Cynllunio Argyfwng

Gwacáu

Credir yn gyffredinol taw yn niffyg dim arall, y bydd adeilad yn cael ei wacáu; fodd bynnag mae hyn yn digwydd yn amlach nag y byddech yn ei feddwl.  Os bydd nwy'n colli efallai y bydd rhaid i'r gwasanaethau argyfwng wacáu stryd gyfan.

Nid yw pob gwacâd yn fater hirdymor ac ambell waith byddwch yn gallu dychwelyd i'ch cartref ar ôl awr neu ddwy.  Fodd bynnag, os ceir digwyddiad cemegol efallai na fydd modd byw yn eich tŷ ac felly byddai'n rhaid eich ailgartrefu er mwyn i'r gwaith dihalogi gael ei wneud.

Cofiwch ymbaratoi ar gyfer trefniadau gwacáu

  • Trafodwch gyda'ch teulu beth y byddech yn ei wneud pe byddai'n rhaid gwacáu eich cartref
  • Trefnwch fan cyfarfod ar gyfer eich teulu rhag ofn y cewch chi'ch gwahanu yn ystod argyfwng
  • Dodwch becyn nwyddau at ei gilydd sy'n cynnwys pethau hanfodol e.e. moddion ar bresgripsiwn, nwyddau i'r baban (os yw'n berthnasol), offer ystafell ymolchi, rhifau ffôn, radio ac ati
  • Dylech wybod sut i droi bant y cyflenwadau trydan, dŵr a nwy yn eich cartref wrth y prif gyflenwad a'r falfiau a chofiwch gael yr offer angenrheidiol wrth law

Os cewch eich cynghori i wacáu eich cartref dylech wneud hyn

  • Ymateb i'r cyfarwyddiadau a gewch gan y gwasanaethau argyfwng.  Byddant hwy'n dweud wrthych beth i'w wneud a lle y dylech fynd.
  • Defnyddio pa gludiant bynnag fydd ar gael ichi
  • Mynd i leoliad a enwir, cyflwyno'ch hun yno, lle cewch chi gyngor ychwanegol
  • Cofiwch sicrhau bod gyda chi ddillad i'ch cadw'n dwym
  • Cofiwch ymgasglu unrhyw fwyd arbennig i fabanod a'r moddion sy'n cael eu defnyddio
  • Troi bant y cyflenwadau trydan, dŵr a nwy
  • Cau a chloi ffenestri a drysau pan ydych yn gadael
  • Dylech sicrhau bod gyda chi gludydd diogel neu dennyn ar gyfer unrhyw anifeiliaid anwes

 

ID: 175, adolygwyd 11/08/2022