Cynllunio ac Ecoleg

Niwtraliaeth o ran maethynnau ffosfforws ar draws Sir Benfro

Arweiniad Ffosffadau gan CNC

Arweiniad ar gyfer Awdurdodau Cynllunio Lleol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â lefelau ffosffadau mewn afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2022:

Cyngor a chanllawiau ar gyfer ceisiadau cynllunio sy'n effeithio ar afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sy'n sensitif i ffosfforws (yn agor mewn tab newydd)

Ffurflen Sgrinio Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd – Cais am Wybodaeth ar gyfer Ceisiadau Cynllunio

Diagram Proses Ffosffadau

DCWW Datganiad o sefyllfa (yn agor mewn tab newydd)

Profi systemau ymdreiddio a thrylifiad

Ar gyfer ddatblygiadau amaethyddol, darperir y gyngor canlynol gan  Cyfoeth Nauturiol Cymru (CNC) yn danllinellu y wybodaeth arbennig a offynnir i brosesu eisiadau cynllunio: Beth i'w ddarparu gyda'ch cais cynllunio - ddatblygiadau amaethyddo (yn agor mewn tab newydd)

 

Lansio prosiect ‘Dalgylch Arddangos Teifi' 

Ddydd Gwener 24 Tachwedd, lansiodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fenter aml-flwyddyn newydd, sef prosiect ‘Dalgylch Arddangos Teifi’. Mae hwn yn brosiect cydweithio ar draws sectorau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, gyda'r nod o wella'r gwaith o reoli dŵr yn nalgylch afon Teifi. Cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid i nodi lansiad y prosiect, wedi'i gynnull gan Gadeirydd CNC, Syr David Henshaw. Roedd partneriaid allweddol yn bresennol gan gynnwys Ymddiriedolaethau Afonydd, Dŵr Cymru, yr Undebau Ffermio a'r Awdurdodau Lleol.

Mae afon Teifi mewn cyflwr anffafriol ac mae data’n awgrymu bod gollyngiadau o waith trin dŵr gwastraff yn cael effaith sylweddol ar yr afon, yn ogystal â llygredd gwasgaredig o amaethyddiaeth a choedwigaeth, ac yn sgil etifeddiaeth mwyngloddio. Mae ymchwil diweddar wedi dangos bod stoc eogiaid yn dirywio'n gyflym, ac mae modelu’n rhagweld y gallai'r rhywogaeth gael ei cholli o fewn y deng mlynedd nesaf oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd.

Mae gwaith sylweddol eisoes yn mynd rhagddo ledled dalgylch afon Teifi i wella ansawdd dŵr. Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â meddwl yn wahanol a defnyddio atebion arloesol i wneud i bethau ddigwydd, gan ganolbwyntio ar sut y gellir dangos gwerth ac ychwanegedd. Y gobaith yw y bydd y gwaith yn nalgylch afon Teifi yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu model ‘arfer gorau’ y gellir ei ailadrodd ar draws dalgylchoedd Cymru gyfan. Bydd y prosiect hwn yn rhan o'r dull cyfannol ehangach i wella ansawdd dŵr ac ecoleg afonol.

Fel aelod o Fwrdd Rheoli Maetholion Teifi, mae Cyngor Sir Penfro yn edrych ymlaen at gydweithio â rhanddeiliaid ar y prosiect hwn.

Rheolir y prosiect gan Jon Goldsworthy a gallwch ddarllen mwy amdano yma (yn agor mewn tab newydd)

 

Nodyn cynghori Cyngor Sir Penfro – sut y gallai’r targedau ffosffadau newydd effeithio ar eich cynigion datblygu:

Sut y gallai’r targedau ffosffadau newydd effeithio ar eich cynigion datblygu

Trosolwg

Ym mis Ionawr 2021 fe gyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dargedau newydd i leihau crynodiad ffosfforws mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) (yn agor mewn tab newydd) ledled Cymru.

Pennwyd y targedau diwygiedig ar ôl cael tystiolaeth gan y Cyd-bwyllor Cadwraeth Natur (yn agor mewn tab newydd) y gallai tywydd cynhesach a sychach, a ragwelir o ganlyniad i newid hinsawdd, leihau llifoedd afonydd yn ystod yr haf ac, felly, gynyddu crynodiadau ffosffadau. Mae hefyd yn seiliedig ar dystiolaeth newydd ynglŷn ag effaith niweidiol ffosffad gormodol ar ecosystemau dŵr a rhywogaethau. Cydnabyddir pwysigrwydd hyn trwy gyfeiriadau at yr argyfwng natur gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro yn ei Gynllun Llesiant ar gyfer 2023-2028, sy’n cynnwys cynllun prosiect ar gyfer bioamrywiaeth a’r argyfwng natur. 

Mae Canllawiau CNC (yn agor mewn tab newydd) yn datgan mai Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am gynnal Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 trwy fonitro datblygu o fewn ACA.

Ar hyn o bryd, mae dros 60% o’r cyrff dŵr yng Nghymru’n methu â chyrraedd targedau tynnach, a gofynnir i Awdurdodau Cynllunio Lleol weithredu’n fwy i atal yr amgylchedd rhag dirywio ymhellach. Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r holl gynigion datblygu yn y dyfodol o fewn Dalgylchoedd Afonydd ACA (yn agor mewn tab newydd)  ( sy’n methu â chyrraedd y targedau a fydd yn creu cynnydd yng nghyfaint y dŵr gwastraff brofi yn awr na fydd y datblygiad sy'n dilyn yn cyfrannu at lefelau ffosfforws uwch (yn agor mewn tab newydd)

Yn Sir Benfro, mae Afon Teifi ac Afonydd Cleddau wedi’u dynodi’n ACA afonol. Ar hyn o bryd, mae Afon Teifi ac Afonydd Cleddau yn methu â chyrraedd targedau CNC. Yn ardal gyfagos Sir Gâr, mae Afon Tywi yn cyrraedd y targedau, er mai ychydig o hyblygrwydd sydd. Ceir rhagor o fanylion y statws yn erbyn y targedau hyn yn Adroddiad CNC ar Asesiad Cydymffurfiaeth ACA Afonydd Cymru yn erbyn Targedau Ffosfforws (un agor mewn tab newydd)  

Gall datblygiadau’n agos at yr afonydd hyn fod â chapasiti cyfyngedig i gysylltu â’r system garthffosiaeth gyhoeddus a rhaid dod o hyd i ddatrysiadau amgen a fydd yn cyrraedd y targedau newydd, naill ai trwy gyflawni niwtraliaeth o ran maethynnau neu ddarparu gwelliant.

