Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg
Canlyniad 7
Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Ble rydyn ni nawr:
- Yn y sector cyfrwng Cymraeg, bydd tua 50% o benaethiaid yn cyrraedd oedran ymddeol yn ystod y Cynllun.
- Ar sail canfyddiadau Cyfrifiad Sgiliau'r gweithlu, mae gweithgarwch paratoadol a gweithgarwch cychwynnol wedi digwydd i gryfhau proffil ieithyddol staff ym mhob ysgol gynradd.
- Mae llawlyfr gyda chanllawiau i symud ar hyd y llwybr at ruglder yn y Gymraeg wedi'i greu a'i rannu gyda phob ysgol. Rydym wedi gweithio gydag ysgolion cynradd i ddefnyddio'r llyfryn hwn i gynllunio targed penodol ar gyfer datblygu sgiliau iaith Gymraeg yn seiliedig ar lefel sgiliau cyfredol pob aelod o staff sy'n gyraeddadwy ac yn atebol.
- Targedwyd athrawon a staff cymorth ym mhob un o brif leoliadau cyfrwng Cymraeg y sir i gwblhau cwrs 'Gloywi Iaith' pwrpasol gyda Rhagoriaith yn ddiweddar. Gofynnwyd i bob lleoliad cyfrwng Saesneg gynllunio'r camau nesaf o ran dysgu ar gyfer pob aelod o staff gan ganolbwyntio'n arbennig ar dargedu staff nad oes ganddynt sgiliau Cymraeg i gwblhau cwrs W1 ar-lein gyda Chymraeg Gwaith
- Fel rhan o'n hymrwymiad i sicrhau ein bod yn datblygu sgiliau Cymraeg nifer fwy o staff na'r lleoedd sydd ar gael ar y Cynllun Sabothol, rydym yn treialu cwrs Cymraeg i Oedolion i symud 15 o athrawon a 5 aelod o staff cymorth ar hyd continwwm Cymru.
- Mae ysgolion sy'n newid eu categori ieithyddol wedi cael cymorth ieithyddol wedi'i dargedu drwy fynychu cyrsiau cynllun sabothol Cymru a chefnogaeth gan yr Athro Ymgynghorol. Mae'r Athro Ymgynghorol a'r arweinydd ar gyfer y Gymraeg hefyd wedi gweithio gyda'r ysgolion i ddatblygu sgiliau a hyder gweithlu'r ysgolion yn systematig
Beth fyddwn ni'n ei wneud:
- Bydd y cyngor yn cynnal archwiliad i adolygu swyddi gwag staff addysgu a staff cymorth yn awr ac yn y dyfodol i gefnogi recriwtio a chadw staffio.
- Byddwn yn parhau i weithio gyda Rhagoriaith ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i sicrhau bod y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio'n strategol i ddiwallu anghenion ysgolion, yn enwedig y rhai lle bydd newidiadau yn faint o Gymraeg a addysgir yn effeithio ar anghenion sgiliau staff.
- Bydd y cyngor yn cynnal archwiliad i adolygu ac adlewyrchu newidiadau yn y math o ysgol a dynodiad ieithyddol ar draws pob cam.
- Bydd y cyngor yn parhau i gefnogi staff nad ydynt yn dysgu pynciau arbenigol i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau drwy fynychu hyfforddiant a chymorth rhanbarthol.
- Bydd yr Awdurdod Lleol yn nodi darpar arweinwyr yn gynnar. Bydd cymorth i ddarpar benaethiaid ac arweinwyr canol drwy raglen gymorth ranbarthol yn faes blaenoriaeth. Lle mae diffyg recriwtio o ansawdd uchel, bydd yr Awdurdod yn ystyried cydweithio â chyrff llywodraethu i ffedereiddio ysgolion er mwyn sicrhau arweinyddiaeth o'r safon uchaf.
