Cynllunio Argyfwng

Llifogydd

Byddwch yn Ymwybodol

Os ydych yn byw lle mae afon yn gallu creu llifogydd fe allai eich eiddo fod mewn perygl gan lifogydd mewn tywydd garw.  Os ydych yn byw ger glan y môr, mae bob amser y bosibl y gall cyfuniad o lanw uchel a thywydd garw fygwth eich eiddo.  Hyd yn oed os ydych yn byw i mewn ar y tir, mae'r stormydd sydd wedi digwydd yn ddiweddar wedi dangos bod yr holl ddŵr y disgwylir iddi ei gludo yn llawer gormod i'r system ddraenio.  Felly fe all llifogydd ddigwydd gyda dŵr ar y wyneb, yn llifo oddi ar berci ac ati ....

Beth ydyn ni'n ei wneud?

Bydd y Cyngor yn ceisio

  • Cynnig cyngor ac arweiniad i breswylwyr, y gallai'r digwyddiad fod wedi effeithio arnyn nhw, ynghylch dulliau o liniaru'r perygl o lifogydd i'w heiddo.
  • Bod â pheirianwyr a gweithwyr cynnal ar ddyletswydd i roi cymorth ar unwaith mewn mannau allweddol a sicrhau bod amddiffyniadau a systemau draenio yn cael eu harchwilio a'u cynnal a bod gwaith yn cael ei wneud y cyfle cyntaf
  • Cynnal a chlirio rhwydweithiau ffyrdd y mae'r tywydd garw wedi effeithio arnyn nhw
  • Os bydd angen, helpu i symud preswylwyr mas a darparu llety tros dro gyda chanolfannau gorffwys
  • Ymateb i geisiadau am gymorth brys gan y cyhoedd ar sail blaenoriaethau ac ar yr adnoddau sydd ar gael hefyd, os yw gwneud hynny'n ddiogel.
  • Gweithio gyda phartneriaid o nifer o asiantaethau er mwyn lleihau effaith y llifogydd cymaint ag y bo modd ar y cymunedau yn Sir Benfro a sicrhau bod y gwasanaethau allweddol yn parhau

Mewn argyfwng, bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu'r cyhoedd yn gyffredinol ac ni fydd yn gallu helpu nifer fawr o berchnogion cartrefi a allai weld bod bygythiad i'w heiddo. Gwelwch y cyngor ynglŷn â sut i baratoi'n well

Rhybuddion Llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'r Swyddfa Dywydd i roi rhybuddion i bobl mewn perygl gan lifogydd.  

Gallwch ffonio'r Llinell Llifogydd ar 0845 988 1188 unrhyw amser nos a dydd am rybuddion llifogydd fel y maen nhw'n digwydd a chyngor, yn cynnwys cofrestru ar gyfer y Gwasanaethau Rhybuddion Llifogydd.   

Mae'r gwasanaeth, sydd am ddim, yn rhoi rhybuddion am lifogydd yn uniongyrchol i chi drwy'r ffôn, ffôn symudol, ffacs neu alwr.  Fe gewch chi hefyd gyngor ymarferol ynglŷn â pharatoi ar gyfer llifogydd, a beth i'w wneud os bydd un yn digwydd.

Yn lle hynny, gallwch weld y rhybuddion llifogydd cyfredol sydd ar Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Mae modd gweld rhybuddion tywydd garw ar Swyddfa Dywydd (yn agor mewn tab newydd)

Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu rhybuddio preswylwyr am lifogydd dŵr wyneb ond gallwch weld a fyddai modd i'r math hwn o lifogydd ddigwydd trwy edrych ar ragolygon tywydd lleol. 

Sut alla' i baratoi'n well?

Mae 1 eiddo o bob 6 yng Nghymru mewn perygl gan lifogydd. Gall llifogydd ddigwydd unrhyw le unrhyw amser. Gofalwch eich bod yn gwybod sut i fod yn barod a beth i'w wneud pan fydd llifogydd yn digwydd.

Y perchennog/tenant unigol sy'n gyfrifol am atal llifogydd a diogelu eiddo. Ni ddylai preswylwyr yn Sir Benfro ddibynnu ar y Cyngor i ymateb i fygythiad gan lifogydd i'w heiddo ond fe ddylen nhw fod â'u cynllun diogelu rhag llifogydd eu hunain (yn agor mewn tab newydd) yn barod fel y mae wedi ei nodi yng nghanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn ardaloedd sydd wedi'u dynodi eu bod mewn perygl gan lifogydd. Dyma ganllawiau cyffredinol:

Cyn i lifogydd ddigwydd

  • Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion llifogydd, holwch pa rybuddion llifogydd sy'n weithredol a gwyliwch ragolygon y tywydd a'r rhybuddion
  • Gwnewch gynllun llifogydd a gofalwch nad yw pethau o bwys yn cael eu cadw i lawr y staer
  • Paratowch eich tŷ a'ch busnes ar gyfer llifogydd (yn agor mewn tab newydd). Os oes angen bagiau tywod arnoch, cysylltwch â gwerthwyr nwyddau adeiladu lleol ynglŷn â chyflenwadau o dywod a bagiau. Fe allwch chi hefyd ddod o hyd i gyflenwyr y bagiau diweddaraf nad ydyn nhw'n defnyddio tywod, wedi'u llunio ar gyfer llifogydd ar Gyfeiriadur Tudalennau Glas y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (yn agor mewn tab newydd). Cyfrifoldeb perchennog y tŷ yw diogelu eu heiddo.
  • Cadwch ddraeniau a chwteri ar eich eiddo yn glir, heb rwystrau, dail ac ati. 
  • Cadwch olwg ar eich cymdogion a rhai agored i niwed yn eich cymuned

Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (yn agor mewn tab newydd)

Yn elusen genedlaethol sydd â'r nod o gynorthwyo a chynrychioli cymunedau ac unigolion sydd mewn perygl gan lifogydd

ffoniwch 01299 403055.

Astudiaethau Achos Cartrefi sy’n gallu Gwrthsefyll Llifogydd (yn agor mewn tab newydd)

Beth i'w wneud yn ystod llifogydd

Pan fydd llifogydd yn digwydd mae'n bwysig canolbwyntio ar eich diogelwch chi a'ch teulu.

  • Diffodd eich trydan a nwy
  • Gosod offer diogelu rhag llifogydd: giatiau llifogydd, bagiau tywod, topynnau toiled (lawr y staer yn unig)
  • Symud celfi, anifeiliaid anwes a phethau pwysig i le diogel
  • Troi'r radio lleol ymlaen
  • Cysylltu â'r Cyngor i roi gwybod am lifogydd ar ffyrdd ac mewn eiddo
  • Ffonio 999 os bydd angen cymorth brys arnoch chi

Os yw'r llifogydd wedi digwydd

  • Cofiwch fod dŵr llifogydd yn beryglus ac y gall fod wedi ei heintio
  • Cofiwch y gall llifogydd dŵr wyneb ddigwydd unrhyw le
  • Ceisiwch beidio â theithio neu os oes rhaid gwneud, gwyliwch y newyddion traffig diweddaraf a chyflwr y ffyrdd cyn dechrau eich taith
  • Dilynwch gyngor ar gyfer symud mas gan ymatebwyr argyfwng

Beth i'w wneud yn dilyn llifogydd

Dyma gyngor ynglŷn â sut i glirio eich cartref neu fusnes yn dilyn llifogydd a delio gyda hawliad yswiriant.

  • Os cawsoch chi eich symud mas o'ch cartref, peidiwch â mynd yn ôl oni bai eu bod wedi dweud wrthych fod gwneud hynny'n ddiogel
  • Pan fyddwch yn clirio wedi'r llifogydd, gwisgwch ddillad diogelwch diddos bob amser
  • Cysylltwch â'ch yswiriant adeiladau a chynnwys neu eich landlord cyn gynted ag y bo modd
  • Os nad oes yswiriant gyda chi, cysylltwch â'r Cyngor i gael manylion grantiau neu cysylltwch â PAVS i gael manylion elusennau a allai eich helpu chi
  • Sicrhewch fod rhywun cymwys/peiriannydd yn bwrw golwg ar eich trydan a nwy cyn eu troi ymlaen eto
  • Os ydych yn sychu eich eiddo'n naturiol, cadwch y drysau a'r ffenestri ar agor cymaint ag y bo modd. Os ydych yn defnyddio dadleithydd, caewch ddrysau a ffenestri allanol. Mae modd llogi dadleithyddion gyda busnesau llogi.
  • Gallwch lanhau a diheintio eich eiddo gyda nwyddau gwaith tŷ arferol.  Os ydych yn adeilad bwyd, cysylltwch â Thîm Diogelwch Bwyd yr Awdurdod Lleol am gyngor.

Sylwch os gwelwch yn dda mai cyfrifoldeb perchennog y cartref yw cael gwared â bagiau tywod. Dylid gwisgo menig rhag cyffwrdd â dŵr wedi'i heintio.

Awdurdod Llifogydd

ID: 174, adolygwyd 21/11/2023