Ein Hamcanion Llesiant
Cyhoeddwyd ail Asesiad Llesiant Sir Benfro ym mis Mai 2022. Mae’r Asesiad yn bwrw golwg ar y materion allweddol i bobl a chymunedau yn Sir Benfro ac roedd yn cynnwys rhaglen helaeth o waith i ymgysylltu â thrigolion a rhanddeiliaid, ar arolwg ar-lein, ac adolygiad cynhwysfawr o ddata ac ymchwil i ganfod y sefyllfa gyfredol yn Sir Benfro a sut allai edrych yn y dyfodol. Mae Crynodeb Gweithredol ar gael sy’n rhoi ciplun o’r prif ganfyddiadau.
Cafodd y materion allweddol a ddaeth i’r amlwg o’r Asesiad eu harchwilio mewn cyfres o weithdai gyda phartneriaid y BGC a rhanddeiliaid eraill ac o hyn fe wnaethom nodi ein pedwar Amcan Llesiant i weithredu fel y fframwaith y gall y BGC ei ddefnyddio i flaenoriaethu meysydd ffocws allweddol yn ei Gynllun Llesiant, sef:
- Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach
- Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant
- Hyrwyddo a chefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli gwaith i ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael ag argyfwng byd natur
- Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol
Drwy gydol hydref 2022 buom yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i datblygu meysydd gwaith dan bob un o’r Amcanion hyn sydd nid yn unig yn bwysig i bobl, ond lle gallwn gael yr effaith fwyaf trwy gydweithio.