Cynllun Llesiant Sir Benfro

Cyflawni a monitro cynnydd

Cyflawni

Mae ar y BGC angen i’r sefydliadau cywir a’r bobl gywir gael eu cynnwys er mwyn cyflawni’r camau gweithredu y byddwn yn eu nodi yn y Cynllun Llesiant. Bydd trefniadau cyflawni’n cael eu dylunio fel eu bod yn darparu llinell atebolrwydd uniongyrchol i’r BGC trwy ei gwneud yn ofynnol i aelodau unigol o’r BGC arwain a noddi ffrydiau gwaith neu brosiectau penodol. Byddwn yn cytuno ar fanylion llawn ein mecanweithiau cyflawni dros y misoedd nesaf a byddant yn cael eu cynnwys yn y fersiwn derfynol o’r Cynllun Llesiant. Bydd partneriaid yn cydweithio i gyflawni cynlluniau prosiect sy’n nodi’r camau gweithredu penodol y byddwn yn eu cymryd i wneud gwahaniaeth. Byddwn hefyd yn cadw hyblygrwydd o fewn ein trefniadau cyflawni i alluogi syniadau i ddatblygu dros amser ac i’n galluogi i adweithio ac ymateb i heriau newydd a materion sy’n dod i’r amlwg.

Monitro

Fel rhan o’r broses ar gyfer dylunio’r modd y cyflawnir ffrydiau gwaith, byddwn yn nodi’r mesurau a ddefnyddir i fesur llwyddiant a bydd y BGC yn datblygu fframwaith rheoli perfformiad a fydd yn ei alluogi i werthuso cynnydd. 

Adroddiad Blynyddol

Mae’n ofynnol i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus lunio Adroddiadau Blynyddol sy’n nodi’r camau a gymerwyd gan y BGC i gyflawni’r amcanion yn y Cynllun Llesiant. Bydd copïau o’r adroddiad hwn yn cael eu hanfon at Weinidogion Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Archwilydd Cyffredinol Cymru a phwyllgor trosolwg a chraffu Cyngor Sir Penfro (gweler isod).

Craffu

Panel Partneriaethau’r Cyngor sy’n gyfrifol am ddarparu atebolrwydd democrataidd a goruchwyliaeth ar gyfer gwaith y BGC. Gall adolygu neu graffu ar y penderfyniadau a wnaed neu gamau gweithredu a gymerwyd gan y BGC, ei drefniadau llywodraethu, a gofyn i unrhyw aelod unigol o’r BGC ddod ger ei fron er mwyn iddo allu craffu ar y cyfraniad y mae sefydliad partner yn ei wneud i waith y BGC.

ID: 9790, adolygwyd 05/05/2023

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau ar y Cynllun Llesiant neu’r modd y mae’r BGC yn gweithio’n gyffredinol, cysylltwch â:

Nick Evans

Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaethau

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

Ffôn: 01437 775858

E-bost: nicholas.evans@pembrokeshire.gov.uk

Gwefan: BGC Sir Benfro

ID: 9791, adolygwyd 05/05/2023

Cynllun Prosiectau: Datgarboneiddio a Sero Net

Cefndir y prosiect

Newid yn yr hinsawdd yw un o faterion diffiniol ein hoes. O batrymau tywydd cyfnewidiol sy’n bygwth cynhyrchu bwyd i lefelau’r môr yn codi a’r rhagolygon o lifogydd trychinebus, mae effaith newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang o ran ei chwmpas, yn ddigynsail o ran maint, ac o bryder eang i bob un ohonom. Mae angen cymryd camau effeithiol ar unwaith i leihau ein hôl troed carbon. Mae hyn yn angenrheidiol yn ogystal â sefydlu polisïau a gweithredu i wella ein gwytnwch ar gyfer y dyfodol. Mae lliniaru ac ymaddasu i newid yn yr hinsawdd yn un o’r pedwar thema yn natganiad ardal y de-orllewin, a’r neges lethol yn Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol 2020 (SoNaRR2020) yw bod angen trawsnewid cymdeithasol yn ysystemau bwyd, ynni a thrafnidiaeth.Felly, mae ystyried y tair system hyn yn arwain at gyfleoedd cydweithredol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus eu hystyried wrth weithio tuag at gyflawni nodau sero net. Cydnabyddir hefyd bod yn rhaid i’r newid i sero net fod yn “drosglwyddiad cyfiawn” wedi’i reoli i fod yn gyfiawn ac yn deg.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd yn 2019, a gwnaeth Cyngor Sir Penfro yn yr un modd ym mis Mai 2019 ac aeth ymlaen i greu cynllun gweithredu i lywio CSP tuag at ddod yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030. Mae Strategaeth Ynni De Cymru yn darparu llwybr strategol ac mae Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Benfro (LAEP) yn adeiladu ar y gwaith hwn gan ddisgrifio camau y mae angen eu cymryd i gyrraedd nodau ynni a hinsawdd.

 

Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

 



Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

 

Prif gam gweithredu: Cydweithio i rannu arfer da, cymryd camau i leihau allyriadau carbon a lleihau’r defnydd o garbon i sero net erbyn 2030.

Is-gam(au) gweithredu:
  • Cyflwyno hyfforddiant llythrennedd carbon, neu hyfforddiant cyfatebol, i bob lefel ar draws sefydliadau partner y BGC i godi ymwybyddiaeth o’r materion a’r camau y bydd angen eu cymryd i leihau’r defnydd o garbon
  • Adnabod cyfleoedd ar gyfer a chamau gweithredu cydgysylltiedig, gan gynnwys ar lefel ranbarthol lle bo’n briodol drwy rwydweithiau sefydledig neu newydd

Graddfa amser: Tymor canolig (1 i 5 mlynedd)

 

Prif gam gweithredu: Monitro a chefnogi cyflwyno Cynllun Ynni Ardal Sir Benfro (LAEP)

Is-gam(au) gweithredu:
  • Nodi meysydd o fewn y LAEP y gall y BGC eu cefnogi
  • Defnyddio dylanwad cyfunol y BGC i fynd i’r afael ag unrhyw feysydd sy’n herio’r ddarpariaeth
  • Llywio’r broses o weithredu Cynllun Ynni Ardal Sir Benfro i sicrhau y cymhwysir egwyddorion adeiladu economi gynaliadwy, deg a gwyrdd, gyda sgiliau, cyfleoedd hyfforddi a swyddi gwyrdd gwerth uchel, i alluogi trosglwyddiad cyfiawn o system ynni sy’n seiliedig ar danwyddau ffosil i system ynni adnewyddadwy, a chydnabod yr angen i annog cymunedau i ymgysylltu’n llawn â’r broses drosglwyddo

Graddfa amser: Tymor canolig i'r tymor hwy (rhwng un a phum mlynedd a thu hwnt)

 



Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

  • Bydd hyfforddiant llythrennedd carbon, neu hyfforddiant cyfatebol, yn cael ei gyflwyno ar draws sefydliadau partner y BGC
  • Gweithredu cynlluniau a gweithgarwch lleihau carbon yn effeithiol
  • Cynllun cyflawni sy’n amlinellu meysydd o fewn y LAEP y gall y BGC eu cyflawni ar y cyd

 

Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

  • Bydd ymwybyddiaeth o’r camau y mae angen eu cymryd i leihau allyriadau carbon yn cael ei ymgorffori ar draws sefydliadau partner y BGC, gan ddylanwadu ar weithredoedd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau
  • Gwerthfawrogiad bod rhaid cymryd y camau gweithredu hyn yn unol ag egwyddorion adeiladu economi gynaliadwy, deg a gwyrdd, gyda sgiliau, cyfleoedd hyfforddi a swyddi gwyrdd gwerth uchel, a hynny’n arwain at drosglwyddiad cyfiawn o system ynni sy’n seiliedig ar danwyddau ffosil i system ynni adnewyddadwy, a’r angen i annog cymunedau i ymgysylltu’n llawn â’r trosglwyddiad 

 



At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

 

Amcan Llesiant 1

Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

  • Bydd gweithgarwch yn gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy ac yn cymhwyso egwyddorion adeiladu economi gynaliadwy, deg a gwyrdd, gyda sgiliau, cyfleoedd hyfforddi a swyddi gwyrdd gwerth uchel. Bydd hefyd yn cyfrannu at newid trawsnewidiol yn y sector ynni gan arwain at drosglwyddiad cyfiawn o system ynni sy’n seiliedig ar danwyddau ffosil i system ynni adnewyddadwy, a’r angen i annog cymunedau i ymgysylltu’n llawn â’r trosglwyddiad hwnnw. Mae gweithgarwch yn bwrw golwg ar y system ynni gyfan gan ystyried integreiddio technolegau ynni adnewyddadwy ar draws adeiladau, trafnidiaeth, gwres, sectorau busnes a diwydiant a thrydan, i ysgogi datgarboneiddio a sero net.

Amcan Llesiant 2

Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

  • Bydd lleihau’r risgiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig ag allyriadau carbon yn helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella llesiant cenedlaethau. Mae’r gwaith yn cyfrannu tuag at drawsnewid yn y sector ynni gan arwain at drosglwyddiad cyfiawn o system ynni sy’n seiliedig ar danwyddau ffosil i system ynni adnewyddadwy, gan annog cymunedau i ymgysylltu’n llawn â’r trosglwyddiad hwnnw.

Amcan Llesiant 3

Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur

  • Bydd gweithgarwch yn y maes prosiect hwn yn cael ei anelu’n benodol at leihau allyriadau carbon trwy amrywiaeth o gamau gweithredu gan gynnwys trawsnewid y system ynni lleol. Mae gweithgarwch yn bwrw golwg ar y system ynni gyfan gan ystyried integreiddio technolegau ynni adnewyddadwy ar draws adeiladau, trafnidiaeth, gwres, sectorau busnes a diwydiant a thrydan, i ysgogi datgarboneiddio a sero net a lliniaru effeithiau newid hinsawdd a all fod o gymorth i sefydlogi ecosystemau gan ymdrin â’r argyfwng natur.

