Cynllunio a Hysbysu Digwyddiadau

Digwyddiadau ar Lwybr Arfordir Sir Benfro

Rheolir Llwybr yr Arfordir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn weddol ddiogel i gerdded. Felly, mae'r asesiad risg o Lwybr yr Arfordir yn cael ei gynnal o safbwynt cerdded ac nid yw'n cymryd gweithgaredd rhedeg i ystyriaeth.


Mewn sawl man mae wyneb Llwybr yr Arfordir yn ei gyflwr naturiol ac felly gall fod yn arw ac anwastad. Gall hefyd amrywio'n fawr yn dibynnu ar y tywydd a'r tymor ar y pryd a gall fod yn llithrig pan fydd yn fwdlyd. Bob blwyddyn mae ein cofnodion yn dangos bod cerddwyr Llwybr yr Arfordir yn torri esgyrn neu’n ysigo cymalau. Mae Llwybr yr Arfordir yn rhedeg yn agos at ymyl  clogwyni heb eu hamddiffyn a llethrau arfordirol serth. Mae llawer o'r tir yn gymharol heriol ac yn serth ac fe'i disgrifiwyd fel taith gerdded mynydd ar ymyl yr arfordir. Felly mae rhedeg Llwybr yr Arfordir yn cynyddu'r risg o anaf yn sylweddol. Mae cerddwyr yn cael rhybudd ac amser digonol i adnabod peryglon posibl megis troadau llym a chlogwyni serth. Gallai rhedwyr ddynesu at beryglon o'r fath yn rhy gyflym i’w hosgoi, yn enwedig mewn niwl. O gofio momentwm ychwanegol rhedwr, gallai baglu, llithro neu wneud penderfyniad anghywir arwain at anaf difrifol neu farwolaeth.


Bob blwyddyn mae tua 250,000 o bobl yn cerdded Llwybr yr Arfordir, yn bennaf yn ystod tymor yr haf. Os penderfynwch gynnal digwyddiad ar Lwybr yr Arfordir, mae'n rhaid i'ch cystadleuwyr gael eu briffio er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o ddefnyddwyr eraill a bod yn barod i ildio iddyn nhw, yn enwedig ar adrannau cul ar ymylon clogwyni Llwybr yr Arfordir. Dylai unrhyw ddigwyddiad o'r fath osgoi gwyliau banc, y tymor brig (Gorffennaf i ganol mis Medi) ac yn ddelfrydol penwythnosau hefyd.


Felly mae angen i drefnwyr digwyddiadau rhedeg gynnal eu hasesiadau risg eu hunain o beryglon yr arfordir gan gyfeirio'n arbennig at eu gweithgaredd nhw. Mae angen i gystadleuwyr fod yn gyfarwydd â risgiau o'r fath.


Os bydd damwain i aelod o'r cyhoedd sy'n gysylltiedig â ras neu dreial amser, mae'n debygol y byddai'r rhedwr (a'r trefnydd) yn gorfod ysgwyddo cyfran uchel o'r atebolrwydd. Gan y gellid dal trefnwyr yn atebol yn gyfreithiol am gostau neu iawndal unrhyw anafiadau a allai ddigwydd yn ystod y digwyddiad, argymhellir bod y risg hon yn cael ei hyswirio trwy bolisi yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.


Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol berthynas ardderchog â nifer o berchnogion y tir y mae Llwybr yr Arfordir yn rhedeg drosto ac maent yn argymell y dylid ymgynghori â thirfeddianwyr ynghylch unrhyw ddigwyddiad mawr sy'n croesi eu tir. 


Hyderwn felly eich bod yn gwerthfawrogi pam nad yw Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn annog cynnal digwyddiadau ar Lwybr Arfordir Sir Benfro, gan y gallai hyn fod yn niweidiol i ddiogelwch a mwynhad y miloedd o ymwelwyr a thrigolion sy'n cerdded Llwybr yr Arfordir bob blwyddyn..

 

ID: 5240, adolygwyd 08/03/2023