Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg
Deilliant 3
Mae mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o'u haddysg statudol i un arall
Ble rydyn ni nawr:
Cadw Disgyblion
- Rydym yn cydnabod mai un o'r agweddau allweddol ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg llwyddiannus yw cadw disgyblion a’u dilyniant o un grŵp/cyfnod blwyddyn i'r llall. Mae dilyniant rhwng grwpiau blwyddyn yn y cyfnod cynradd yn dda; nid oes gennym unrhyw ysgolion babanod/iau ar wahân a allai effeithio ar y newid hwn. Fodd bynnag, mae'r dilyniant rhwng cyfnodau cynradd ac uwchradd yn amrywio ac mae’n cael ei ddwysáu gan ddewis rhieni ar gyfer darpariaeth uwchradd cyfrwng Saesneg, neu ddarpariaeth uwchradd mewn awdurdodau lleol cyfagos.
- Yn 2020, o garfan blwyddyn 6 o 210 o ddisgyblion yng nghlystyrau Preseli ac Ysgol Caer Elen, dewisodd tua 44 o ddisgyblion (21%) ddarpariaeth uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg eraill yn Sir Benfro neu fynychu ysgolion mewn awdurdodau cyfagos a gynigiodd lai o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg nag sydd ar gael yn eu hysgolion uwchradd lleol.
- Mae'r sefyllfa yn Ysgol Bro Gwaun yn peri pryder arbennig; yn 2020, o garfan blwyddyn 6 o 63 o ddisgyblion a oedd wedi derbyn addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cynradd bwydo, dim ond 21 a aeth ymlaen i ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Bro Gwaun. Gall y pandemig effeithio'n rhannol ar hyn, ond roedd y gostyngiad yn y niferoedd yn debyg yn y ddwy flynedd flaenorol hefyd.
Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion sy'n darparu addysg drwy Gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg
- Ar hyn o bryd, mae tair ysgol Ffrwd Ddeuol gynradd yn Abergwaun, Arberth a Phenfro. Mewn perthynas â'r olaf, mae'r Cyngor wedi cymeradwyo cynnig i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg annibynnol newydd a fydd yn agor ym mis Ionawr 2023.
- Mae gan ddwy ysgol gynradd arall statws Trosiannol (TR), a'r rhain yw Ysgol Gynradd Wdig ac Ysgol Gynradd Croesgoch. Mae cynnig statudol i newid categori iaith yr olaf wedi'i gwblhau a bydd yr ysgol yn dod yn gwbl gyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd nesaf.
- Mae gennym ddwy ysgol/cyfnod cynradd, ac un ysgol uwchradd sydd â statws Saesneg gyda Defnydd Sylweddol o'r Gymraeg (EW). Dyma Ysgol Gatholig Holy Name yn Abergwaun, cyfnod cynradd Ysgol Penrhyn Dewi yn Nhyddewi, ac Ysgol Bro Gwaun.
Cydweithio ag Awdurdodau Lleol eraill
Mae gan yr Awdurdod Lleol berthynas gydweithredol dda ag Awdurdodau Lleol cyfagos. Lle mae ysgolion wedi'u lleoli'n agos yn ddaearyddol i Awdurdodau Lleol cyfagos, gwneir ymdrechion i gysylltu a chadw disgyblion o fewn yr Awdurdod Lleol. Fodd bynnag, mae cyfraddau cadw o leoliadau cynradd cyfrwng Cymraeg i ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg yn amrywio. Mae nifer y disgyblion sy'n trosglwyddo o leoliadau cynradd Cyfrwng Cymraeg i leoliadau uwchradd mewn Awdurdodau Lleol cyfagos hefyd yn fater sy'n dod i'r amlwg fwyfwy
Beth fyddwn ni'n ei wneud:
Cadw Disgyblion
- Yn unol â'n hegwyddorion allweddol, bydd disgwyl i bob disgybl sy'n dilyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y cyfnod cynradd barhau i ddarpariaeth o'r fath mewn cyfnodau ysgol uwchradd dilynol. Wedi ymgymryd cyfnod o ymchwil er mwyn deall dewisiadau rieni, bydd yr awdurdod lleol yn paratoi polisi penodol a fydd yn amlinellu'r disgwyliad hwn a bydd hyn yn cael ei rannu â rhieni fel rhan o drefniadau derbyn i ysgolion y Cyngor. Bydd disgwyl i ysgolion hyrwyddo'r polisi hwn wrth ddelio â rhieni.