Amcan Llesiant 4

Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

  • Bydd cymhwyso egwyddorion adeiladu economi gynaliadwy, deg a gwyrdd, gyda sgiliau, cyfleoedd hyfforddi a swyddi gwyrdd gwerth uchel, yn cyfrannu at drosglwyddiad cyfiawn o system ynni sy’n seiliedig ar danwyddau ffosil i system ynni adnewyddadwy. Bydd annog cymunedau i fod yn rhan o weithgarwch sy’n cyfrannu at leihau allyriadau carbon yn eu helpu i ddod yn fwy cysylltiedig â’u hardaloedd lleol, yn eu hannog i fod yn ddyfeisgar a, thrwy liniaru effeithiau gwaethaf newid hinsawdd, yn arwain at amgylchedd diogelach a mwy sefydlog i bawb.

 



At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

 

Meysydd Llesiant 

  • Amgylcheddol
  • Economaidd
  • Cymdeithasol
  • Diwylliannol

 

Nodau Llesiant 

Cymru LewyrchusCymru lewyrchus

cymru gydnerthCymru gydnerth

cymru iachachCymru Iachach

Cymru sy'n fwy cyfartalCymru sy’n fwy cyfartal

cymru o gymunedau cydlynusCymru o gymunedau cydlynu

cymru a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnuCymru â diwylliant biwiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd eangCymru sy’n gifrifol ar lefel fyd-eang

 

 

 

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

Hirdymor

Hirdymor - Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd

  • Mae’r targedau sydd i’w cyflawni mewn perthynas â datgarboneiddio a chyflawni sero net yn ymestyn y tu hwnt i oes y prosiect hwn, fodd bynnag, i gyflawni llwyddiant mae angen gwaith yn awr. Y ddau darged allweddol yw i wasanaeth cyhoeddus Cymru fod yn sero net erbyn 2030 ac i Gymru ddod yn sero net erbyn 2050. Bydd angen ystyried y targedau hirdymor hyn wrth gytuno a gweithredu’r cynllun llesiant.

Atal

Atal - Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion

  • Mae lleihau allyriadau carbon yn lliniaru effeithiau gwaethaf newid hinsawdd, gan arwain at amgylchedd diogelach a mwy sefydlog i bawb. Mae’n cynorthwyo i sefydlogi ecosystemau ac yn mynd i’r afael â’r argyfwng natur. Gall gweithredu i leihau allyriadau o losgi tanwyddau ffosil arwain yn y pen draw at waredu gronynnau niweidiol sy’n cael eu rhyddhau i’r amgylchedd gan felly wella iechyd pobl ac atal materion iechyd rhag digwydd yn y dyfodol.

Integreiddio

Integreiddio - Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill

  • Rhaid i Sir Benfro a Chymru drosglwyddo i ddyfodol datgarbonedig ac felly bydd camau gweithredu a buddsoddiad a wneir o ganlyniad i’r cynllun hwn yn cael effaith gadarnhaol yn y dyfodol. Mae angen i holl aelodau’r BGC gymryd rhan yn y gwaith hwn i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni ein nodau hirdymor.

Cydweithio

Cydweithio - Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant

  • Bydd y gwaith hwn yn gofyn am ffyrdd newydd o weithio ac felly mae angen i holl aelodau’r BGC gydweithio a rhannu arfer da. Bydd y gwaith yn golygu bod y BGC yn parhau i gydweithio gyda phrosiectau ynni cymunedol a chan y 3ydd sector, a chyda'r sector preifat ar brosiectau ynni adnewyddadwy a hydrogen glân rhanbarthol ac o arwyddocâd cenedlaethol megis Aberdaugleddau: Teyrnas Ynni, Clwstwr Diwydiannol De Cymru, Y Porthladd Rhydd Celtaidd, Clwstwr Ynni’r Dyfodol Dyfrffordd y Ddau Gleddau a Bwrdd Strategol Clwstwr y Môr Celtaidd.

Cynnwys

Cynnwys - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu

  • Oherwydd y ffyrdd newydd o weithio y bydd y gwaith hwn yn eu gwneud yn ofynnol, mae’n hanfodol bod swyddogion sy’n darparu gwasanaethau, a phobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny, yn rhan o’r broses o gytuno ar sut y caiff y gwasanaethau a ddarperir eu newid. Er mwyn cyflawni trawsnewid yn y sector ynni a fydd yn arwain at drosglwyddiad cyfiawn o system ynni sy’n seiliedig ar danwyddau ffosil i system ynni adnewyddadwy, mae angen i bawb ymwneud ac ymgysylltu mor llawn â phosibl â’r trosglwyddiad hwnnw.

 

ID: 9770, adolygwyd 12/08/2024

Adeiladu economi gynaliadwy, deg a gwyrdd

Mae ystod eang o drefniadau partneriaeth a byrddau presennol sy’n ymwneud ag adeiladu economi gynaliadwy, deg a gwyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau, Panel Busnes Sir Benfro, Fforwm Uchelgais Economaidd Sir Benfro a Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae’r BGC yn cydnabod y rôl y gall ei chyflawni o ran cefnogi ymdrechion lobïo sy’n gysylltiedig â’r economi yn Sir Benfro a rôl benodol partneriaid y sector cyhoeddus yn yr agenda sero net. Ceir materion trawsbynciol yn y cynlluniau ar gyfer prosiectau a ddatblygwyd yn barod hefyd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gyflawni’r Amcan Llesiant hwn.

Er y cydnabyddir y cyd-destun ehangach a nodir uchod, bydd y BGC yn manteisio ar gyfleoedd i gyfrannu at yr amcan hwn dros y pum mlynedd nesaf, er enghraifft trwy dyfu’r economi gylchol, cefnogi gweithgareddau cynhyrchu bwyd lleol, canolbwyntio ar gaffael lleol neu alluogi gwaith teg, mewn meysydd lle gall ychwanegu gwerth at yr agenda hon heb ddyblygu gwaith presennol. 

ID: 9771, adolygwyd 05/05/2023

Ymgysylltu

Sefydlwyd Grŵp Ymgysylltu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gydweithio i gynllunio, cydgysylltu ac ymgysylltu ar gyfer Asesiad Llesiant 2022 a Chynllun Llesiant 2023-28.

Nawr bod y dogfennau hyn wedi’u cwblhau a’u cyhoeddi, rhoddir ystyriaeth i sefydlu Rhwydwaith Ymgysylltu ac Ymarferwyr ehangach, a fydd yn eistedd y tu allan i strwythur y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ond yn gweithredu fel adnodd i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei waith gyda chymunedau.  Nodau'r grŵp hwn fydd fel a ganlyn;

  • Rhannu arferion gorau ar y ffyrdd gorau o gysylltu â chymunedau yn Sir Benfro i benderfynu beth sy'n bwysig iddynt
  • Cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio a darparu gweithgarwch ymgysylltu parhaus fel y pennir gan flaenoriaethau Cynllun Llesiant y dyfodol
  • Cydweithio i sicrhau bod yr holl ddogfennau canlyniadol yn cael eu cyd-gynhyrchu

Bydd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rôl barhaus i’w chwarae wrth hyrwyddo cyd-gynhyrchu a sicrhau bod ymgysylltu parhaus â dinasyddion a chymunedau yn thema sy’n rhedeg drwy gydol y broses o gyflawni’r Cynllun hwn.  Drwy’r grŵp hwn, bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymrwymo i’r canlynol;

  • Bod Arweinwyr Prosiect yn ymgysylltu â phobl ifanc ar weithgarwch Cynllun Llesiant yn eu gofodau, trwy fynychu eu fforymau a’u byrddau
  • Parhau i weithio gyda Chyd-gynhyrchu Cymru ar wreiddio dull cyd-gynhyrchu ym mhob rhan o weithgarwch y Cynllun a chynyddu cyfleoedd i bobl ddatblygu eu hymatebion eu hunain i’r problemau y maent yn eu hwynebu

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymrwymo i gynnwys pobl mewn meysydd gwaith sy’n effeithio arnynt a sicrhau bod ymgysylltu wrth wraidd y gwaith o gyflawni’r Cynllun Llesiant.

ID: 9772, adolygwyd 21/03/2024

Camau Gweithredu ac Amcanion

Mae’r canlynol yn nodi cyfraniadau ein camau gweithredu arfaethedig at ein Hamcanion Llesiant;

 

Defnyddio cyllid byrdymor i ymateb i’r argyfwng costau byw

·       Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

·       Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

·       Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

 

Datblygu strategaeth tlodi i gyflawni newid parhaus, a honno’n cael ei goleuo gan ddata lleol a chenedlaethol a phrofiadau'r rhai sydd mewn tlodi yn Sir Benfro ac yn seiliedig ar ddull ataliol

·       Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

·       Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

·       Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

 

Meithrin dealltwriaeth well am ein cymunedau gan ddefnyddio data a mewnwelediadau lleol i ddatblygu sylfaen dystiolaeth ddwyieithog i oleuo gwaith y BGC yn y dyfodol

·       Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

·       Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

·       Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur

·      Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

 

Cynyddu gweithgarwch ymgysylltu a chynnwys ledled cymunedau Sir Benfro

·       Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

·       Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

·       Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur

·      Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

 

Meithrin hyder, capasiti a galluedd cymunedau

·       Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

·       Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

·       Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur

·      Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

 

Codi proffil bioamrywiaeth a newid y ffordd yr ydym yn meddwl am weithredu drosti, a’r rôl sydd gan holl bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth fynd i’r afael â’r argyfwng natur

·       Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

·       Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

·       Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur

·      Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

 

Cydweithio i gyflawni'r camau gweithredu a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer Sir Benfro

·       Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

·       Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

·       Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur

·      Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

 

Cydlynu gwaith i weithredu’r Cynllun Ymaddasu i Newid Hinsawdd ar gyfer Sir Benfro

·       Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

·       Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

·       Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur

·      Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

 

Cydweithio i rannu arfer da, cymryd camau i leihau allyriadau carbon a lleihau’r defnydd o garbon i sero net erbyn 2030

·       Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

·       Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

·       Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur

·      Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

 

Monitro a chefnogi cyflwyno Cynllun Ynni Ardal Sir Benfro (CYASB)

·       Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

·       Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

·       Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur

·      Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

 

ID: 9773, adolygwyd 10/05/2023

Cynllun Prosiectau: Cryfhau Cymunedau

Cefndir y prosiect

Mae cymunedau’n rhoi ymdeimlad o gysylltiad ac o berthyn i ni. Bu gan ein cymunedau rôl allweddol mewn gwaith i gyflwyno mentrau newydd a ffyrdd newydd o weithio gyda darparwyr gwasanaethau traddodiadol o ganlyniad i bandemig Covid. Mae ein cymunedau hefyd yn meddu ar sgiliau ac asedau y gellir eu cynnull er budd y cyhoedd, gan weithio mewn partneriaeth gyfartal gyda’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Gan adeiladu ar y gwaith a wnaed fel rhan o’n Cynllun Llesiant cyntaf, ein nod yn awr yw bod gan holl bartneriaid y BGC ffocws cryfach ar gryfhau ein cymunedau, ar eu galluogi i fod yn fwy dyfeisgar ac ar weithio ochr yn ochr â phobl leol ar y pethau sydd fwyaf o bwys i’w cymunedau.

