Cynllun Llesiant Sir Benfro

Cynllun Prosiectau: Cryfhau Cymunedau

Cefndir y prosiect

Mae cymunedau’n rhoi ymdeimlad o gysylltiad ac o berthyn i ni. Bu gan ein cymunedau rôl allweddol mewn gwaith i gyflwyno mentrau newydd a ffyrdd newydd o weithio gyda darparwyr gwasanaethau traddodiadol o ganlyniad i bandemig Covid. Mae ein cymunedau hefyd yn meddu ar sgiliau ac asedau y gellir eu cynnull er budd y cyhoedd, gan weithio mewn partneriaeth gyfartal gyda’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Gan adeiladu ar y gwaith a wnaed fel rhan o’n Cynllun Llesiant cyntaf, ein nod yn awr yw bod gan holl bartneriaid y BGC ffocws cryfach ar gryfhau ein cymunedau, ar eu galluogi i fod yn fwy dyfeisgar ac ar weithio ochr yn ochr â phobl leol ar y pethau sydd fwyaf o bwys i’w cymunedau.

Mae gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau a cheir galwadau cynyddol ar gyllid a phryderon cynyddol yn ei gylch. Trwy ddefnyddio’r potensial digyffwrdd mewn cymunedau, a tharo cydbwysedd rhwng nodau hirdymor a heriau byrdymor, mae gan bartneriaid y sector cyhoeddus gyfle i gydweithio’n fwy effeithiol gyda’n cymunedau yn hytrach na gweithio mewn cystadleuaeth â hwy. Bydd hyn yn cael effaith hirdymor gadarnhaol ond mae’n rhaid wrth ymrwymiad gan holl bartneriaid y BGC i gefnogi cymunedau a buddsoddi ynddynt fel partneriaid cyfartal yn y broses o ddarparu a thrawsnewid gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd angen i aelodau’r BGC sefyll yn gadarn yn wyneb cyllidebau gostyngol a galw cynyddol a threfnu bod adnoddau ar gael sy’n datgloi potensial cymunedau i helpu i fynd i’r afael â heriau byrdymor yn ogystal â chyflawni amcanion llesiant tymor hwy.

Bydd aelodau’r BGC yn cydweithio, gan rannu arbenigedd a chael gwared ar rwystrau i gynnydd, gyda’r amcan cyffredin o gynorthwyo cymunedau Sir Benfro i fod yn fwy egnïol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol byth.

 

Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

 



Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

Prif gam gweithredu: Meithrin dealltwriaeth well am ein cymunedau dwyieithog gan ddefnyddio data a mewnwelediadau lleol i ddatblygu sylfaen dystiolaeth i oleuo gwaith y BGC yn y dyfodol

Is-gam(au) gweithredu:
  • Creu proffiliau cymunedol
  • Rhoi cymorth i ddatblygu Cynlluniau Llesiant Cymunedol, gan fynd i’r afael â phob penderfynydd llesiant
  • Datblygu sylfaen dystiolaeth gref i oleuo blaenoriaethau a buddsoddiad yn y dyfodol
  • Datblygu mecanweithiau i bartneriaid y BGC a rhanddeiliaid perthnasol gydweithio

Graddfa amser: Byrdymor (6 mis i 2 flynedd)

 

Prif gam gweithredu: Cynyddu gweithgarwch ymgysylltu a chynnwys ledled cymunedau Sir Benfro

Is-gam(au) gweithredu:
  • Annog a galluogi pobl i wirfoddoli eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad
  • Cynyddu cyfranogiad mewn cyrff democrataidd a Byrddau a Phwyllgorau partneriaeth lleol a dealltwriaeth amdanynt
  • Cefnogi proses i gynnwys yr holl bobl, gan gynnwys y rhai sy’n anodd i’w cyrraedd, mewn prosesau penderfynu lleol a hynny mewn modd ystyrlon gan herio deinameg grym draddodiadol mewn modd cadarnhaol

Graddfa amser: Tymor canolig (1 i 5 mlynedd)

 

Prif gam gweithredu: Meithrin hyder, capasiti a galluedd cymunedau

Is-gam(au) gweithredu:
  • Gweithio gyda chymunedau fel partneriaid cyfartal i helpu i fynd i’r afael â heriau ehangach sy’n wynebu cymdeithas (e.e. newid hinsawdd a thlodi)
  • Cydweithio fel partneriaid i gyfuno a chanolbwyntio adnoddau tuag at fuddsoddiad cynaliadwy mewn cymunedau
  • Helpu i arfogi cymunedau â’r sgiliau ac asedau y mae eu hangen arnynt i gyrraedd nodau lleol

Graddfa amser: Tymor hwy (5 mlynedd a’r tu hwnt)

 



Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

  • Datblygu proffiliau cymunedol a Chynlluniau Llesiant Cymunedol i oleuo gwaith y BGC yn y dyfodol
  • Twf yn nifer yr actifyddion newid cymunedol sy’n cyfrannu’n gadarnhaol ac yn gyson at ddatblygu eu cymunedau
  • Datblygu adnodd i arddangos gwaith cymunedau a rhannu gwersi a syniadau

 



Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

  • Mae cymunedau’n fwy hyderus i berchnogi asedau a drosglwyddir gan bartneriaid
  • Mae cymunedau’n gallu dangos eu datblygiad trwy eu cyflawniadau
  • Mae cymunedau’n gallu defnyddio’u sgiliau i ddylanwadu ar newid yn eu hardaloedd lleol
  • Mae partneriaid y BGC yn dangos eu hymrwymiad i gyfuno adnoddau

 



At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

Amcan Llesiant 1

Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

  • Bydd cymunedau’n cael eu galluogi i gymryd asedau cymunedol ymlaen a sefydlu mentrau cymdeithasol a fydd yn darparu swyddi lleol, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth â chymorth. Trwy wirfoddoli, gall unigolion ddatblygu sgiliau a phrofiad a fydd yn eu helpu i gael cyflogaeth.

Amcan Llesiant 2

Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

  • Bydd cael dealltwriaeth well am ein cymunedau a’u hanghenion trwy goladu data a mewnwelediadau lleol yn galluogi partneriaid y BGC a rhanddeiliaid perthnasol i ddod yn fwy gwybodus ynglŷn â sut y gallant eu cefnogi a gweithio ochr yn ochr â hwy i ddarparu datrysiadau i’r materion sydd o bwys.

Amcan Llesiant 3

Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur

  • Bydd gweithio gyda chymunedau sy’n wynebu risg o brofi effeithiau newid hinsawdd a’r argyfwng natur a’u cynorthwyo i chwilio am adnoddau priodol yn eu grymuso i roi cymorth i ddatblygu datrysiadau sy’n gweddu orau i’r materion a wynebir ganddynt.

Amcan Llesiant 4

Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

  • Bydd gwaith i ddatblygu proffiliau cymunedol a Chynlluniau Llesiant Cymunedol, i gynyddu nifer y bobl sy’n gwirfoddoli eu sgiliau, eu harbenigedd a’u profiad ac i gynyddu cyfranogiad yn galluogi cymunedau i fod yn fwy cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol.

 



At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

 

Meysydd Llesiant 

  • Amgylcheddol
  • Economaidd
  • Cymdeithasol
  • Diwylliannol

 

Nodau Llesiant 

Cymru LewyrchusCymru lewyrchus

 cymru gydnerthCymru gydnerth

cymru iachachCymru Iachach

Cymru sy'n fwy cyfartalCymru sy’n fwy cyfartal

cymru o gymunedau cydlynusCymru o gymunedau cydlynu

cymru a diwylliant biwiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnuCymru â diwylliant biwiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

 

 

 

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

Hirdymor

Hirdymor - Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd

  • Nod y rhaglen Cryfhau Cymunedau yw cydgynhyrchu datrysiadau i heriau byrdymor trwy ddatgloi pŵer ac adnoddau cymunedol, yn ogystal â datblygu seilwaith cymunedol cynaliadwy a fydd yn dwyn manteision hirdymor ac yn gwella llesiant unigol a chymunedol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Atal

Atal - Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion

  • Mae’r weledigaeth ar gyfer gwaith atal yn Sir Benfro’n cynnwys creu cymunedau egnïol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a charedig. Mae’r rhaglen Cryfhau Cymunedau yn amcanu at greu seilwaith. cymunedol cynaliadwy y gellir ei ddefnyddio fel cyfrwng i wireddu’r weledigaeth hon. Mae’r rhaglen wedi’i bwriadu i fod yn ataliol ac yn rhagweithiol.

Integreiddio

Integreiddio - Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill

  • Mae’r prosiect hwn yn cyfrannu at gyflawni ein holl Amcanion Llesiant a chwech o’r Nodau Llesiant a bydd y camau gweithredu’n integreiddio ar draws gwasanaethau cyhoeddus lluosog.

Cydweithio

Cydweithio - Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant

  • Mae’r rhaglen Cryfhau Cymunedau yn seiliedig ar ddull cydweithredol, gyda phartneriaid y BGC yn gweithio mewn partneriaeth gyfartal gyda chymunedau a’r sector preifat er budd y cyhoedd ac i wella llesiant cymunedau ac unigolion.

Cynnwys

Cynnwys - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu

  • Mae ymgysylltu â phobl leol a’u cynnwys yn ganolog i’r rhaglen Cryfhau Cymunedau. Bydd partneriaid y BGC yn cydweithio i sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer cynnwys yn cael eu hyrwyddo mewn ffyrdd sy’n hygyrch ac yn gynhwysol, gan ddefnyddio rhwydweithiau sefydledig a sefydliadau’r trydydd sector i roi cymorth i gynnwys pobl sy’n wynebu risg o fod heb gynrychiolaeth ddigonol a/neu o gael eu cau allan.

 

ID: 9763, adolygwyd 12/08/2024