Cynlluniaur Prosiect Adfywio
Pecyn Cymorth Brand Hwlffordd
Mae Hwlffordd yn mwynhau cyfnod o fuddsoddiad sylweddol, fydd yn dod â sylw a phobl i’r dref.
Mae’r pecyn cymorth hunaniaeth brand newydd hwn wedi’i greu i helpu i hyrwyddo ac uno Hwlffordd. Mae’n lleoli’r dref sirol wych hon yn ei lle haeddiannol yng nghalon Sir Benfro.
Mae’r pecyn cymorth ar gyfer:
- Busnesau
- Prosiectau lleol
Mae wedi’i ddatblygu gyda llawer o gymorth gan bobl, busnesau a sefydliadau Hwlffordd a thrwy ei ddefnyddio gallwch ddangos eich balchder yn Hwlffordd, a’ch bod yn perthyn iddi.
Yn y pecyn cymorth byddwch yn gweld:
- Llawlyfr y brand – sut y crëwyd yr hunaniaeth a sut y gallwch ei defnyddio
- Y ffeiliau logo y gallwch eu defnyddio ar gyfer deunyddiau wedi’u argraffu ac ar-lein
- Y ffontiau, fel bod eich geiriau yn dilyn yr un arddull
- Y lliwiau a’r patrymau a fydd yn gwireddu eich prosiectau
Lawrlwythwch y pecyn cymorth hunaniaeth brand
Nodiad: Unwaith y bydd y ffeil sip wedi'i lawrlwytho, bydd angen i chi agor y ffolder ac yna tynnu'r holl ffeiliau o'r ffolder sip fel y gallwch ddefnyddio'r asedau. Edrychwch ar hyd top y bar tasgau, lle gwelir botwm sy'n dweud ‘Echdynnu popeth’.
Gobeithio y cewch eich ysbrydoli i ddangos eich balchder a’ch cefnogaeth i Hwlffordd.
Strategaeth Adfer ac Adfywio Sir Benfro 2020-2030
Mae’r strategaeth hon yn cyfuno ein cynlluniau ar gyfer ailgychwyn ac adfer yr economi mewn ymateb i bandemig Covid 19 gyda’n dull adnewyddu ac adfywio tymor hwy ac yn nodi ein cynlluniau dros y pum mlynedd nesaf i gyrraedd ein llwyfan cyn y pandemig a symud y tu hwnt iddo. Yn anorfod, mae ein cynlluniau’n uchelgeisiol gan amcanu at gyflawni adferiad a symud at sefyllfa economaidd gryfach nag oedd gennym ym mis Mawrth 2020. Parhad o bolisïau blaenorol yw hwn, wedi’u dwyn ynghyd mewn un lle. Roedd rhai o’r rhaglenni yr oeddem yn eu dilyn cyn COVID-19 eisoes yn cymryd tueddiadau economaidd a chymdeithasol yn y dyfodol i ystyriaeth. Mae anghenion am y dulliau hyn wedi cael eu sbarduno ac wedi cynyddu yn ystod y pandemig ac wedi dynodi ein bod wedi bod ac yn dal i fod ar y llwybr cywir ac maent yn cynnwys:
- Cydnabyddiaeth gynnar i bwysigrwydd band eang cyflym iawn i gystadlu gyda dinasoedd, a hynny’n cael ei ategu gan fuddsoddiad yn y rhaglen gyfalaf;
- Targedau twf tai yn y CDLl sy’n rhagweld mwy o weithio gartref a daddrefoli;
- Dulliau newydd mewn perthynas â lleoliaeth a chydnerthedd, yn enwedig o ran cynhyrchu bwyd yn lleol yn ogystal â thwf yn y diddordeb mewn ynni gwyrdd a chludiant cynaliadwy gan gefnogi taflwybr Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Mae’r dull a ddisgrifir yn y ddogfen hon wedi’i fwriadu ar gyfer cyfnod o ddeng mlynedd (gydag adolygiadau tair blynedd). Fodd bynnag, ar ddiwedd y ddogfen ceir cynllun gweithredu ‘byw’ â therfynau amser. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio cynnydd a chadw prosiectau’n berthnasol ac ar y trywydd iawn. Felly bydd yr ail ddogfen hon yn cael ei hadolygu’n barhaus a bydd yn newid i adlewyrchu amgylchiadau cyfredol.
Adfwyio Cei De
Ailddatblygu Cei'r De
Fel rhan o raglen adfywio Cyngor Sir Penfro, lansiwyd prosiect uchelgeisiol i ailddatblygu safle hanesyddol ac amlwg Cei'r De ger Castell Penfro. Mae'r prosiect wedi cael ei gynllunio fel dau gam ar hyn o bryd, a gyda’i gilydd bydd y datblygiadau yn darparu cymysgedd amrywiol a chynaliadwy o ddefnyddiau newydd yn y dref.
Cam 1
Ariennir Cam 1 ailddatblygu Cei'r De gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a bydd yn dathlu etifeddiaeth y dref fel man geni llinach y Tuduriaid trwy greu:
- canolfan ymwelwyr Harri Tudur
- llyfrgell, canolfan wybodaeth a chaffi
- gerddi wedi'u tirlunio
Gweler y dolenni a'r lluniau isod am ragor o wybodaeth. Byddwn yn anelu at ddiweddaru'r wybodaeth hon yn rheolaidd yn unol â hynny.