Mae gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau a cheir galwadau cynyddol ar gyllid a phryderon cynyddol yn ei gylch. Trwy ddefnyddio’r potensial digyffwrdd mewn cymunedau, a tharo cydbwysedd rhwng nodau hirdymor a heriau byrdymor, mae gan bartneriaid y sector cyhoeddus gyfle i gydweithio’n fwy effeithiol gyda’n cymunedau yn hytrach na gweithio mewn cystadleuaeth â hwy. Bydd hyn yn cael effaith hirdymor gadarnhaol ond mae’n rhaid wrth ymrwymiad gan holl bartneriaid y BGC i gefnogi cymunedau a buddsoddi ynddynt fel partneriaid cyfartal yn y broses o ddarparu a thrawsnewid gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd angen i aelodau’r BGC sefyll yn gadarn yn wyneb cyllidebau gostyngol a galw cynyddol a threfnu bod adnoddau ar gael sy’n datgloi potensial cymunedau i helpu i fynd i’r afael â heriau byrdymor yn ogystal â chyflawni amcanion llesiant tymor hwy.

Bydd aelodau’r BGC yn cydweithio, gan rannu arbenigedd a chael gwared ar rwystrau i gynnydd, gyda’r amcan cyffredin o gynorthwyo cymunedau Sir Benfro i fod yn fwy egnïol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol byth.

 

Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

 



Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

Prif gam gweithredu: Meithrin dealltwriaeth well am ein cymunedau dwyieithog gan ddefnyddio data a mewnwelediadau lleol i ddatblygu sylfaen dystiolaeth i oleuo gwaith y BGC yn y dyfodol

Is-gam(au) gweithredu:
  • Creu proffiliau cymunedol
  • Rhoi cymorth i ddatblygu Cynlluniau Llesiant Cymunedol, gan fynd i’r afael â phob penderfynydd llesiant
  • Datblygu sylfaen dystiolaeth gref i oleuo blaenoriaethau a buddsoddiad yn y dyfodol
  • Datblygu mecanweithiau i bartneriaid y BGC a rhanddeiliaid perthnasol gydweithio

Graddfa amser: Byrdymor (6 mis i 2 flynedd)

 

Prif gam gweithredu: Cynyddu gweithgarwch ymgysylltu a chynnwys ledled cymunedau Sir Benfro

Is-gam(au) gweithredu:
  • Annog a galluogi pobl i wirfoddoli eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad
  • Cynyddu cyfranogiad mewn cyrff democrataidd a Byrddau a Phwyllgorau partneriaeth lleol a dealltwriaeth amdanynt
  • Cefnogi proses i gynnwys yr holl bobl, gan gynnwys y rhai sy’n anodd i’w cyrraedd, mewn prosesau penderfynu lleol a hynny mewn modd ystyrlon gan herio deinameg grym draddodiadol mewn modd cadarnhaol

Graddfa amser: Tymor canolig (1 i 5 mlynedd)

 

Prif gam gweithredu: Meithrin hyder, capasiti a galluedd cymunedau

Is-gam(au) gweithredu:
  • Gweithio gyda chymunedau fel partneriaid cyfartal i helpu i fynd i’r afael â heriau ehangach sy’n wynebu cymdeithas (e.e. newid hinsawdd a thlodi)
  • Cydweithio fel partneriaid i gyfuno a chanolbwyntio adnoddau tuag at fuddsoddiad cynaliadwy mewn cymunedau
  • Helpu i arfogi cymunedau â’r sgiliau ac asedau y mae eu hangen arnynt i gyrraedd nodau lleol

Graddfa amser: Tymor hwy (5 mlynedd a’r tu hwnt)

 



Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

  • Datblygu proffiliau cymunedol a Chynlluniau Llesiant Cymunedol i oleuo gwaith y BGC yn y dyfodol
  • Twf yn nifer yr actifyddion newid cymunedol sy’n cyfrannu’n gadarnhaol ac yn gyson at ddatblygu eu cymunedau
  • Datblygu adnodd i arddangos gwaith cymunedau a rhannu gwersi a syniadau

 



Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

  • Mae cymunedau’n fwy hyderus i berchnogi asedau a drosglwyddir gan bartneriaid
  • Mae cymunedau’n gallu dangos eu datblygiad trwy eu cyflawniadau
  • Mae cymunedau’n gallu defnyddio’u sgiliau i ddylanwadu ar newid yn eu hardaloedd lleol
  • Mae partneriaid y BGC yn dangos eu hymrwymiad i gyfuno adnoddau

 



At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

Amcan Llesiant 1

Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

  • Bydd cymunedau’n cael eu galluogi i gymryd asedau cymunedol ymlaen a sefydlu mentrau cymdeithasol a fydd yn darparu swyddi lleol, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth â chymorth. Trwy wirfoddoli, gall unigolion ddatblygu sgiliau a phrofiad a fydd yn eu helpu i gael cyflogaeth.

Amcan Llesiant 2

Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

  • Bydd cael dealltwriaeth well am ein cymunedau a’u hanghenion trwy goladu data a mewnwelediadau lleol yn galluogi partneriaid y BGC a rhanddeiliaid perthnasol i ddod yn fwy gwybodus ynglŷn â sut y gallant eu cefnogi a gweithio ochr yn ochr â hwy i ddarparu datrysiadau i’r materion sydd o bwys.

Amcan Llesiant 3

Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur

  • Bydd gweithio gyda chymunedau sy’n wynebu risg o brofi effeithiau newid hinsawdd a’r argyfwng natur a’u cynorthwyo i chwilio am adnoddau priodol yn eu grymuso i roi cymorth i ddatblygu datrysiadau sy’n gweddu orau i’r materion a wynebir ganddynt.

Amcan Llesiant 4

Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

  • Bydd gwaith i ddatblygu proffiliau cymunedol a Chynlluniau Llesiant Cymunedol, i gynyddu nifer y bobl sy’n gwirfoddoli eu sgiliau, eu harbenigedd a’u profiad ac i gynyddu cyfranogiad yn galluogi cymunedau i fod yn fwy cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol.

 



At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

 

Meysydd Llesiant 

  • Amgylcheddol
  • Economaidd
  • Cymdeithasol
  • Diwylliannol

 

Nodau Llesiant 

Cymru LewyrchusCymru lewyrchus

 cymru gydnerthCymru gydnerth

cymru iachachCymru Iachach

Cymru sy'n fwy cyfartalCymru sy’n fwy cyfartal

cymru o gymunedau cydlynusCymru o gymunedau cydlynu

cymru a diwylliant biwiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnuCymru â diwylliant biwiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

 

 

 

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

Hirdymor

Hirdymor - Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd

  • Nod y rhaglen Cryfhau Cymunedau yw cydgynhyrchu datrysiadau i heriau byrdymor trwy ddatgloi pŵer ac adnoddau cymunedol, yn ogystal â datblygu seilwaith cymunedol cynaliadwy a fydd yn dwyn manteision hirdymor ac yn gwella llesiant unigol a chymunedol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Atal

Atal - Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion

  • Mae’r weledigaeth ar gyfer gwaith atal yn Sir Benfro’n cynnwys creu cymunedau egnïol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a charedig. Mae’r rhaglen Cryfhau Cymunedau yn amcanu at greu seilwaith. cymunedol cynaliadwy y gellir ei ddefnyddio fel cyfrwng i wireddu’r weledigaeth hon. Mae’r rhaglen wedi’i bwriadu i fod yn ataliol ac yn rhagweithiol.

Integreiddio

Integreiddio - Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill

  • Mae’r prosiect hwn yn cyfrannu at gyflawni ein holl Amcanion Llesiant a chwech o’r Nodau Llesiant a bydd y camau gweithredu’n integreiddio ar draws gwasanaethau cyhoeddus lluosog.

Cydweithio

Cydweithio - Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant

  • Mae’r rhaglen Cryfhau Cymunedau yn seiliedig ar ddull cydweithredol, gyda phartneriaid y BGC yn gweithio mewn partneriaeth gyfartal gyda chymunedau a’r sector preifat er budd y cyhoedd ac i wella llesiant cymunedau ac unigolion.

Cynnwys

Cynnwys - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu

  • Mae ymgysylltu â phobl leol a’u cynnwys yn ganolog i’r rhaglen Cryfhau Cymunedau. Bydd partneriaid y BGC yn cydweithio i sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer cynnwys yn cael eu hyrwyddo mewn ffyrdd sy’n hygyrch ac yn gynhwysol, gan ddefnyddio rhwydweithiau sefydledig a sefydliadau’r trydydd sector i roi cymorth i gynnwys pobl sy’n wynebu risg o fod heb gynrychiolaeth ddigonol a/neu o gael eu cau allan.

 

ID: 9763, adolygwyd 12/08/2024

Cynllun Prosiectau: Bioamrywiaeth a'r Argyfwng Natur

Cefndir y prosiect

Mae’r argyfyngau hinsawdd a natur yn heriau sy’n cydblethu ac ni ellir eu datrys ar eu pen eu hunain. Mae cynefinoedd naturiol iach yn hanfodol i storio carbon, lleihau'r perygl o lifogydd, helpu i atal erydiad arfordirol, gwella iechyd a llesiant, cynnal priddoedd iach a dŵr glân, a chefnogi adferiad rhywogaethau fel y peillwyr sydd eu hangen arnom ar gyfer ein cnydau a’n cyflenwad bwyd. Maent hefyd yn cynnal ein swyddi a’n heconomi.

