Cynllunio Argyfwng

Cefnogi pobl Wcrain

Wrth i’r sefyllfa yn Wcráin ddirywio, law yn llaw ag effaith yr argyfwng dyngarol, mae llawer o bobl ledled Sir Benfro yn cynnig cymorth a chefnogaeth.

Dangoswch eich cefnogaeth

Gallwn ddangos ein cefnogaeth yma yn Sir Benfro mewn sawl ffordd.

Gan fod llawer o lwybrau logistaidd ar gau a systemau trafnidiaeth dan bwysau mawr, gallai anfon nwyddau ffisegol ychwanegu mwy o straen at y sefyllfa ar lawr gwlad. Bydd rhoi arian i sefydliadau sy’n ymateb i’r argyfwng yn Wcráin yn golygu y gellir dod o hyd i nwyddau i liniaru’r argyfwng yn lleol.

Er mwyn diogelu rhag twyll, argymhellwn eich bod yn defnyddio elusennau a sefydliadau rhyngwladol cydnabyddedig sy’n apelio am gyfraniadau ariannol ar hyn o bryd.

Mae’r Groes Goch Brydeinig wedi paratoi atebion i gwestiynau cyffredin sy’n esbonio pam y dylid osgoi rhoddion ffisegol: Gwestiynau Cyffredin (yn agor mewn tab newydd)  

Cymorth i deuluoedd a phobl yr effeithiwyd arnynt

Os ydych yn aelod agos o deulu dinesydd Prydeinig sy’n byw yn Wcráin fel arfer ac yn bwriadu gwneud cais am fisa trwy’r llwybr Teulu Mudol, darllenwch y canllawiau ar fisâu ar gyfer aelodau agos o deulu dinasyddion Prydeinig sy’n byw yn Wcráin fel arfer (yn agor mewn tab newydd) Dylech ffonio +44 (0) 300 3032785 am gymorth cyn gwneud cais. Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am tan 8pm, a dydd Sadwrn a dydd Sul o 9am tan 5.30pm.

Gallai’r sefyllfa yn Wcráin achosi llawer o ofid i aelodau teulu, ffrindiau a phobl sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r llinell gymorth Iechyd Meddwl CALL (Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol) (yn agor mewn tab newydd) ar gael 24 awr y dydd i wrando a rhoi cymorth. Ffoniwch 0800 132737 neu tecstiwch ‘Help’ i 81066.

Mae gan bob dinesydd yng Nghymru yr hawl i fyw eu bywydau’n rhydd rhag camdriniaeth wedi’i thargedu. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd yn goddef troseddau casineb sy’n cael eu sbarduno gan ddigwyddiadau byd-eang. Os ydych wedi dioddef trosedd gasineb, rhowch wybod i’r heddlu neu’r Ganolfan Adrodd a Chymorth Genedlaethol ar gyfer Troseddau Casineb sy’n cael ei chynnal gan Gymorth i Ddioddefwyr (yn agor mewn tab newydd) 

 

 

ID: 8577, adolygwyd 20/07/2023