Pa gamau gweithredu ydym ni wedi’u cymryd?

Mae’r Byrddau Rheoli Maethynnau ar y cyd ar gyfer Afon Teifi, Afon Tywi ac Afonydd Cleddau wedi ysgrifennu ar y cyd at Lywodraeth Cymru’n amlinellu pryderon ynghylch yr effaith ar ddatblygu a’r anghenraid i ddod o hyd i ddatrysiad cyn gynted â phosibl. Yng nghyd-destun Sir Benfro, cymerwyd y camau rhagweithiol canlynol:

  • Mae Byrddau Rheoli Maethynnau (BRhM) ar gyfer Afon Teifi ac Afonydd Cleddau wedi cael eu sefydlu gan Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Penfro yn y drefn honno. Gan weithio gyda BRhM pellach ar gyfer Afon Tywi, a sefydlwyd gan Gyngor Sir Gâr, mae’r byrddau hyn yn gyfrifol am baratoi Cynllun Rheoli Maethynnau i wella cyflwr yr afonydd a hwyluso datblygu sy’n niwtral o ran maethynnau. Bydd rhagor o fanylion am y Byrddu hyn, gan gynnwys tudalen we yn dangos diweddariadau byw, yn cael eu rhoi ar y dudalen hon pan fyddant ar gael. Mae BRhM Afon Tywi, Afon Teifi ac Afonydd Cleddau yn cydweithio dan reolwr cyffredin.
  • Mae Cyfrifiannell Maethynnau ar gyfer Gorllewin Cymru wedi cael ei pharatoi i helpu datblygwyr i gyfrifo lefel y maethynnau y bydd eu datblygiadau’n ei chreu. Paratowyd y gyfrifiannell ar gyfer Sir Gâr yn wreiddiol, ond mae wedi cael ei haddasu a’i hehangu fel y gellir ei defnyddio yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion ac yn nalgylchoedd Afon Teifi, Afon Tywi ac Afonydd Cleddau, dan oruchwyliaeth y BRhM sydd newydd gael eu sefydlu.
  • Ar y cyd â chyhoeddi Cyfrifiannell Maethynnau Gorllewin Cymru, mae Canllawiau Maethynna (yn agor mewn tab newydd) helaeth wedi cael eu paratoi hefyd, sy’n egluro’r mathau mwyaf effeithiol o gamau lliniaru y gellid eu defnyddio ar draws y tair Sir a’r tri dalgylch afon.
  • Gan gydnabod yr arweinyddiaeth a ddangoswyd, fe wahoddwyd Cyngor Sir Gâr i’r Uwchgynhadledd i Drafod Atebion i Lygredd Ffosffadau (yn agor mewn tab newydd) a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2022 gan Brif Weinidog Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru. Ym mis Mawrth 2023, fe wnaeth yr ail Uwch gynhadledd i Drafod Atebion i Lygredd Ffosffadau (yn agor mewn tab newydd) yr oedd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Gâr yn bresennol ynddi eto, dynnu sylw pellach at yr angen am Gynllun Gweithredu ar Lygredd mewn Afonydd (yn agor mewn tab newydd) ac i ddatblygu atebion ar fyrder. Mae Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Ceredigion yn cydweithio’n agos gyda Chyngor Sir Gâr i ymdrin â materion maethynnau mewn dalgylchoedd afonydd yng Ngorllewin Cymru ac mae’r tri Bwrdd Rheoli Maethynnau yng Ngorllewin Cymru hefyd yn cydweithio ac maent o dan reolwr cyffredin yn hyn o beth.

Cyfrifiannell Gorllewin Cymru 

Mae Cyfrifiannell Gorllewin Cymru (yn agor mewn tab newydd) bellach yn fyw.

Mae Cyfrifiannell Cloriannu Maethynnau wreiddiol Cyngor Sir Gâr, y gyntaf yng Nghymru, wedi cael ei hestyn a’i haddasu i fod yn Gyfrifiannell Cloriannu Maethynnau Gorllewin Cymru. Mae’r gyfrifiannell hon yn gweithio yn yr un ffordd â’r un flaenorol ond mae ganddi nodweddion ychwanegol ac mae wedi cael ei mireinio i ddarparu ar gyfer pob un o’r tri dalgylch ACA. Mae hwn yn gam cyntaf pwysig i ganiatáu i ddatblygu sy’n niwtral o ran maethynnau fynd rhagddo ym mhob dalgylch yng Ngorllewin Cymru.

Mae hwn yn adnodd rhad-ac-am-ddim, a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer dalgylchoedd SAC Afon Tywi, Afon Teifi ac Afonydd Cleddau. Bydd yn eich cynorthwyo i ddeall effaith eich datblygiad trwy gadarnhau cyllideb ffosfforws datblygiad arfaethedig ar y cyfan, gan eich galluogi i ystyried y gofynion lliniaru. Mae dogfen Ganllaw’r Gyfrifiannell (yn agor mewn tab newydd) ac Adolygiad Technegol o’r Gyfrifiannell (yn agor mewn tab newydd) wedi cael eu cyhoeddi hefyd fel canllaw cyfarwyddol i’ch helpu i ddefnyddio’r gyfrifiannell. Mae’r dogfennau hyn hefyd yn egluro ble y casglwyd data a sut y gwnaed cyfrifiadau. Mae canllawiau lliniaru ar wahân wedi cael eu llunio ar gyfer pob dalgylch afon. Gellir cyrchu’r rhain yma:

Canllawiau Lliniaru Gorllewin Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Er nad yw’n ofynnol i chi ddefnyddio’r gyfrifiannell hon, rydym yn eich annog yn gryf i wneud hynny. Bydd unrhyw geisiadau a gyflwynir gan ddefnyddio cyfrifianellau amgen yn mynd trwy broses graffu ychwanegol i benderfynu pa mor berthnasol ydynt i amodau yn Sir Benfro.

