Cynllunio a Hysbysu Digwyddiadau
Amseru digwyddiad
Digwyddiadau eraill
Ystyriwch a oes digwyddiadau eraill yn digwydd ar yr un diwrnod a beth allai effeithiau hynny fod ar gyfer cyfranogwyr, gwylwyr, tirfeddianwyr, defnyddwyr eraill, darparwyr llety, parcio, traffig ac unrhyw wasanaethau cysylltiedig eraill.
Yn ogystal ag ystyried digwyddiadau eraill, cofiwch fod Sir Benfro hefyd yn gyrchfan boblogaidd i'r rhai sy'n chwilio am hamdden tawel a rhai sy’n dod i fwynhau cymeriad yr ardal. Aseswch yr effaith y gallai eich digwyddiad ei gael ar y cyhoedd ac a oes angen i chi ystyried mesurau ychwanegol megis stiwardio er mwyn osgoi gwrthdaro posibl â thrigolion eraill neu ymwelwyr â Sir Benfro.
I wirio a fyddai eich digwyddiad a gynlluniwyd yn gwrthdaro â digwyddiadau eraill, edrychwch ar Croeso Cymru, Radio Sir Benfro, a Digwyddiadau Sir Benfro, ynghyd â gwefannau cymunedol.
Amser y Flwyddyn
Ystyriwch gynnal eich digwyddiad y tu allan i'r prif gyfnodau gwyliau, a allai roi hwb economaidd i'r ardal ar adegau tawelach a hefyd leihau'r pwysau ar fusnesau yn ystod y tymor brig.
Gall amseroedd tawelach hefyd sicrhau mwy o ddewis ar gyfer cyfranogwyr yn y digwyddiad a gwylwyr o ran llety a llefydd i ymweld â hwy, llefydd bwyta ac yfed a lleihau tagfeydd sy'n gysylltiedig â thraffig. Bydd busnesau lleol yn awyddus iawn i gael busnes ychwanegol yn seiliedig ar ddigwyddiadau ar adegau heblaw'r prif gyfnodau gwyliau.
Rheoli tir tymhorol
Mae yna amrywiaeth o weithgareddau rheoli tir sy'n digwydd yn dymhorol y dylid eu hystyried, megis lloia, wyna, cynaeafu cnydau, silwair neu wair. Mae'n well trafod amseru digwyddiadau gyda'r perchennog tir bob amser. Gallai fod yna faterion sensitif amgylcheddol ar adegau penodol o'r flwyddyn hefyd, megis tymhorau bridio adar ac adegau pan fydd morloi llwyd yn geni eu rhai bach.
Mae Cod Morol Sir Benfro yn hyrwyddo codau ymddygiad sy'n ymwneud â bywyd gwyllt y môr ac mae'n cynnwys mapiau sy'n dangos ardaloedd sy'n sensitif i fywyd gwyllt y môr.
Mae'r Grŵp Siarter Awyr Agored hefyd yn hyrwyddo defnydd cynaliadwy o dirweddau Sir Benfro ar gyfer gweithgareddau adloniant a hamdden.
Y Tywydd
Gallai’r tywydd hefyd fod yn her wrth ddewis yr amser a'r lle gorau i gynnal digwyddiad awyr agored actif. Gallai newidiadau tywydd ddigwydd yn gyflym a chael effaith enfawr. Gallai ardal /lleoliad a allai fod yn berffaith mewn tywydd sych gyflwyno heriau /risgiau sylweddol i'r rhai sy'n cymryd rhan mewn digwyddiadau a'r amgylchedd mewn tywydd gwlyb. Dylid ystyried dewisiadau/ rheolaethau amgen ar gyfer tywydd gwlyb ar gyfer ardaloedd / llwybrau a dylid ystyried amseru digwyddiadau yn ystod y cam ymchwil ac ymgynghori.
I nodi ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd gweler gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru