Cynlluniaur Prosiect Adfywio
Adfwyio Hwlffordd
Cyflwynir ein Cynlluniau Datblygu Adfywio isod. Byddwn yn ceisio eu diweddaru yn rheolaidd, yn ogystal â phan fydd y cynlluniau newydd yn cael eu rhyddhau.
Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd
Ailddatblygu Castell Hwlffordd
Gwelliant Glan Cei’r Gorllewin
Datblygiad Trawsnewidiol Cyffrous Yng Nghalon Hwlffordd
Mae Cyngor Sir Penfro a phartneriaid allweddol yn datblygu'r prosiect adfywio uchelgeisiol hwn er mwyn denu mwy o ymwelwyr i'r dref, gyda'r nod o gefnogi twf busnes ac adfywiad ehangach yng nghanol tref y sir. Mae’r prosiect yn rhan annatod o weledigaeth yr awdurdod i adfywio canol tref Hwlffordd.
Mae hen siop adrannol Ocky White wedi'i dymchwel yn rhannol, gyda'r adeiledd sy'n weddill yn cael ei adnewyddu a'i ymestyn i greu 'Glan Cei'r Gorllewin', sef datblygiad modern a chwaethus tri llawr sy'n gwbl hygyrch. Bydd yn cynnwys emporiwm bwyd amlddefnyddwyr ynghyd â bwyty, bar a theras ar y to.
Cyngor Sir Penfro, rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a’r rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, sy’n ariannu’r cynllun.
Darganfyddiad Archaeolegol Sylweddol
Yn ystod y gwaith adeiladu, daethpwyd o hyd i ganfyddiadau archaeolegol sylweddol a oedd yn gofyn am gloddiad archaeolegol helaeth o’r safle. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed sy'n gyfrifol am y gwaith hwn ar hyn o bryd, ac mae’r tîm eisoes wedi dod ar draws llawer o ddarganfyddiadau diddorol a phwysig, gan gynnwys arteffactau hanesyddol a chladdedigaethau dynol sy'n dyddio’n ôl i'r bedwaredd ganrif ar ddeg AD. Mae’r gwaith hwn yn gyfle gwych i’r tîm cloddio a’r cyhoedd ddarganfod mwy am ran o'r dref sydd o werth hanesyddol sylweddol.
Dyma leoliad ffowndri haearn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Ond islaw iddi, mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg bod mynwent wedi bod yno ar un adeg hefyd. Credir bod yna gysylltiad rhwng y fynwent hon a mynachlog ganoloesol St. Saviour's. Nid yw union leoliad y fynachlog wedi'i gadarnhau erioed.
Dolenni perthnasol:
Fideo Youtube: Cloddio archeolegol - Cei'r Gorllewin Hwlffordd (yn agor mewn tab newydd)
Ystafell Newyddion - Prosiect Uchelgeisiol 'Glan Cei'r Gorllewin' yn dechrau arni (yn agor mewn tab newydd)
Ystafell Newyddion - Arteffactau wedi'u canfod ar ddatblygiad newydd gwerth £6.3m yng nghanol tref Hwlffordd (yn agor mewn tab newydd)
Ystafell Newyddion - Glan Cei'r Gorllewin - dymchwel ar y gweill (yn agor mewn tab newydd)
I gael rhagor o wybodaeth:
e-bost i: ockywhite@pembrokeshire.gov.uk