Os yw eich ateb i’r cwestiynau isod yn gadarnhaol mewn unrhyw un o’r cyfuniadau canlynol:

  • 1
  • 2 a 3
  • 2 a 4

yna defnyddiwch gyfrifiannell cloriannu maethynnau Gorllewin Cymru i asesu a fydd y datblygiad yn cynyddu’r llwyth maethynnau ar safle Ewropeaidd/ACA (un agor mewn tab newydd) ac a yw’r datblygiad mewn dalgylch sy’n draenio i safle Ewropeaidd yr effeithir arno.

Y cwestiynau yw:
  1. A yw’r datblygiad mewn dalgylch sy’n draenio i safle Ewropeaidd yr effeithir arno.
  2. A yw’r dŵr o’r Gwaith Trin Dŵr Gwastraff sy’n derbyn yn cael ei arllwys i safle Ewropeaidd yr effeithir arno.
  3. A fydd y datblygiad yn arwain at gynnydd mewn ‘arosiadau dros nos’.
  4. A fydd y datblygiad yn arwain at gynnydd yn nifer y cwsmeriaid / defnyddwyr neu gyflogeion sy’n dod i mewn i ddalgylch yr afon ACA o’r tu allan i’r dalgylch i weithio (yn y cyd-destun hwn diffinnir defnyddiwr fel rhywun a allai ddefnyddio gwasanaeth neu gyfleusterau a ddarperir gan y datblygiad heb gael ei ystyried yn uniongyrchol yn gwsmer).

 

Cyfrifiannell Gorllewin Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Canllawiau Lliniaru (yn agor mewn tab newydd)  

Canllawiau'r Gyfrifiannell (yn agor mewn tab newydd)  

Adolygiad Technegol o'r Gyfrifiannell (yn agor mewn tab newydd)

 

Sut mae'n gweithio

Yn syml, mewnbynnwch y wybodaeth sy'n benodol i'ch datblygiad, a'ch safle, i'r gyfrifiannell a gweithiwch trwy'r camau - darparwyd cyfarwyddiadau i'ch helpu.

Bydd y gyfrifiannell yn cynhyrchu gwerth cyfanswm ffosfforws mewn kg y flwyddyn. Gellir defnyddio'r gwerth terfynol hwn i'ch helpu i ystyried eich opsiynau lliniaru ffosffadau. Fodd bynnag, ni fydd y gyfrifiannell yn amcangyfrif faint o dir y mae ei angen ar gyfer unrhyw fath o liniaru oherwydd y newidynnau niferus mewn atebion seiliedig ar natur a allai amrywio gan ddibynnu ar waith cynnal a chadw arfaethedig, aeddfedrwydd ac amodau safle-benodol.

Ymwadiad

Nid yw'r Awdurdod Lleol yn derbyn atebolrwydd am unrhyw ddifrod, colled neu anghyfleustra uniongyrchol neu anuniongyrchol a achosir o ganlyniad i lawrlwytho a/neu ddefnyddio'r Gyfrifiannell Cloriannu Maethynnau.

Bydd y gyfrifiannell yn cael ei hadolygu a’i diweddaru o bryd i’w gilydd i sicrhau ei bod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ac yn adlewyrchu'r amodau lleol yn gywir. Cyfeiriwch at Ganllawiau’r Gyfrifiannell (yn agor mewn tab newydd) am esboniad o'r setiau data a'r fethodoleg a ddefnyddir yn y gyfrifiannell. Os oes gennych unrhyw sylwadau, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost i flwch negeseuon e-bost rheoli maethynnau Cyngor Sir Penfro, yn: nutrientplanning@pembrokeshire.gov.uk 

Mesurau lliniaru

Mae’r Canllawiau Lliniaru (yn agor mewn tab newydd)  yn amlinellu opsiynau posibl ar gyfer lliniaru ffosffadau, ac maent yn cynnwys Gwlypdiroedd a Chlustogfeydd. Bydd angen i fesurau o'r fath adlewyrchu amgylchiadau safle-benodol.

Rhaid i unrhyw fesurau lliniaru sydd wedi’u bwriadu i osgoi neu liniaru effeithiau ffosfforws posibl ddangos eu bod yn seiliedig ar y 'dystiolaeth orau sydd ar gael', y byddant yn effeithiol 'y tu hwnt i amheuaeth resymol', eu bod yn seiliedig ar amcangyfrifon sy'n 'rhagofalus', ac y gellir eu sicrhau 'hyd byth' (80-125 mlynedd).

Rhaid gorfodi'r mesurau arfaethedig yn gyfreithiol hefyd.

Ar gyfer pob mesur, mae angen i ni gael gwybodaeth:

  • Yn nodi sut y byddai'r mesur(au) yn osgoi neu'n lleihau effeithiau andwyol ar yr ACA (o ystyried hyd disgwyliedig yr effeithiau);
  • Yn dangos sut y byddai'r mesur(au) yn cyflawni niwtraliaeth o ran maethynnau;
  • Yn cadarnhau sut y bydd y mesur(au) yn cael eu gweithredu, a chan bwy;
  • Yn nodi sut y bydd y mesur yn cael ei gynnal a phwy fydd yn gyfrifol am ei gynnal;
  • Yn dangos sut y bydd y mesur yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod yn effeithiol.