- Rydym yn cydnabod bod cadw dysgwyr rhwng grwpiau blwyddyn a chyfnodau pontio yn arbennig o bwysig. Rydym hefyd yn cydnabod bod perthnasoedd clwstwr ysgolion yn allweddol yn hyn o beth gan y byddem am weld rhieni'n cael dealltwriaeth glir o'r llwybr disgwyliedig rhwng lleoliad y blynyddoedd cynnar, ysgol gynradd/cyfnod ac ysgol/cyfnod uwchradd. Felly, byddwn yn annog ysgolion i feithrin cysylltiadau cryf â rhieni fel bod trosglwyddiadau'n dilyn y llwybr disgwyliedig er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i'r eithaf. Byddwn yn cynnal ymchwil benodol i ddeall dewis rhieni yn well wrth drosglwyddo o un cam i'r llall.
- Byddwn yn cynnal adolygiad penodol o'r ddarpariaeth yn ardal Abergwaun gyda'r nod o gynyddu'n sylweddol y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sectorau cynradd ac uwchradd. Bydd hyn yn mynd i'r afael â’r golled sylweddol o ddisgyblion yn y cyfnod pontio rhwng y ddau sector.
Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion sy'n darparu addysg drwy Gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg
- Nodir ein targed mewn perthynas â'r cynnydd disgwyliedig yn nifer yr addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir mewn ysgolion sy'n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn y pwyntiau canlynol.
- Rydym yn hyderus y bydd yr ysgol sydd yn y categori Trosglwyddo ar hyn o bryd yn symud i fod yn gwbl gyfrwng Cymraeg yn ystod hanner cyntaf y Cynllun;
- Ynghyd â'r ysgolion/cyfnodau cynradd a ystyrir ar hyn o bryd yn ysgolion Saesneg gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg, bydd angen i'r Cyngor ystyried eu sefyllfa yng ngoleuni categorïau ieithyddol newydd Llywodraeth Cymru. Bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i gynnal neu gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg yn yr ysgolion hyn a bydd yn gwneud hynny wedi cynnal asesiad manwl o sefyllfaoedd cyfredol ysgolion a sylwadau cyrff llywodraethol. O ran Ysgol Bro Gwaun, mae dyhead i'r ysgol ddod yn ysgol Cyfrwng Cymraeg yn ystod oes y Cynllun.
- Er mwyn gweithredu hyn, bydd y Cyngor yn darparu arweiniad, adnoddau a chymorth effeithiol i Ysgol Bro Gwaun er mwyn cynyddu faint o addysg cyfrwng Cymraeg y mae'n ei chynnig. Bydd y Cyngor yn gwneud hyn drwy:
- Barhau a datblygu ymhellach y strategaeth datblygu ieithyddol draws-gam bresennol gyda'r nod o gefnogi 'hwyrddyfodiaid' i ddysgu Cymraeg;
- Cefnogi ysgolion sydd â chytundebau partneriaeth â sefydliadau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA) i gryfhau a sefydlu ymhellach eu gallu i gefnogi hyfforddiant athrawon Cymraeg o ansawdd uchel ar draws llawer o feysydd pwnc a chaniatáu i fyfyrwyr HCA gymryd rhan mewn hyfforddiant Cynradd ac Uwchradd. Yng ngoleuni'r partneriaethau hyn, bydd hyn yn arwain at hyrwyddo recriwtio effeithiol;
- Bydd Ysgol Bro Gwaun yn adolygu ei chynnig cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 4 yn rheolaidd, gyda'r bwriad o ddarparu mwy o gyfleoedd i ddisgyblion astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd yr ysgol yn sefydlu cynnig gwaelodlin gyson lle gellir cymryd o leiaf 40% o'r pynciau sydd ar gael yn CA4 drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod o leiaf 40% o ddysgwyr yn dilyn tri maes pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at 16 oed. Dros gyfnod y Cynllun, ac ar y cyd â'r awdurdod lleol, bydd yr ysgol yn ceisio trosglwyddo o gategori 2 i gategori 3 fel y'i diffinnir yn y categorïau ieithyddol arfaethedig.
- Ystyried ail-gategoreiddio ysgolion bwydo cynradd i statws cyfrwng Cymraeg, a sicrhau bod cwricwlwm cyfrwng Cymraeg priodol ar waith yn CA3 er mwyn sicrhau bod darpariaeth gynradd yn cael ei throsglwyddo a'i pharhau'n effeithiol.
Cydweithio ag Awdurdodau Lleol eraill
Bydd y Cyngor yn parhau i gysylltu a chydweithio ag Awdurdodau Lleol cyfagos eraill i sicrhau dilyniant yn y ddarpariaeth i ddisgyblion sy'n cael mynediad i addysg Cyfrwng Cymraeg y tu allan i'w ardal. Fodd bynnag, y dilyniant yn y ddarpariaeth o fewn yr Awdurdod Lleol yw'r flaenoriaeth ar gyfer hyd y cynllun hwn.