Cynlluniaur Prosiect Adfywio
Strategaeth Adfer ac Adfywio Sir Benfro 2020-2030
Mae’r strategaeth hon yn cyfuno ein cynlluniau ar gyfer ailgychwyn ac adfer yr economi mewn ymateb i bandemig Covid 19 gyda’n dull adnewyddu ac adfywio tymor hwy ac yn nodi ein cynlluniau dros y pum mlynedd nesaf i gyrraedd ein llwyfan cyn y pandemig a symud y tu hwnt iddo. Yn anorfod, mae ein cynlluniau’n uchelgeisiol gan amcanu at gyflawni adferiad a symud at sefyllfa economaidd gryfach nag oedd gennym ym mis Mawrth 2020. Parhad o bolisïau blaenorol yw hwn, wedi’u dwyn ynghyd mewn un lle. Roedd rhai o’r rhaglenni yr oeddem yn eu dilyn cyn COVID-19 eisoes yn cymryd tueddiadau economaidd a chymdeithasol yn y dyfodol i ystyriaeth. Mae anghenion am y dulliau hyn wedi cael eu sbarduno ac wedi cynyddu yn ystod y pandemig ac wedi dynodi ein bod wedi bod ac yn dal i fod ar y llwybr cywir ac maent yn cynnwys:
- Cydnabyddiaeth gynnar i bwysigrwydd band eang cyflym iawn i gystadlu gyda dinasoedd, a hynny’n cael ei ategu gan fuddsoddiad yn y rhaglen gyfalaf;
- Targedau twf tai yn y CDLl sy’n rhagweld mwy o weithio gartref a daddrefoli;
- Dulliau newydd mewn perthynas â lleoliaeth a chydnerthedd, yn enwedig o ran cynhyrchu bwyd yn lleol yn ogystal â thwf yn y diddordeb mewn ynni gwyrdd a chludiant cynaliadwy gan gefnogi taflwybr Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Mae’r dull a ddisgrifir yn y ddogfen hon wedi’i fwriadu ar gyfer cyfnod o ddeng mlynedd (gydag adolygiadau tair blynedd). Fodd bynnag, ar ddiwedd y ddogfen ceir cynllun gweithredu ‘byw’ â therfynau amser. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio cynnydd a chadw prosiectau’n berthnasol ac ar y trywydd iawn. Felly bydd yr ail ddogfen hon yn cael ei hadolygu’n barhaus a bydd yn newid i adlewyrchu amgylchiadau cyfredol.