Cynllunio ac Ecoleg

Rhywogaethau Gwarchodedig

Mae'n syndod cynifer o rywogaethau unigryw sydd i'w cael yn Sir Benfro a gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch hyn ar y tudalennau Bioamrywiaeth.

Mae'r rhywogaethau y mae ceisiadau cynllunio yn Sir Benfro yn effeithio arnynt yn aml yn cynnwys:

Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop

Rhywogaethau a Warchodir gan y Deyrnas Unedig

  • Pob aderyn gwyllt, eu nythod a'u hwyau
  • Y Dylluan Wen (gwarchodaeth ychwanegol rhag aflonyddu)
  • Moch Daear
  • Ymlusgiaid

Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop

Wrth benderfynu ar gais cynllunio, mae presenoldeb Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop yn ystyriaeth berthnasol os yw'r cynnig yn debygol o arwain at aflonyddu ar y rhywogaethau neu eu niweidio, ynghyd a'u cynefin mewn rhai achosion.

Yn ôl TAN 5:
"It is essential that the presence or otherwise of protected species, and the extent that they may be affected by the proposed development, is established before the planning permission is granted, otherwise all relevant material considerations may not have been addressed in making the decision."

Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried effaith bosibl y datblygiad ar y rhywogaeth ar sail gwybodaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd i gefnogi'r cais. Gallai hyn gynnwys Arolwg Rhywogaethau Gwarchodedig neu Arolwg Cam 1 Estynedig, cynlluniau i ddigolledi, lliniaru neu wella a darluniau i gefnogi cynnwys nodweddion o'r fath. Cynhelir ymgynghoriad hefyd â Chyfoeth Naturiol Cymru, sef Sefydliad Cadwraeth Natur Statudol Llywodraeth Cymru.

Prin y bydd presenoldeb rhywogaethau gwarchodedig ar safle yn atal datblygiad, ond bydd angen i'r ymgeisydd gymryd camau i sicrhau y caiff y rhywogaethau eu gwarchod a'u bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r trwyddedau perthnasol.

Rhowch ystyriaeth yn gynnar i faterion ecolegol i sicrhau nad ydynt yn arwain at achosion o oedi y byddai'n bosib eu hosgoi!

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â rhywogaethau a safleoedd a warchodir, cysylltwch â'r:

Ecolegydd Cynllunio
01437 776376
ecology@pembrokeshire.gov.uk

ID: 1937, adolygwyd 20/04/2023