Cynllunio ac Ecoleg

Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop Ystlumod a Chynllunio

Cyflwyniad i ystlumod

Mae poblogaethau ystlumod wedi dirywio yn ddifrifol yn y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o'n hystlumod o dan fygythiad ac mae nifer yn brin iawn. Mae'r dirywiad hwn yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys colli mannau clwydo a chynefinoedd porthiant a'r ffaith bod llwybrau cymudo wedi'u darnio. 

Mae gan bob rhywogaeth o ystlum ei dewis fath o fan clwydo gan gynnwys adeiladau, eglwysi, ogofâu, mwyngloddiau, selerydd, coed cau neu goed wedi'u difrodi, a phontydd. Maent yn bwyta pryfed ac yn dal miloedd ohonynt bob nos tra'n porthi mewn mannau fel porfeydd traddodiadol, gerddi, coetiroedd, corsydd a phyllau.

Mae ystlumod yn bridio'n araf, gan gynhyrchu dim ond un epil y flwyddyn, neu bob yn ail flwyddyn, wrth i'r benywod ymgasglu mewn nythfeydd mamolaeth i roi genedigaeth a magu eu rhai bach. O'r herwydd, gall newidiadau i'w mannau bridio, a ddaw yn sgil gwaith datblygu, effeithio'n sylweddol ar boblogaeth leol am amser hir.

Mae ystlumod yn greaduriaid sydd â'u harferion, a byddant yn dychwelyd i'r un mannau clwydo flwyddyn ar ôl blwyddyn ac am hyn mae'r safleoedd wedi'u gwarchod gan y gyfraith, hyd yn oed pan nad oes ystlumod yn bresennol. Mae'r holl ystlumod a'u mannau clwydo wedi'u gwarchod yn llawn gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010.

Y mae'n drosedd:

 - Lladd, anafu, dal neu gadw ystlumod yn fwriadol
 - Difrodi neu ddinistrio mannau clwydo ystlumod
 - Aflonyddu ar ystlumod yn fwriadol, er enghraifft drwy fynd i mewn i fannau clwydo sy'n wybyddus

Ceisiadau Cynllunio ac Arolygon

  • Ystyriwch ystlumod YN GYNNAR yn y broses gynllunio i osgoi oedi
  • Ceisiwch gyngor yr Ecolegydd Cynllunio a Chyfoeth Naturiol Cymru os ydych yn credu y bydd eich cais yn effeithio ar Rywogaethau a Warchodir gan Ewrop
  • Comisiynwch arolygwr ystlumod trwyddedig yn gynnar yn y broses - dim ond rhwng mis Mai a mis Medi y gellir cynnal rhai arolygon
  • Cofiwch ddarllen adroddiad yr arolwg yn ofalus - efallai y bydd yn nodi gwaith pellach sy'n ofynnol cyn i chi gyflwyno eich cais cynllunio
  • Sicrhewch fod eich pensaer wedi cynnwys pob agwedd ar unrhyw gamau lliniaru ar eich lluniadau terfynol cyn eu cyflwyno

Os oes tystiolaeth o fan clwydo wedi'i gadarnhau ar y safle sydd i'w ddatblygu, neu os yw'r datblygiad wedi'i restru ar y ganlynol, bydd gofyn cael Arolwg Rhywogaethau Gwarchodedig ar gyfer Ystlumod fel rhan o'ch cais cynllunio. Dylid cynnwys hwn ar adeg cyflwyno'r cais ac ni all fod yn destun amod.

Yr adeg orau i gynnal arolwg yw rhwng mis Mai a mis Awst, ond dan amgylchiadau cyfyngedig gellir cynnal arolygon cwmpasu y tu allan i'r cyfnod hwn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'r Ecolegydd Cynllunio i gael cyngor cyn cyflwyno cais neu gallwch gysylltu ag Arolygwr Ystlumod Trwyddedig.

Mae'r rhestr ganlynol yn rhoi manylion () ac Ecolegwyr lleol, ond nid yw'r ffaith eu bod wedi'u cynnwys ar y rhestr hon yn golygu bod Cyngor Sir Penfro yn eu hargymell. I gael arweiniad pellach ar adroddiadau arolygon, gweler ().

Ystlumod fel nodwedd mewn Ardal Cadwraeth Arbennig

Mae cynllun rheoli Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Safleoedd Ystlumod Sir Benfro a Llyn Bosherston yn rhestru bod yr ystlum pedol mwyaf a'r ystlum pedol lleiaf ill dau yn nodweddion perthnasol. Mae cynllun rheoli ACA Coetiroedd Gogledd Sir Benfro yn rhestru bod yr ystlum du yn nodwedd berthnasol. 

Os yw safle datblygiad yn agos at unrhyw un o nodweddion ACA neu'n effeithio'n uniongyrchol arnynt, gallai fod angen gwybodaeth ychwanegol wrth asesu'r cynnig. I gael mwy o wybodaeth, gweler Safleoedd Gwarchodedig neu cysylltwch â'r Ecolegydd Cynllunio.

Trwyddedu

Os ydych yn cynnal datblygiad neu weithgaredd a fydd yn effeithio ar fan clwydo ystlumod neu unrhyw Rywogaeth arall a Warchodir gan Ewrop, y mae'n debygol y bydd gofyn i chi gael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Os bydd angen caniatâd cynllunio ar y datblygiad, rhaid bod hyn wedi'i roi cyn i chi gael trwydded. Wedi i'r cais cynllunio gael ei gymeradwyo, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwneud cais am drwydded, ac i gael mwy o wybodaeth chwiliwch am drwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â rhywogaethau a safleoedd gwarchodedig, cysylltwch â'r:
Ecolegydd Cynllunio
Cynllunio
01437 776376
ecology@pembrokeshire.gov.uk

ID: 1948, adolygwyd 31/10/2023