Cynllun Llesiant Sir Benfro

Cynllun Prosiectau: Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd

Cefndir y prosiect

Mae allyriadau yn y gorffennol yn golygu bod newid hinsawdd yn anorfod ac er y gellir lleihau difrifoldeb y newid yn y dyfodol trwy leihau allyriadau carbon i’r atmosffer o ganlyniad i ddatgarboneiddio, mae angen i ni hefyd baratoi ar gyfer yr ystod eang o risgiau sy’n deillio o newid hinsawdd neu ymaddasu iddynt. Nododd gwaith prosiect peilot a wnaed gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn cymunedau yn Sir Benfro yr angen i ddatblygu dull strategol cydgysylltiedig lle gallai asiantaethau, awdurdodau a grwpiau cymunedol fynd i’r afael â’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd. Nododd y gwaith hwn hefyd fod angen ymgysylltu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel ranbarthol, sirol a chymunedol ynghylch risg i’r hinsawdd ac ymaddasu.

Mae data’r Asesiad Llesiant yn dangos yn glir bod angen ymaddasu, ac y bydd newid hinsawdd yn cynyddu nifer yr unedau eiddo yn Sir Benfro sydd eisoes mewn perygl o gael llifogydd o afonydd neu o’r môr (3000 oedd nifer yr unedau eiddo a nodwyd yn yr Asesiad Llesiant). Bydd effeithiau i seilwaith a gwasanaethau allweddol yn effeithio ar iechyd a llesiant cymunedau hefyd. Mae cais llwyddiannus i Gronfa Adnewyddu Cymunedol y Deyrnas Unedig gan Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF) a Netherwood Sustainable Futures (NSF) gyda chefnogaeth y BGC wedi cyflwyno Strategaeth Ymaddasu i Newid Hinsawdd ar gyfer Sir Benfro. Mae’r strategaeth yn darparu ymagwedd strategol a chydgysylltiedig at newid hinsawdd ac ymaddasu i newid hinsawdd ar gyfer cymunedau Sir Benfro. Gydag amserlen o 2022–2027 mae’r strategaeth yn darparu’r conglfeini ar gyfer dechrau paratoi ar gyfer y degawdau nesaf.  Fe wnaeth partneriaid y BGC, ynghyd ag ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys grwpiau cymunedol a busnesau lleol, oleuo datblygiad y strategaeth trwy gyfres o weithdai cyfranogol gyda rhanddeiliaid, cymorthfeydd a chyfarfodydd allgymorth. Archwiliwyd y 61 o risgiau yn Asesiad Risg Newid yn yr Hinsawdd 3 (CCRA3) gan arwain at nodi 39 o flaenoriaethau ar gyfer Sir Benfro a 24 o gamau gweithredu wedi’u pennu i’w cyflawni gan gyrff cyhoeddus a phartneriaid trydydd sector a sector preifat yn Sir Benfro wedi’u ledled y Sir, a’r rheiny i’w cydgysylltu gan y BGC.

 

Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

 



Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

 

Prif gam gweithredu: Cydlynu gweithrediad y Strategaeth Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer Sir Benfro

Is-gam(au) gweithredu:
  • Sicrhau eiriolaeth lefel uchel gan bartneriaid y BGC i gyfeirio adnoddau presennol
  • Sefydliadau arweiniol i gydweithio i bennu a sicrhau’r adnoddau/cyllid y mae eu hangen i lunio a gweithredu cynllun cyflawni ar gyfer y Strategaeth
  • Monitro ac adrodd ar gynnydd tuag at weithredu’r strategaeth a’r cynllun cyflawni Parhau i gydweithio ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector, y sector preifat a chymunedau lleol i ddatblygu tystiolaeth a mewnwelediadau ar y rhyngweithio rhwng risgiau hinsawdd a systemau cymdeithasol, economaidd a naturiol ehangach.
  • Gweithio gydag ystod o randdeiliaid i weithredu’r cynllun cyflawni

Graddfa amser: Tymor canolig i'r tymor hwy (rhwng un a phum mlynedd a thu hwnt)

 



Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

  • Rhoi cymorth a dyrannu adnoddau’n strategol i’w gwneud yn bosibl gweithredu’r Strategaeth mewn modd wedi’i flaenoriaethu
  • Cynllun cyflawni sy’n nodi arweinwyr, graddfeydd amser, y bobl i’w cynnwys a goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer camau gweithredu

 



Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

  • Mwy o ddealltwriaeth am risgiau, yr angen i ymaddasu a’r capasiti o fewn cymunedau, sefydliadau, darparwyr gwasanaethau a busnesau, gan arwain at gynlluniau seiliedig-ar-wybodaeth a chamau gweithredu cydgysylltiedig
  • Rhoi dull cydweithredol, strategol ar waith lle mae ymaddasu i newid hinsawdd yn y cwestiwn
  • Bydd cymunedau wedi ymaddasu’n well i newid hinsawdd ac yn fwy cydnerth yn wyneb newid hinsawdd am ddegawdau i ddod

 

At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

Amcan Llesiant 1

Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

  • Bydd gweithgarwch ymaddasu’n cyfrannu’n uniongyrchol at gynaliadwyedd o fewn sectorau twristiaeth, amaethyddiaeth, diwydiant a busnesau. Mae cynyddu parodrwydd ac ymaddasiad yn dilyn asesu risgiau, er enghraifft i seilwaith, cyflenwadau dŵr, trafnidiaeth, rheoli defnydd tir a chyflenwadau ynni yn helpu i feithrin y cydnerthedd y mae ei angen ar gyfer mentrau hyfyw. Bydd gweithgarwch ymaddasu hefyd yn diogelu’r adnoddau naturiol y mae busnesau, diwydiant a chymunedau’n dibynnu arnynt. Felly mae ymaddasu i sicrhau adnoddau naturiol hanfodol a mentrau cydnerth hyfyw yn cefnogi twf, swyddi, llewyrch ac fe all alluogi trawsnewid yn y sectorau bwyd ac ynni gan arwain at economi fwy cynaliadwy a gwyrddach.

