Cynllunio a Hysbysu Digwyddiadau
Pa faint a math o ddigwyddiad ydych chi'n gobeithio ei gynnal?
Mae'n bwysig penderfynu o'r dechrau pa fath o ddigwyddiad yr ydych yn bwriadu ei gynnal, er mwyn i chi allu sefydlu o'r dechrau pa gamau y bydd eu hangen arnoch chi a pha bobl y mae angen i chi gysylltu â hwy cyn y digwyddiad.
Mae hyn yn golygu bod â gafael manwl ar ystod o ffactorau gan gynnwys:
- gwybodaeth am weithgareddau'r digwyddiad arfaethedig a lefel y risg i gyfranogwyr, cynulleidfa a staff;
- p'un ai yw'r gweithgareddau dan do neu yn yr awyr agored;
- nifer arfaethedig y cystadleuwyr, maint y gynulleidfa a'r gweithlu, hy os yw digwyddiad yn cynnwys 25 o bobl sy'n cymryd rhan mewn rasio cychod ond dros 300 o wylwyr yna fe'i hystyrir fel digwyddiad mawr.
- a fydd y gynulleidfa yn sefyll, yn eistedd neu'n gymysgedd o'r ddau
- cyfnod ac amser y flwyddyn y bydd y digwyddiad yn digwydd.
ID: 4705, adolygwyd 08/03/2023