Cynllun Llesiant Sir Benfro

Gweithio’n Rhanbarthol

Mae BGC Sir Benfro eisoes yn cydweithio’n agos gyda’r BGCau cyfagos yn Sir Gâr a Cheredigion ar flaenoriaethau ar y cyd ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn parhau i’w wneud. Er bod ffocws Sir Benfro ar gyfer y Cynllun Llesiant hwn ar faterion sy’n uniongyrchol o fewn ei gylch gwaith a meysydd lle mae’n gallu dylanwadu ac ychwanegu gwerth, byddwn yn parhau i fod â golwg ar faterion trawsbynciol eraill, yn enwedig mewn perthynas â blaenoriaethau o fewn iechyd a gofal cymdeithasol yn y meysydd canlynol;

Mae’r newid i Fodel Iechyd a Lles mwy Cymdeithasol yn seiliedig ar y ddealltwriaeth bod trin a rheoli cyflyrau iechyd yn cyfrannu at lai nag 20% o iechyd a lles y boblogaeth, gyda phenderfynyddion cymdeithasol gyda’i gilydd yn cael y mwyafrif o’r effaith ar iechyd a lles dinasyddion a chymunedau.

Cafodd gwaith ar fodel iechyd a lles cymdeithasol ei gychwyn gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn 2021. Mae meysydd yr awgrymir rhoi ffocws arnynt yn cynnwys targedu’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan anghydraddoldeb, gyda golwg ar flaenoriaethu cenhedlaeth y dyfodol trwy eu teuluoedd, gweithio gyda chymunedau ar yr hyn sy’n bwysig iddynt hwy, datblygu capasiti arwain mewn cymunedau, ac adnabod ffyrdd sy’n hybu perchnogaeth gymunedol. Mae gweithgarwch yng nghamau cychwynnol ei ddatblygiad ond cynigir y bydd gwaith yn adeiladu ar brosiectau yng Nghynllun Llesiant y BGC ac yn cyfrannu atynt, a'r gobaith yw y bydd hyn yn esblygu’n gamau gweithredu ehangach dros y 5 mlynedd nesaf.

Mae Grŵp Strategol Sir Benfro Iachach yn gyson â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Gorllewin Cymru, BIP Hywel Dda a Chyngor Sir Penfro gyda chylch gwaith i gyflawni egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (y Ddeddf), Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r nod Cymru Iachach. Bydd y grŵp yn arwain ac yn datblygu cynllun integredig sy’n mynd i’r afael ag anghenion iechyd, gofal a llesiant poblogaeth Sir Benfro yn ei chyfanrwydd yn seiliedig ar set o uchelgeisiau a rennir ac sy’n gyffredin ar gyfer gwella deilliannau a phrofiad. Yn dilyn cyfnod o adolygu a myfyrio sy’n seiliedig ar amrywiaeth o wybodaeth, gan gynnwys Asesiad Llesiant Sir Benfro, y tair blaenoriaeth uchaf o ran iechyd y boblogaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol dros yr 1-3 blynedd nesaf yw:

Sefydlogrwydd y Farchnadmae hyn yn cynnwys cyfyngiadau o ran y gweithlu, capasiti gofal cartref, capasiti cartrefi gofal, cynaliadwyedd practisau meddygon teulu a chartrefi plant a maethu

Pobl Hŷn/Eiddilwch– mae hyn yn cynnwys ymateb i’r gyfran fwyaf o’r boblogaeth sydd dros 65 oed, sef 26%, tangydnabod a thanddiagnosio Dementia, mynychder cyflyrau cronig, rheoli cleifion hŷn / eiddil yn rhagweithiol ac anghenion gofalwyr / seibiant / cymorth

Iechyd a Lles Meddyliolmae hyn yn cynnwys yr effaith yn dilyn y pandemig ar draws pob oed ac arwahanrwydd cymdeithasol

Mae’r Bwrdd Atal Rhanbarthol hefyd yn gweithredu fel un o is-grwpiau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Gorllewin Cymru. Mae’r grŵp yma’n canolbwyntio ar atal yn y meysydd canlynol ac ar gefnogi ymgysylltiad parhaus yn y rhanbarth ar hyn o bryd;

  • Y Model Gofal sy’n ymwneud â Gofal yn y gymuned –Atal a chydlynu cymunedol
  • Y Model Gofal Iechyd a Lles Emosiynol
  • Gweithgarwch y Fforwm Arloesi (fforwm gwerth cymdeithasol y Rhanbarth)

Bydd y BGC yn cyfrannu at y gwaith hwn lle ceir cysylltiadau eglur â phrosiectau yn ein Cynllun Llesiant ac â gwaith atal yn y meysydd canlynol:

  • Dulliau seiliedig-ar-le o ymdrin ag anghydraddoldeb iechyd
  • Bwyta’n iach a phwysau iach
  • Gwella iechyd sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu cymunedol a gweithgareddau i gefnogi cymunedau cryf
  • Rôl mannau gwyrdd o ran cefnogi llesiant
  • Dull seiliedig-ar-asedau o gefnogi capasiti a gallu cymunedau

 

ID: 9688, adolygwyd 05/05/2023