Cynllun Prosiectau: Datgarboneiddio a Sero Net
Cefndir y prosiect
Newid yn yr hinsawdd yw un o faterion diffiniol ein hoes. O batrymau tywydd cyfnewidiol sy’n bygwth cynhyrchu bwyd i lefelau’r môr yn codi a’r rhagolygon o lifogydd trychinebus, mae effaith newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang o ran ei chwmpas, yn ddigynsail o ran maint, ac o bryder eang i bob un ohonom. Mae angen cymryd camau effeithiol ar unwaith i leihau ein hôl troed carbon. Mae hyn yn angenrheidiol yn ogystal â sefydlu polisïau a gweithredu i wella ein gwytnwch ar gyfer y dyfodol. Mae lliniaru ac ymaddasu i newid yn yr hinsawdd yn un o’r pedwar thema yn natganiad ardal y de-orllewin, a’r neges lethol yn Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol 2020 (SoNaRR2020) yw bod angen trawsnewid cymdeithasol yn ysystemau bwyd, ynni a thrafnidiaeth.Felly, mae ystyried y tair system hyn yn arwain at gyfleoedd cydweithredol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus eu hystyried wrth weithio tuag at gyflawni nodau sero net. Cydnabyddir hefyd bod yn rhaid i’r newid i sero net fod yn “drosglwyddiad cyfiawn” wedi’i reoli i fod yn gyfiawn ac yn deg.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd yn 2019, a gwnaeth Cyngor Sir Penfro yn yr un modd ym mis Mai 2019 ac aeth ymlaen i greu cynllun gweithredu i lywio CSP tuag at ddod yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030. Mae Strategaeth Ynni De Cymru yn darparu llwybr strategol ac mae Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Benfro (LAEP) yn adeiladu ar y gwaith hwn gan ddisgrifio camau y mae angen eu cymryd i gyrraedd nodau ynni a hinsawdd.
Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni
Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)
Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)
At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?
At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?
Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?
Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni
Prif gam gweithredu: Cydweithio i rannu arfer da, cymryd camau i leihau allyriadau carbon a lleihau’r defnydd o garbon i sero net erbyn 2030.
Is-gam(au) gweithredu:
- Cyflwyno hyfforddiant llythrennedd carbon, neu hyfforddiant cyfatebol, i bob lefel ar draws sefydliadau partner y BGC i godi ymwybyddiaeth o’r materion a’r camau y bydd angen eu cymryd i leihau’r defnydd o garbon
- Adnabod cyfleoedd ar gyfer a chamau gweithredu cydgysylltiedig, gan gynnwys ar lefel ranbarthol lle bo’n briodol drwy rwydweithiau sefydledig neu newydd
Graddfa amser: Tymor canolig (1 i 5 mlynedd)
Prif gam gweithredu: Monitro a chefnogi cyflwyno Cynllun Ynni Ardal Sir Benfro (LAEP)
Is-gam(au) gweithredu:
- Nodi meysydd o fewn y LAEP y gall y BGC eu cefnogi
- Defnyddio dylanwad cyfunol y BGC i fynd i’r afael ag unrhyw feysydd sy’n herio’r ddarpariaeth
- Llywio’r broses o weithredu Cynllun Ynni Ardal Sir Benfro i sicrhau y cymhwysir egwyddorion adeiladu economi gynaliadwy, deg a gwyrdd, gyda sgiliau, cyfleoedd hyfforddi a swyddi gwyrdd gwerth uchel, i alluogi trosglwyddiad cyfiawn o system ynni sy’n seiliedig ar danwyddau ffosil i system ynni adnewyddadwy, a chydnabod yr angen i annog cymunedau i ymgysylltu’n llawn â’r broses drosglwyddo
Graddfa amser: Tymor canolig i'r tymor hwy (rhwng un a phum mlynedd a thu hwnt)
Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)
- Bydd hyfforddiant llythrennedd carbon, neu hyfforddiant cyfatebol, yn cael ei gyflwyno ar draws sefydliadau partner y BGC
- Gweithredu cynlluniau a gweithgarwch lleihau carbon yn effeithiol
- Cynllun cyflawni sy’n amlinellu meysydd o fewn y LAEP y gall y BGC eu cyflawni ar y cyd
Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)
- Bydd ymwybyddiaeth o’r camau y mae angen eu cymryd i leihau allyriadau carbon yn cael ei ymgorffori ar draws sefydliadau partner y BGC, gan ddylanwadu ar weithredoedd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau
- Gwerthfawrogiad bod rhaid cymryd y camau gweithredu hyn yn unol ag egwyddorion adeiladu economi gynaliadwy, deg a gwyrdd, gyda sgiliau, cyfleoedd hyfforddi a swyddi gwyrdd gwerth uchel, a hynny’n arwain at drosglwyddiad cyfiawn o system ynni sy’n seiliedig ar danwyddau ffosil i system ynni adnewyddadwy, a’r angen i annog cymunedau i ymgysylltu’n llawn â’r trosglwyddiad
At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?
Amcan Llesiant 1
Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach
- Bydd gweithgarwch yn gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy ac yn cymhwyso egwyddorion adeiladu economi gynaliadwy, deg a gwyrdd, gyda sgiliau, cyfleoedd hyfforddi a swyddi gwyrdd gwerth uchel. Bydd hefyd yn cyfrannu at newid trawsnewidiol yn y sector ynni gan arwain at drosglwyddiad cyfiawn o system ynni sy’n seiliedig ar danwyddau ffosil i system ynni adnewyddadwy, a’r angen i annog cymunedau i ymgysylltu’n llawn â’r trosglwyddiad hwnnw. Mae gweithgarwch yn bwrw golwg ar y system ynni gyfan gan ystyried integreiddio technolegau ynni adnewyddadwy ar draws adeiladau, trafnidiaeth, gwres, sectorau busnes a diwydiant a thrydan, i ysgogi datgarboneiddio a sero net.
