Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg

Canlyniad 4

Mae mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau asesedig yn y Gymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg

Ble rydyn ni nawr:

Disgyblion sy'n astudio ac yn cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg

Ar hyn o bryd mae disgyblion Ysgol Bro Preseli ac Ysgol Caer Elen yn gallu astudio pob pwnc ar lefel TGAU drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhoddir dewis i ddisgyblion yn yr ysgolion hyn ynghylch a ydynt am astudio'r gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Mae mwyafrif y disgyblion yn dewis astudio'r gwyddorau drwy gyfrwng y Saesneg. Gall disgyblion yn yr ysgolion hyn hefyd ddewis astudio rhai pynciau galwedigaethol drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflwynir y cyrsiau hyn mewn partneriaeth â Choleg Sir Benfro, Coleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr. Ffurfiwyd partneriaethau gydag ysgolion eraill o fewn Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg (CYDAG) i gydweithio ar adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer cymwysterau galwedigaethol.  Yn Ysgol Bro Gwaun, tra bod nifer o ddisgyblion yn dilyn cwricwlwm Cymraeg pwrpasol yn y Dyniaethau, Cerddoriaeth a Drama yn CA3, ychydig iawn sy'n dewis dilyn arlwy cwricwlwm yr ysgol yn CA4 drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd. Darperir cyngor ac arweiniad i rieni a gofalwyr yn ystod y cyfnod pontio o CA3 i 4, gan ganolbwyntio'n benodol ar esbonio manteision dilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gall pob disgybl chweched dosbarth sy'n astudio cymwysterau academaidd a galwedigaethol yn Ysgol Bro Preseli astudio'r pynciau a ddewiswyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynigir Mathemateg, Mathemateg Bellach, Bioleg, Cemeg a Ffiseg drwy gyfrwng y Saesneg ochr yn ochr â'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer y pynciau hyn

Disgyblion sy'n astudio Cymraeg fel pwnc

  • Mae'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer dysgwyr sy'n astudio ac yn cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mlwyddyn 10 a throsodd wedi'i chyfyngu i Ysgol Bro Preseli, ond bydd yn cynnwys Ysgol Caer Elen o fis Medi 2021 wrth i'r ysgol ymestyn i CA4.
  • Mae pob disgybl cyfnod allweddol pedwar sy'n astudio yn Ysgol Bro Preseli yn cael eu cofrestru ar gyfer Cymraeg Iaith Gyntaf mewn TGAU.  Ar gyfartaledd mae 75% o bob carfan hefyd yn cael eu cofrestru ar gyfer TGAU Llenyddiaeth Gymraeg. Mae'r canlyniadau ar gyfer y Gymraeg a Llenyddiaeth Gymraeg yn rhagorol ac mae adran Gymraeg yr ysgol wedi derbyn cydnabyddiaeth am arfer ragorol mewn adroddiad thematig gan Estyn yn 2020

Beth fyddwn ni'n ei wneud:

Disgyblion sy'n astudio ac yn cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg

  • Mae'r Cyngor wedi ymrwymo'n llwyr i gynyddu % y dysgwyr 15 oed a hŷn sy'n astudio cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg. Er mai'r nod hirdymor fydd adeiladu ar y newidiadau uniongyrchol ar lefel Gynradd drwy gynyddu capasiti'r ddarpariaeth bresennol ar ôl 15 oed, a hefyd drwy gynyddu'r ddarpariaeth hon, y nod yn y tymor byr yw sicrhau bod amodau priodol, e.e. staffio, cyrsiau, cymorth ac adnoddau, ar waith i gynyddu nifer y dysgwyr sy'n dilyn y cyrsiau sydd ar gael ar hyn o bryd. Rhoddir ystyriaeth i sicrhau bod disgyblion yn dilyn llwybrau priodol yng nghyfnod allweddol 3 er mwyn sicrhau pontio effeithiol a hyderus i gyrsiau TGAU a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Yn Ysgol Bro Preseli ac Ysgol Caer Elen gall disgyblion gwblhau'r holl gyrsiau a gynigir ar lefel TGAU drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae'r nifer sy'n dewis astudio'r pynciau gwyddoniaeth fel canran yn fach. Bydd y ddwy ysgol yn datblygu strategaethau i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dewis astudio'r gwyddorau TGAU drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd Ysgol Bro Gwaun yn datblygu strategaethau i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dewis astudio'r Dyniaethau mewn TGAU drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod y Rhaglen, ac ar ôl trosglwyddo Ysgol Glannau Gwaun o Ffrwd Ddeuol i Gyfrwng y Gymraeg, bydd y Cyngor yn archwilio Ysgol Bro Gwaun fel ein trydedd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg.
  • Bydd y Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi'r tair ysgol a amlinellir uchod i sicrhau bod nifer y cyrsiau TGAU sydd ar gael i ddysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu, a bydd yn mynd ati i frocera gwaith partneriaeth rhwng yr ysgolion hyn a Choleg Sir Benfro i ddatblygu cyrsiau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion.
  • Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu mynediad i ddisgyblion ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16.  Byddwn yn monitro'r nifer sy'n manteisio ar opsiynau ôl-16 cyfrwng Cymraeg, yn enwedig o ystyried yr angen i sicrhau na chollir yr enillion a wireddir yn Ysgol Caer Elen ac Ysgol Bro Gwaun o ran niferoedd disgyblion pan fydd dysgwyr yn gwneud penderfyniadau ar eu hopsiynau ôl-16. Fel rhan o'r ymarfer hwn byddwn yn ystyried a yw cadw darpariaeth chweched dosbarth yn Ysgol Bro Preseli yn briodol yn unig.
  • Mewn ymateb i'r gofyniad i amlinellu targed ar gyfer y cynnydd disgwyliedig yn nifer a chanran y dysgwyr ym Mlwyddyn 10 ac uwch sy'n astudio ar gyfer cymwysterau ac sy'n cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n bwysig nodi'r waelodlin sy'n seiliedig ar niferoedd disgyblion a ddarperir gan ysgolion ym mis Ionawr 2021:

