Cynllunio Argyfwng
Cefnogi pobl Wcrain
Wrth i’r sefyllfa yn Wcráin ddirywio, law yn llaw ag effaith yr argyfwng dyngarol, mae llawer o bobl ledled Sir Benfro yn cynnig cymorth a chefnogaeth.
Dangoswch eich cefnogaeth
Gallwn ddangos ein cefnogaeth yma yn Sir Benfro mewn sawl ffordd.
Gan fod llawer o lwybrau logistaidd ar gau a systemau trafnidiaeth dan bwysau mawr, gallai anfon nwyddau ffisegol ychwanegu mwy o straen at y sefyllfa ar lawr gwlad. Bydd rhoi arian i sefydliadau sy’n ymateb i’r argyfwng yn Wcráin yn golygu y gellir dod o hyd i nwyddau i liniaru’r argyfwng yn lleol.
Er mwyn diogelu rhag twyll, argymhellwn eich bod yn defnyddio elusennau a sefydliadau rhyngwladol cydnabyddedig sy’n apelio am gyfraniadau ariannol ar hyn o bryd.
- Mae apeliadau’r Pwyllgor Argyfyngau (yn agor mewn tab newydd) a’r Groes Goch Brydeinig (yn agor mewn tab newydd) wedi cyfuno
- Gall Uchel Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid (yn agor mewn tab newydd) roi cymorth hefyd
- Yn olaf, rydym yn ymwybodol bod Unicef (yn agor mewn tab newydd) wedi sefydlu tudalen cyfrannu rhoddion
Mae’r Groes Goch Brydeinig wedi paratoi atebion i gwestiynau cyffredin sy’n esbonio pam y dylid osgoi rhoddion ffisegol: Gwestiynau Cyffredin (yn agor mewn tab newydd)
Cymorth i deuluoedd a phobl yr effeithiwyd arnynt
Os ydych yn aelod agos o deulu dinesydd Prydeinig sy’n byw yn Wcráin fel arfer ac yn bwriadu gwneud cais am fisa trwy’r llwybr Teulu Mudol, darllenwch y canllawiau ar fisâu ar gyfer aelodau agos o deulu dinasyddion Prydeinig sy’n byw yn Wcráin fel arfer (yn agor mewn tab newydd) Dylech ffonio +44 (0) 300 3032785 am gymorth cyn gwneud cais. Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am tan 8pm, a dydd Sadwrn a dydd Sul o 9am tan 5.30pm.
Gallai’r sefyllfa yn Wcráin achosi llawer o ofid i aelodau teulu, ffrindiau a phobl sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r llinell gymorth Iechyd Meddwl CALL (Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol) (yn agor mewn tab newydd) ar gael 24 awr y dydd i wrando a rhoi cymorth. Ffoniwch 0800 132737 neu tecstiwch ‘Help’ i 81066.
Mae gan bob dinesydd yng Nghymru yr hawl i fyw eu bywydau’n rhydd rhag camdriniaeth wedi’i thargedu. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd yn goddef troseddau casineb sy’n cael eu sbarduno gan ddigwyddiadau byd-eang. Os ydych wedi dioddef trosedd gasineb, rhowch wybod i’r heddlu neu’r Ganolfan Adrodd a Chymorth Genedlaethol ar gyfer Troseddau Casineb sy’n cael ei chynnal gan Gymorth i Ddioddefwyr (yn agor mewn tab newydd)
Llifogydd
Byddwch yn Ymwybodol
Os ydych yn byw lle mae afon yn gallu creu llifogydd fe allai eich eiddo fod mewn perygl gan lifogydd mewn tywydd garw. Os ydych yn byw ger glan y môr, mae bob amser y bosibl y gall cyfuniad o lanw uchel a thywydd garw fygwth eich eiddo. Hyd yn oed os ydych yn byw i mewn ar y tir, mae'r stormydd sydd wedi digwydd yn ddiweddar wedi dangos bod yr holl ddŵr y disgwylir iddi ei gludo yn llawer gormod i'r system ddraenio. Felly fe all llifogydd ddigwydd gyda dŵr ar y wyneb, yn llifo oddi ar berci ac ati ....
Beth ydyn ni'n ei wneud?
Bydd y Cyngor yn ceisio
- Cynnig cyngor ac arweiniad i breswylwyr, y gallai'r digwyddiad fod wedi effeithio arnyn nhw, ynghylch dulliau o liniaru'r perygl o lifogydd i'w heiddo.
- Bod â pheirianwyr a gweithwyr cynnal ar ddyletswydd i roi cymorth ar unwaith mewn mannau allweddol a sicrhau bod amddiffyniadau a systemau draenio yn cael eu harchwilio a'u cynnal a bod gwaith yn cael ei wneud y cyfle cyntaf
- Cynnal a chlirio rhwydweithiau ffyrdd y mae'r tywydd garw wedi effeithio arnyn nhw
- Os bydd angen, helpu i symud preswylwyr mas a darparu llety tros dro gyda chanolfannau gorffwys
- Ymateb i geisiadau am gymorth brys gan y cyhoedd ar sail blaenoriaethau ac ar yr adnoddau sydd ar gael hefyd, os yw gwneud hynny'n ddiogel.
- Gweithio gyda phartneriaid o nifer o asiantaethau er mwyn lleihau effaith y llifogydd cymaint ag y bo modd ar y cymunedau yn Sir Benfro a sicrhau bod y gwasanaethau allweddol yn parhau
Mewn argyfwng, bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu'r cyhoedd yn gyffredinol ac ni fydd yn gallu helpu nifer fawr o berchnogion cartrefi a allai weld bod bygythiad i'w heiddo. Gwelwch y cyngor ynglŷn â sut i baratoi'n well
Rhybuddion Llifogydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'r Swyddfa Dywydd i roi rhybuddion i bobl mewn perygl gan lifogydd.
Gallwch ffonio'r Llinell Llifogydd ar 0845 988 1188 unrhyw amser nos a dydd am rybuddion llifogydd fel y maen nhw'n digwydd a chyngor, yn cynnwys cofrestru ar gyfer y Gwasanaethau Rhybuddion Llifogydd.
Mae'r gwasanaeth, sydd am ddim, yn rhoi rhybuddion am lifogydd yn uniongyrchol i chi drwy'r ffôn, ffôn symudol, ffacs neu alwr. Fe gewch chi hefyd gyngor ymarferol ynglŷn â pharatoi ar gyfer llifogydd, a beth i'w wneud os bydd un yn digwydd.
Yn lle hynny, gallwch weld y rhybuddion llifogydd cyfredol sydd ar Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Mae modd gweld rhybuddion tywydd garw ar Swyddfa Dywydd (yn agor mewn tab newydd)
Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu rhybuddio preswylwyr am lifogydd dŵr wyneb ond gallwch weld a fyddai modd i'r math hwn o lifogydd ddigwydd trwy edrych ar ragolygon tywydd lleol.
Sut alla' i baratoi'n well?
Mae 1 eiddo o bob 6 yng Nghymru mewn perygl gan lifogydd. Gall llifogydd ddigwydd unrhyw le unrhyw amser. Gofalwch eich bod yn gwybod sut i fod yn barod a beth i'w wneud pan fydd llifogydd yn digwydd.
Y perchennog/tenant unigol sy'n gyfrifol am atal llifogydd a diogelu eiddo. Ni ddylai preswylwyr yn Sir Benfro ddibynnu ar y Cyngor i ymateb i fygythiad gan lifogydd i'w heiddo ond fe ddylen nhw fod â'u cynllun diogelu rhag llifogydd eu hunain (yn agor mewn tab newydd) yn barod fel y mae wedi ei nodi yng nghanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn ardaloedd sydd wedi'u dynodi eu bod mewn perygl gan lifogydd. Dyma ganllawiau cyffredinol:
Cyn i lifogydd ddigwydd
- Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion llifogydd, holwch pa rybuddion llifogydd sy'n weithredol a gwyliwch ragolygon y tywydd a'r rhybuddion
- Gwnewch gynllun llifogydd a gofalwch nad yw pethau o bwys yn cael eu cadw i lawr y staer
- Paratowch eich tŷ a'ch busnes ar gyfer llifogydd (yn agor mewn tab newydd). Os oes angen bagiau tywod arnoch, cysylltwch â gwerthwyr nwyddau adeiladu lleol ynglŷn â chyflenwadau o dywod a bagiau. Fe allwch chi hefyd ddod o hyd i gyflenwyr y bagiau diweddaraf nad ydyn nhw'n defnyddio tywod, wedi'u llunio ar gyfer llifogydd ar Gyfeiriadur Tudalennau Glas y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (yn agor mewn tab newydd). Cyfrifoldeb perchennog y tŷ yw diogelu eu heiddo.
- Cadwch ddraeniau a chwteri ar eich eiddo yn glir, heb rwystrau, dail ac ati.
- Cadwch olwg ar eich cymdogion a rhai agored i niwed yn eich cymuned
Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (yn agor mewn tab newydd)
Yn elusen genedlaethol sydd â'r nod o gynorthwyo a chynrychioli cymunedau ac unigolion sydd mewn perygl gan lifogydd
ffoniwch 01299 403055.
Astudiaethau Achos Cartrefi sy’n gallu Gwrthsefyll Llifogydd (yn agor mewn tab newydd)
Beth i'w wneud yn ystod llifogydd
Pan fydd llifogydd yn digwydd mae'n bwysig canolbwyntio ar eich diogelwch chi a'ch teulu.
- Diffodd eich trydan a nwy
- Gosod offer diogelu rhag llifogydd: giatiau llifogydd, bagiau tywod, topynnau toiled (lawr y staer yn unig)
- Symud celfi, anifeiliaid anwes a phethau pwysig i le diogel
- Troi'r radio lleol ymlaen
- Cysylltu â'r Cyngor i roi gwybod am lifogydd ar ffyrdd ac mewn eiddo
- Ffonio 999 os bydd angen cymorth brys arnoch chi
Os yw'r llifogydd wedi digwydd
- Cofiwch fod dŵr llifogydd yn beryglus ac y gall fod wedi ei heintio
- Cofiwch y gall llifogydd dŵr wyneb ddigwydd unrhyw le
- Ceisiwch beidio â theithio neu os oes rhaid gwneud, gwyliwch y newyddion traffig diweddaraf a chyflwr y ffyrdd cyn dechrau eich taith
- Dilynwch gyngor ar gyfer symud mas gan ymatebwyr argyfwng
Beth i'w wneud yn dilyn llifogydd
Dyma gyngor ynglŷn â sut i glirio eich cartref neu fusnes yn dilyn llifogydd a delio gyda hawliad yswiriant.
- Os cawsoch chi eich symud mas o'ch cartref, peidiwch â mynd yn ôl oni bai eu bod wedi dweud wrthych fod gwneud hynny'n ddiogel
- Pan fyddwch yn clirio wedi'r llifogydd, gwisgwch ddillad diogelwch diddos bob amser
- Cysylltwch â'ch yswiriant adeiladau a chynnwys neu eich landlord cyn gynted ag y bo modd
- Os nad oes yswiriant gyda chi, cysylltwch â'r Cyngor i gael manylion grantiau neu cysylltwch â PAVS i gael manylion elusennau a allai eich helpu chi
- Sicrhewch fod rhywun cymwys/peiriannydd yn bwrw golwg ar eich trydan a nwy cyn eu troi ymlaen eto
- Os ydych yn sychu eich eiddo'n naturiol, cadwch y drysau a'r ffenestri ar agor cymaint ag y bo modd. Os ydych yn defnyddio dadleithydd, caewch ddrysau a ffenestri allanol. Mae modd llogi dadleithyddion gyda busnesau llogi.
- Gallwch lanhau a diheintio eich eiddo gyda nwyddau gwaith tŷ arferol. Os ydych yn adeilad bwyd, cysylltwch â Thîm Diogelwch Bwyd yr Awdurdod Lleol am gyngor.
Sylwch os gwelwch yn dda mai cyfrifoldeb perchennog y cartref yw cael gwared â bagiau tywod. Dylid gwisgo menig rhag cyffwrdd â dŵr wedi'i heintio.
Awdurdod Llifogydd
Cyf 6218 Cwm Abergwaun: Adroddiad Ymchwiliad Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol
Gwacáu
Credir yn gyffredinol taw yn niffyg dim arall, y bydd adeilad yn cael ei wacáu; fodd bynnag mae hyn yn digwydd yn amlach nag y byddech yn ei feddwl. Os bydd nwy'n colli efallai y bydd rhaid i'r gwasanaethau argyfwng wacáu stryd gyfan.
Nid yw pob gwacâd yn fater hirdymor ac ambell waith byddwch yn gallu dychwelyd i'ch cartref ar ôl awr neu ddwy. Fodd bynnag, os ceir digwyddiad cemegol efallai na fydd modd byw yn eich tŷ ac felly byddai'n rhaid eich ailgartrefu er mwyn i'r gwaith dihalogi gael ei wneud.
Cofiwch ymbaratoi ar gyfer trefniadau gwacáu
- Trafodwch gyda'ch teulu beth y byddech yn ei wneud pe byddai'n rhaid gwacáu eich cartref
- Trefnwch fan cyfarfod ar gyfer eich teulu rhag ofn y cewch chi'ch gwahanu yn ystod argyfwng
- Dodwch becyn nwyddau at ei gilydd sy'n cynnwys pethau hanfodol e.e. moddion ar bresgripsiwn, nwyddau i'r baban (os yw'n berthnasol), offer ystafell ymolchi, rhifau ffôn, radio ac ati
- Dylech wybod sut i droi bant y cyflenwadau trydan, dŵr a nwy yn eich cartref wrth y prif gyflenwad a'r falfiau a chofiwch gael yr offer angenrheidiol wrth law
Os cewch eich cynghori i wacáu eich cartref dylech wneud hyn
- Ymateb i'r cyfarwyddiadau a gewch gan y gwasanaethau argyfwng. Byddant hwy'n dweud wrthych beth i'w wneud a lle y dylech fynd.
- Defnyddio pa gludiant bynnag fydd ar gael ichi
- Mynd i leoliad a enwir, cyflwyno'ch hun yno, lle cewch chi gyngor ychwanegol
- Cofiwch sicrhau bod gyda chi ddillad i'ch cadw'n dwym
- Cofiwch ymgasglu unrhyw fwyd arbennig i fabanod a'r moddion sy'n cael eu defnyddio
- Troi bant y cyflenwadau trydan, dŵr a nwy
- Cau a chloi ffenestri a drysau pan ydych yn gadael
- Dylech sicrhau bod gyda chi gludydd diogel neu dennyn ar gyfer unrhyw anifeiliaid anwes
Tywydd Mawr
Oeddech chi'n gwybod y gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am statws y bont drwy'r e-bost neu drwy decstio ‘bridge' i 80039?
I dderbyn e-bost, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:-
- Creu cyfrif ar-lein
- Mewngofnodwch i'ch cyfrif a dewis eicon 'Fy Nghyfrif'.
- Yna dewis, ‘Hysbysiadau o Gau'r Bont'
Sylwer: Os byddwch yn dewis anfon neges destun ‘pont' i 80039, byddwch yn talu pris arferol y rhwydwaith.
Yn Sir Benfro rydym wedi cael nifer o ddigwyddiadau/argyfyngau sydd y tu hwnt i reolaeth pobl, yn bennaf oherwydd tywydd garw. Ni allwn wneud unrhyw beth i atal tywydd garw ond gallwn ymbaratoi ato.
Ar brydiau fe allem wynebu'r pethau hyn
- Gwyntoedd cryfion a stormydd - difrod i adeiladau a choed, perygl i gerbydau ag ochrau uchel iddynt a thraffig arall, gwrthdrawiadau rhwng cerbydau, y cyfleustodau a'r ffonau'n pallu
- Eira trwm - heolydd a strydoedd yn gaead, siwrneiau'n cymryd yn hirach i'w cwpla, tarfu ar ddanfon gwasanaethau a chyflenwadau hanfodol, cerbydau gadawedig, gwrthdrawiadau rhwng cerbydau, y cyfleustodau a'r ffonau'n pallu
- Glaw trwm - llifogydd, cyflwr y tywydd ar gyfer gyrru, hyrddiau o drydan
- Niwl - siwrneiau'n cymryd yn hirach i'w cwpla, gwrthdrawiadau rhwng cerbydau
- Tymereddau isel, iâ - ffyrdd a phalmentydd peryglus, gwrthdrawiadau rhwng cerbydau, y cyfleustodau a'r ffonau'n pallu, rhagor o berygl i bobl sy'n agored i niwed
- Gwres mawr - lludded a thrawiad gwres, rhagor o berygl i bobl sy'n agored i niwed
Pan ceir cyfnodau o dywydd garw bydd Cyngor Sir Penfro yn gwneud popeth o fewn ei allu i wella'r sefyllfa. Er enghraifft, rhoi gwybodaeth a chyngor, graeanu a chlirio eira, ymateb i lifogydd, ymdrin ag adeiladau peryglus, agor canolfannau gorffwys o bosibl, parhau i gynnal gofal cartref, cau ysgolion os bydd rhaid, archwilio a chlirio draeniau a chwlferi, yn ogystal â pharhau i ddarparu, hyd y bo modd yn ymarferol, ei wasanaethau beunyddiol eraill.
Fodd bynnag, y rhagofalon a'r camau gweithredu y byddwn ni, yr unigolion, yn eu cymryd cyn ac yn ystod tywydd garw, a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar ba mor dda y byddwn ni'n ymdopi â hynny, neu ar ba mor ddrwg y mae e'n effeithio arnom, er enghraifft trwy:
- Cadw'r eiddo mewn cyflwr da, wedi eu hinswleiddio a'u lagio yn ddigonol
- Sicrhau nad oes dim, fel dail ac ati, yn tagu draeniau a chwteri
- Sicrhau bod gyda chi yswiriant digonol
- Mynd ati i weld a gwrando ar ragolygon a rhybuddion tywydd
- Cadw cyflenwad o rai nwyddau sylfaenol, gan gynnwys flachlamp ac ati
- Os oes modd, peidio â defnyddio ceir ac ati, pan mae cyflwr y ffyrdd yn hynod beryglus
- Bod yn ‘gymydog da' a chadw llygad ar bobl sy'n agored i niwed yn eich cymdogaeth
- Defnyddio ‘synnwyr cyffredin'
Llifogydd
Mae tri math o lifogydd yn effeithio ar Sir Benfro
- Llanwol - sy'n effeithio ar ardaloedd yr arfordir, aberoedd a hydoedd llanwol afonydd
- Afonol - lefelau afonydd yn codi i'r fath raddau eu bod yn uwch na phen cloddiau neu amddiffynfeydd
- Dŵr Arwyneb - glaw trwm ynghyd â chwlferi wedi eu tagu a draeniau gorlawn o bosibl
Er y gallwn ni ragweld llifogydd llanwol ac afonol, mae curlaw sydyn sy'n achosi llifogydd yn gallu effeithio ar y rhan fwyaf o eiddo.
Er mwyn gwybod beth yw'r sefyllfa bresennol ynghylch llifogydd yng Nghymru a Lloegr
- Dylech fwrw golwg ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn tab newydd) (sy'n cael ei diweddaru bob 15 munud, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos).
- Ffoniwch Cyfoeth Naturiol Cymr ar 0345 988 1188 Rhoi gwybod am Ffyrdd neu Lwybrau sydd Dan Ddŵr
Cofiwch ymbaratoi ar gyfer llifogydd
Mae gan y canllawiau canlynol bŵer o wybodaeth a chyngor ymarferol ynghylch beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd. Rydym am i chi fod yn barod ar gyfer llifogydd, gwybod sut i ddiogelu chi'ch hun a'ch eiddo, a chadw'n ddiogel os digwydd llifogydd
Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd wybodaeth ynghylch sut i ddiogelu eich eiddo rhag llifogydd a sut i lunio cynllun llifogydd.
Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Er mwyn rhoi gwybod am ffordd neu lwybr dan ddŵr (e.e. am fod draen wedi'i dagu) Ffoniwch eich Swyddfa Ardal Cynnal a Chadw Priffyrdd ar 01437 764551
Sylwer: pan ceir glaw trwm dros ben, yn ystod storm daranau er enghraifft, gall ffyrdd a llwybrau fod dan ddŵr am y tro. Fel arfer ni fydd rhaid rhoi gwybod am hyn.
Tywydd garw yn y gaeaf
Os cewch eich dala mewn storm o eira fe allai hynny beri perygl ichi. Fodd bynnag, trwy flaengynllunio gallwch chi ddiogelu chi'ch hun, eich car a'ch cartref/teulu rhag y peryglon lawer sy'n perthyn i'r gaeaf.
Gyrru yn y gaeaf
- Bob gaeaf bydd y Cyngor yn cynllunio pa ffyrdd fydd yn cael eu graeanu os byddwn yn disgwyl eira ac iâ
- Cyn cychwyn ar eich siwrnai, cofiwch weld a gwrando ar ragolygon y tywydd
- Gofynnwch y cwestiwn hwn - ‘A yw'r siwrnai hon yn angenrheidiol?', os nad yw, yna peidiwch â mentro mas. Os ydyw'n angenrheidiol, defnyddiwch rwydwaith ffyrdd y prif ffyrdd i gynllunio eich siwrnai
- Holwch er mwyn gweld a allwch ddefnyddio cludiant cyhoeddus
- Cofiwch ganiatáu rhagor o amser ar gyfer eich siwrnai
- Cliriwch y ffenestri cyn cychwyn ar eich siwrnai
- Cofiwch sicrhau bod gwrthrewydd addas wedi cael ei ddodi yn rheiddiadur eich cerbyd a bod hylif sy'n rhewi ar dymheredd isel wedi cael ei ddodi ym mhotel golchi'r sgrîn wynt
- Dylech sicrhau bod eich cerbyd yn gweithio'n iawn - golchi bob golau a chyfeirydd yn aml
- Pan mae hi'n oer cofiwch yrru gan bwyll ychwanegol a pheidiwch byth â chymryd yn ganiataol y bydd ffordd wedi cael ei graeanu.
- Gwrandewch ar eich gorsaf radio leol er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf un am deithio
- Wrth yrru mewn glaw, niwl neu eira cofiwch roi'ch prif oleuadau ymlaen ac yna'u gostwng
- Cofiwch gael digonedd o danwydd yn eich tanc bob amser
Dylech gadw pecyn nwyddau yn eich car, sy'n cynnwys
- Dillad ac esgidiau addas i'w gwisgo yn y gaeaf a blanced neu sach cysgu
- Ffôn symudol, radio, fflachlamp a batris ychwanegol
- Pâl a theclyn crafu sgrîn wynt
- Dŵr a byrbrydau
- Cadwyn neu raff i halio'r car
- Gwifrau cyswllt
Os cewch eich dala mewn storm yn y gaeaf mewn man diarffordd dylech wneud hyn
- Trowch oddi ar y ffordd fawr. Rhowch y goleuadau perygl ymlaen a dodwch faner cyfyngder i chwifio ar erial y car neu'r ffenestr
- Arhoswch yn eich cerbyd. Dylech ond gadael y car os oes adeiladau gerllaw y gwyddoch y gallwch chi gael lloches ynddynt. Mae eira sy'n lluwchio yn gallu rhoi camargraff ynghylch pellteroedd - fe allai adeilad edrych fel petai'n agosach nad ydyw mewn gwirionedd ac efallai bod yr adeilad yn rhy bell i gerdded ato mewn eira trwchus
- Rhowch y peiriant a'r gwresogydd ymlaen am oddeutu 10 munud bob awr er mwyn cadw'n dwym. Pan fydd y peiriant ar fynd, agorwch un o'r ffenestri dipyn bach er mwyn ichi beidio â chael gwenwyn carbon monocsid. Cliriwch yr eira o'r beipen ecsôst o dro i dro
- Symudwch o gwmpas er mwyn cadw gwres y corff yn gyson, ond peidiwch â'i gorwneud hi
- Dylai cyd-weithwyr wasgu at ei gilydd
- Cofiwch sicrhau bod rhywun yn y car yn aros ar ddi-hun er mwyn cadw llygaid ar agor am y timau achub
- Yfwch ddiodydd er mwyn ichi beidio â dysychu
- Peidiwch â gwastraffu batris
Cofiwch sicrhau bod eich cartref yn ddiogel ar gyfer y gaeaf
Dylech ymbaratoi i bara'n fyw yn eich cartref eich hun, heb gymorth o'r tu fas, am o leiaf tridiau. Os digwydd hyn bydd pecyn nwyddau argyfwng i'r cartref o gymorth mawr ichi. Os yw eich tŷ mewn man diarffordd dylech wneud hyn:
- Sicrhau bod gyda chi danwydd gwresogi digonol i'ch tŷ. Cofiwch wneud trefniadau i gael offer gwresogi amgen yn ogystal â thanwydd digonol ar ei gyfer rhag ofn y cewch chi doriad trydan
- Daliwch ati i awyru'r cartref pan ydych yn defnyddio gwresogyddion cerosin er mwyn peidio â chael mygdarthau gwenwynig. Cofiwch gadw'r offer diffodd tân wrth law a sicrhau bod pawb yn y tŷ yn gwybod sut i'w defnyddio
- Gwrandewch ar yr orsaf radio leol neu'r teledu er mwyn cael rhagolygon y tywydd a gwybodaeth argyfwng
- Cofiwch fwyta ac yfed digonedd o ddiodydd yn rheolaidd (ceisiwch beidio ag yfed alcohol a chaffein)
- Gwisgwch yn briodol. Mae sawl haen o ddillad ysgafn, llac yn well nag un haen drwchus. Dylai'r haen allanol fod yn wrth-ddŵr. Mae dyrnfolau yn fwy twym na menig. Dylech wisgo het, bob amser gan fod y rhan fwyaf o wres y corff yn cael ei golli trwy'r pen.