Mae rhagor o wybodaeth am fesurau lliniaru ar gael yn y Cyngor Cynllunio Ffosffadau diweddaraf gan CNC (yn agor mewn tab newydd)

Y Camau Nesaf
  • Mae Grŵp Cyngor Technegol wedi cael ei sefydlu trwy BRhM ar y cyd Gorllewin Cymru, i adolygu tystiolaeth, modelu senarios a darparu cynigion a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Byrddau Rheoli Maethynnau i'w cymeradwyo.
  • Mae Grŵp Rhanddeiliaid Afonydd wedi cael ei sefydlu, hefyd trwy BRhM ar y cyd Gorllewin Cymru. Bydd hwn yn gweithredu fel un grŵp traws-ranbarthol. Mae aelodaeth o'r grŵp hwn yn agored, ac rydym yn croesawu pob cyfraniad i helpu i hwyluso newid adeiladol a pharhaol i iechyd afonydd. Os oes gyda chi ddiddordeb mewn ymuno â’r grŵp hwn, cysylltwch â Swyddog Cymorth y Maetholion drwy e-bost – CNDixon@carmarthenshire.gov.uk am ragor o wybodaeth.
  • Mae heriau mynd i'r afael â gormod o ffosffadau yn gymhleth, ac nid oes ateb    hawdd. Ar gyfer atebion hirhoedlog bydd angen cydweithio gydag Awdurdodau Lleol cyfagos, Dŵr Cymru Welsh Water, y sector defnydd tir gwledig, CNC, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill. Bydd cydweithio gweithredol a rhannu gwybodaeth ymhlith pob parti yn digwydd yn rheolaidd.
  • Mae rhaglen Lliniaru Strategol sy'n cynyddu mesurau lliniaru i’r eithaf ac sy'n    dwyn budd hynny trwy gyfnewid credydau’n cael ei harchwilio. Bydd hyn yn cael gwared ar lawer o'r rhwystrau i liniaru y mae datblygwyr yn gorfod mynd i'r afael â nhw.

Rydym yn cydnabod bod y sefyllfa hon yn rhwystredig i ddatblygwyr - rydym am weithio gyda chi i ddod o hyd i atebion sy'n gwella cyflwr ein hafonydd sy'n ymarferol ac y gellir eu gweithredu'n gyflym ac yn llwyddiannus. Rydym am ymgysylltu ag ystod eang o bobl sy'n cynrychioli adeiladwyr tai, cyflogwyr, y sector defnydd tir gwledig, preswylwyr, grwpiau amgylcheddol a mwy i drafod y materion hyn.

Mae Cyngor Sir Penfro yn gweithio'n rhagweithiol gyda'i Awdurdodau Cynllunio Lleol cyfagos a sefydliadau eraill fel CNC a Dŵr Cymru Welsh Wales i sicrhau y terfir gyn lleied â phosibl a darparu ateb i'r mater digynsail hwn. Cydnabyddir rôl arweiniol Cyngor Sir Gâr a’r Rheolwr BRhM ar y cyd yn hyn o beth. Y ffocws yw cynllunio'n strategol a chydnabod yr angen am weithredu cyflym ac effeithiol, gan osod esiampl i weddill Cymru.

Mae CNC wedi dechrau cyhoeddi eu hadolygiad o drwyddedau gweithfeydd trin dŵr gwastraff. Mae terfyn ffosfforws amddiffynnol yn cael ei gymhwyso i safleoedd na fu ganddynt yr un yn y gorffennol. Gellir gosod terfynau ffosffadau tynnach ar drwyddedau gweithfeydd trin dŵr gwastraff lle mae terfyn eisoes yn bresennol. Efallai na fydd unrhyw newid i derfynau ffosfforws presennol mewn rhai safleoedd. Mae'r terfyn amddiffynnol newydd o 5mg/l yn berthnasol i safleoedd sydd â llif tywydd sych o <20m3/ dydd.

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw ffosfforws a pham mae'n effeithio ar ein hafonydd?

Mae ffosfforws yn elfen ac yn digwydd yn naturiol fel ffosfforws anorganig ac organig sy'n cynnwys cyfansoddion. Mae ffosffad yn gyfansoddyn a dyma'r math o ffosfforws sydd fwyaf ar gael yn fiolegol. Yn naturiol, mae'n digwydd mewn lefelau isel ac mae'n faethyn hanfodol ar gyfer pob math o fywyd organig.

Gall crynodiadau gormodol o ffosffad mewn afonydd sbarduno proses a elwir yn ewtroffeiddio. Mae'r broses hon yn cael effeithiau dinistriol ar iechyd afonydd ac ecosystemau dŵr. Gall maethynnau gormodol, ar ffurf ffosffad, sbarduno gordyfiant algâu. Mae gordyfiant algâu yn atal golau haul rhag ymdreiddio i ddŵr. Heb olau haul ni all planhigion dyfrol ffotosyntheseiddio, maent yn marw o ganlyniad ac mae microbau'n anadlu ar y mater organig sy'n dadelfennu. Yn ystod ffotosynthesis, mae planhigion yn cynhyrchu ocsigen y mae bywyd dyfrol yn dibynnu arno i anadlu. Pan fydd microbau'n anadlu ar blanhigion marw a charthffosiaeth, maent yn defnyddio ocsigen. Mae dyfroedd diocsigenedig yn achosi i organebau dyfrol fel pysgod farw trwy fygu. Mae ewtroffeiddio yn dymchwel ecosystemau cyfan, a'r canlyniad yn y bôn yw corff dŵr 'marw'.

Prif ffynonellau ffosfforws yw'r sector defnydd tir gwledig (gwrteithiau a thail) a charthffosiaeth dŵr gwastraff (carthion, gwastraff bwyd, glanedyddion). Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cynnal adolygiad o ffynonellau ffosfforws. Bydd hyn yn helpu i oleuo ein dull gweithredu yn well a rhoi gwybod i ni ble i osod strategaethau lliniaru penodol. Gallwch gyrchu'r data dosraniad ffynonellau yma (yn agor mewn tab newydd).

