Cynllunio ac Ecoleg

Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop Pathewod a Chynllunio

Cyflwyniad i bathewod

Gellir adnabod y pathew wrth ei liw euraidd llachar a'i gynffon blewog trwchus. Anifail y nos ydyw, ac fe'i gwelir fel arfer mewn coetiroedd a chloddiau, ac mae'n arbennig o hoff o goedlannau sydd â choed cyll. Mae'r cynefinoedd hyn yn darparu diet amrywiol drwy gydol y flwyddyn ac yn galluogi i'r pathew  symud drwy'r coed ac mae'n ymddangos ei fod yn osgoi teithio dros dir agored. 

Mae poblogaethau o bathewod yn brin yn Sir Benfro a chânt eu bygwth wrth i gynefinoedd gael eu colli a'u darnio a chan arferion rheoli coetir gwael. O'r herwydd, cânt eu gwarchod gan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd).

Ceisiadau Cynllunio ac Arolygon

Wrth ystyried cais cynllunio, bydd presenoldeb pathew fel Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop yn ystyriaeth berthnasol os yw'r cynnig yn debygol o arwain at aflonyddu ar y rhywogaeth neu beri niwed iddi. Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried effaith bosibl y datblygiad ar y rhywogaeth ar sail gwybodaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd i gefnogi'r cais.

Os oes tystiolaeth o bathewod ar safle'r datblygiad neu'n gyfagos, bydd gofyn cynnal Arolwg Pathewod i gyd-fynd ag unrhyw gais cynllunio a gyflwynir. Gall yr arolwg gadarnhau p'un a oes pathewod yn bresennol ac argymell camau lliniaru i warchod y pathewod a lleihau neu waredu effaith y datblygiad. Dylid darparu'r adroddiad hwn ynghyd â chynlluniau sy'n dangos y camau lliniaru gyda'r cais cynllunio ar adeg ei gyflwyno.

Trwyddedu

Os ydych yn cynnal datblygiad neu weithgaredd a fydd yn effeithio ar bathewod neu unrhyw Rywogaeth arall a Warchodir gan Ewrop, y mae'n debygol y bydd gofyn i chi gael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Os bydd angen caniatâd cynllunio ar y datblygiad, rhaid bod hyn wedi'i roi cyn i chi gael trwydded. Wedi i'r cais cynllunio gael ei gymeradwyo, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwneud cais am drwydded, ac i gael mwy o wybodaeth chwiliwch am drwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn tab newydd) 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â rhywogaethau a safleoedd gwarchodedig, cysylltwch â'r:
Ecolegydd Cynllunio
Cynllunio
01437 776376
ecology@pembrokeshire.gov.uk  

 
ID: 1972, adolygwyd 31/10/2023