Ym mis Ionawr 2021

Bl 10

Bl 12

Bl 13

Niferoedd Disgyblion sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg 145 76 87
Cyfanswm maint y garfan 1227 347 304
% yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg 12% 22% 29%

Nodir ein targed, ynghyd â'r tybiaethau angenrheidiol fel a ganlyn:

  • Ar hyn o bryd, dim ond disgyblion sy'n mynychu Ysgol Bro Preseli sy'n cael eu cyfrif tuag at y rhai sy'n astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg; bydd hyn yn ymestyn i Ysgol Caer Elen ac Ysgol Bro Gwaun yn y dyfodol;
  • Er bod dewis rhieni ar gyfer lleoedd ysgol yn chwarae rhan bwysig wrth lunio nifer y disgyblion sy'n mynychu ein hysgolion, gan gynnwys y rhai mewn awdurdodau cyfagos, mae ein rhagdybiaeth o garfan Blwyddyn 10 yn 2031 yn seiliedig ar y grŵp blwyddyn Derbyn presennol, h.y. 1184;
  • Yn yr un modd, mae'r cyfrifiad ar gyfer dilyniant Chweched Dosbarth ysgolion ym Mlynyddoedd 12 a 13 yn seiliedig ar ganrannau dilyniant cyfredol bras, h.y. 27.5% o garfan Blwyddyn 11 sy'n symud ymlaen i Flwyddyn 12, a 23.9% yn symud ymlaen i Flwyddyn 13. 
  • Mae cyfrifo dysgwyr sy'n astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg yn seiliedig ar dwf a ragwelir yn y sector cynradd gan gyfrannu at dwf yn y sector uwchradd yn ystod cyfnod y Cynllun. Mae hyn hefyd yn cymryd llwyddiant o ran cadw disgyblion sy'n trosglwyddo o leoliadau cynradd cyfrwng Cymraeg i leoliadau uwchradd cyfrwng Cymraeg.
  • Felly, mae ein targedau presennol ar gyfer 2031 ar gyfer Blynyddoedd 10 ac uwch fel a ganlyn:

Ym mis Ionawr 2031

Bl 10

Bl 12

Bl 13

Niferoedd Disgyblion sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg 300 169 162
Cyfanswm maint y garfan 1184 326 283
% yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg 25% 52% 57%

Disgyblion sy'n astudio Cymraeg fel pwnc

  • Bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gefnogi gwaith ysgolion a sefydliadau addysg bellach i gydlynu'r ddarpariaeth o'r Gymraeg o Flwyddyn 10 drwy:
    • Barhau a datblygu rhwydweithiau proffesiynol ymhellach mewn cydweithrediad ag arweinwyr rhanbarthol ar gyfer y Gymraeg er mwyn ymgorffori cymorth o ansawdd da i bob ysgol;
    • Parhau i gydweithio â Choleg Sir Benfro i sicrhau darpariaeth ôl-15 cyfrwng Cymraeg;
    • Parhau i gefnogi datblygiad darpariaeth ôl-15 cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Bro Gwaun gydag adnoddau ychwanegol fel sydd ar gael;
    • Defnyddio adnoddau, staff allweddol o fewn yr awdurdod lleol a deunyddiau hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru i annog continwwm iaith a dysgu ar draws pob cam dilyniant i hyrwyddo hyder dysgwyr a sicrwydd rhieni.
  • Bydd y gwahaniaethau rhwng Cymraeg ail iaith a TGAU Cymraeg iaith gyntaf yn cael eu dileu yn dilyn cyflwyno Cwricwlwm Newydd Cymru ym mis Medi 2022. Cydnabyddir yr aliniad hwn o ddarpariaeth a disgwyliad TGAU ar lefel ysgol uwchradd ac mae cyfnod ailstrwythuro a datblygu ar y gweill i sicrhau bod rhaglenni Astudio ag adnoddau priodol ar waith.
  • Yn Ysgol Bro Gwaun disgwylir y bydd pob disgybl sy'n dilyn llwybrau drwy gyfrwng y Gymraeg yn CA3 yn cyflawni'r graddau uchaf sydd ar gael, gan gydnabod eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth uwch o'r iaith. Disgwylir y bydd pob disgybl, waeth beth fo'i lefel sgiliau, yn llwyddo i ennill gradd TGAU yn y Gymraeg.

 

ID: 9008, adolygwyd 31/10/2024