Cynllun Llesiant Sir Benfro

Sut y mae’r Cynllun wedi’i drefnu

Bydd ein Cynllun Llesiant yn cael ei gyflawni trwy nifer o gynlluniau prosiect a bydd y rhain yn amlinellu’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni’r pedwar Amcan Llesiant yr ydym wedi’u hadnabod. Er mwyn cynyddu ein heffeithiolrwydd a’n hadnoddau i’r eithaf, mae pob maes prosiect yn amcanu at dargedu dau neu fwy o’n Hamcanion Llesiant. Bydd y BGC yn canolbwyntio’i gydymdrechion ar flaenoriaethau penodol lle gall wneud gwahaniaeth go iawn,  ategu’r gwaith da y mae sefydliadau’n ei wneud yn unigol a lle mae cydweithio eisoes yn effeithiol. Bydd y Cynllun yn cynrychioli’r gwerth ychwanegol y gallwn ei gyflawni trwy weithio’n arloesol ac yn gydweithredol, ac nid yw’n disodli gwasanaethau craidd y sefydliadau unigol. 

Ar gyfer pob maes prosiect byddwn yn amlygu:

  • y cyfiawnhad sylfaenol dros y gwaith, beth yw’r materion allweddol a beth ddylai’r camau gweithredu i fynd i’r afael â’r rhain fod yn ein tyb ni
  • sut y mae’r gwaith yn cyfrannu at yr Amcanion Llesiant
  • sut y mae’r gwaith yn cyd-fynd â’r Nodau Llesiant a meysydd llesiant a sut y mae’n cyfrannu at y 5 ffordd o weithio
  • pa un a fydd y gweithgaredd arfaethedig yn cael ei gyflawni yn y tymor byr, canolig ynteu hir

Wrth i ni symud ymlaen o ran cyflawni a datblygu’r gwaith hwn byddwn yn cadw ein hegwyddorion craidd mewn cof – y rhain fydd y conglfaen o ran sut yr ydym yn fframio ein gweithgarwch ac yn symud o ble’r ydym yn awr, i ble’r ydym am fod.

ID: 9691, adolygwyd 05/05/2023