Sioe sleidiau o luniau
Cam 2
Ariennir Cam 2, ‘Hwb Sir Benfro’, gan raglen Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU a bydd yn cynnwys cwblhau cynllun adfywio Cei'r De, gan ganolbwyntio ar rif 7 a rhif 8 yn Northgate Street. Bydd yn darparu'r canlynol:
- canolfan gymunedol dros dri llawr, gan gynnwys lle ar gyfer cyfleoedd dydd, lle ar gyfer cyfryngau digidol, gweithgareddau celf a chrefftau traddodiadol, ac ardaloedd dysgu a sgiliau i gefnogi byw'n annibynnol i bobl o bob oed
- gwelliannau amgylcheddol, gan gynnwys adfer yr adeiladau, gardd isel newydd, a gwelliannau i'r maes parcio yng Nghei'r De
- gwell mynediad rhwng canolfan ymwelwyr Harri Tudur a'r glannau
Bydd cefnogaeth i gyfleoedd am gyflogaeth hefyd yn cael ei hintegreiddio o fewn gweithrediad y cyfleuster newydd.
30.01.2023 - Ymgynghoriad Cei Y De - Sylwadau ac Ymatebion
Gweler y dolenni a'r lluniau isod am ragor o wybodaeth. Byddwn yn anelu at ddiweddaru'r wybodaeth hon yn rheolaidd yn unol â hynny.
Ystafell Newyddion
Cynllun Adfywio Cei'r De Lansio Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio
Datganiad i’r Wasg – 3 Rhagfyr
Digwyddiad Ymgysylltu’r Ymgynghoriad Cyhoeddus ynghylch Cei’r De, i’w gynnal ar 30 Ionawr
Adfwyio Hwlffordd
Cyflwynir ein Cynlluniau Datblygu Adfywio isod. Byddwn yn ceisio eu diweddaru yn rheolaidd, yn ogystal â phan fydd y cynlluniau newydd yn cael eu rhyddhau.
Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd
Ailddatblygu Castell Hwlffordd
Gwelliant Glan Cei’r Gorllewin
Datblygiad Trawsnewidiol Cyffrous Yng Nghalon Hwlffordd
Mae Cyngor Sir Penfro a phartneriaid allweddol yn datblygu'r prosiect adfywio uchelgeisiol hwn er mwyn denu mwy o ymwelwyr i'r dref, gyda'r nod o gefnogi twf busnes ac adfywiad ehangach yng nghanol tref y sir. Mae’r prosiect yn rhan annatod o weledigaeth yr awdurdod i adfywio canol tref Hwlffordd.
Mae hen siop adrannol Ocky White wedi'i dymchwel yn rhannol, gyda'r adeiledd sy'n weddill yn cael ei adnewyddu a'i ymestyn i greu 'Glan Cei'r Gorllewin', sef datblygiad modern a chwaethus tri llawr sy'n gwbl hygyrch. Bydd yn cynnwys emporiwm bwyd amlddefnyddwyr ynghyd â bwyty, bar a theras ar y to.
Cyngor Sir Penfro, rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a’r rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, sy’n ariannu’r cynllun.
Darganfyddiad Archaeolegol Sylweddol
Yn ystod y gwaith adeiladu, daethpwyd o hyd i ganfyddiadau archaeolegol sylweddol a oedd yn gofyn am gloddiad archaeolegol helaeth o’r safle. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed sy'n gyfrifol am y gwaith hwn ar hyn o bryd, ac mae’r tîm eisoes wedi dod ar draws llawer o ddarganfyddiadau diddorol a phwysig, gan gynnwys arteffactau hanesyddol a chladdedigaethau dynol sy'n dyddio’n ôl i'r bedwaredd ganrif ar ddeg AD. Mae’r gwaith hwn yn gyfle gwych i’r tîm cloddio a’r cyhoedd ddarganfod mwy am ran o'r dref sydd o werth hanesyddol sylweddol.
Dyma leoliad ffowndri haearn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Ond islaw iddi, mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg bod mynwent wedi bod yno ar un adeg hefyd. Credir bod yna gysylltiad rhwng y fynwent hon a mynachlog ganoloesol St. Saviour's. Nid yw union leoliad y fynachlog wedi'i gadarnhau erioed.
Dolenni perthnasol:
Fideo Youtube: Cloddio archeolegol - Cei'r Gorllewin Hwlffordd (yn agor mewn tab newydd)
Ystafell Newyddion - Prosiect Uchelgeisiol 'Glan Cei'r Gorllewin' yn dechrau arni (yn agor mewn tab newydd)
Ystafell Newyddion - Arteffactau wedi'u canfod ar ddatblygiad newydd gwerth £6.3m yng nghanol tref Hwlffordd (yn agor mewn tab newydd)
Ystafell Newyddion - Glan Cei'r Gorllewin - dymchwel ar y gweill (yn agor mewn tab newydd)
I gael rhagor o wybodaeth:
e-bost i: ockywhite@pembrokeshire.gov.uk