- Gan bwyll os ydych chi'n sylwi ar arwyddion ewinrhew: dim teimlad yn y traed a'r dwylo sydd a lliw gwyn neu lwydwyn arnynt. Os gwelwch chi'r symptomau ewch i gael cymorth meddygol ar unwaith
- Cadwch eich llygaid ar agor am arwyddion oerfel; methu stopio crynu, methu cofio pethau, dryswch, bratiogrwydd, lleferydd yn aneglur, syrthni a lludded i bob golwg. Os gwelwch chi'r symptomau hyn, symudwch y person i fan twym, tynnu unrhyw ddillad gwlyb oddi amdano/amdani, twymo'r corff o'r tu mewn yn gyntaf trwy roi iddynt ddiod boeth ddi-alcohol (os yw'r person yn ymwybodol). Ewch i mo'yn cymorth meddygol ar unwaith.
- Os oes gyda chi deulu a ffrindiau sy'n agored i niwed, fel yr henoed, cofiwch gysylltu â hwy/fynd i'w gweld yn rheolaidd
Damweiniau diwydiannol
Bwriad Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH) 2015 yw atal damweiniau mawr sy’n cynnwys sylweddau peryglus a chyfyngu ar ganlyniadau unrhyw rai sydd yn digwydd ar bobl a’r amgylchedd.
Mae Rheoliadau COMAH yn rhoi cyngor manwl ynghylch cwmpas y ddeddfwriaeth, a’r dyletswyddau ar weithredwyr sefydliadau o’r fath, y gwasanaethau brys a’r Awdurdodau Lleol. Nodwedd allweddol Rheoliadau COMAH yw bod Awdurdod Cymwys yn eu gorfodi, sef yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac Asiantaeth yr Amgylchedd.
Caiff sefydliadau COMAH eu graddio gan yr Awdurdod Cymwys fel naill ai haen uchaf neu haen isaf yn dibynnu ar feintiau a mathau’r sylweddau a gynhyrchant a/neu a gadwant.
Mae Rheoliadau COMAH 2015 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdod Lleol sydd â sefydliad haen uchaf yn ei ranbarth gweinyddol i baratoi cynllun argyfwng allanol yn manylu ar y mesurau i’w cymryd oddi allan i’r sefydliad os digwydd damwain fawr.
Yn ôl rheoliadau COMAH mae'n rhaid i Berchennog sefydliad haen uchaf lunio dau gynllun
- Cynllun Argyfwng ar safle sy'n cael ei baratoi gan y perchennog, er mwyn dweud yn union beth fydd yr ymateb i argyfwng a allai effeithio ar y bobl hynny sy'n gweithio ar y safle.
- Cynllun Argyfwng oddi ar safle, sy'n gorfod cael ei baratoi gan yr Awdurdod Lleol, sy'n dweud yn union beth fydd ymateb cydlynedig y partner-sefydliadau i argyfwng sy'n cael unrhyw effeithiau oddi ar safle.
Ar hyn o bryd mae gyda ni 5 safle haen uchaf yn Sir Benfro sef
- Puma - Aberdaugleddau
- Valero - Penfro
- Valero Pembrokeshire Oil Terminal - Waterston
- Dragon LNG - Waterston
- South Hook LNG - Herbranston
Mae gan bob un o'r safleoedd hyn gynlluniau ar safle ac oddi ar safle, ac fe roddir prawf ac ymarfer ar y cynlluniau hyn bob tair blynedd.
Cofrestr Risg Gymunedol
Yn amlwg mae pob un ohonom yn gobeithio na fydd argyfyngau byth yn digwydd i ni. Fodd bynnag, pe digwyddai un yma yn Sir Benfro rydym yn dymuno ymbaratoi ar gyfer hynny orau y gallwn.
Er mwyn ein cynorthwyo i benderfynu ar beth y dylem gydgyfeirio ein hymdrechion o ran cynllunio rhag argyfyngau mae'n bwysig inni ddal ati i bwyso a mesur y peryglon posibl i'n Sir.
Mae pwysigrwydd cynnal asesiadau risg yn cael ei bwysleisio gan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (CCA).
Yn ôl y CCA mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar ymatebwyr categori 1 (sy'n cynnwys yr heddlu, tân, ambiwlans, iechyd, yr Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau ac Awdurdodau Lleol) gynnal asesiadau risg a'u cadw mewn Cofrestr Risg Gymunedol (CCR).
Y risgiau yn y cyd-destun hwn yw'r pethau hynny a allai arwain at ganlyniadau difrifol i'r Sir. Os caiff rhywbeth ei ystyried yn fater risg uchel iawn nid yw hynny'n golygu nad yw e'n debygol iawn o ddigwydd. Mae e'n golygu fodd bynnag, oherwydd ei ganlyniadau posibl, y dylid rhoi blaenoriaeth uchel iawn iddo.
