Canllaw i'r Ffioedd ar Gyfer Ceisiadau Cynllunio yng Nghymru
Mae’r ffioedd hyn yn berthnasol i geisiadau a wnaed ac a wneir o 24 Awst 2020 ymlaen
Mae’r ddogfen hon yn seiliedig ar Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 (fel y’u diwygiwyd) (yn agor mewn tab newydd)
Dylid talu’r ffioedd ar yr adeg y cyflwynir y cais.
Os ydych yn ansicr o’r ffi berthnasol, byddwch cystal ag ymgynghori ach awdurdod cynllunio lleol (yn agor mewn tab newydd)
Pob cais amlinellol
Arwynebedd y safle
· Dim mwy na 2.5 hectar: £460 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono)
· Mwy na 2.5 hectar: £11,500 + £120 ychwanegol am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) dros 2.5 hectar hyd at uchafswm o £150,000
Ceisiadau deiliaid tai
Addasiadau/estyniadau i annedd sengl, gan gynnwys gwaith o fewn ffiniau
· Annedd sengl (ac eithrio fflatiau): £230
Ceisiadau llawn (a chyflwyniadau cyntaf materion a gedwir yn ôl)
Addasiadau/estyniadau i ddwy annedd neu ragor, gan gynnwys gwaith o fewn ffiniau
· Dwy annedd neu ragor (neu un fflat neu ragor): £460
Anheddau newydd
· Anheddau newydd (dim mwy na 50): £460 fesul annedd
· Anheddau newydd (mwy na 50): £23,000 + £120 fesul annedd ychwanegol dros 50 hyd at uchafswm ffi o £300,000
Codi adeiladau (nid anheddau, adeiladau amaethyddol, tai gwydr, offer na pheiriannau)
Cynnydd mewn arwynebedd llawr
· Dim cynnydd mewn arwynebedd llawr gros neu ddim mwy na 40m2: £230
· Mwy na 40m2 ond dim mwy na 75m2: £460
· Mwy na 75m2: £460 am bob 75m2 neu ran ohono, hyd at uchafswm o £300,000
Codi adeiladau (ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth at ddibenion amaethyddol)
Arwynebedd y safle
· Dim mwy na 465m2: £85
· Mwy na 465m2 ond dim mwy na 540m2: £460
· Mwy na 540m2: £460 am y 540m2 cyntaf + £460 am bob 75m2 (neu ran ohono) dros 540m2 hyd at uchafswm o £300,000
Codi tai gwydr ar dir a ddefnyddir at ddibenion amaethyddiaeth
Arwynebedd y safle
· Dim mwy na 465m2: £85
· Mwy na 465m2: £2,600
Codi/newid/ailosod offer a pheiriannau
Arwynebedd y safle
· Dim mwy na 5 hectar: £460 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono)
· Mwy na 5 hectar: £23,000 + £120 ychwanegol am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) dros 5 hectar hyd at uchafswm o £300,000
Ceisiadau heblaw gwaith adeiladu
Meysydd parcio, ffyrdd gwasanaeth neu fynedfeydd eraill
· ar gyfer defnyddiau presennol: £230
Gwastraff (defnyddio tir i waredu sbwriel neu ddeunyddiau gwastraff neu ollwng deunydd sy’n weddill ar ôl echdynnu neu storio mwynau)
Arwynebedd y safle
· Dim mwy na 15 hectar: £230 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono)
· Mwy na 15 hectar: £34,500 + £120 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) dros 15 hectar hyd at uchafswm o £80,000
Gweithrediadau sy’n gysylltiedig â drilio archwiliadol am olew neu nwy naturiol
Arwynebedd y safle
· Dim mwy na 7.5 hectar: £460 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono)
· Mwy na 7.5 hectar: £34,500 + £120 ychwanegol am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) dros 7.5 hectar hyd at uchafswm o £300,000
Gweithrediadau eraill (ennill a gweithio mwynau)
Arwynebedd y safle
· Dim mwy na 15 hectar: £230 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono)
· Mwy na 15 hectar: £34,500 + £120 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 15 hectar hyd at uchafswm o £80,000
Gweithrediadau eraill (nad ydynt yn dod o dan unrhyw un o’r categorïau uchod)
Arwynebedd y safle
· Unrhyw arwynebedd safle: £230 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) hyd at uchafswm o £300,000
Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
· Defnydd neu weithrediad presennol: Yr un ag ar gyfer caniatâd cynllunio llawn
· Defnydd neu weithrediad presennol – yn gyfreithlon i beidio â chydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad: £230
· Defnydd neu weithrediad arfaethedig: Hanner y ffi gynllunio arferol
Cyrraedd ymlaen llaw
· Adeiladau a gweithrediadau amaethyddiaeth a choedwigaeth neu ddymchwel adeiladau: £100
· Gweithredwyr systemau cod telathrebu: £460
Materion a gedwir yn ôl
· Cais i ddileu neu amrywio amod yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio: £230
· Cais i gymeradwyo materion a gedwir yn ôl yn dilyn cymeradwyaeth amlinellol: Ffi lawn yn ddyledus neu, os talwyd y ffi lawn, yna £460 yn ddyledus
Newid defnydd adeilad i’w ddefnyddio fel un neu ragor o dai annedd ar wahân, neu achosion eraill
Newid defnydd annedd sengl i’w defnyddio ar gyfer dwy annedd neu ragor
· Dim mwy na 50 o anheddau: £460 am bob un
· Mwy na 50 o anheddau: £23,000 + £120 am bob un dros 50 hyd at uchafswm o £300,000
Newid defnydd adeilad ar gyfer un annedd neu ragor ar wahân
· Dim mwy na 50 o anheddau: £460 am bob un
· Mwy na 50 o anheddau: £23,000 + £120 am bob un dros 50 hyd at uchafswm o £300,000
Newid defnydd sylweddol arall o adeilad neu dir: £460
Hysbysebu
· Yn ymwneud â’r busnes ar y safle: £120
· Arwyddion ymlaen llaw nad ydynt wedi’u lleoli ar y safle nac yn weladwy ohono, sy’n cyfeirio’r cyhoedd at fusnes: £120
· Hysbysebion eraill: £460
Cais am ddiwygiad ansylweddol yn dilyn caniatâd cynllunio
· Cais mewn perthynas â datblygiadau deiliaid tai: £35
· Ceisiadau mewn perthynas â datblygiadau eraill: £115
Ffioedd ar gyfer cyflawni amodau
· Cais mewn perthynas â datblygiadau deiliaid tai: £35
· Ceisiadau mewn perthynas â datblygiadau eraill: £115
Ceisiadau trawsffiniol
Pan wneir ceisiadau am ganiatâd cynllunio, am gymeradwyo materion a gedwir yn ôl neu am dystysgrifau defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon sy’n ymwneud â thir yn ardal dau neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol, mae ffi yn daladwy i bob awdurdod cynllunio lleol. Cyfrifir y ffi sy’n daladwy yn y modd arferol.