Amcan Llesiant 2
Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant
- Bydd lleihau’r risgiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig ag allyriadau carbon yn helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella llesiant cenedlaethau. Mae’r gwaith yn cyfrannu tuag at drawsnewid yn y sector ynni gan arwain at drosglwyddiad cyfiawn o system ynni sy’n seiliedig ar danwyddau ffosil i system ynni adnewyddadwy, gan annog cymunedau i ymgysylltu’n llawn â’r trosglwyddiad hwnnw.
Amcan Llesiant 3
Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur
- Bydd gweithgarwch yn y maes prosiect hwn yn cael ei anelu’n benodol at leihau allyriadau carbon trwy amrywiaeth o gamau gweithredu gan gynnwys trawsnewid y system ynni lleol. Mae gweithgarwch yn bwrw golwg ar y system ynni gyfan gan ystyried integreiddio technolegau ynni adnewyddadwy ar draws adeiladau, trafnidiaeth, gwres, sectorau busnes a diwydiant a thrydan, i ysgogi datgarboneiddio a sero net a lliniaru effeithiau newid hinsawdd a all fod o gymorth i sefydlogi ecosystemau gan ymdrin â’r argyfwng natur.
Amcan Llesiant 4
Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol
- Bydd cymhwyso egwyddorion adeiladu economi gynaliadwy, deg a gwyrdd, gyda sgiliau, cyfleoedd hyfforddi a swyddi gwyrdd gwerth uchel, yn cyfrannu at drosglwyddiad cyfiawn o system ynni sy’n seiliedig ar danwyddau ffosil i system ynni adnewyddadwy. Bydd annog cymunedau i fod yn rhan o weithgarwch sy’n cyfrannu at leihau allyriadau carbon yn eu helpu i ddod yn fwy cysylltiedig â’u hardaloedd lleol, yn eu hannog i fod yn ddyfeisgar a, thrwy liniaru effeithiau gwaethaf newid hinsawdd, yn arwain at amgylchedd diogelach a mwy sefydlog i bawb.
At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?
Meysydd Llesiant
- Amgylcheddol
- Economaidd
- Cymdeithasol
- Diwylliannol
Nodau Llesiant
Cymru lewyrchus
Cymru gydnerth
Cymru Iachach
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymru o gymunedau cydlynu
Cymru â diwylliant biwiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymru sy’n gifrifol ar lefel fyd-eang
Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?
Hirdymor - Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd
- Mae’r targedau sydd i’w cyflawni mewn perthynas â datgarboneiddio a chyflawni sero net yn ymestyn y tu hwnt i oes y prosiect hwn, fodd bynnag, i gyflawni llwyddiant mae angen gwaith yn awr. Y ddau darged allweddol yw i wasanaeth cyhoeddus Cymru fod yn sero net erbyn 2030 ac i Gymru ddod yn sero net erbyn 2050. Bydd angen ystyried y targedau hirdymor hyn wrth gytuno a gweithredu’r cynllun llesiant.
Atal - Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion
- Mae lleihau allyriadau carbon yn lliniaru effeithiau gwaethaf newid hinsawdd, gan arwain at amgylchedd diogelach a mwy sefydlog i bawb. Mae’n cynorthwyo i sefydlogi ecosystemau ac yn mynd i’r afael â’r argyfwng natur. Gall gweithredu i leihau allyriadau o losgi tanwyddau ffosil arwain yn y pen draw at waredu gronynnau niweidiol sy’n cael eu rhyddhau i’r amgylchedd gan felly wella iechyd pobl ac atal materion iechyd rhag digwydd yn y dyfodol.
Integreiddio - Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill
- Rhaid i Sir Benfro a Chymru drosglwyddo i ddyfodol datgarbonedig ac felly bydd camau gweithredu a buddsoddiad a wneir o ganlyniad i’r cynllun hwn yn cael effaith gadarnhaol yn y dyfodol. Mae angen i holl aelodau’r BGC gymryd rhan yn y gwaith hwn i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni ein nodau hirdymor.
Cydweithio - Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant
- Bydd y gwaith hwn yn gofyn am ffyrdd newydd o weithio ac felly mae angen i holl aelodau’r BGC gydweithio a rhannu arfer da. Bydd y gwaith yn golygu bod y BGC yn parhau i gydweithio gyda phrosiectau ynni cymunedol a chan y 3ydd sector, a chyda'r sector preifat ar brosiectau ynni adnewyddadwy a hydrogen glân rhanbarthol ac o arwyddocâd cenedlaethol megis Aberdaugleddau: Teyrnas Ynni, Clwstwr Diwydiannol De Cymru, Y Porthladd Rhydd Celtaidd, Clwstwr Ynni’r Dyfodol Dyfrffordd y Ddau Gleddau a Bwrdd Strategol Clwstwr y Môr Celtaidd.
Cynnwys - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu
- Oherwydd y ffyrdd newydd o weithio y bydd y gwaith hwn yn eu gwneud yn ofynnol, mae’n hanfodol bod swyddogion sy’n darparu gwasanaethau, a phobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny, yn rhan o’r broses o gytuno ar sut y caiff y gwasanaethau a ddarperir eu newid. Er mwyn cyflawni trawsnewid yn y sector ynni a fydd yn arwain at drosglwyddiad cyfiawn o system ynni sy’n seiliedig ar danwyddau ffosil i system ynni adnewyddadwy, mae angen i bawb ymwneud ac ymgysylltu mor llawn â phosibl â’r trosglwyddiad hwnnw.