Y Gofrestr Risg Gymunedol yw cam cyntaf y broses cynllunio rhag argyfyngau a bydd yn ein cynorthwyo ni a'n partneriaid i sicrhau bod y cynlluniau a luniwn yn gymesur â'r risg ac y byddant yn y pen draw yn ein cynorthwyo ni i fod o gymorth i chi.
Cynlluniau a gweithdrefnau argyfwng
Fel Awdurdod, mae gofyn i ni baratoi cynlluniau a gweithdrefnau i helpu i ni ymateb yn effeithiol i ddigwyddiad neu argyfwng.
Rhaid i ni weithio hefyd gyda phartneriaid amlasiantaethol i baratoi a chynllunio ar gyfer ymateb i amrywiaeth o ddigwyddiadau ac adfer ar eu hôl, gan sicrhau ymateb cydgysylltiedig ac effeithiol.
Caiff cynlluniau Amlasiantaethol a Mewnol eu hadolygu, eu hymarfer a’u profi’n rheolaidd, er mwyn sicrhau bod staff yr Awdurdod Lleol yn ymwybodol o’u swyddogaethau, eu cyfrifoldebau a’u camau gweithredu os/pan fydd argyfwng yn digwydd.
Dilyniant Busnes
Yn ôl Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 mae'n ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol sefydlu trefniadau Rheoli Dilyniant Busnes a hybu dilyniant busnes i fusnesau, yn enwedig mentrau bach a chanolig, a sefydliadau gwirfoddol.
Proses yw Rheoli Dilyniant Busnes sy'n cynorthwyo i leihau'r peryglon sy'n perthyn i ddigwyddiad, trychineb, amhariad neu argyfwng. Mae'n golygu cynllunio er mwyn sicrhau y bydd sefydliad neu wasanaeth yn cael ei gynnal yn hollol ddidrafferth os bydd rhywbeth yn amharu arno.
Gallai hyn gynnwys un neu ragor o'r canlynol
- Colli adeilad neu gyfleuster o bwys e.e. tân, difrod gan storm
- Nifer fawr o staff yn absennol e.e. epidemig neu glefyd pandemig
- Tywydd garw e.e. eira, llifogydd
- Colli cyfleustodau e.e. trydan, nwy, dŵr, ffonau, TG (Technoleg Gwybodaeth)
- Digwyddiad diwydiannol difrifol e.e. tân mawr, cemegion yn cael eu gollwng
A wyddech chi hyn?
- Bydd rhywbeth difrifol yn digwydd sy'n amharu ar oddeutu 20% o fusnesau bob blwyddyn
- Yn ôl 58% o fusnesau'r DU fe wnaeth Medi'r 11eg amharu arnynt a chafwyd effaith ddifrifol ar un mewn wyth ohonynt
- Nid yw 80% o'r busnesau hyn a effeithiwyd gan ddigwyddiad difrifol yn ailagor nac yn cau o fewn 18 mis
- Mae 90% o'r busnesau hynny sy'n colli data o ganlyniad i drychineb, yn gorfod cau o fewn dwy flynedd
Pam y mae arnoch angen cynllun dilyniant?
Fe wyddom o brofiad bod y sefydliadau hynny sydd â threfniadau dilyniant busnes yn fwy tebygol o barhau i fasnachu a dod drwyddi'n gyflymach pe digwyddai argyfwng, na'r busnesau hynny sydd heb drefniadau o'r fath. Nid argyfyngau difrifol yw'r unig bethau sy'n amharu ar sefydliadau; gall amrywiaeth eang o faterion beunyddiol amharu ar sefydliad a golygu y bydd perygl iddo beidio â gweithredu'n ddidrafferth.
Bydd llunio cynllun dilyniant busnes yn eich cynorthwyo i reoli eich risgiau a sicrhau y gall eich sefydliad trwy gydol yr amser barhau i weithredu o leiaf yn ôl safon ofynnol a benderfynir ymlaen llaw. Bydd hyn yn caniatáu ichi barhau i ddarparu gwasanaeth yn ystod ac ar ôl unrhyw argyfwng.
‘Paratoi ar gyfer Argyfyngau (yn agor mewn tab newydd)', sydd â chyngor buddiol ynghylch dilyniant busnes. Diben y wefan yw rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd, sefydliadau a grwpiau gwirfoddol/cymunedol ynghylch beth yw'r peryglon a beth y dylid ei wneud os digwydd rhywbeth.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch neu os hoffech drafod unrhyw faterion penodol ynghylch dilyniant busnes, gallwch gysylltu â'n Tîm Dilyniant Busnes or neu'r Adran Cynllunio rhag Argyfyngau: 01437 775661
Cydnerthu Cymunedol
Beth yw Cydnerthu Cymunedol?
Cydnerthu cymunedol yw cymunedau ac unigolion sy'n manteisio ar adnoddau ac arbenigedd lleol er mwyn cynorthwyo eu hunain mewn argyfwng, mewn modd sy'n cydategu ymateb y gwasanaethau argyfwng.
Pam mae cydnerthu cymunedol yn bwysig?
Mae argyfyngau'n digwydd, ac os byddwch chi'n paratoi chi'ch hun a'ch teulu byddwch hi'n ei gwneud hi'n rhwyddach iddynt ddod dros effeithiau argyfwng.