Consesiynau
Esemptiadau rhag talu
Ar gyfer addasiadau, estyniadau ac ati i dŷ annedd er budd rhywun anabl.
Cais ar gyfer cyflawni gweithrediadau yn unig at ddiben darparu mynedfa i bobl anabl i adeilad neu eiddo y mae aelodau o’r cyhoedd yn cael mynediad iddo, neu o fewn adeilad neu eiddo o’r fath.
Cydsyniad adeilad rhestredig
Cydsyniad ardal gadwraeth
Gwaith ar goed sy’n dod o dan orchymyn cadw coed neu, mewn ardal gadwraeth, i ddileu gwrychoedd.
Os yw’r cynnig yn ymwneud â gwaith sydd angen caniatâd cynllunio yn rhinwedd cyfarwyddyd Erthygl 4 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 yn unig. Hynny yw, pan fo angen y cais dim ond oherwydd cyfarwyddyd neu amod cynllunio yn dileu hawliau datblygu a ganiateir.
Os yw’r cais ar gyfer cael tystysgrif datblygiad cyfreithlon ar gyfer defnydd presennol lle byddai cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer yr un datblygiad wedi’i eithrio rhag yr angen i dalu ffi gynllunio o dan unrhyw reoliad ffi gynllunio arall.
Os yw’r cais ar gyfer cael cydsyniad i arddangos hysbyseb yn dilyn naill ai cais cynharach wedi’i dynnu’n ôl (cyn i hysbysiad o benderfyniad gael ei gyhoeddi) neu pan wneir y cais yn dilyn gwrthod cydsyniad i arddangos hysbyseb, a lle gwneir y cais gan neu ar ran yr un person.
Os yw’r cais ar gyfer cael cydsyniad i arddangos hysbyseb sy’n deillio o gyfarwyddyd o dan Reoliad 7 o Reoliadau Rheoli Hysbysebion 1992, datgymhwyso cydsyniad tybiedig o dan Reoliad 6 i’r hysbyseb dan sylw.
Os yw’r cais ar gyfer cynigion amgen ar gyfer yr un safle gan yr un ymgeisydd, er mwyn elwa ar yr hawl datblygu a ganiateir yn Atodlen 2, Rhan 3, Dosbarth E i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995.
Os mai’r cais yw’r adolygiad cyntaf o gais ar gyfer datblygiad o’r un cymeriad neu ddisgrifiad ar yr un safle gan yr un ymgeisydd (gan gynnwys cydsyniad i arddangos hysbyseb dim ond os caiff ei dynnu’n ôl neu ei wrthod):
· Ar gyfer cais a dynnwyd yn ôl: O fewn 12 mis i’r dyddiad y daeth y cais i law.
· Ar gyfer cais a benderfynwyd: O fewn 12 mis i’r dyddiad y gwrthodwyd y cais neu’r dyddiad y gwrthodwyd apêl.
· Ar gyfer cais lle gwnaed apêl ar sail diffyg penderfyniad: O fewn 12 mis i’r cyfnod pan ddaeth rhoi hysbysiad o benderfyniad ar y cais dilys cynharach i ben.
Gostyngiadau i daliadau
· Os yw’r cais yn cael ei wneud ar ran clwb chwaraeon nid-er-elw am waith ar gaeau chwarae nad ydynt yn ymwneud ag adeiladau, y ffi yw £460.
· Os yw’r cais yn cael ei wneud ar ran cyngor plwyf neu gymuned, y ffi yw 50%.
· Os yw’r cais yn gynnig amgen sy’n cael ei gyflwyno ar yr un safle gan yr un ymgeisydd ar yr un diwrnod, lle mae’r cais hwn yn llai costus, y ffi yw 50%.
· Mewn perthynas â materion a gedwir yn ôl, mae’n rhaid i chi dalu swm sy’n gyfwerth neu’n fwy na’r hyn a fyddai’n daladwy ar y cyfraddau cyfredol i gymeradwyo’r holl faterion a gedwir yn ôl. Os yw’r swm hwn wedi’i dalu eisoes, y ffi yw £460.
· Os yw’r cais ar gyfer tystysgrif datblygiad cyfreithlon ar gyfer defnydd neu ddatblygiad arfaethedig, y ffi yw 50%.
· Os cyflwynir dau gais neu ragor ar gyfer cynigion gwahanol ar yr un diwrnod ac sy’n ymwneud â’r un safle, rhaid i chi dalu’r ffi am y ffi uchaf ynghyd â hanner swm y lleill.