Cynllunio Argyfwng

Cofrestr Risg Gymunedol

Yn amlwg mae pob un ohonom yn gobeithio na fydd argyfyngau byth yn digwydd i ni.  Fodd bynnag, pe digwyddai un yma yn Sir Benfro rydym yn dymuno ymbaratoi ar gyfer hynny orau y gallwn.

Er mwyn ein cynorthwyo i benderfynu ar beth y dylem gydgyfeirio ein hymdrechion o ran cynllunio rhag argyfyngau mae'n bwysig inni ddal ati i bwyso a mesur y peryglon posibl i'n Sir.

Mae pwysigrwydd cynnal asesiadau risg yn cael ei bwysleisio gan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (CCA).

Yn ôl y CCA mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar ymatebwyr categori 1 (sy'n cynnwys yr heddlu, tân, ambiwlans, iechyd, yr Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau ac Awdurdodau Lleol) gynnal asesiadau risg a'u cadw mewn Cofrestr Risg Gymunedol (CCR).

Y risgiau yn y cyd-destun hwn yw'r pethau hynny a allai arwain at ganlyniadau difrifol i'r Sir.  Os caiff rhywbeth ei ystyried yn fater risg uchel iawn nid yw hynny'n golygu nad yw e'n debygol iawn o ddigwydd.  Mae e'n golygu fodd bynnag, oherwydd ei ganlyniadau posibl, y dylid rhoi blaenoriaeth uchel iawn iddo.

Y Gofrestr Risg Gymunedol yw cam cyntaf y broses cynllunio rhag argyfyngau a bydd yn ein cynorthwyo ni a'n partneriaid i sicrhau bod y cynlluniau a luniwn yn gymesur â'r risg ac y byddant yn y pen draw yn ein cynorthwyo ni i fod o gymorth i chi.

 

ID: 178, adolygwyd 11/08/2022