Cynllun Llesiant Sir Benfro

Datganiad o weledigaeth

Mae Sir Benfro’n lle arbennig i fyw, gweithio ac ymweld. Mae ein sir yn adnabyddus am ei harddwch naturiol eithriadol ac amgylchedd o ansawdd da. Mae ein cymunedau’n lleoedd y mae pobl yn dod ynghyd i gefnogi ei gilydd. Ceir cyfleoedd cyfoethog yn y sectorau ynni gwyrdd a glas a all alluogi Sir Benfro i ffynnu yn awr ac yn y dyfodol.

Yn y cyd-destun hwn mae a wnelo ein Cynllun Llesiant â chreu newid parhaus hirdymor sy’n parhau i wella a chryfhau llesiant cymunedau ac unigolion yn Sir Benfro. 

Mae’r BGC yn ystyried mai ei rôl ef yw arwain, llunio, galluogi a chefnogi’r newid yma.

Ein gweledigaeth yw datgloi grym a photensial pobl a chymunedau Sir Benfro fel eu bod yn hapus, yn iach ac yn byw yn dda, bod ein cymunedau’n garedig, yn ddiogel, yn ddyfeisgar ac yn fywiog, bod ein heconomi’n wyrdd ac yn ffynnu, a bod ein hamgylchedd yn cael ei ddiogelu a’i wella.

ID: 9684, adolygwyd 05/05/2023