Cynllun Llesiant Sir Benfro

Cynllun Prosiectau: Lleihau Tlodi ac Anghydraddoldebau

Cefndir y prosiect

Tarddodd y prosiect o grŵp yn yr Awdurdod Lleol a oedd yn canolbwyntio ar Dlodi Plant i ddechrau, gan bod cyfradd Tlodi Plant Sir Benfro ymhlith y pum cyfradd uchaf yng Nghymru.

Penderfynwyd mai’r dull gorau o ddatblygu ymateb i’r mater oedd ar sail y BGC. Ym mis Ionawr 2022, fe gytunodd y BGC i ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw. Yn dilyn cyfarfodydd cychwynnol i bennu cwmpas gwaith y grŵp, ym mis Ebrill 2022 fe gytunodd y Bwrdd i ehangu’r cylch gwaith i gynnwys tlodi’n fwy eang ac fe sefydlwyd gweithgor swyddogion a hwnnw’n cynnwys cynrychiolwyr o holl sefydliadau partner y BGC, a phartneriaid ehangach megis Cyngor Ar Bopeth.

Ers sefydlu’r grŵp, mae’r argyfwng costau byw sy’n datblygu wedi gorfodi’r grŵp i ddatblygu camau gweithredu mwy byrdymor, y gellir eu cymryd ar unwaith i leddfu effeithiau’r sefyllfa, yn ogystal â datblygu strategaeth ar gyfer y tymor canolig a hir. Bydd canfyddiadau’r gweithgarwch a gyllidir dros y tymor byr yn bwydo i mewn i ddatblygiad y Strategaeth Tlodi.

 

Ar y dudalen hon:

Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

 

Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

Prif gam gweithredu: Defnyddio cyllid byrdymor i ymateb i’r argyfwng costau byw

Is-gam(au) gweithredu:
  • Datblygu cynlluniau lleol i gyflawni elfennau dewisol y cynllun cymorth gyda chostau byw
  • Gwneud ymchwil i gael mewnwelediadau i brofiad personol pobl o dlodi

Graddfa amser: Byrdymor (6 mis i 2 flynedd)

 

Prif gam gweithredu: Datblygu strategaeth tlodi i gyflawni newid parhaol, a honno wedi’i goleuo gan ddata lleol a chenedlaethol a phrofiadau’r rhai sydd mewn tlodi yn Sir Benfro ac yn seiliedig ar ddull ataliol

Is-gam(au) gweithredu:
  • Edrych ar enghreifftiau o strategaethau sy’n adlewyrchu arfer gorau
  • Ystyried ymchwil i’r hyn sy’n gweithio i helpu pobl sy’n profi anawsterau ariannol
  • Dadansoddi data a thueddiadau i ddeall y lefelau tlodi yn Sir Benfro
  • Nodi camau gweithredu priodol i’w cynnwys o fewn y strategaeth a threfniadau cyflawni
  • Defnyddio ymatebion o waith lleol a arweinir gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro i ymchwilio i brofiad personol pobl sydd mewn tlodi yn Sir Benfro

Graddfa amser: Tymor canolig (1 i 5 mlynedd)

 

Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

  • Rhaglen fyrdymor o gynlluniau a mentrau i ymateb i’r argyfwng costau byw, gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru a lleol
  • Strategaeth ar gyfer y tymor canolig a hir i gyflawni newid mwy parhaol, a honno wedi’i goleuo gan ddata lleol a chenedlaethol a dealltwriaeth am arfer gorau, a chan brofiadau personol pobl sydd mewn tlodi yn y Sir
  • Argymhellion i bartneriaid y BGC ynghylch camau gweithredu y gallant eu cymryd i gyfrannu at y strategaeth

 



Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

  • Goruchwylio a chydlynu’r ymateb cyfunol ar unwaith i’r argyfwng costau byw
  • Strategaeth (yn rhychwantu 5 mlynedd i ddechrau) ar gyfer ymateb y BGC i dlodi yn y Sir, i gael ei chymeradwyo oddeutu mis Ebrill 2023. 
  • Bydd bylchau mewn gweithgarwch yn cael eu nodi a chamau gweithredu’n cael eu nodi i fynd i’r afael ag unrhyw feysydd lle ceir diffygion sylweddol.

 



At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

 

Amcan Llesiant 1

Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

  • Gall gwaith i ddatblygu mentrau sy’n cefnogi’r rhai mewn tlodi ddileu rhai o’r rhwystrau i waith a chefnogi twf tuag at economi fwy cynaliadwy a gwyrdd.

Amcan Llesiant 2

Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

  • Bydd y prosiect yn cynnwys gweithio gyda chymunedau i leihau anghydraddoldebau a achosir gan fod mewn tlodi. Byddwn yn gwneud y defnydd gorau o ddata lleol ac ymchwil leol i oleuo ein ffordd o weithio gyda phobl, a’r strategaethau y byddwn yn eu rhoi ar waith i’w cefnogi.

Amcan Llesiant 4

Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

  • Trwy weithio gyda phobl i leihau anghydraddoldebau bydd y prosiect hefyd yn amcanu at leihau effaith anfantais ar ein cymunedau a rhoi iddynt yr offer i’w cefnogi eu hunain, gan eu galluogi i fod yn fwy cysylltiedig a dyfeisgar.

 



At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

 

Meysydd Llesiant 

  • Economaidd
  • Cymdeithasol

 

Nodau Llesiant

Cymru LewyrchusCymru lewyrchus

cymru gydnerthCymru gydnerth

cymru iachachCymru Iachach

Cymru sy'n fwy cyfartalCymru sy’n fwy cyfartal

cymru o gymunedau cydlynusCymru o gymunedau cydlynu

 

 

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

Hirdymor

Hirdymor - Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd

  • Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar anghenion pobl yn awr wrth i’r argyfwng costau byw effeithio ar y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymunedau, yn ogystal ag edrych tua’r dyfodol i ddatblygu strategaeth sy’n amcanu at leihau effeithiau anfantais yn y tymor hwy.

Atal

Atal - Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion

  • Mae’r prosiect wedi’i rannu’n gamau gweithredu yn y tymor byr a’r tymor hwy, sy’n amcan at atal yr anfanteision sy’n gysylltiedig â thlodi rhag effeithio ar lesiant cymdeithasol ac economaidd pobl yn Sir Benfro.

Integreiddio

Integreiddio - Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill

  • Mae’r prosiect yn cyfrannu at gyflawni tri o’n Hamcanion Llesiant a phump o’r Nodau Llesiant a bydd y camau gweithredu’n integreiddio ar draws gwasanaethau cyhoeddus lluosog

Cydweithio

Cydweithio - Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant

  • Mae grŵp cyflawni amlasiantaeth wedi cael ei sefydlu a fydd yn cydweithio i gyflawni’r prosiect.

Cynnwys

Cynnwys - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu

  • Mae rhan o’r ymchwil a fydd yn cyfrannu at gyflawni’r prosiect hwn yn golygu siarad gyda phobl i gasglu eu profiadau personol am galedi ariannol/tlodi a’u syniadau ar gyfer gwneud pethau’n well yn y dyfodol.
ID: 9692, adolygwyd 12/08/2024