Pa fath o ddatblygiadau yr effeithir arnynt?

Mae'r mathau o ddatblygiadau y gellir effeithio arnynt yn cynnwys (nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr ac mae'n amodol ar gael ei hadolygu):

  • Unedau preswyl newydd gan gynnwys cartrefi, safleoedd / lleiniau sipsiwn a theithwyr;
  • Atyniadau twristiaeth a datblygiadau masnachol lle darperir llety dros nos;
  • Datblygiadau masnachol neu ddiwydiannol mawr newydd lle bydd cwsmeriaid yn cael eu denu o'r tu allan i'r dalgylch megis safleoedd manwerthu mawr,cyfleusterau cynadledda, neu atyniadau twristaidd mawr
  • Datblygu amaethyddol, gan gynnwys hysbysiadau ymlaen llaw (datblygiadau nad oes angen caniatâd cynllunio arnynt, ond lle mae angen i'r awdurdod cynllunio lleol wirio ei fod yn cael ei ganiatáu) gan gynnwys ysguboriau ychwanegol a storfeydd slyri sy'n debygol o arwain at fwy o fuchesi;
  • Hysbysiadau blaenorol ar gyfer newid defnydd swyddfa yn ddefnydd fel cartrefi ac adeiladau amaethyddol yn ddefnydd fel cartrefi.

Gellir dod o hyd i ragor o arweiniad a chyngor ar Dudalen Cyngor Cynllunio Ffosffadau CNC (yn agor mewn tab newydd).

Pa fath o ddatblygiad nad yw hyn yn effeithio arno?

Gellir sgrinio’r datblygiadau canlynol allan fel rhai nad ydynt yn debygol o gael effaith sylweddol ar ACA afon mewn perthynas â mewnbynnau ffosfforws, gan ei bod yn annhebygol y bydd ffynhonnell ffosfforws ychwanegol neu lwybr ar gyfer effeithiau:

  • Unrhyw ddatblygiad nad yw'n cynyddu’r cyfaint a chrynodiad ffosfforws mewn dŵr gwastraff.
  • Unrhyw ddatblygiad sy'n gwella arllwysiadau ansawdd dŵr presennol trwy leihau crynodiad ffosfforws dŵr gwastraff heb gynyddu cyfaint neu drwy leihau cyfaint dŵr gwastraff a gynhyrchir heb gynyddu crynodiad ffosfforws.
  • Datblygiadau sydd wedi’u bwriadu i ddarparu gwasanaethau, cyfleusterau, safleoedd masnachol, neu fannau cyflogaeth (e.e. adeiladau cymunedol, ysgolion ac ati) ar gyfer poblogaeth leol a wasanaethir eisoes gan gysylltiadau preswyl â charthffosydd cyhoeddus neu breifat presennol y mae dŵr yn cael ei ollwng ohonynt o fewn y dalgylch afon ACA.
  • Unrhyw ddatblygiad sy'n lleihau amlder, neu gyfaint arllwysiadau ffosfforws afreolaidd o fewn dalgylch afon ACA, megis codi strwythurau amaethyddol a chynlluniau draenio i wahanu dŵr glaw oddi wrth dail a slyri trwy orchuddio iardiau a storfeydd tail/slyri presennol. Sylwch na ddylai unrhyw ddatblygiad o'r fath fod yn gysylltiedig â chynnydd yn nifer y da byw na'r capasiti ar gyfer cynnydd yn niferoedd y da byw drwy ddarparu seilwaith ychwanegol.
  • Systemau trin carthion preifat y mae dŵr gwastraff domestig yn cael ei ollwng ohonynt i'r ddaear, sydd wedi'u hadeiladu i'r Safon Brydeinig berthnasol (BS       6297: 2007 + A1: 2008) (yn agor mewn tab newydd), mae'r gyfradd ollwngf ddyddiol uchaf yn llai na 2 fetr giwbig (m3) ac mae'r cae draenio wedi'i leoli fwy na 40m o unrhyw nodwedd dŵr wyneb fel afon, nant, ffos neu ddraen ac wedi'i leoli fwy na 50m o ffin   ACA ac o leiaf 200m o unrhyw ollyngiad hysbys arall i'r ddaear.

Gellir dod o hyd i ragor o arweiniad a chyngor ar Dudalen Cyngor Cynllunio Ffosffadau CNC (yn agor mewn tab newydd).

Mae arnaf eisiau cyflwyno cais cynllunio ar gyfer datblygu o fewn ardal cadwraeth arbennig (ACA). Beth ydw i'n ei wneud?

Os yw eich cais cynllunio o fewn dalgylch afon ACA, bydd angen i chi:

  1. Canfod a yw’r datblygiad yn gallu cael ei ‘sgrinio allan’ fel nad yw'n debygol o gael effaith sylweddol ar SAC afon mewn perthynas â mewnbynnau ffosfforws. Gelwir y cam hwn yn ‘Brawf o Effeithiau Sylweddol Tebygol (TLSE)'. Cyfeiriwch at yr adran 'Pa fath o ddatblygiad yr effeithir arno?' Os ydych chi'n teimlo na fydd eich cais yn cael effaith sylweddol, bydd angen i chi roi gwybodaeth i ni i ategu hyn.
  2. Os nad yw’r datblygiad yn gallu cael ei 'sgrinio allan', bydd angen i chi gyfrifo'r llwyth ffosfforws ychwanegol o'r datblygiad arfaethedig gan ddefnyddio'r Gyfrifiannell Cloriannu Maethynnau. Mae canllawiau cyfarwyddyd ysgrifenedig a fideo i'ch cynorthwyo i ddefnyddio'r gyfrifiannell.
  3. Yna bydd angen i chi gyflwyno Cynnig Lliniaru sy'n dangos sut y bydd y ffosfforws ychwanegol a gynhyrchir yn cael ei liniaru. Gweler y canllawiau Lliniaru i gael gwybodaeth fanwl am y mesurau mwyaf priodol y gellid eu defnyddio yn Sir Gâr.

