Sefydlwyd Grŵp Ymgysylltu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gydweithio i gynllunio, cydgysylltu ac ymgysylltu ar gyfer Asesiad Llesiant 2022 a Chynllun Llesiant 2023-28.
Nawr bod y dogfennau hyn wedi’u cwblhau a’u cyhoeddi, rhoddir ystyriaeth i sefydlu Rhwydwaith Ymgysylltu ac Ymarferwyr ehangach, a fydd yn eistedd y tu allan i strwythur y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ond yn gweithredu fel adnodd i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei waith gyda chymunedau. Nodau'r grŵp hwn fydd fel a ganlyn;
Bydd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rôl barhaus i’w chwarae wrth hyrwyddo cyd-gynhyrchu a sicrhau bod ymgysylltu parhaus â dinasyddion a chymunedau yn thema sy’n rhedeg drwy gydol y broses o gyflawni’r Cynllun hwn. Drwy’r grŵp hwn, bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymrwymo i’r canlynol;
Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymrwymo i gynnwys pobl mewn meysydd gwaith sy’n effeithio arnynt a sicrhau bod ymgysylltu wrth wraidd y gwaith o gyflawni’r Cynllun Llesiant.