Amcan Llesiant 2

Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

  • Trwy gydweithio gyda chymunedau sy’n wynebu’r risg fwyaf, i adnabod datrysiadau ymaddasu a’u rhoi ar waith, byddant yn dod yn llai agored i risgiau amgylcheddol sy’n deillio o hinsawdd newidiol. Mae hyn yn gwella llesiant trwy leihau’r effeithiau eang a pharhaus ar iechyd, yr amgylchedd a’r economi sy’n effeithio ar gartrefi a busnesau sy’n aml yn tarfu’n sylweddol ar weithrediad arferol cymunedau. Bydd hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau gan ei bod yn aml yn wir mai’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas sy’n profi’r effeithiau gwaethaf.

Amcan Llesiant 3

Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur

  • Bydd gweithgarwch yn helpu cymunedau, busnesau, diwydiant a’r sector cyhoeddus yn uniongyrchol i gydweithio i fynd i’r afael â’r effeithiau, adnabod risgiau parhaus, ac ymaddasu i newid hinsawdd. Bydd y gweithgarwch ymaddasu hwn yn cael ei wneud ar y cyd â gweithgarwch ategol i ddatgarboneiddio neu liniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae bod ag ecosystemau sy’n iach, yn gydnerth ac a reolir yn gynaliadwy’n hanfodol i ymaddasu i newid hinsawdd a risgiau amgylcheddol cysylltiedig yn ogystal â mynd i’r afael â’r argyfwng natur.

Amcan Llesiant 4

Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

  • Bydd gweithio gyda chymunedau ac amrywiaeth eang o randdeiliaid o sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, i adnabod datrysiadau i ymaddasu i fynd i’r afael â risgiau ac effeithiau newid hinsawdd yn helpu i feithrin capasiti, gallu a hyder i gryfhau cydlyniant cymunedol. Bydd hefyd yn helpu i oleuo proffiliau cymunedol a chynlluniau llesiant cymunedol.

 



At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

 

Meysydd Llesiant 

  • Amgylcheddol
  • Economaidd
  • Cymdeithasol
  • Diwylliannol

 

Nodau Llesiant

Cymru LewyrchusCymru lewyrchus

cymru gydnerthCymru gydnerth

cymru iachachCymru Iachach

Cymru sy'n fwy cyfartalCymru sy’n fwy cyfartal

cymru o gymunedau cydlynusCymru o gymunedau cydlynu

cymru a diwylliant biwiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnuCymru â diwylliant biwiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd eangCymru sy’n gifrifol ar lefel fyd-eang

 

 

 

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

Hirdymor

Hirdymor - Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd

  • Mae’r Strategaeth Ymaddasu i Newid Hinsawdd yn strategaeth 5 mlynedd ond mae ei gweithredu'n darparu’r conglfeini i sicrhau cyfaddaster cymunedau ac felly eu cynaliadwyedd am genedlaethau i ddod. 

Atal

Atal - Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion

  • Mae’r prosiect yn seiliedig ar leihau effeithiau newid hinsawdd trwy ymaddasu i wneud ein hamgylchedd a’n cymunedau’n fwy cydnerth ac felly gwella’u gallu i ymdrin â’r effeithiau hyn. Mae’r ffocws ar ymaddasu i atal cymunedau rhag bod yn agored yn y dyfodol i risgiau amgylcheddol, ariannol a risgiau i iechyd sy’n gysylltiedig ag effeithiau newid hinsawdd.

Integreiddio

Integreiddio - Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill

  • Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bob agwedd ar gymdeithas, felly os na fyddwn yn darparu ymateb ystyrlon ac yn ymaddasu i’r effeithiau, bydd yn cael effaith negyddol ar amcanion llesiant pob corff cyhoeddus yn ogystal â sefydliadau yn y sector preifat a’r trydydd sector yn Sir Benfro.

Cydweithio

Cydweithio - Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant

  • Mae ymateb i newid yn yr hinsawdd ac ymaddasu iddo yn ei gwneud yn ofynnol i bob sefydliad ar y BGC gydweithio. Er y bydd gan rai rôl fwy nag eraill, bydd angen i bawb gymryd rhan yn y gwaith hwn.

Cynnwys

Cynnwys - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu

  • Mae ymaddasu i newid yn yr hinsawdd yn gofyn am gyfranogiad pobl a chymunedau yn Sir Benfro. Bydd rhai o’r camau gweithredu gofynnol yn heriol ac felly mae sicrhau cyfranogiad cymunedol cryf yn hanfodol.

 

ID: 9766, adolygwyd 12/08/2024