Mae Sir Benfro yn enwog am ei hamgylchedd naturiol eithriadol, gan gynnwys rhwydwaith helaeth o safleoedd a gaiff eu gwarchod oherwydd eu gwerth ecolegol aruthrol.  Ond, ar draws y sir, mae ein brithwaith cyfoethog o gynefinoedd lled-naturiol daearol ac arfordirol a’r gwasanaethau hanfodol y mae’r rhain yn eu darparu yn cael eu rhoi o dan bwysau gan y canlynol:-

  • Datblygiad – sy'n arwain at gynefinoedd yn cael eu colli a'u darnio yn gynyddol, gan leihau amrywiaeth enynnol
  • Dwysáu amaethyddiaeth (e.e. y defnydd o blaladdwyr amaethyddol yn effeithio ar beillwyr, difrod i gynefinoedd ymylol fel perthi, llygredd maethynnau a gwaddodion, e.e. lefelau uchel o ffosffadau yn afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig)
  • Effeithiau rhywogaethau anfrodorol a chlefydau
  • Mwy o weithgareddau hamdden
  • Tir yn cael ei ddefnyddio yn amhriodol a diffyg rheolaeth

Mae’n debygol y bydd y newid yn yr hinsawdd yn dwysáu'r pwysau hyn ymhellach.

Mae Partneriaeth Natur Sir Benfro’n bodoli i gydlynu, hybu a chofnodi camau gweithredu presennol a newydd i warchod, hybu a gwella natur yn Sir Benfro, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, y dyfroedd mewndirol a gwely’r môr o amgylch arfordir Sir Benfro hyd at 12 milltir o’r lan, gan ystyried blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. Maent yn goruchwylio gwaith i gyflawni’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur ac yn cynnwys rhanddeiliaid y tu allan i aelodau cyfredol y BGC megis Fforwm Arfordirol Sir Benfro, Sea Trust Wales, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadwch Gymru’n Daclus a Chanolfan Parc Cenedlaethol Bluestone. Mae rhyw 188 o unigolion wedi cofrestru i gael diweddariadau ‘proffesiynol’ hefyd a 142 wedi cofrestru i gael diweddariadau ‘cyhoeddus’.

 

Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

 



Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

Prif gam gweithredu: Codi proffil bioamrywiaeth a newid y ffordd yr ydym yn meddwl am weithredu drosti, a’r rôl sydd gan holl bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth fynd i’r afael â’r argyfwng natur

Is-gam(au) gweithredu:
  • Cydnabod bod natur yn ased yn ein prosesau gwneud penderfyniadau ac ymgorffori’r ystyriaeth o fioamrywiaeth ac ecosystemau o fewn polisïau, cynlluniau, rhaglenni a phrosiectau ar bob lefel, a chefnogi'r gwaith o'u gweithredu'n ddiweddarach

Graddfa amser: Tymor canolig (1 i 5 mlynedd)

 

Prif gam gweithredu: Cydweithio i gyflawni'r camau gweithredu a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer Sir Benfro

Is-gam(au) gweithredu:
  • Bydd holl aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio tuag at gyflawni Amcanion 1 a 6 o'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer Sir Benfro, ac, yn ogystal â hyn, os ydynt yn berchen ar dir, yn ei reoli neu’n dylanwadu ar y gwaith o’i reoli, byddant yn cyfrannu at Amcanion 2 – 5
  • Bydd fframwaith yn cael ei ddatblygu ar gyfer holl bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddangos ac adrodd ar sut y maent yn cyfrannu at gynnal a gwella bioamrywiaeth ac at hyrwyddo gwytnwch ecosystemau, p’un a ydynt yn ddarostyngedig i ddyletswydd adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ai peidio
  • Bydd holl bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn sicrhau, os ydynt yn berchen ar dir neu yn ei reoli, bod gwarchod neu wella rhywogaethau a chynefinoedd a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau yn ffactor amlwg wrth iddynt fynd ati i wneud penderfyniadau rheoli
  • Nodi cyfleoedd ble bydd camau a gymerir i wella iechyd asedau naturiol yn cyfrannu'n uniongyrchol at fuddion llesiant ehangach
  • Nodi camau gweithredu penodol i roi argymhellion Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru ar waith er mwyn gweithio tuag at gyflawni targedau ‘30 erbyn 30’ y Cenhedloedd Unedig

Graddfa amser: Tymor canolig i'r tymor hwy (rhwng un a phum mlynedd a thu hwnt)

 



Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

  • Cyflwyno’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer Sir Benfro gam wrth gam
  • Bydd holl bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymrwymo i weithgarwch sy’n cyfrannu at gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau
  • Ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid a chymunedau i gymryd camau gweithredu o fewn y Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer Sir Benfro

 



Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

  • Mwy o ymwybyddiaeth o’r argyfwng natur a’r rôl sydd gan holl bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth fynd i’r afael â’r pwysau a darparu atebion ar eu cyfer, a phroffil uwch ar gyfer hyn oll
  • Bydd tir sydd dan berchnogaeth gyhoeddus yn cael ei reoli’n gynaliadwy, gan ddarparu enghreifftiau o'r arferion gorau
  • Bydd natur yn cael ei chydnabod fel ased ac yn cael ei hymgorffori'n ddangosadwy o fewn penderfyniadau, cynlluniau a strategaethau sefydliadau partner y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

 



At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

Amcan Llesiant 1

Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

  • Mae twristiaeth yn cefnogi 12,473 o swyddi ac mae amaethyddiaeth yn cyflogi 5% o weithlu Sir Benfro. Mae ecosystemau iach a gweithredol yn sylfaen sylfaenol i'r ddau.  Bydd adferiad byd natur yn sicrhau economi gynaliadwy.  Mae ein heconomi yn dibynnu’n sylfaenol ar natur a bu methiant ar y cyd i’w chydnabod fel ased.

Amcan Llesiant 2

Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

  • Mae'r buddion llesiant a geir o gael mynediad i fannau gwyrdd ac ardaloedd cyfoethog o ran natur wedi’u dogfennu’n dda. Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod dim ond cael golygfa o fan gwyrdd o'ch ffenestr werth £300 y pen bob blwyddyn. Mae mynediad i fannau gwyrdd yn ddangosydd ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Yn aml, elfennau mwyaf difreintiedig ein cymdeithas sydd â’r mynediad lleiaf at fyd natur ac sydd fwyaf agored i risgiau amgylcheddol, e.e. llifogydd.

Amcan Llesiant 3

Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur

  • Yn ei datganiad o argyfwng natur (30/06/2021), rhoddodd y Senedd yr un pwyslais ar bwysigrwydd gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng natur. Mae cysylltiad annatod rhwng y ddau. Mae ardaloedd sy'n gyfoethog o ran natur ac sydd ag ecosystemau iach a gweithredol yn tueddu i ddal a storio carbon ac maent yn gallu gwrthsefyll pwysau megis newidiadau yn yr hinsawdd yn well.

Amcan Llesiant 4

Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

  • Gallai camau gweithredu lleol gynnwys rhandiroedd cymunedol a mentrau tyfu bwyd eraill sy’n cefnogi cymunedau dyfeisgar.

 



At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

 

Meysydd Llesiant 

  • Amgylcheddol
  • Economaidd
  • Cymdeithasol
  • Diwylliannol

 

Nodau Llesiant 

Cymru LewyrchusCymru lewyrchus

cymru gydnerthCymru gydnerth

cymru iachachCymru Iachach

Cymru sy'n fwy cyfartalCymru sy’n fwy cyfartal

cymru o gymunedau cydlynusCymru o gymunedau cydlynu

cymru a diwylliant biwiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnuCymru â diwylliant biwiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd eangCymru sy’n gifrifol ar lefel fyd-eang

 

 

 

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

Hirdymor

Hirdymor - Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd

  • Nod y camau gweithredu fydd sicrhau defnydd cynaliadwy o'n hamgylchedd naturiol i gefnogi a darparu ar gyfer cymdeithas yn y dyfodol.  Bydd gweithredu nawr yn sicrhau y gellir osgoi costau uwch yn y dyfodol. Mae dulliau o adfer natur trwy ddiffiniad yn hirdymor. Mae camau gweithredu yn y tymor byr wastad wedi’u bwriadu i gyflawni cynaliadwyedd hirdymor a gweithrediad a chydnerthedd ecosystemau.

Atal

Atal - Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion

  • Bydd sicrhau adferiad byd natur a gwytnwch ecosystemau yn helpu i atal problemau a achosir gan fethiant ecosystemau megis llifogydd, sychder, gwres eithafol, erydiad pridd, llygredd a cholli carbon. Mae gwerth ecosystemau iach a gweithredol i gyfyngu ar effeithiau negyddol (e.e. o ganlyniad i newid hinsawdd) a hybu manteision cymdeithasol ehangach (e.e. manteision i lesiant sy’n deillio o fynediad at natur) wedi’u gwreiddio yn y gwaith yma.

Integreiddio

Integreiddio - Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill

  • Y gwaith hwn fydd y nod gwytnwch, sy'n cefnogi gwytnwch cymdeithasol ac economaidd yn benodol. Trwy sicrhau ecosystemau gweithredol iach bydd hyn yn cefnogi economi leol fwy cynaliadwy ac yn darparu cydnerthedd yn erbyn risg amgylcheddol yn y dyfodol.

Cydweithio

Cydweithio - Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant

  • Bydd fframwaith i gefnogi camau gweithredu cydweithredol holl bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei ddatblygu. Mae dulliau cydweithredol i gyflawni cymaint â phosibl gyda’r adnodau sydd ar gael yn ganolog i waith y Bartneriaeth Natur.

Cynnwys

Cynnwys - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu

  • Bydd y gweithgarwch yn cynnwys cyrff cyhoeddus, ar draws pob swyddogaeth ac ar bob lefel, sy'n cynrychioli'r cyhoedd y maent yn ei wasanaethu, ynghyd â gweithio’n uniongyrchol gyda’r cyhoedd a chymunedau.

 

ID: 9765, adolygwyd 12/08/2024

Cynllun Prosiectau: Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd

Cefndir y prosiect

Mae allyriadau yn y gorffennol yn golygu bod newid hinsawdd yn anorfod ac er y gellir lleihau difrifoldeb y newid yn y dyfodol trwy leihau allyriadau carbon i’r atmosffer o ganlyniad i ddatgarboneiddio, mae angen i ni hefyd baratoi ar gyfer yr ystod eang o risgiau sy’n deillio o newid hinsawdd neu ymaddasu iddynt. Nododd gwaith prosiect peilot a wnaed gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn cymunedau yn Sir Benfro yr angen i ddatblygu dull strategol cydgysylltiedig lle gallai asiantaethau, awdurdodau a grwpiau cymunedol fynd i’r afael â’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd. Nododd y gwaith hwn hefyd fod angen ymgysylltu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel ranbarthol, sirol a chymunedol ynghylch risg i’r hinsawdd ac ymaddasu.