Gallech dynnu'ch cais yn ôl ac aros am gynnydd pellach ar atebion neu siarad gyda'ch swyddog cynllunio i gytuno ar estyniad i'ch cais.

Gallech hefyd arfer eich hawl i apelio os na wnaed penderfyniad ar ôl wyth wythnos o'r adeg y cafodd eich cais ei gofrestru/dilysu, ond bydd yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn ystyried effeithiau'r datblygiad ar lefelau ffosffad. Gweler y ddolen isod:

Apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio ar wefan Arolygiaeth Gynllunio Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Rydym hefyd yn eich cynghori i fonitro cynnydd eich cais yn rheolaidd.

Mae fy estyniad arfaethedig ar gyfer fy nheulu presennol ac ni fydd unrhyw gynnydd mewn dŵr gwastraff budr. A effeithir arnaf o hyd?

Gall estyniadau domestig ddarparu mwy o le byw o fewn eiddo presennol. Efallai na fyddant yn arwain at newid yn nifer y preswylwyr ac, yn ein barn ni, byddai'n ymddangos yn rhesymol i estyniadau domestig gael eu sgrinio allan ar brawf o effaith sylweddol debygol.  Ein barn ni yw, oni bai y byddai'r cynnig yn arwain at greu llety byw’n annibynnol, uned gynllunio ar wahân a/neu newid mewn defnydd, lle na ellir dweud mwyach ei fod yn ategol i'r prif fan preswylio, mae'n annhebygol y bydd datblygiadau o'r fath yn arwain at effeithiau sylweddol ar ACA trwy newidiadau o ran dŵr gwastraff yn cael ei ollwng. Fodd bynnag, gall cynigion sy'n arwain at greu llety byw'n annibynnol fel uned gynllunio ar wahân arwain at gynnydd mewn deiliadaeth gan breswylwyr o'r tu allan i ddalgylch afon ACA, ac yn yr achosion hyn, mae angen asesu cynigion ymhellach.

Mae arnaf eisiau adeiladu tŷ a defnyddio gwaith trin preifat i gydymffurfio â'r gofynion, er fy mod mewn ardal â phrif system garthffosiaeth. A fyddwch yn derbyn fy nghais?

Fel arfer, nid yw'n cael ei ystyried yn dderbyniol yn amgylcheddol i osod cyfleuster trin carthffosiaeth preifat mewn ardaloedd lle mae prif garthffosydd oherwydd bod mwy o risg o fethiant, a allai arwain at lygredd.

Mae canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru yn nodi, lle bo hynny'n bosibl, y dylai dŵr budr o ddatblygiad newydd ddraenio i garthffos gyhoeddus.

Os, oherwydd cost a/neu ymarferoldeb, gellir dangos nad yw cysylltiad â charthffos gyhoeddus yn ymarferol, yna gellid ystyried gwaith trin preifat - neu waredu carthion budr trwy ddull ar wahân i’r prif gyflenwad. 

Sylwer fod yn rhaid i chi gael trwydded amgylcheddol, neu gofrestru eithriad gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, i weithredu system ddraenio breifat. Ni fydd CNC fel arfer yn caniatáu trwydded gollwng ar gyfer system trin carthffosiaeth breifat lle mae'n rhesymol cysylltu â'r garthffos dŵr budr gyhoeddus.

I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio gweithfeydd trin preifat mewn perthynas â gwaredu ffosffadau, cyfeiriwch at Dudalen Cyngor Cynllunio Ffosffadau CNC (yn agor mewn tab newydd).

Mae arnaf eisiau gwneud cais am newid defnydd o' ddefnydd masnachol presennol (neu ddefnydd arall tebyg) i ddefnydd preswyl - a effeithir ar hyn?

Pan fydd newid o ddefnydd masnachol presennol (neu ddefnydd dibreswyl arall) i ddefnydd preswyl, tybir y bydd hyn yn arwain at gynhyrchu mwy o ddŵr gwastraff ac felly mwy o faethynnau’n cael eu gollwng o weithfeydd trin dŵr gwastraff.

Mae gan weithfeydd o'r fath gapasiti, a phan gyrhaeddir y capasiti hwnnw nid oes ffordd hawdd o greu mwy o le. Mae hyn yn creu mwy o risg o orlwytho a allai gynyddu’r maethynnau sy’n cael eu gollwng i gyrsiau dŵr.

Felly, bydd y math hwn o newid defnydd yn golygu bod Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) (yn agor mewn tab newydd) a chamau lliniaru yn ofynnol.

Rwy'n poeni am ansawdd amgylcheddol ein hafonydd. A oes unrhyw beth y gallaf ei wneud?

Mae afonydd iach yn cefnogi cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a'r capasiti i addasu i newid.  Mae ar Gyngor Sir Penfro, a'i bartneriaid mewn Awdurdodau Cynllunio Lleol eraill yng ngorllewin Cymru, eisiau dod o hyd i atebion sy'n gwella amgylcheddau naturiol bioamrywiol ac yn hybu ecosystemau sy'n gweithredu'n iach. Mae arnom eisiau cydweithio gyda grwpiau amgylcheddol ac afonydd i ddod o hyd i atebion a byddem yn croesawu eich cyfraniad. Cysylltwch â'r blwch negeseuon e-bost cynllunio maethynnau, yn: nutrientplanning@pembrokeshire.gov.uk

Beth yw lliniaru ffosffadau?

Mae lliniaru yn golygu dod o hyd i ffordd o atal gormod o ffosffadau rhag mynd i mewn i'r dyfrffyrdd gwarchodedig.  Gall mesurau gynnwys rheoli ffynonellau maethynnau, adfer ecosystemau sydd wedi'u difrodi, rheoli dalgylchoedd, a nodweddion megis Systemau Draenio Cynaliadwy a pharthau clustogi afonydd y gellir eu defnyddio i leihau dŵr ffo. Mae lliniaru mor agos â phosibl at ffynhonnell maetholynnau yn well.

