Cynllunio ac Ecoleg

Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop Dyfrgwn a Chynllunio

Cyflwyniad i ddyfrgwn

Mae dyfrgwn yn anifeiliaid rhannol ddyfrol sy'n byw yn bennaf ar hyd afonydd ac maent yn anifeiliaid cymharol swil ac yn byw ar eu pen eu hunain. Maent fwyaf bywiog yn y cyfnos ac i mewn i'r nos. Bu niferoedd y dyfrgwn yn dirywio'n ddifrifol yn rhannol yn sgil colli cynefin ac o ganlyniad i ansawdd gwael y dŵr ond wrth i gamau cadwraeth ddechrau llwyddo mae'r niferoedd ar gynnydd. 

Y mae'r dyfrgi yn dal i fod mewn perygl ac o'r herwydd y mae'n un o'r Rhywogaethau a Warchodir gan y Deyrnas Unedig ag Ewrop a chaiff ei warchod o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd). Y mae'n drosedd dal, anafu neu ladd dyfrgi, neu aflonyddu arno, neu ddifrodi neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys.

Ceisiadau Cynllunio ac Arolygon

Wrth ystyried cais cynllunio, bydd presenoldeb dyfrgi fel Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop yn ystyriaeth berthnasol os yw'r cynllun yn debygol o arwain at aflonyddu ar y rhywogaeth neu beri niwed iddi. Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried effaith bosibl y datblygiad ar y rhywogaeth ar sail gwybodaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd i gefnogi'r cais.

Os oes tystiolaeth o ddyfrgwn ar y safle, bydd gofyn cynnal Arolwg Dyfrgwn i gyd-fynd ag unrhyw gais cynllunio a gyflwynir. Gall yr arolwg gadarnhau p'un a oes dyfrgwn yn bresennol ac argymell camau lliniaru i warchod y dyfrgwn a lleihau neu waredu effaith y datblygiad. Dylid darparu'r adroddiad hwn ynghyd â chynlluniau sy'n dangos y camau lliniaru gyda'r cais cynllunio ar adeg ei gyflwyno.

Dyfrgwn fel un o nodweddion Ardal Cadwraeth Arbennig 

Mae cynllun rheoli Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afonydd Cleddau, ACA Forol Sir Benfro ac ACA Safleoedd Ystlumod Sir Benfro a Llyn Bosherston yn rhestru dyfrgwn fe nodwedd berthnasol. O ganlyniad, os bydd safle datblygiad yn agos i un o'r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig hyn, neu'n gysylltiedig â hwy drwy gwrs dŵr, gallai fod angen gwybodaeth ychwanegol wrth asesu'r cynnig. I gael mwy o wybodaeth, gweler Safleoedd Gwarchodedig (yn agor mewn tab newydd) neu cysylltwch â'r Ecolegydd Cynllunio.

Trwyddedu

Os ydych yn cynnal datblygiad neu weithgaredd a fydd yn effeithio ar ddyfrgwn neu unrhyw Rywogaeth arall a Warchodir gan Ewrop, y mae'n debygol y bydd gofyn i chi gael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Os bydd angen caniatâd cynllunio ar y datblygiad, rhaid bod hyn wedi'i roi cyn i chi gael trwydded. Wedi i'r cais cynllunio gael ei gymeradwyo, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwneud cais am drwydded, ac i gael mwy o wybodaeth chwiliwch am drwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn tab newydd) 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â rhywogaethau a safleoedd gwarchodedig, cysylltwch â'r:
Ecolegydd Cynllunio
Cynllunio
01437 776376
ecology@pembrokeshire.gov.uk  

ID: 1968, adolygwyd 31/10/2023