Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg

Canlyniad 5

Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol

Ble rydyn ni nawr:

Mae data asesu athrawon a gofnodwyd ar gyfer y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2 yn amlygu bod safonau'r Gymraeg wedi bod yn amrywiol mewn rhai lleoliadau dros gyfnod o dair blynedd cyn 2020. Mewn lleoliadau cynradd cyfrwng Cymraeg roedd safonau ysgrifennu ar y cyfan yn is na llafaredd a darllen, ac roedd gwella safonau ysgrifennu gan gynnwys ysgrifennu estynedig yn faes blaenoriaeth i lawer o ysgolion. Fodd bynnag, mae data a thystiolaeth nas safonwyd o leoliadau cynradd ac uwchradd ar hyn o bryd yn amlygu dirywiad yn sgiliau llafaredd Cymraeg disgyblion yn dilyn cyfnod hir o ddysgu o bell oherwydd y pandemig. O ganlyniad, mae gwella safonau llafaredd ac ysgrifennu yn faes blaenoriaeth ar gyfer clystyrau Bro Gwaun, a Preseli a Chaer Elen. Mewn ymateb i'r data a'r dystiolaeth a gyflwynwyd, mae'r Awdurdod Lleol wedi cefnogi gwella sgiliau llafaredd ac ysgrifennu disgyblion yng nghlystyrau Bro Gwaun a Preseli a Chaer Elen gan-

  • Ddarparu hyfforddiant drilio iaith i'r holl Gynorthwywyr Cymorth Dysgu a chydlynwyr Cymraeg i hyrwyddo llafaredd a modelu iaith gywir. Darparwyd 
  • deunyddiau cymorth ar ffurf pecyn adnoddau ffisegol a digidol i gyd-fynd â'r hyfforddiant ar gyfer pob ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.
  • Darparu hyfforddiant 'Siarad am Ysgrifennu' i'r holl staff addysgu a chymorth i wella safonau llafaredd ac ysgrifennu
  • Datblygu banc adnoddau ar-lein ar gyfer pob grŵp blwyddyn gynradd gyda deunyddiau sicr o ansawdd gan athrawon Sir Benfro i ddatblygu adnoddau Cymraeg yn ystod y pandemig – Dysgu ar Lein
  • Creu a hyrwyddo gwefan ddwyieithog i gefnogi rhieni y mae eu plant yn dysgu Cymraeg gartref wrth ymgymryd â dysgu o bell yn ystod ac ar ôl cyfnodau cloi
  • Darparu deunyddiau enghreifftiol ar gyfer cefnogi'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg gan ddefnyddio methodoleg Gianfranco Conti i gynhyrchu unedau gwaith Blwyddyn 6 i gefnogi addysgu'r Gymraeg yn seiliedig ar 10 nod cyfathrebol a gyflwynir ar raglen dreigl i ehangu ac adalw iaith hysbys a dysgu yn rheolaidd.
  • Datblygu porth adnoddau ar-lein i ysgolion.
  • Darparu rhaglen ar-lein o ddigwyddiadau ar gyfer dyddiadau allweddol yng nghalendr Cymru – Diwrnod Shwmae, Dydd Miwsig Cymru a Dydd Gŵyl Dewi.

Mae'r cyngor wedi ymrwymo i ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd o'u bywydau. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r rhanbarth ac o fewn grŵp cenedlaethol i rannu arfer da. Mae ein holl ysgolion cynradd yn gweithredu ac yn dilyn y fframwaith Siarter Iaith.

Ers lansio'r Siarter Iaith yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg a Siarter Iaith Cymraeg Campus yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg, mae'r ysgolion wedi gwneud gwaith arloesol i gynyddu'r defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg o fewn cymuned yr ysgol gyfan.

Siarter Iaith

Gwobr efydd: ysgolion 18 

Gwobr arian: ysgolion 4

Gwobr aur: ysgolion 0 

Siarter Iaith Cymraeg Campus

Gwobr efydd: ysgolion 26 

Gwobr arian: ysgolion 6 

Gwobr aur: ysgolion 1 

Partneriaid – Mae gweithio gyda phartneriaid ar draws asiantaethau yn lleol yn Sir Benfro a thu hwnt yn allweddol i lwyddiant ein strategaeth. Mae'r cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol sy'n hyrwyddo'r Gymraeg sef Mudiad Meithrin, Urdd, Menter Iaith, CFfI, Cymraeg i Blant a Merched y Wawr. Mae'r cyngor wedi cynnal Gwobrau Shwmae blynyddol ers 2014 gyda'r nod o ddathlu cyfraniadau gan unigolion a grwpiau wrth hyrwyddo'r Gymraeg a'i diwylliant o fewn ysgolion a chymunedau yn ogystal â chyflawniadau dysgwyr Cymraeg.