Mae data’r Asesiad Llesiant yn dangos yn glir bod angen ymaddasu, ac y bydd newid hinsawdd yn cynyddu nifer yr unedau eiddo yn Sir Benfro sydd eisoes mewn perygl o gael llifogydd o afonydd neu o’r môr (3000 oedd nifer yr unedau eiddo a nodwyd yn yr Asesiad Llesiant). Bydd effeithiau i seilwaith a gwasanaethau allweddol yn effeithio ar iechyd a llesiant cymunedau hefyd. Mae cais llwyddiannus i Gronfa Adnewyddu Cymunedol y Deyrnas Unedig gan Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF) a Netherwood Sustainable Futures (NSF) gyda chefnogaeth y BGC wedi cyflwyno Strategaeth Ymaddasu i Newid Hinsawdd ar gyfer Sir Benfro. Mae’r strategaeth yn darparu ymagwedd strategol a chydgysylltiedig at newid hinsawdd ac ymaddasu i newid hinsawdd ar gyfer cymunedau Sir Benfro. Gydag amserlen o 2022–2027 mae’r strategaeth yn darparu’r conglfeini ar gyfer dechrau paratoi ar gyfer y degawdau nesaf.  Fe wnaeth partneriaid y BGC, ynghyd ag ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys grwpiau cymunedol a busnesau lleol, oleuo datblygiad y strategaeth trwy gyfres o weithdai cyfranogol gyda rhanddeiliaid, cymorthfeydd a chyfarfodydd allgymorth. Archwiliwyd y 61 o risgiau yn Asesiad Risg Newid yn yr Hinsawdd 3 (CCRA3) gan arwain at nodi 39 o flaenoriaethau ar gyfer Sir Benfro a 24 o gamau gweithredu wedi’u pennu i’w cyflawni gan gyrff cyhoeddus a phartneriaid trydydd sector a sector preifat yn Sir Benfro wedi’u ledled y Sir, a’r rheiny i’w cydgysylltu gan y BGC.

 

Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

 



Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

 

Prif gam gweithredu: Cydlynu gweithrediad y Strategaeth Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer Sir Benfro

Is-gam(au) gweithredu:
  • Sicrhau eiriolaeth lefel uchel gan bartneriaid y BGC i gyfeirio adnoddau presennol
  • Sefydliadau arweiniol i gydweithio i bennu a sicrhau’r adnoddau/cyllid y mae eu hangen i lunio a gweithredu cynllun cyflawni ar gyfer y Strategaeth
  • Monitro ac adrodd ar gynnydd tuag at weithredu’r strategaeth a’r cynllun cyflawni Parhau i gydweithio ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector, y sector preifat a chymunedau lleol i ddatblygu tystiolaeth a mewnwelediadau ar y rhyngweithio rhwng risgiau hinsawdd a systemau cymdeithasol, economaidd a naturiol ehangach.
  • Gweithio gydag ystod o randdeiliaid i weithredu’r cynllun cyflawni

Graddfa amser: Tymor canolig i'r tymor hwy (rhwng un a phum mlynedd a thu hwnt)

 



Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

  • Rhoi cymorth a dyrannu adnoddau’n strategol i’w gwneud yn bosibl gweithredu’r Strategaeth mewn modd wedi’i flaenoriaethu
  • Cynllun cyflawni sy’n nodi arweinwyr, graddfeydd amser, y bobl i’w cynnwys a goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer camau gweithredu

 



Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

  • Mwy o ddealltwriaeth am risgiau, yr angen i ymaddasu a’r capasiti o fewn cymunedau, sefydliadau, darparwyr gwasanaethau a busnesau, gan arwain at gynlluniau seiliedig-ar-wybodaeth a chamau gweithredu cydgysylltiedig
  • Rhoi dull cydweithredol, strategol ar waith lle mae ymaddasu i newid hinsawdd yn y cwestiwn
  • Bydd cymunedau wedi ymaddasu’n well i newid hinsawdd ac yn fwy cydnerth yn wyneb newid hinsawdd am ddegawdau i ddod

 

At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

Amcan Llesiant 1

Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

  • Bydd gweithgarwch ymaddasu’n cyfrannu’n uniongyrchol at gynaliadwyedd o fewn sectorau twristiaeth, amaethyddiaeth, diwydiant a busnesau. Mae cynyddu parodrwydd ac ymaddasiad yn dilyn asesu risgiau, er enghraifft i seilwaith, cyflenwadau dŵr, trafnidiaeth, rheoli defnydd tir a chyflenwadau ynni yn helpu i feithrin y cydnerthedd y mae ei angen ar gyfer mentrau hyfyw. Bydd gweithgarwch ymaddasu hefyd yn diogelu’r adnoddau naturiol y mae busnesau, diwydiant a chymunedau’n dibynnu arnynt. Felly mae ymaddasu i sicrhau adnoddau naturiol hanfodol a mentrau cydnerth hyfyw yn cefnogi twf, swyddi, llewyrch ac fe all alluogi trawsnewid yn y sectorau bwyd ac ynni gan arwain at economi fwy cynaliadwy a gwyrddach.

Amcan Llesiant 2

Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

  • Trwy gydweithio gyda chymunedau sy’n wynebu’r risg fwyaf, i adnabod datrysiadau ymaddasu a’u rhoi ar waith, byddant yn dod yn llai agored i risgiau amgylcheddol sy’n deillio o hinsawdd newidiol. Mae hyn yn gwella llesiant trwy leihau’r effeithiau eang a pharhaus ar iechyd, yr amgylchedd a’r economi sy’n effeithio ar gartrefi a busnesau sy’n aml yn tarfu’n sylweddol ar weithrediad arferol cymunedau. Bydd hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau gan ei bod yn aml yn wir mai’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas sy’n profi’r effeithiau gwaethaf.

Amcan Llesiant 3

Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur

  • Bydd gweithgarwch yn helpu cymunedau, busnesau, diwydiant a’r sector cyhoeddus yn uniongyrchol i gydweithio i fynd i’r afael â’r effeithiau, adnabod risgiau parhaus, ac ymaddasu i newid hinsawdd. Bydd y gweithgarwch ymaddasu hwn yn cael ei wneud ar y cyd â gweithgarwch ategol i ddatgarboneiddio neu liniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae bod ag ecosystemau sy’n iach, yn gydnerth ac a reolir yn gynaliadwy’n hanfodol i ymaddasu i newid hinsawdd a risgiau amgylcheddol cysylltiedig yn ogystal â mynd i’r afael â’r argyfwng natur.

Amcan Llesiant 4

Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

  • Bydd gweithio gyda chymunedau ac amrywiaeth eang o randdeiliaid o sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, i adnabod datrysiadau i ymaddasu i fynd i’r afael â risgiau ac effeithiau newid hinsawdd yn helpu i feithrin capasiti, gallu a hyder i gryfhau cydlyniant cymunedol. Bydd hefyd yn helpu i oleuo proffiliau cymunedol a chynlluniau llesiant cymunedol.

 



At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

 

Meysydd Llesiant 

  • Amgylcheddol
  • Economaidd
  • Cymdeithasol
  • Diwylliannol

 

Nodau Llesiant

Cymru LewyrchusCymru lewyrchus

cymru gydnerthCymru gydnerth

cymru iachachCymru Iachach

Cymru sy'n fwy cyfartalCymru sy’n fwy cyfartal

cymru o gymunedau cydlynusCymru o gymunedau cydlynu

cymru a diwylliant biwiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnuCymru â diwylliant biwiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd eangCymru sy’n gifrifol ar lefel fyd-eang

 

 

 

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

Hirdymor

Hirdymor - Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd

  • Mae’r Strategaeth Ymaddasu i Newid Hinsawdd yn strategaeth 5 mlynedd ond mae ei gweithredu'n darparu’r conglfeini i sicrhau cyfaddaster cymunedau ac felly eu cynaliadwyedd am genedlaethau i ddod. 

Atal

Atal - Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion

  • Mae’r prosiect yn seiliedig ar leihau effeithiau newid hinsawdd trwy ymaddasu i wneud ein hamgylchedd a’n cymunedau’n fwy cydnerth ac felly gwella’u gallu i ymdrin â’r effeithiau hyn. Mae’r ffocws ar ymaddasu i atal cymunedau rhag bod yn agored yn y dyfodol i risgiau amgylcheddol, ariannol a risgiau i iechyd sy’n gysylltiedig ag effeithiau newid hinsawdd.

Integreiddio

Integreiddio - Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill

  • Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bob agwedd ar gymdeithas, felly os na fyddwn yn darparu ymateb ystyrlon ac yn ymaddasu i’r effeithiau, bydd yn cael effaith negyddol ar amcanion llesiant pob corff cyhoeddus yn ogystal â sefydliadau yn y sector preifat a’r trydydd sector yn Sir Benfro.

Cydweithio

Cydweithio - Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant

  • Mae ymateb i newid yn yr hinsawdd ac ymaddasu iddo yn ei gwneud yn ofynnol i bob sefydliad ar y BGC gydweithio. Er y bydd gan rai rôl fwy nag eraill, bydd angen i bawb gymryd rhan yn y gwaith hwn.

Cynnwys

Cynnwys - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu

  • Mae ymaddasu i newid yn yr hinsawdd yn gofyn am gyfranogiad pobl a chymunedau yn Sir Benfro. Bydd rhai o’r camau gweithredu gofynnol yn heriol ac felly mae sicrhau cyfranogiad cymunedol cryf yn hanfodol.

 

ID: 9766, adolygwyd 12/08/2024

Cynllun Prosiectau: Lleihau Tlodi ac Anghydraddoldebau

Cefndir y prosiect

Tarddodd y prosiect o grŵp yn yr Awdurdod Lleol a oedd yn canolbwyntio ar Dlodi Plant i ddechrau, gan bod cyfradd Tlodi Plant Sir Benfro ymhlith y pum cyfradd uchaf yng Nghymru.

Penderfynwyd mai’r dull gorau o ddatblygu ymateb i’r mater oedd ar sail y BGC. Ym mis Ionawr 2022, fe gytunodd y BGC i ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw. Yn dilyn cyfarfodydd cychwynnol i bennu cwmpas gwaith y grŵp, ym mis Ebrill 2022 fe gytunodd y Bwrdd i ehangu’r cylch gwaith i gynnwys tlodi’n fwy eang ac fe sefydlwyd gweithgor swyddogion a hwnnw’n cynnwys cynrychiolwyr o holl sefydliadau partner y BGC, a phartneriaid ehangach megis Cyngor Ar Bopeth.