Beth yw gwrthbwyso ffosffadau?

Mae gwrthbwyso yn syml yn golygu cymryd camau i leihau’r ffosfforws a gynhyrchir i wneud iawn am lefelau uwch mewn mannau eraill. Fodd bynnag, mae'n rhaid i hyn fod yn lleol.

Gan ddefnyddio amaethyddiaeth fel enghraifft - cynhyrchir ffosffad trwy ledaenu gwrtaith a thail da byw ar dir amaethyddol. Mae dŵr glaw yn cludo'r maethynnau hyn i gyrsiau dŵr, yn enwedig ar dir serth. Gallai rhoi’r gorau i ddefnyddio darn o dir amaethyddol ar gyfer cynhyrchu atal rhagor o ffosffadau rhag cael eu hychwanegu gan greu sefyllfa wrthbwyso.

Byddai'r darn o dir y mae ei angen i wrthbwyso cartrefi newydd yn dibynnu ar litholeg a graddiant y tir, a pha mor ddwys y bu'n cael ei ffermio.

Yn Sir Benfro, mae swm y tir amaethyddol yn y categorïau uchaf o ran Dosbarthiadau Tir Amaethyddol (y rhai yr ystyrir eu bod yn cyfateb â’r disgrifiad o Dir Amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas) yn sylweddol uwch nag mewn sawl rhan arall o Gymru, felly mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i benderfyniadau i dynnu tir allan o weithgarwch cynhyrchu amaethyddol at ddibenion gwrthbwyso ffosffadau, gan ystyried gwerth y tir hwnnw ar gyfer cynhyrchu bwyd yn y dyfodol.

Beth yw niwtraliaeth o ran maethynnau?

Mae'r ymadrodd hwn yn cyfeirio at dynnu maetholynnau gan ddatblygwyr neu awdurdodau cynllunio lleol i greu capasiti ar gyfer twf heb achosi mewnbwn maethynnau ychwanegol. Mae egwyddorion niwtraliaeth o ran maethynnau mewn perthynas â chynigion ar gyfer datblygu neu am drwyddedau gollwng dŵr yn cael eu disgrifio gan CNC yma (yn agor mewn tab newydd).

A oes unrhyw atebion?

Oes, weithiau bydd y rhain yn codi trwy fuddsoddiadau gan gwmni dŵr yn neu yn agos at Waith Trin Dŵr Gwastraff, tra bo eraill yn seiliedig ar natur. Gall y mater fod yn gymhleth ac mae ystod o fesurau (megis cael gwared ar ffosffad yn y ffynhonnell, tynnu ffosffad yn neu yn agos at Waith Trin Dŵr Gwastraff, lliniaru a gwrthbwyso) yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd ar sail dalgylch cyfan a safle-benodol. Gweler ein canllawiau lliniaru i archwilio atebion posibl.

Rwy'n ffermwr mewn ardal sensitif i ffosffadau. Sut effeithir arnaf a beth ddylwn i ei wneud?

Mae gan ddatblygiadau amaethyddol newydd sy'n cynnwys storio, rheoli a lledaenu slyri a thail gwrtaith o fewn y dalgylch SAC afonol gwarchodedig y potensial i gyfrannu maethynnau gormodol i'r cwrs dŵr. Mae'n debygol yr effeithir ar ddatblygiadau o'r fath ac y bydd angen iddynt ddarparu mesurau lliniarol. 

Mae mesurau rheoli maethynnau, tir, tail a rheoli cynefinoedd y gellir eu rhoi ar waith i leihau faint o ffosffad sy'n mynd i mewn i afonydd o ffynonellau gwasgaredig. Er enghraifft clustogfeydd glannau afon, gwlypdiroedd coediog/â llystyfiant, a phyllau a ffosydd draenio. Mae newidiadau y gellir eu gwneud ar unwaith hefyd, er enghraifft codi ffensys ar hyd glannau afonydd er mwyn atal da byw rhag mynd i mewn i'r afonydd.

Hoffai Cyngor Sir Penfro, a'i bartneriaid mewn Awdurdodau Cynllunio Lleol eraill yng ngorllewin Cymru, archwilio syniadau rheoli dalgylchoedd gyda'r gymuned ffermio. Cysylltwch â'r blwch negeseuon e-bost cynllunio maetholynnau, yn: nutrientplanning@pembrokeshire.gov.uk

Beth yw Profi Ymdreiddiad a Thrylifiad?

Mae profi trylifiad bellach yn ofyniad yn ôl y cyngor diweddaraf gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer ceisiadau cynllunio sy'n cynnig systemau trin carthion preifat sy'n rhyddhau (llai na 2m3 y dydd) i gae draenio. Y rheswm dros hyn yw er mwyn sicrhau y gall yr elifion gwastraff o'r system trin carthion breifat dreiddio trwy fatrics y pridd (er mwyn osgoi cronni) a thrylifo ar gyfradd briodol i leihau'r risg o halogi lefel trwythiad dŵr daear a/neu ddŵr wyneb.

Ymdreiddiad yw mynediad dŵr i lawr i wyneb pridd a chreigiau. Pan fydd glaw yn taro'r ddaear, gall dŵr naill ai ymdreiddio i'r pridd neu ffoi ar draws y ddaear. Yn gyffredinol, mae ymdreiddiad yn symudiad dŵr cyflymach. Y gyfradd ymdreiddiad yw pa mor gyflym y mae’r prif yn amsugno dŵr. Mae'r gyfradd ymdreiddiad yn cael ei mesur mewn milimetrau (mm) yr awr.

