Cynllunio ac Ecoleg

Safleoedd Gwarchodedig

Mae'n syndod cynifer o gynefinoedd a safleoedd unigryw sydd i'w cael yn Sir Benfro a gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch hyn ar y tudalennau Bioamrywiaeth.

Safleoedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol a Chynllunio

Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodedig Arbennig wedi'u dynodi yn Sir Benfro o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd a Chyfarwyddeb Adar yr UE fel safleoedd a fydd yn cyfrannu'n sylweddol at gadwraeth cynefinoedd a rhywogaethau a nodwyd fel rhai sydd ag angen eu cadw fwyaf ledled Ewrop.

Mae nifer o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig wedi'u dynodi yn Sir Benfro a gall agweddau penodol ar ddatblygu effeithio ar nodweddion yr Ardaloedd hyn. Rhaid i'r Awdurdod Cynllunio Lleol asesu goblygiadau datblygiad ar yr Ardal Cadwraeth Arbennig cyn cymeradwyo unrhyw gynllun neu brosiect drwy sgrinio'r cynllun drwy Brawf yr Effaith Arwyddocaol Debygol. Os yw'n debygol y caiff y cynlluniau effaith arwyddocaol, gallai fod angen cynnal Asesiad Priodol.

Safleoedd o Bwysigrwydd Cenedlaethol a Chynllunio

Yn y Deyrnas Unedig, mae safleoedd sydd o bwysigrwydd cenedlaethol o ran planhigion, anifeiliaid neu nodweddion daearyddol neu ffisiograffigol wedi eu gwarchod gan y gyfraith fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae 1,019 o'r Safleoedd hyn i'w cael yng Nghymru, ac mae'r lleiaf o'r rhain, sef man clwydo'r ystlum pedol lleiaf, i'w gael yn Sir Benfro.

Caiff unrhyw ddatblygiad arfaethedig sydd â'r potensial i niweidio safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol ei asesu'n ofalus yn unol â chanllawiau polisi cynllunio cenedlaethol. Diben hyn yw sicrhau bod safleoedd a rhywogaethau sy'n ddibynnol ar y safleoedd yn cael eu gwarchod rhag unrhyw effeithiau andwyol posibl o ganlyniad i ddatblygiad arfaethedig.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â rhywogaethau a safleoedd gwarchodedig, cysylltwch â'r:
Ecolegydd Cynllunio
01437 776376
ecology@pembrokeshire.gov.uk

ID: 1947, adolygwyd 20/04/2023