Mae swyddog Datblygu'r Gymraeg ac Aelod Cabinet dros y Gymraeg yn aelodau o'r Fforwm Iaith sirol ac yn gyfrifol am hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ym mhob grŵp oedran yn Sir Benfro. Mae'r Fforwm Iaith yn trafod ac yn trefnu gweithgareddau amrywiol yn y sir i hyrwyddo'r Gymraeg.

Yn ystod y pandemig rydym wedi sefydlu presenoldeb ar-lein ar ffurf tudalen Facebook Shwmae Sir Benfro i hyrwyddo'r Gymraeg yn Sir Benfro. Mae data defnyddwyr yn amlygu ei effeithiolrwydd wrth gyrraedd cynulleidfa ar-lein eang. Mae lefelau ymgysylltu yn ystod ymgyrchoedd penodol yn dda iawn.

 

Beth fyddwn ni'n ei wneud:

 

  • Sicrhau bod gan bob lleoliad gynlluniau gweithredu cryf i godi safonau yn y Gymraeg. Defnyddio Cynghorwyr Her i gefnogi ysgolion wrth lunio cynlluniau gweithredu cadarn ar gyfer gwella'r Gymraeg gan ganolbwyntio'n glir ar argymhellion Estyn yr ysgol unigol.
  • Parhau i ddatblygu model cymorth ymgysylltu cynnar ar gyfer lleoliadau nas cynhelir mewn ardaloedd wedi'u targedu i wella profiadau ieithyddol cynnar plant
  • Parhau i ddatblygu adnoddau i gefnogi'r cwricwlwm newydd 'Traed, Cam a Naid' i annog athrawon i gynllunio'r gwaith o gyflawni amcanion y Siarter Iaith a'r Dimensiwn Cymreig drwy'r cwricwlwm.
  • Byddwn yn parhau i gynnal a datblygu'r Siarter Iaith yn ein hysgolion cynradd gan sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi ar hyd y daith gydag adnoddau ac arweiniad addas. Bydd cyfarfodydd tymhorol i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf gydag Arweinwyr y Siarter Iaith yn ogystal â rhannu arfer effeithiol ar draws clystyrau yn flaenoriaeth.
  • Adeiladu ar lwyddiant a momentwm y Siarter Iaith yn ein hysgolion cynradd, a sefydlu rhaglen a chefnogaeth i ysgolion uwchradd i ymgorffori defnydd o fframwaith y Siarter Iaith.
  • Bydd y cyngor yn gweithio gyda Menter Iaith Sir Benfro fel partner arweiniol ar ddefnydd cymdeithasol o'r Gymraeg gan ein pobl ifanc drwy amrywiaeth o weithgareddau wyneb yn wyneb yn ogystal â sefydlu presenoldeb ar-lein effeithiol.
  • Byddwn yn cryfhau ein perthynas â phartneriaid y Fforwm Iaith i dargedu gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg gan nodi meysydd allweddol drwy ddefnyddio data'r Siarter Iaith. Byddwn hefyd yn mynd i'r afael â thargedu gweithgareddau allgyrsiol i ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i gynyddu faint o Gymraeg a ddefnyddir. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid fforwm a gwasanaethau ieuenctid eraill i fapio a hyrwyddo'r ddarpariaeth sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Urdd i hyrwyddo ei hamrywiaeth ardderchog o weithgareddau a chyfleoedd preswyl i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg gan ein plant a'n pobl ifanc.
  • Byddwn yn addasu ac yn adeiladu ar lwyddiant ein Gwobrau Shwmae blynyddol i ddod â phartneriaid amrywiol o fewn y sir at ei gilydd i ddathlu cyfraniadau gan unigolion a grwpiau wrth hyrwyddo'r Gymraeg a'i diwylliant o fewn ein hysgolion a'n cymunedau.
  • Byddwn yn sefydlu siambr adnoddau ar-lein i gefnogi ysgolion i gyflwyno'r Gymraeg fel rhan o'r cwricwlwm newydd yn ogystal ag adnoddau i gyflwyno'r Fframwaith Siarter Iaith. Bydd adnoddau hefyd ar gael i hyrwyddo gwerth a manteision dwyieithrwydd ymhellach er mwyn cryfhau cymhelliant disgyblion i fod yn siaradwr hyderus dwy iaith swyddogol Cymru

 

Nodir gwaith yr awdurdod lleol ynghyd â'i bartneriaid wrth gyflawni'r canlyniad hwn mewn cynllun gweithredu 5 mlynedd manwl. Bydd gwaith yr holl bartneriaid o'r fath yn cael ei nodi a'i ddisgrifio'n llawn fel rhan o'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned o unrhyw gynnig trefniadaeth ysgolion sy'n codi ar gyfer ysgolion unigol; mae'r un peth yn wir mewn perthynas â cheisiadau a wneir am grantiau cyfalaf neu refeniw.

 

ID: 9009, adolygwyd 24/09/2024