Trylifiad yw symudiad dŵr i lawr trwy bridd a chreigiau. Disgyrchiant a grymoedd capilari yw'r ffactorau lluosog sy'n llywio trylifiad. Ar ôl ymdreiddio, mae dŵr yn dechrau symud i lawr drwy'r pridd a'r graig gan basio haenau gwahanol o'r ddaear. Gelwir mynediad cychwynnol dŵr ar yr wyneb yn ymdreiddio. Mae trylifiad yn digwydd o dan y ddaear ac yn ymwneud â symudiad dŵr i lawr o dan y ddaear.

Isod mae'r dull argymelledig a amlinellir yn Rhan B6.5 Canllawiau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn tab newydd) i bennu gwerth trylifiad (Vp) y cae draenio posibl.

  • Dylid osgoi cynnal y prawf hwn mewn tywydd eithafol fel sychder, barrug a glaw trwm.
  • Dylid cloddio o leiaf ddau dwll 300mm2 i ddyfnder sydd 300mm islaw lefel wrthdro arfaethedig (gwaelod y bibell) y bibell ymdreiddiad a'u gosod yn gyfartal ar hyd llinell arfaethedig y system ddyfrhau o dan yr wyneb.
  •  Dylid llenwi pob twll â dŵr i ddyfnder o 300mm o leiaf a chaniatáu iddo dryddiferu dros nos.
  • Y diwrnod wedyn, ail-lenwch bob twll â dŵr i ddyfnder o 300mm o leiaf ac arsylwch ar yr amser mewn eiliadau a gymer i'r dŵr dryddiferu i ffwrdd o fod 75% yn llawn i 25% yn llawn (h.y. dyfnder o 150mm).
  • Rhannwch yr amser hwn â 150. Mae'r ateb hwn yn rhoi'r amser cyfartalog mewn eiliadau (Vp) y mae ei angen i'r dŵr ollwng 1mm.
  • Dylai'r prawf gael ei gynnal o leiaf dair gwaith gydag o leiaf ddau dwll prawf. Dylid   cofnodi'r cyfartaledd cymedrig o'r profion.
Hwn yw’r gwerth trylifiad Vp (mewn eiliadau)
  • Ceir y ffigwr cyfartalog ar gyfer y gwerth trylifiad (Vp) trwy grynhoi'r holl werthoedd a rhannu â nifer y gwerthoedd a ddefnyddiwyd.
  • Dylid defnyddio gwarediadau caeau draenio dim ond pan fo profion trylifiad yn dangos gwerthoedd cyfartalog Vp rhwng 15 a 100 a phan fo’r asesiad rhagarweiniol o'r profion tyllau prawf wedi bod yn ffafriol.
  • Mae'r isafswm gwerth o 15 yn sicrhau na all elifion heb eu trin drylifo’n rhy gyflym i ddŵr daear.
  • Lle  mae VP yn uwch na'r terfyn o 100, mae'n annhebygol y bydd triniaeth effeithiol yn digwydd mewn cae draenio gan y bydd trochi aneffeithlon yn y  lleoliad hwn a allai achosi i garthion gronni ar yr wyneb.

Darparwch arwynebedd eich system ymdreiddio. Ar gyfer eiddo domestig, gellir cyfrifo arwynebedd llawr y cae draenio (A mewn metrau sgwâr m2) o:

A = p × Vp x 0.25 ar gyfer tanciau septig 

A = p × Vp x 0.20 ar gyfer gweithfeydd trin carthion pecyn lle mae p yn cynrychioli nifer y bobl a wasanaethir gan y tanc (dylai hyn fod y nifer uchaf o bobl a allai fyw yn y tŷ)

Vp yw'r gwerth trylifiad a ddisgrifir uchod. Os oes amheuaeth, ymgynghorwch â'ch cynghorydd proffesiynol neu swyddog rheoli adeiladu yn yr awdurdod lleol i gael cyngor.

Defnyddiwch y cyfrifiadau canlynol:

  • Ar gyfer gwaith trin carthion:

o   Vp  (gwerth trylifiad) × P (nifer y trigolion) × 0.20 = arwynebedd

  • Ar gyfer tanc septig:

o   Vp  (gwerth trylifiad) × P (nifer y trigolion) × 0.25 = arwynebedd

Rhaid i'r dull a bennwyd gan CNC fod yr un a ddilynir ond i atgyfnerthu dealltwriaeth am y dull a'r prosesau sy'n ymwneud â phrofi trylifiad ac ymdreiddiad, gellir dod o hyd i adnoddau gan gynnwys fideos cyfarwyddyd ar-lein.

A fydd hyn yn effeithio ar baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig?

Yn anffodus, bydd. Bu oedi difrifol o ran diwygio Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro (CDLl newydd y Cyngor, a elwir hefyd yn CDLl 2) ac mae cyhoeddi canllawiau ffosffadau CNC yn 2021 a'r angen i werthuso eu goblygiadau ar gyfer polisïau a chynigion y cynllun sy'n dod i'r amlwg o fewn dalgylchoedd afonydd sensitif i ffosffad nad ydynt yn rhai llanw yn un o'r rhesymau dros hynny.  Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am yr adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro, gweler gwefan y Cyngor,(yn agor mewn tab newydd), neu anfonwch e-bost i ldp@pembrokeshire.gov.uk.

Beth ydych chi'n ei olygu wrth Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)?

Mae rhai ardaloedd,  (a elwir yn safleoedd Ewropeaidd) (yn agor mewn tab newydd) yn cael eu diogelu gan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 fel y'u diwygiwyd (a elwir yn Rheoliadau Cynefinoedd).

Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) (yn agor mewn tab newydd).

Os cynigir datblygiad mewn ardal o'r fath, rhaid i ni gynnal asesiad o dan y Rheoliadau Cynefinoedd, a elwir yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) (yn agor mewn tab newydd), i brofi a allai'r cynnig niweidio nodweddion dynodedig y safle yn sylweddol.

Byddai'r 'asesiad priodol' (yn agor mewn tab newydd) yn ystyried effeithiau andwyol posibl cynllun neu brosiect (ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill).

 

 

 

ID: 7516, adolygwyd 23/07/2024