeddus, ar draws pob swyddogaeth ac ar bob lefel, sy'n cynrychioli'r cyhoedd y maent yn ei wasanaethu, ynghyd â gweithio’n uniongyrchol gyda’r cyhoedd a chymunedau.

 

ID: 9765, adolygwyd 12/08/2024