Ers sefydlu’r grŵp, mae’r argyfwng costau byw sy’n datblygu wedi gorfodi’r grŵp i ddatblygu camau gweithredu mwy byrdymor, y gellir eu cymryd ar unwaith i leddfu effeithiau’r sefyllfa, yn ogystal â datblygu strategaeth ar gyfer y tymor canolig a hir. Bydd canfyddiadau’r gweithgarwch a gyllidir dros y tymor byr yn bwydo i mewn i ddatblygiad y Strategaeth Tlodi.

 

Ar y dudalen hon:

Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

 

Prif gamau gweithredu ac is-gamau gweithredu, gan gynnwys y raddfa amser ar gyfer cyflawni

Prif gam gweithredu: Defnyddio cyllid byrdymor i ymateb i’r argyfwng costau byw

Is-gam(au) gweithredu:
  • Datblygu cynlluniau lleol i gyflawni elfennau dewisol y cynllun cymorth gyda chostau byw
  • Gwneud ymchwil i gael mewnwelediadau i brofiad personol pobl o dlodi

Graddfa amser: Byrdymor (6 mis i 2 flynedd)

 

Prif gam gweithredu: Datblygu strategaeth tlodi i gyflawni newid parhaol, a honno wedi’i goleuo gan ddata lleol a chenedlaethol a phrofiadau’r rhai sydd mewn tlodi yn Sir Benfro ac yn seiliedig ar ddull ataliol

Is-gam(au) gweithredu:
  • Edrych ar enghreifftiau o strategaethau sy’n adlewyrchu arfer gorau
  • Ystyried ymchwil i’r hyn sy’n gweithio i helpu pobl sy’n profi anawsterau ariannol
  • Dadansoddi data a thueddiadau i ddeall y lefelau tlodi yn Sir Benfro
  • Nodi camau gweithredu priodol i’w cynnwys o fewn y strategaeth a threfniadau cyflawni
  • Defnyddio ymatebion o waith lleol a arweinir gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro i ymchwilio i brofiad personol pobl sydd mewn tlodi yn Sir Benfro

Graddfa amser: Tymor canolig (1 i 5 mlynedd)

 

Allbynnau (Beth fydd yn cael ei gyflawni?)

  • Rhaglen fyrdymor o gynlluniau a mentrau i ymateb i’r argyfwng costau byw, gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru a lleol
  • Strategaeth ar gyfer y tymor canolig a hir i gyflawni newid mwy parhaol, a honno wedi’i goleuo gan ddata lleol a chenedlaethol a dealltwriaeth am arfer gorau, a chan brofiadau personol pobl sydd mewn tlodi yn y Sir
  • Argymhellion i bartneriaid y BGC ynghylch camau gweithredu y gallant eu cymryd i gyfrannu at y strategaeth

 



Deilliannau (Beth fydd yn cael ei gyflawni? Beth fydd yn newid?)

  • Goruchwylio a chydlynu’r ymateb cyfunol ar unwaith i’r argyfwng costau byw
  • Strategaeth (yn rhychwantu 5 mlynedd i ddechrau) ar gyfer ymateb y BGC i dlodi yn y Sir, i gael ei chymeradwyo oddeutu mis Ebrill 2023. 
  • Bydd bylchau mewn gweithgarwch yn cael eu nodi a chamau gweithredu’n cael eu nodi i fynd i’r afael ag unrhyw feysydd lle ceir diffygion sylweddol.

 



At ba rai o Amcanion Llesiant y BGC y mae’r gwaith hwn yn cyfrannu a sut?

 

Amcan Llesiant 1

Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

  • Gall gwaith i ddatblygu mentrau sy’n cefnogi’r rhai mewn tlodi ddileu rhai o’r rhwystrau i waith a chefnogi twf tuag at economi fwy cynaliadwy a gwyrdd.

Amcan Llesiant 2

Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant

  • Bydd y prosiect yn cynnwys gweithio gyda chymunedau i leihau anghydraddoldebau a achosir gan fod mewn tlodi. Byddwn yn gwneud y defnydd gorau o ddata lleol ac ymchwil leol i oleuo ein ffordd o weithio gyda phobl, a’r strategaethau y byddwn yn eu rhoi ar waith i’w cefnogi.

Amcan Llesiant 4

Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

  • Trwy weithio gyda phobl i leihau anghydraddoldebau bydd y prosiect hefyd yn amcanu at leihau effaith anfantais ar ein cymunedau a rhoi iddynt yr offer i’w cefnogi eu hunain, gan eu galluogi i fod yn fwy cysylltiedig a dyfeisgar.

 



At ba rai o’r Nodau Llesiant a’r meysydd Llesiant canlynol y mae’r prosiect yn cyfrannu?

 

Meysydd Llesiant 

  • Economaidd
  • Cymdeithasol

 

Nodau Llesiant

Cymru LewyrchusCymru lewyrchus

cymru gydnerthCymru gydnerth

cymru iachachCymru Iachach

Cymru sy'n fwy cyfartalCymru sy’n fwy cyfartal

cymru o gymunedau cydlynusCymru o gymunedau cydlynu

 

 

Sut mae’r prosiect hwn yn gyson â’r pum ffordd o weithio?

Hirdymor

Hirdymor - Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd

  • Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar anghenion pobl yn awr wrth i’r argyfwng costau byw effeithio ar y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymunedau, yn ogystal ag edrych tua’r dyfodol i ddatblygu strategaeth sy’n amcanu at leihau effeithiau anfantais yn y tymor hwy.

Atal

Atal - Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion

  • Mae’r prosiect wedi’i rannu’n gamau gweithredu yn y tymor byr a’r tymor hwy, sy’n amcan at atal yr anfanteision sy’n gysylltiedig â thlodi rhag effeithio ar lesiant cymdeithasol ac economaidd pobl yn Sir Benfro.

Integreiddio

Integreiddio - Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill

  • Mae’r prosiect yn cyfrannu at gyflawni tri o’n Hamcanion Llesiant a phump o’r Nodau Llesiant a bydd y camau gweithredu’n integreiddio ar draws gwasanaethau cyhoeddus lluosog

Cydweithio

Cydweithio - Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant

  • Mae grŵp cyflawni amlasiantaeth wedi cael ei sefydlu a fydd yn cydweithio i gyflawni’r prosiect.

Cynnwys

Cynnwys - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu

  • Mae rhan o’r ymchwil a fydd yn cyfrannu at gyflawni’r prosiect hwn yn golygu siarad gyda phobl i gasglu eu profiadau personol am galedi ariannol/tlodi a’u syniadau ar gyfer gwneud pethau’n well yn y dyfodol.
ID: 9692, adolygwyd 12/08/2024

Cynllun Llesiant ar gyfer Sir Benfro

Mae’n dda gennyf gyflwyno Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir Benfro. Hwn yw ein hail Gynllun Llesiant ac mae’n adlewyrchu’r gofynion a’r disgwyliadau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. 

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru sefydlu BGC ac mae’n gosod ‘dyletswydd llesiant’ ar bob Bwrdd. Mae hyn yn golygu, trwy gydweithio – a gweithio’n wahanol – ei bod yn ofynnol i bartneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol gynhyrchu cynllun sy’n nodi sut y byddwn yn gwella llesiant pobl a chymunedau yn sir Benfro, yn awr ac yn y dyfodol.

Fel y gwelwch yn y cynllun, mae’r BGC wedi nodi nifer o flaenoriaethau, ac ystod o gamau gweithredu tymor byr, canolig a hir y bydd yn eu cymryd i wella llesiant yn Sir Benfro. Mae’n bwysig deall bod ffocws y BGC ar feysydd lle bydd gweithio mewn partneriaeth yn cael yr effaith fwyaf a lle mae ein dylanwad cyfunol yn ychwanegu gwerth y tu hwnt i’r hyn yr ydym eisoes yn ei wneud fel sefydliadau unigol ac felly efallai na fyddwch yn gweld rhai materion yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun oherwydd hyn.

Bu gan ystod o randdeiliaid a thrigolion rôl bwysig yn y gwaith o ddatblygu’r Cynllun yma ac ar ran y BGC, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu i’r broses. Fe hoffem adeiladu ar y gwaith yr ydym wedi’i wneud hyd yma i gynnwys mwy o bobl yn ein gwaith ac rydym yn awyddus i sicrhau mai dim ond megis dechrau ar sgwrs barhaus rhwng y BGC a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu yw hyn.

Mae’r amcanion a’r camau gweithredu a nodir yn y Cynllun hwn yn adlewyrchu’r dystiolaeth a gasglwyd gennym mewn perthynas â’n Hasesiad Llesiant. Er ein bod yn cydnabod y gallwn wastad wneud mwy i wella llesiant pobl a chymunedau yn Sir Benfro, yn y Cynllun hwn rydym wedi dewis canolbwyntio ar y meysydd yr ydym yn meddwl y gall ein gwaith gael yr effaith fwyaf ynddynt. Rydym felly’n croesawu eich sylwadau ar ein Cynllun a’r meysydd ffocws ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

Y Cyngh. Neil Prior – Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro

ID: 9677, adolygwyd 19/05/2023

Cynllun Llesiant - Wyddoch chi?

Sir Benfro 2022

  • Poblogaeth o 126,700
  • Mae’n darparu 25% o betrogemegion a 30% o ofynion nwy’r DU
  • Mae dros 86% o fusnesau’n cyflogi llai na 10 o bobl
  • Mae ganddi 20% o gapasiti solar ffotofoltaig Cymru
  • Mae 25% o boblogaeth dros 65
  • Mae bron i 4 miliwn o ymwelwyr yn aros yn Sir Benfro bob blwyddyn
  • 299km o lwybr arfordirol
  • Mar dros 31% o bobl yn gwirfoddoli
  • Incwm cyfartalog aelwydydd yn 2021: £27,664
  • 10 ardal gadwraeth arbennig / 77 safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig / 4 ardal gwarchodaeth arbennig
ID: 9678, adolygwyd 05/05/2023

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi diben cyffredin sy’n rhwymo mewn cyfraith – y saith Nod Craidd a’r pum Ffordd o Weithio – ar gyfer llywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, byrddau iechyd lleol a chyrff cyhoeddus penodedig eraill. Mae’n nodi’r ffyrdd y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus penodedig weithio, a chydweithio i wella llesiant Cymru.

