Cynllunio Argyfwng

Beth ddylid ei wneud mewn argyfwng

Ynghyd ag amryw asiantaethau ymatebol, mae Cyngor Sir Penfro wedi cynhyrchu cofrestr risgiau cymunedol i helpu i chi ddeall y math o argyfyngau a allai effeithio arnoch a’ch arwain wrth baratoi ar gyfer ac ymateb i ddigwyddiad / argyfwng.

Yn ogystal â hyn efallai y byddai'n beth da ichi ysgrifennu eich cynllun argyfwng eich hunan. Bydd y gwasanaethau argyfwng a'r Cyngor yn paratoi cynlluniau er mwyn paratoi ar gyfer argyfyngau posibl.  Gallwch wneud yr un peth ar gyfer eich cartref chi  

Sut i ysgrifennu cynllun argyfwng

  • I ddechrau dylech edrych o'ch cwmpas er mwyn gweld ac ystyried y digwyddiadau posibl a allai effeithio arnoch chi.  A oes perygl ichi ddioddef llifogydd? Ydych chi'n byw ar bwys gwaith cemegau neu niwclear?  Cofiwch y gallai tai fynd ar dân hefyd 
  • Dylech drafod â phawb yn eich cartref/aelwyd sut y byddwch yn ymateb i ddigwyddiadau posibl
  • Dylech gynllunio sut y byddech yn cadw mewn cysylltiad os digwydd ichi gael eich gwahanu.  Enwch ddau fan cyfarfod; dylai'r cyntaf fod ar bwys eich cartref a dylai'r ail fod ymaith o'ch cymdogaeth rhag ofn na allwch chi fynd yn ôl i'ch cartref.  Cytunwch ar ffrind neu berthynas, sy'n byw y tu fas i'r ardal, y gallwch chi ei alw er mwyn dweud eich bod yn ddiogel
  • Dodwch restr o'r rhifau argyfwng wrth bob ffôn sydd yn y tŷ.  Dysgwch y plant sut a phryd i ffonio rhif 999
  • Dodwch becyn at ei gilydd, sy'n cynnwys manylion y cwmnïau yswiriant, banciau, cofrestriadau'r car ac yn y blaen.  Gofynnwch i ffrind neu berthynas gadw copi ar eich cyfer
  • Os ydych chi'n berson anabl cofiwch gadw cyflenwadau ychwanegol o bethau y byddai arnoch eu hangen fel batris ychwanegol i'r gadair olwyn, ocsigen, cathetrau, moddion, bwyd ar gyfer cŵn tywys neu gŵn clywed ac ati
  • Dylech wybod pwy yn eich cymdogaeth neu'ch adeilad sy'n anabl er mwyn ichi allu eu cynorthwyo yn ystod argyfwng

Paratoi pecyn argyfwng

Yn ystod argyfwng efallai na fydd y gwasanaethau argyfwng sy'n gofalu am ardal helaeth yn gallu dod atoch ar unwaith. Efallai y bydd rhaid ichi ofalu amdanoch eich hun am beth amser. Bydd ymbaratoi at hynny o gymorth ichi. Os bydd gyda chi gyflenwad o fwyd a chyflenwadau argyfwng a'ch bod wedi ymbaratoi i ddod i ben â'r sefyllfa, os bydd y trydan, nwy ac/neu'r dŵr wedi pallu, fe allai hynny fod yn hanfodol bwysig ichi

Mewn argyfwng

Cofiwch ddilyn y cyngor a gewch gan y gwasanaethau argyfwng. Efallai y dywedir wrthych am wneud hyn:

  • Aros yn eich cartref a chau'r drysau, ffenestri, gwyntyllau'r gegin, ac ati
  • Gwrando ar y gorsafoedd radio/cyfryngau lleol er mwyn cael gwybodaeth ychwanegol
  • Ffonio cyn lleied ag y bo modd er mwyn ichi beidio â gorlwytho'r system

 

ID: 173, adolygwyd 05/05/2023