Yn ein Cynllun cyntaf, fe wnaeth y BGC nodi egwyddorion arweiniol a oedd yn galluogi’r BGC i weithio’n wahanol; fe wnaethant siapio’r Cynllun Llesiant a phennu’r cyfeiriad i ni barhau i wella ein gwybodaeth o ran cryfderau, asedau a llesiant ein cymunedau. Mae llawer wedi newid ers i ni gyhoeddi ein Cynllun diwethaf ac mae arnom eisiau bod yn uchelgeisiol yn y ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â’n Cynllun newydd ac yn ei gyflawni, felly mae ein hegwyddorion arweiniol wedi dod yn egwyddorion craidd i ni, a’r rhain fydd y sylfaen o ran sut y byddwn yn gweithio dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y BGC yn parhau i fod yn ymrwymedig i herio diwylliant ac ymddygiadau presennol fel ein bod wir yn gweithio’n wahanol ac yn datblygu dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau a rhannu adnoddau. Ein hegwyddorion craidd yw:
Bydd y BGC yn cefnogi Sir Benfro trwy asedau, adnoddau a sgiliau cyfunol sefydliadau partner. Mae’r BGC yn cydnabod ei safle unigryw ar gyfer dylanwadu’n gadarnhaol a’r cyfleoedd sydd gennym fel cyflogwyr pwysig gyda nifer sylweddol o gyflogeion yn y sir (chwarter y rhai a gyflogir fwy neu lai) yn gweithio yn sefydliadau partner y BGC. Byddwn yn arwain trwy esiampl trwy ddangos ein hymrwymiad i’r Cynllun Llesiant yn y newidiadau y byddwn yn eu gwneud i’n harferion gweithio fel sefydliadau a thrwy’r cymorth yr ydym yn ei gynnig i’n cyflogeion.
Trwy ein hymgysylltu parhaus â’n cymunedau a thrwy archwilio’r hyn sydd o bwys i bobl, byddwn yn ceisio deall a thrawsnewid llesiant yn Sir Benfro. Ein nod yw adeiladu ar hen berthnasoedd hefyd yn ogystal â meithrin rhai newydd i gynorthwyo’r BGC i gyflawni ein Cynllun Llesiant a dylanwadu ar y gwaith yr ydym yn ei wneud ac ychwanegu gwerth ato.
Boed yr adnoddau hyn ar ffurf amser, arbenigedd neu gyllid, trwy gyfuno’r adnoddau sydd gennym ar y cyd lle bynnag y bo’n bosibl, byddwn yn dangos ein hymrwymiad i gyflawni ein Hamcanion a’n cydgyfrifoldeb am gyflawni’r Cynllun Llesiant.
Roedd pobl yn cysylltu â’i gilydd, a sut y maent yn cysylltu â’i gilydd, yn thema a godwyd yn ein hymgyngoriadau diweddar ynghylch yr Asesiad ac Amcanion Llesiant. Mae’r thema cysylltu hon yn rhedeg trwy ein Hamcanion ac yn rhywbeth y byddwn yn amcanu at ei hybu a’i annog trwy gyflawni ein Cynllun.
Mae ein profiadau ni o ddarparu gwasanaethau trwy gydol pandemig Covid wedi dangos i ni bod gennym y gallu i weithio’n wahanol, a chydweithio’n wahanol, pan fo materion annisgwyl yn codi. Rydym yn gwerthfawrogi’r gwersi yr ydym wedi’u dysgu a byddwn yn cymhwyso hyn i fynd i’r afael ag unrhyw faterion newydd sy’n dod i’r amlwg lle gall cydweithio ychwanegu gwerth a chryfhau deilliannau.
Mae’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy a’r 5 ffordd o weithio’n hanfodol i waith y BGC. Mae hyn yn golygu bod popeth a wnawn yn cael ei ystyried yn nhermau integreiddio, cydweithio, cynnwys, atal a’r tymor hir i sicrhau ein bod yn cyflawni’r hyn y mae ei angen i ni ei gyflawni heddiw heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Mae’n ddealledig yn nifer o’r meysydd prosiect o fewn y Cynllun y bydd manteision cadarnhaol anuniongyrchol i ddiwylliant Sir Benfro, er enghraifft, o ran diogelu amgylchedd naturiol a threftadaeth y Sir trwy gamau i liniaru effeithiau newid hinsawdd. Byddwn yn ymgysylltu â chymunedau Cymraeg yn Gymraeg ac yn cydnabod y bydd gwaith parhaus i gynllunio ar gyfer cyflawni’n cael ei lunio gan gynlluniau a strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys Cymraeg 2050. Bydd y BGC yn sicrhau bod gweledigaeth strategaeth Cymraeg 2050 – cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a chreu amodau ffafriol o fewn seilwaith a chyd-destun ar gyfer defnyddio’r Gymraeg – yn cael ei gwreiddio yn ei waith lle bynnag y bo’n bosibl.
Bydd y Cynllun Llesiant a’n gwaith parhaus i gynllunio’r modd y byddwn yn ei gyflawni’n cael eu siapio gan gynlluniau a strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, megis Cynllun Ardal Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, Cynlluniau Datblygu Lleol a Datganiadau Ardal. Mae nifer o bartneriaethau a byrddau eraill yn gweithredu’n lleol hefyd a chanddynt gylchoedd gwaith amrywiol mewn perthynas â gwella llesiant mewn meysydd penodol, er enghraifft Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Benfro Ddiogelach a Fforwm Uchelgais Economaidd Sir Benfro. Byddwn yn cysoni gweithgarwch â’r cynlluniau, strategaethau a phartneriaethau hyn lle y bo’n briodol ac yn sicrhau nad yw ymdrechion yn cael eu dyblygu. Ceir rhagor o fanylion am weithio’n rhanbarthol ar y dudalen nesaf.