Cynllunio Argyfwng

Cydnerthu Cymunedol

Beth yw Cydnerthu Cymunedol?

Cydnerthu cymunedol yw cymunedau ac unigolion sy'n manteisio ar adnoddau ac arbenigedd lleol er mwyn cynorthwyo eu hunain mewn argyfwng, mewn modd sy'n cydategu ymateb y gwasanaethau argyfwng.

Pam mae cydnerthu cymunedol yn bwysig?

Mae argyfyngau'n digwydd, ac os byddwch chi'n paratoi chi'ch hun a'ch teulu byddwch hi'n ei gwneud hi'n rhwyddach iddynt ddod dros effeithiau argyfwng.

Os bydd eich cymuned yn gwybod pa beryglon y gallai hi eu hwynebu a phwy yn eich cymuned sydd angen eich cymorth, yna efallai y bydd hi wedi ymbaratoi'n well er mwyn dod i ben ag argyfwng.

Bydd yr ymatebwyr i argyfwng lleol wastad yn gorfod rhoi trefn flaenoriaeth ar y bobl hynny sydd fwyaf angen cymorth yn ystod argyfwng, yn enwedig os yw eu bywyd mewn perygl.  Yn ystod yr adegau hyn byddwch yn gorfod gwybod sut y gallwch gynorthwyo chi'ch hun a rhoi cymorth i'r bobl hynny o'ch amgylch.

Egwyddorion Cyfnerthu Cymunedol

  • Mae cymunedau yn dewis eu hunain
  • Mae angen i gymunedau weithredu er mwyn cynorthwyo'r Gwasanaethau Argyfwng
  • Caiff ei wneud gan y bobl yn hytrach nag i'r bobl
  • Mae gofyn i gymunedau ddefnyddio gwybodaeth leol a'r rhwydweithiau sy'n bodoli eisoes
  • Mae'n rhaid i gymunedau roi sylw mawr i'r peryglon

Materion Cyfnerthu Cymunedol

  • Gall cymunedau leihau i'r eithaf yr effaith a gaiff argyfwng ac, o ganlyniad, y difrod naill i bobl neu eiddo
  • Gall cymunedau ddod dros argyfwng yn fwy clou
  • Bydd gan y gymuned rwydweithiau cyfathrebu a strwythur iddynt
  • Mae aelodau cymuned yn tueddu i fod â'r "gallu i weithredu'n hyderus" a "bwrw iddi"
  • Yn aml bydd aelodau'r gymuned yn gwybod pa gamau gweithredu i'w cymryd er mwyn cynorthwyo i leihau effaith problem benodol
  • Byddant yn teimlo bod y camau a gymerwyd yn benodol i'w hanghenion ac nad oes neb o'r tu fas yn eu gorfodi hwy i'w cymryd
  • Bydd y cymunedau'n tueddu i barhau i gydweithio pan fydd yr argyfwng ar ben, trwy wneud gwelliannau neu barhau i gynnal y cyfleusterau lleol ac ati
  • Bydd y cymunedau'n tueddu i ddisgwyl iddynt hwy eu hunain gael yr atebion a datrys problemau, yn hytrach nag aros a dibynnu ar asiantaethau allanol
  • Mae pobl yn y gymuned yn gallu deall yn well beth yw swyddogaethau'r asiantaethau allanol mewn argyfwng ac felly gallant gyfleu beth yw eu hanghenion a'u blaenoriaethau

Nodweddion Cymunedau Cyfnerthol

Fel arfer bydd Cymunedau Cyfnerthol yn meddu ar y nodweddion hyn:

  • Byddant yn ymwybodol o beryglon a phwy yw'r bobl sy'n agored i niwed
  • Bydd gyda hwy hyrwyddwr cymunedol
  • Bydd gyda hwy grŵp argyfwng cymunedol sy'n gallu dylanwadu ar y broses benderfynu er lles y gymuned
  • Byddant yn ymdrechu i gydweithio
  • Bydd gyda hwy gynllun argyfwng cymunedol
  • Mae pobl yn y gymuned yn fodlon defnyddio sgiliau cyffredin mewn amgylchiadau anghyffredin

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Uned Cynllunio rhag Argyfyngau ar 01437 775661 neu emergency.planning.unit@pembrokeshire.gov.uk

UK Resilience (yn agor mewn tab newydd)

Cymdeithas Cynllunio rhag Argyfyngau (yn agor mewn tab newydd)

Disaster Action (yn agor mewn tab newydd)

 

ID: 181, adolygwyd 20/07/2023