Ffyrdd o Weithio

Hirdymor

Hirdymor

Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd

Atal

Atal

Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion

Integreiddio

Integreiddio

Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill

Cydweithio

Cydweithio

Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant

Cynnwys

Cynnwys

Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu

 

Nodau Llesiant

Cymru Lewyrchus

Cymru lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

cymru gydnerth

Cymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).

cymru iachach

Cymru iachach

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Cymru sy'n fwy cyfartal

Cymru sy’n fwy cyfartal

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).

cymru o gymunedau cydlynus

Cymru o gymunedau cydlynus

Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.

cymru a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd eang

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.

 

ID: 9679, adolygwyd 05/05/2023

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus penodedig i weithredu ar y cyd a sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) statudol. Sefydlwyd BGC Sir Benfro ym mis Ebrill 2016 ac mae wedi cael gorchwyl i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Benfro trwy gyfrannu at gyrraedd y Nodau Llesiant trwy gyflawni Cynllun Llesiant. Mae’r BGC yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o’r sefydliadau canlynol:

  • Cyngor Sir Penfro
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
  • Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro
  • Coleg Sir Benfro
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Porthladd Aberdaugleddau
  • Heddlu Dyfed Powys
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • PLANED
  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
  • Llywodraeth Cymru

Mae’r Cynllun Llesiant yn cynrychioli’r gwerth ychwanegol y gellir ei gyflawni trwy weithio’n arloesol ac yn gydweithredol. Nid yw’n disodli gwasanaethau craidd y sefydliadau unigol ac nid dim ond adlewyrchu’r gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud gan bartneriaid unigol yw ei ddiben ychwaith. Dylai cyrff unigol gysoni eu hamcanion strategol â rhai’r BGC lle y bo’n briodol.

Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw’r Cynllun Llesiant yn cynrychioli holl waith y BGC ar draul popeth arall. Bydd y BGC yn manteisio ar gyfleoedd i gofleidio darnau pwysig eraill o waith lle gall ychwanegu ei ddylanwad a gwerth wrth i’r rhain ddod i’r amlwg.

ID: 9683, adolygwyd 05/05/2023

Datganiad o weledigaeth

Mae Sir Benfro’n lle arbennig i fyw, gweithio ac ymweld. Mae ein sir yn adnabyddus am ei harddwch naturiol eithriadol ac amgylchedd o ansawdd da. Mae ein cymunedau’n lleoedd y mae pobl yn dod ynghyd i gefnogi ei gilydd. Ceir cyfleoedd cyfoethog yn y sectorau ynni gwyrdd a glas a all alluogi Sir Benfro i ffynnu yn awr ac yn y dyfodol.

Yn y cyd-destun hwn mae a wnelo ein Cynllun Llesiant â chreu newid parhaus hirdymor sy’n parhau i wella a chryfhau llesiant cymunedau ac unigolion yn Sir Benfro. 

Mae’r BGC yn ystyried mai ei rôl ef yw arwain, llunio, galluogi a chefnogi’r newid yma.

Ein gweledigaeth yw datgloi grym a photensial pobl a chymunedau Sir Benfro fel eu bod yn hapus, yn iach ac yn byw yn dda, bod ein cymunedau’n garedig, yn ddiogel, yn ddyfeisgar ac yn fywiog, bod ein heconomi’n wyrdd ac yn ffynnu, a bod ein hamgylchedd yn cael ei ddiogelu a’i wella.

ID: 9684, adolygwyd 05/05/2023

Egwyddorion Craidd

Yn ein Cynllun cyntaf, fe wnaeth y BGC nodi egwyddorion arweiniol a oedd yn galluogi’r BGC i weithio’n wahanol; fe wnaethant siapio’r Cynllun Llesiant a phennu’r cyfeiriad i ni barhau i wella ein gwybodaeth o ran cryfderau, asedau a llesiant ein cymunedau. Mae llawer wedi newid ers i ni gyhoeddi ein Cynllun diwethaf ac mae arnom eisiau bod yn uchelgeisiol yn y ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â’n Cynllun newydd ac yn ei gyflawni, felly mae ein hegwyddorion arweiniol wedi dod yn egwyddorion craidd i ni, a’r rhain fydd y sylfaen o ran sut y byddwn yn gweithio dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y BGC yn parhau i fod yn ymrwymedig i herio diwylliant ac ymddygiadau presennol fel ein bod wir yn gweithio’n wahanol ac yn datblygu dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau a rhannu adnoddau. Ein hegwyddorion craidd yw:

Darparu Arweinyddiaeth:

Bydd y BGC yn cefnogi Sir Benfro trwy asedau, adnoddau a sgiliau cyfunol sefydliadau partner. Mae’r BGC yn cydnabod ei safle unigryw ar gyfer dylanwadu’n gadarnhaol a’r cyfleoedd sydd gennym fel cyflogwyr pwysig gyda nifer sylweddol o gyflogeion yn y sir (chwarter y rhai a gyflogir fwy neu lai) yn gweithio yn sefydliadau partner y BGC. Byddwn yn arwain trwy esiampl trwy ddangos ein hymrwymiad i’r Cynllun Llesiant yn y newidiadau y byddwn yn eu gwneud i’n harferion gweithio fel sefydliadau a thrwy’r cymorth yr ydym yn ei gynnig i’n cyflogeion.

Meithrin Perthnasoedd:

Trwy ein hymgysylltu parhaus â’n cymunedau a thrwy archwilio’r hyn sydd o bwys i bobl, byddwn yn ceisio deall a thrawsnewid llesiant yn Sir Benfro. Ein nod yw adeiladu ar hen berthnasoedd hefyd yn ogystal â meithrin rhai newydd i gynorthwyo’r BGC i gyflawni ein Cynllun Llesiant a dylanwadu ar y gwaith yr ydym yn ei wneud ac ychwanegu gwerth ato.

Cyfuno’r adnoddau sydd gennym ar y cyd:

Boed yr adnoddau hyn ar ffurf amser, arbenigedd neu gyllid, trwy gyfuno’r adnoddau sydd gennym ar y cyd lle bynnag y bo’n bosibl, byddwn yn dangos ein hymrwymiad i gyflawni ein Hamcanion a’n cydgyfrifoldeb am gyflawni’r Cynllun Llesiant.

Cysylltu:

Roedd pobl yn cysylltu â’i gilydd, a sut y maent yn cysylltu â’i gilydd, yn thema a godwyd yn ein hymgyngoriadau diweddar ynghylch yr Asesiad ac Amcanion Llesiant. Mae’r thema cysylltu hon yn rhedeg trwy ein Hamcanion ac yn rhywbeth y byddwn yn amcanu at ei hybu a’i annog trwy gyflawni ein Cynllun.

Ymdrin â materion sy’n dod i’r amlwg:

Mae ein profiadau ni o ddarparu gwasanaethau trwy gydol pandemig Covid wedi dangos i ni bod gennym y gallu i weithio’n wahanol, a chydweithio’n wahanol, pan fo materion annisgwyl yn codi. Rydym yn gwerthfawrogi’r gwersi yr ydym wedi’u dysgu a byddwn yn cymhwyso hyn i fynd i’r afael ag unrhyw faterion newydd sy’n dod i’r amlwg lle gall cydweithio ychwanegu gwerth a chryfhau deilliannau.

Datblygu Cynaliadwy:

Mae’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy a’r 5 ffordd o weithio’n hanfodol i waith y BGC. Mae hyn yn golygu bod popeth a wnawn yn cael ei ystyried yn nhermau integreiddio, cydweithio, cynnwys, atal a’r tymor hir i sicrhau ein bod yn cyflawni’r hyn y mae ei angen i ni ei gyflawni heddiw heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

Diwylliant a’r Gymraeg

Mae’n ddealledig yn nifer o’r meysydd prosiect o fewn y Cynllun y bydd manteision cadarnhaol anuniongyrchol i ddiwylliant Sir Benfro, er enghraifft, o ran diogelu amgylchedd naturiol a threftadaeth y Sir trwy gamau i liniaru effeithiau newid hinsawdd. Byddwn yn ymgysylltu â chymunedau Cymraeg yn Gymraeg ac yn cydnabod y bydd gwaith parhaus i gynllunio ar gyfer cyflawni’n cael ei lunio gan gynlluniau a strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys Cymraeg 2050. Bydd y BGC yn sicrhau bod gweledigaeth strategaeth Cymraeg 2050 – cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a chreu amodau ffafriol o fewn seilwaith a chyd-destun ar gyfer defnyddio’r Gymraeg – yn cael ei gwreiddio yn ei waith lle bynnag y bo’n bosibl.

Cysoni gweithgarwch â chynlluniau a strategaethau pwysig eraill:

Bydd y Cynllun Llesiant a’n gwaith parhaus i gynllunio’r modd y byddwn yn ei gyflawni’n cael eu siapio gan gynlluniau a strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, megis Cynllun Ardal Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, Cynlluniau Datblygu Lleol a Datganiadau Ardal. Mae nifer o bartneriaethau a byrddau eraill yn gweithredu’n lleol hefyd a chanddynt gylchoedd gwaith amrywiol mewn perthynas â gwella llesiant mewn meysydd penodol, er enghraifft Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Benfro Ddiogelach a Fforwm Uchelgais Economaidd Sir Benfro. Byddwn yn cysoni gweithgarwch â’r cynlluniau, strategaethau a phartneriaethau hyn lle y bo’n briodol ac yn sicrhau nad yw ymdrechion yn cael eu dyblygu. Ceir rhagor o fanylion am weithio’n rhanbarthol ar y dudalen nesaf.  

ID: 9685, adolygwyd 05/05/2023

Gweithio’n Rhanbarthol

Mae BGC Sir Benfro eisoes yn cydweithio’n agos gyda’r BGCau cyfagos yn Sir Gâr a Cheredigion ar flaenoriaethau ar y cyd ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn parhau i’w wneud. Er bod ffocws Sir Benfro ar gyfer y Cynllun Llesiant hwn ar faterion sy’n uniongyrchol o fewn ei gylch gwaith a meysydd lle mae’n gallu dylanwadu ac ychwanegu gwerth, byddwn yn parhau i fod â golwg ar faterion trawsbynciol eraill, yn enwedig mewn perthynas â blaenoriaethau o fewn iechyd a gofal cymdeithasol yn y meysydd canlynol;

Mae’r newid i Fodel Iechyd a Lles mwy Cymdeithasol yn seiliedig ar y ddealltwriaeth bod trin a rheoli cyflyrau iechyd yn cyfrannu at lai nag 20% o iechyd a lles y boblogaeth, gyda phenderfynyddion cymdeithasol gyda’i gilydd yn cael y mwyafrif o’r effaith ar iechyd a lles dinasyddion a chymunedau.