- Byddwn yn gweithio gyda'r Consortiwm sy'n gweithio'n agos gyda darparwyr Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon (TAR) i ddatblygu rhaglenni a ddarperir ar y cyd (gan ysgolion a Sefydliadau Addysg Uwch) ar gyfer athrawon newydd gymhwyso i adlewyrchu gofynion y cwricwlwm newydd a datblygu gweithlu â chymwysterau addas i gyflawni continwwm Cymru
- Byddwn yn datblygu sgiliau a hyder gweithlu ein hysgolion yn systematig drwy weithio gyda phartneriaid (ERW, Rhagoriaith, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol) i gyflwyno rhaglenni hyfforddi gan ganolbwyntio'n benodol ar addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Bydd ein Swyddog Datblygu'r Gymraeg ac ERW yn darparu cymorth ar ôl y cwrs i ymarferwyr sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun Sabothol. Byddwn hefyd yn gweithredu rhaglen mentor Hyrwyddwr Iaith lle bydd yr ymarferwyr hyn, ar ôl cwblhau'r cyfnod sabothol, yn dod yn hyrwyddwyr iaith ac yn mentora ymarferwyr eraill i gynyddu eu hyder wrth siarad Cymraeg, addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu ddysgu Cymraeg fel pwnc mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
- Byddwn yn sicrhau bod ysgolion yn targedu datblygu sgiliau Cymraeg o fewn cynlluniau datblygu ysgolion yng nghyd-destun gwella safonau er mwyn sicrhau bod ffocws cryf ar flaenoriaethu datblygiad proffesiynol parhaus sy'n cynnwys gwella sgiliau ieithyddol.
- Bydd Cynghorwyr Her yn monitro Cynlluniau Datblygu Ysgolion i sicrhau bod arweinwyr yn bwriadu gwella sgiliau ieithyddol y gweithlu. Bydd canlyniadau'r gweithlu hefyd yn cael eu rhannu â Chynghorwyr Her i gefnogi monitro.
- Byddwn yn parhau i ddefnyddio data'r gweithlu i barhau i gynllunio rhaglenni dysgu proffesiynol sy'n adlewyrchu anghenion ein gweithlu lleol. Byddwn yn parhau i annog y defnydd o gyrsiau Cymraeg Gwaith ar-lein sydd ar gael am ddim i gryfhau sgiliau Cymraeg staff a thargedu unigolion i gwblhau cyrsiau Cymraeg i Oedolion er mwyn symud ar hyd y continwwm iaith.
- Fel rhan o Strategaeth Iaith Gymraeg y Cyngor (2021-2026), byddwn yn:
- Parhau i ddarparu cyfleoedd dysgu cymunedol Cymraeg i oedolion;
- Cefnogi gwelliannau mewn cysylltedd digidol a chyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ar-lein;
- Cynyddu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr o fewn y Cyngor Sir ddefnyddio'r Gymraeg o fewn eu hamgylchedd gwaith bob dydd.
- Byddwn yn annog llywodraethwyr pob ysgol i gynnwys adroddiad ar y Gymraeg yn eu hadroddiad blynyddol i rieni. Byddwn hefyd yn codi ymwybyddiaeth o'r angen am sgiliau dwyieithog a bod monitro uwchsgilio eu staff yn allweddol yn ystod ein sesiynau hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr ysgolion ar y strategaeth hon.
- Bydd mynediad i'r cynllun sabothol iaith Gymraeg yn cael ei dargedu at feysydd blaenoriaeth fel y nodir yn y cynllun strategol hwn. Wrth i ysgolion symud ar hyd y continwwm a chynyddu faint o Gymraeg a addysgir, bydd hyfforddiant fel y cynllun sabothol yn cael ei ddefnyddio'n strategol i gefnogi datblygiad sgiliau athrawon a chynorthwywyr addysgu.
Bydd yr Arweinydd Strategol ar gyfer y Gymraeg a Swyddog Datblygu'r Gymraeg yn darparu hyfforddiant yn y gweithle i staff mewn ysgolion sydd wedi'u targedu yn seiliedig ar yr angen/bwriad i newid categorïau ieithyddol
ID: 9011, adolygwyd 24/09/2024