Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg

Gwneir y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg hwn o dan Adran 84 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Rydym wedi rhoi sylw dyledus i'r canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru wrth bennu ein targedau. 

Ein gweledigaeth ddeng mlynedd ar gyfer cynyddu a gwella'r gwaith o gynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ein hardal

Mae ein gweledigaeth ar gyfer y 10 mlynedd nesaf fel a ganlyn:

Sicrhau bod pob disgybl yn gallu cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg o'r safon uchaf

... a bod hyn yn seiliedig ar yr egwyddorion allweddol canlynol:

  1. Cydnabod hawl pob plentyn i ddysgu Cymraeg a hyrwyddo manteision dwyieithrwydd;
  2. Cynyddu canran y disgyblion sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg a sicrhau ei fod ar gael i bob dysgwr, o fewn pellter teithio rhesymol o'u cartrefi;
  3. Adeiladu ar gyflawniadau'r gorffennol a hyrwyddo'r safonau academaidd uchaf posibl;
  4. Bydd dysgwyr sydd wedi mynychu lleoliad cyfrwng Cymraeg yn y cyfnod cynradd yn cael eu hannog a disgwylir iddynt barhau â hyn wrth drosglwyddo i gyfnodau allweddol dilynol yn y cyfnod uwchradd.

Gellir mynegi ein targed cyffredinol o 10 mlynedd fel a ganlyn:

Cynyddu nifer y disgyblion Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg gan rhwng 82 a 127 o ddisgyblion; cyfrifir hyn fel a ganlyn: 

Disgrifiad

Gwaelodyn 2020

2030/31 targed (isafwm)

2030/31 targed (uchelgeisiol)

Maint yr carfan 1282 1136 1136
Disgyblion yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg                 293 375 420
% 22.9% 33% 37%
Nifer ychwanegol o ddisgyblion sydd angen er mwyn cwrdd y targed               - 82 127

O ystyried lleoliad a gwneuthuriad ieithyddol ein hysgolion ar hyn o bryd, mae gennym y strategaethau canlynol i gyflawni'r cynnydd targed yn nifer y plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg:

  • Mewn perthynas ag ysgolion sy'n pontio ar hyn o bryd, caiff pob rhiant wybod y bydd plant yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.  Ar hyn o bryd, mae gennym un ysgol yn y categori pontio, Ysgol Croesgoch, sy'n dod yn Gyfrwng Cymraeg dros amser;
  • Trosi ysgolion sydd wedi'u categoreiddio ar hyn o bryd fel ysgolion dwy ffrwd i fod yn gwbl gyfrwng Cymraeg, neu drwy geisio cryfhau'r cynnig cyfrwng Cymraeg yn sylweddol. Bydd y broses hon yn golygu bod yr ysgolion hyn mewn statws trosiannol am peth amser wrth i'r ffrwd Saesneg gael ei raddol ddiddymu. 
  • Sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd mewn ardaloedd lle nad oes darpariaeth ar hyn o bryd. Mewn achosion o'r fath, efallai y bydd angen cynnwys prosiectau mewn rhaglen gyfalaf yn y dyfodol.
  • Gweithio gydag ysgolion i gynyddu capasiti lle ceir tystiolaeth o'r galw yn yr ardal
  • Ymestyn dalgylchoedd ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg presennol er mwyn cyrraedd ardaloedd lle nad oes darpariaeth o'r fath ar hyn o bryd.  Bydd angen i hyn ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys costau cludiant ysgol ychwanegol posibl (Gweler Paragraff 3 o Ganlyniad 1).

Dylid nodi y bydd angen i'r Cabinet gymeradwyo nifer o'r uchod, neu mewn achosion lle mae angen proses Trefniadaeth Ysgolion, cymeradwyaeth gan y Cyngor llawn. Nid oes unrhyw ymgais yma i benderfynu ymlaen llaw ar unrhyw benderfyniad sydd i'w wneud gan y naill neu'r llall o'r cyrff uchod.

Ar sail rhagdybiaethau a wnaed mewn perthynas â'r uchod, gellir dangos y llwybr twf yn nifer y disgyblion ym Mlwyddyn 1 bob blwyddyn fel a ganlyn:

gellir dangos y llwybr twf yn nifer y disgyblion ym Mlwyddyn 1 bob blwyddyn fel a ganlyn

Deilliant 1: Mwy o blant meithrin/tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Deilliant 2: Mwy o blant dosbarth derbyn/pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o'u haddysg statudol i un arall

Deilliant 4: Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg

Deilliant 5: Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol

Deilliant 6: Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (“ady”) yn unol â'r dyletswyddau a bennir gan y ddeddf anghenion dysgu ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Deilliant 7: Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg

Sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i gyflawni ein gweledigaeth

Mae Fforwm Cymraeg mewn Addysg Sir Benfro wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a bydd yn parhau i wneud hynny yn ystod tymor y gwanwyn 2022 wrth lunio cynllun gweithredu ar gyfer 5 mlynedd cyntaf ei oes.  Rydym yn cydnabod bod partneriaid y Cyngor yn Fforwm y Gymraeg mewn Addysg yn allweddol i gyflwyno Cynllun Strategol Y Gymraeg mewn Addysg llwyddiannus fel a ganlyn:

  • Mudiad Meithrin – darparu sylfeini cyn-ysgol cadarn mewn lleoliad cyfrwng Cymraeg.
  • Urdd Gobaith Cymru – darparu cyfleoedd priodol i blant a phobl ifanc ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn gwahanol gyd-destunau y tu mewn a'r tu allan i gatiau'r ysgol.
  • Coleg Sir Benfro – mae cynyddu'r ddarpariaeth alwedigaethol drwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol wrth ategu'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer y 6ed dosbarth.  Fodd bynnag, bydd yn bwysig monitro llwybrau ôl-16 dysgwyr wrth iddynt adael addysg orfodol.
  • Dysgu Sir Benfro – cyfleoedd gwerthfawr i oedolion ddysgu Cymraeg, yn enwedig rhieni plant sy'n mynychu lleoliadau cyfrwng Cymraeg, ac aelodau eraill o'r teulu. 
  • Menter Iaith Sir Benfro – gweithgareddau gwerthfawr sy'n canolbwyntio ar y gymuned i ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio eu sgiliau iaith mewn lleoliadau cymunedol.

Yn dilyn cyhoeddi Cynllun Strategol Y Gymraeg mewn Addysg mis Medi 2022, bydd y Fforwm yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o fonitro cynnydd targedau a chanlyniadau cyn herio a chraffu ffurfiol Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu'r Cyngor, ac adroddiadau blynyddol i'r Cabinet a Llywodraeth Cymru

ID: 9003, adolygwyd 23/09/2022