Cafodd gwaith ar fodel iechyd a lles cymdeithasol ei gychwyn gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn 2021. Mae meysydd yr awgrymir rhoi ffocws arnynt yn cynnwys targedu’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan anghydraddoldeb, gyda golwg ar flaenoriaethu cenhedlaeth y dyfodol trwy eu teuluoedd, gweithio gyda chymunedau ar yr hyn sy’n bwysig iddynt hwy, datblygu capasiti arwain mewn cymunedau, ac adnabod ffyrdd sy’n hybu perchnogaeth gymunedol. Mae gweithgarwch yng nghamau cychwynnol ei ddatblygiad ond cynigir y bydd gwaith yn adeiladu ar brosiectau yng Nghynllun Llesiant y BGC ac yn cyfrannu atynt, a'r gobaith yw y bydd hyn yn esblygu’n gamau gweithredu ehangach dros y 5 mlynedd nesaf.

Mae Grŵp Strategol Sir Benfro Iachach yn gyson â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Gorllewin Cymru, BIP Hywel Dda a Chyngor Sir Penfro gyda chylch gwaith i gyflawni egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (y Ddeddf), Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r nod Cymru Iachach. Bydd y grŵp yn arwain ac yn datblygu cynllun integredig sy’n mynd i’r afael ag anghenion iechyd, gofal a llesiant poblogaeth Sir Benfro yn ei chyfanrwydd yn seiliedig ar set o uchelgeisiau a rennir ac sy’n gyffredin ar gyfer gwella deilliannau a phrofiad. Yn dilyn cyfnod o adolygu a myfyrio sy’n seiliedig ar amrywiaeth o wybodaeth, gan gynnwys Asesiad Llesiant Sir Benfro, y tair blaenoriaeth uchaf o ran iechyd y boblogaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol dros yr 1-3 blynedd nesaf yw:

Sefydlogrwydd y Farchnadmae hyn yn cynnwys cyfyngiadau o ran y gweithlu, capasiti gofal cartref, capasiti cartrefi gofal, cynaliadwyedd practisau meddygon teulu a chartrefi plant a maethu

Pobl Hŷn/Eiddilwch– mae hyn yn cynnwys ymateb i’r gyfran fwyaf o’r boblogaeth sydd dros 65 oed, sef 26%, tangydnabod a thanddiagnosio Dementia, mynychder cyflyrau cronig, rheoli cleifion hŷn / eiddil yn rhagweithiol ac anghenion gofalwyr / seibiant / cymorth

Iechyd a Lles Meddyliolmae hyn yn cynnwys yr effaith yn dilyn y pandemig ar draws pob oed ac arwahanrwydd cymdeithasol

Mae’r Bwrdd Atal Rhanbarthol hefyd yn gweithredu fel un o is-grwpiau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Gorllewin Cymru. Mae’r grŵp yma’n canolbwyntio ar atal yn y meysydd canlynol ac ar gefnogi ymgysylltiad parhaus yn y rhanbarth ar hyn o bryd;

  • Y Model Gofal sy’n ymwneud â Gofal yn y gymuned –Atal a chydlynu cymunedol
  • Y Model Gofal Iechyd a Lles Emosiynol
  • Gweithgarwch y Fforwm Arloesi (fforwm gwerth cymdeithasol y Rhanbarth)

Bydd y BGC yn cyfrannu at y gwaith hwn lle ceir cysylltiadau eglur â phrosiectau yn ein Cynllun Llesiant ac â gwaith atal yn y meysydd canlynol:

  • Dulliau seiliedig-ar-le o ymdrin ag anghydraddoldeb iechyd
  • Bwyta’n iach a phwysau iach
  • Gwella iechyd sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu cymunedol a gweithgareddau i gefnogi cymunedau cryf
  • Rôl mannau gwyrdd o ran cefnogi llesiant
  • Dull seiliedig-ar-asedau o gefnogi capasiti a gallu cymunedau

 

ID: 9688, adolygwyd 05/05/2023

Cynllun Llesiant cyntaf Sir Benfro

Yn ein Cynllun Llesiant cyntaf fe wnaethom nodi dau Amcan Llesiant lefel uchel, eang i’w defnyddio fel ffocws ein Cynllun ac i weithredu fel y fframwaith y gallai’r BGC ei ddefnyddio i flaenoriaethu ei feysydd gwaith allweddol. Ar gyfer pob un o’r amcanion hyn fe wnaethom nodi pedwar maes blaenoriaeth pellach, a oedd yn nodi’r materion allweddol yn y Sir.  Wedyn fe wnaethom adnabod wyth prosiect pellach a oedd yn croesi ffiniau thematig traddodiadol, gan ein galluogi i weithio mewn ffordd fwy integredig a chydnabod natur gydgysylltiedig llesiant ar ei holl ffurfiau.

Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-22 yn disgrifio ein cynnydd dros y pum mlynedd ddiwethaf o ran cyflawni’r amcanion hyn, ac yn nodi’r hyn a gyflawnwyd gennym, a pha un a wnaethom gyflawni hynny o fewn y graddfeydd amser a nodwyd gennym. Mae’r gwersi o’n Cynllun Llesiant cyntaf, yn benodol o ran y meysydd canlynol, wedi goleuo’r modd yr aethom ati i ddatblygu ein Cynllun Llesiant ar gyfer 2023-28;

  • bod yn fwy realistig ynglŷn â nodau a chamau gweithredu
  • defnyddio dull sy’n rhoi mwy o sylw i ansawdd nag i faint er mwyn cynyddu ein heffeithiolrwydd i’r eithaf o fewn yr adnoddau sydd gennym
  • y dylai’r BGC ganolbwyntio ar rôl alluogi yn hytrach na bod yn uniongyrchol gyfrifol am gyflawni

Wrth gynnal ein Hasesiad Llesiant ac wrth ddatblygu ein hail Gynllun Llesiant mae wedi dod yn amlwg bod llawer o’r materion a nodwyd yn ein Cynllun cyntaf yn dal i fodoli. Nid yw hyn yn syndod gan bod llawer o faterion sydd, o ran eu natur, yn broblemau hirdymor y bydd yn cymryd amser i ymdrin â hwy. Trwy gydol y broses o ddatblygu’r Cynllun Llesiant drafft hwn rydym wedi gwneud yn siŵr bod y materion parhaus hyn yn cael eu cydnabod trwy’r camau gweithredu yr ydym yn bwriadu eu cymryd.

ID: 9689, adolygwyd 05/05/2023

Ein Hamcanion Llesiant

Cyhoeddwyd ail Asesiad Llesiant Sir Benfro ym mis Mai 2022. Mae’r Asesiad yn bwrw golwg ar y materion allweddol i bobl a chymunedau yn Sir Benfro ac roedd yn cynnwys rhaglen helaeth o waith i ymgysylltu â thrigolion a rhanddeiliaid, ar arolwg ar-lein, ac adolygiad cynhwysfawr o ddata ac ymchwil i ganfod y sefyllfa gyfredol yn Sir Benfro a sut allai edrych yn y dyfodol. Mae Crynodeb Gweithredol ar gael sy’n rhoi ciplun o’r prif ganfyddiadau.

Cafodd y materion allweddol a ddaeth i’r amlwg o’r Asesiad eu harchwilio mewn cyfres o weithdai gyda phartneriaid y BGC a rhanddeiliaid eraill ac o hyn fe wnaethom nodi ein pedwar Amcan Llesiant i weithredu fel y fframwaith y gall y BGC ei ddefnyddio i flaenoriaethu meysydd ffocws allweddol yn ei Gynllun Llesiant, sef:

  •  Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach
  • Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant
  • Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur
  • Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

Drwy gydol hydref 2022 buom yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i datblygu meysydd gwaith dan bob un o’r Amcanion hyn sydd nid yn unig yn bwysig i bobl, ond lle gallwn gael yr effaith fwyaf trwy gydweithio.

ID: 9690, adolygwyd 29/04/2024

Sut y mae’r Cynllun wedi’i drefnu

Bydd ein Cynllun Llesiant yn cael ei gyflawni trwy nifer o gynlluniau prosiect a bydd y rhain yn amlinellu’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni’r pedwar Amcan Llesiant yr ydym wedi’u hadnabod. Er mwyn cynyddu ein heffeithiolrwydd a’n hadnoddau i’r eithaf, mae pob maes prosiect yn amcanu at dargedu dau neu fwy o’n Hamcanion Llesiant. Bydd y BGC yn canolbwyntio’i gydymdrechion ar flaenoriaethau penodol lle gall wneud gwahaniaeth go iawn,  ategu’r gwaith da y mae sefydliadau’n ei wneud yn unigol a lle mae cydweithio eisoes yn effeithiol. Bydd y Cynllun yn cynrychioli’r gwerth ychwanegol y gallwn ei gyflawni trwy weithio’n arloesol ac yn gydweithredol, ac nid yw’n disodli gwasanaethau craidd y sefydliadau unigol. 

Ar gyfer pob maes prosiect byddwn yn amlygu:

  • y cyfiawnhad sylfaenol dros y gwaith, beth yw’r materion allweddol a beth ddylai’r camau gweithredu i fynd i’r afael â’r rhain fod yn ein tyb ni
  • sut y mae’r gwaith yn cyfrannu at yr Amcanion Llesiant
  • sut y mae’r gwaith yn cyd-fynd â’r Nodau Llesiant a meysydd llesiant a sut y mae’n cyfrannu at y 5 ffordd o weithio
  • pa un a fydd y gweithgaredd arfaethedig yn cael ei gyflawni yn y tymor byr, canolig ynteu hir

Wrth i ni symud ymlaen o ran cyflawni a datblygu’r gwaith hwn byddwn yn cadw ein hegwyddorion craidd mewn cof – y rhain fydd y conglfaen o ran sut yr ydym yn fframio ein gweithgarwch ac yn symud o ble’r ydym yn awr, i ble’r ydym am fod.

ID: 9691, adolygwyd 05/05/2023