Os bydd eich cymuned yn gwybod pa beryglon y gallai hi eu hwynebu a phwy yn eich cymuned sydd angen eich cymorth, yna efallai y bydd hi wedi ymbaratoi'n well er mwyn dod i ben ag argyfwng.
Bydd yr ymatebwyr i argyfwng lleol wastad yn gorfod rhoi trefn flaenoriaeth ar y bobl hynny sydd fwyaf angen cymorth yn ystod argyfwng, yn enwedig os yw eu bywyd mewn perygl. Yn ystod yr adegau hyn byddwch yn gorfod gwybod sut y gallwch gynorthwyo chi'ch hun a rhoi cymorth i'r bobl hynny o'ch amgylch.
Egwyddorion Cyfnerthu Cymunedol
- Mae cymunedau yn dewis eu hunain
- Mae angen i gymunedau weithredu er mwyn cynorthwyo'r Gwasanaethau Argyfwng
- Caiff ei wneud gan y bobl yn hytrach nag i'r bobl
- Mae gofyn i gymunedau ddefnyddio gwybodaeth leol a'r rhwydweithiau sy'n bodoli eisoes
- Mae'n rhaid i gymunedau roi sylw mawr i'r peryglon
Materion Cyfnerthu Cymunedol
- Gall cymunedau leihau i'r eithaf yr effaith a gaiff argyfwng ac, o ganlyniad, y difrod naill i bobl neu eiddo
- Gall cymunedau ddod dros argyfwng yn fwy clou
- Bydd gan y gymuned rwydweithiau cyfathrebu a strwythur iddynt
- Mae aelodau cymuned yn tueddu i fod â'r "gallu i weithredu'n hyderus" a "bwrw iddi"
- Yn aml bydd aelodau'r gymuned yn gwybod pa gamau gweithredu i'w cymryd er mwyn cynorthwyo i leihau effaith problem benodol
- Byddant yn teimlo bod y camau a gymerwyd yn benodol i'w hanghenion ac nad oes neb o'r tu fas yn eu gorfodi hwy i'w cymryd
- Bydd y cymunedau'n tueddu i barhau i gydweithio pan fydd yr argyfwng ar ben, trwy wneud gwelliannau neu barhau i gynnal y cyfleusterau lleol ac ati
- Bydd y cymunedau'n tueddu i ddisgwyl iddynt hwy eu hunain gael yr atebion a datrys problemau, yn hytrach nag aros a dibynnu ar asiantaethau allanol
- Mae pobl yn y gymuned yn gallu deall yn well beth yw swyddogaethau'r asiantaethau allanol mewn argyfwng ac felly gallant gyfleu beth yw eu hanghenion a'u blaenoriaethau
Nodweddion Cymunedau Cyfnerthol
Fel arfer bydd Cymunedau Cyfnerthol yn meddu ar y nodweddion hyn:
- Byddant yn ymwybodol o beryglon a phwy yw'r bobl sy'n agored i niwed
- Bydd gyda hwy hyrwyddwr cymunedol
- Bydd gyda hwy grŵp argyfwng cymunedol sy'n gallu dylanwadu ar y broses benderfynu er lles y gymuned
- Byddant yn ymdrechu i gydweithio
- Bydd gyda hwy gynllun argyfwng cymunedol
- Mae pobl yn y gymuned yn fodlon defnyddio sgiliau cyffredin mewn amgylchiadau anghyffredin
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Uned Cynllunio rhag Argyfyngau ar 01437 775661 neu emergency.planning.unit@pembrokeshire.gov.uk
UK Resilience (yn agor mewn tab newydd)
Cymdeithas Cynllunio rhag Argyfyngau (yn agor mewn tab newydd)
Beth ddylid ei wneud mewn argyfwng
Ynghyd ag amryw asiantaethau ymatebol, mae Cyngor Sir Penfro wedi cynhyrchu cofrestr risgiau cymunedol i helpu i chi ddeall y math o argyfyngau a allai effeithio arnoch a’ch arwain wrth baratoi ar gyfer ac ymateb i ddigwyddiad / argyfwng.
Yn ogystal â hyn efallai y byddai'n beth da ichi ysgrifennu eich cynllun argyfwng eich hunan. Bydd y gwasanaethau argyfwng a'r Cyngor yn paratoi cynlluniau er mwyn paratoi ar gyfer argyfyngau posibl. Gallwch wneud yr un peth ar gyfer eich cartref chi
Sut i ysgrifennu cynllun argyfwng
- I ddechrau dylech edrych o'ch cwmpas er mwyn gweld ac ystyried y digwyddiadau posibl a allai effeithio arnoch chi. A oes perygl ichi ddioddef llifogydd? Ydych chi'n byw ar bwys gwaith cemegau neu niwclear? Cofiwch y gallai tai fynd ar dân hefyd
- Dylech drafod â phawb yn eich cartref/aelwyd sut y byddwch yn ymateb i ddigwyddiadau posibl
- Dylech gynllunio sut y byddech yn cadw mewn cysylltiad os digwydd ichi gael eich gwahanu. Enwch ddau fan cyfarfod; dylai'r cyntaf fod ar bwys eich cartref a dylai'r ail fod ymaith o'ch cymdogaeth rhag ofn na allwch chi fynd yn ôl i'ch cartref. Cytunwch ar ffrind neu berthynas, sy'n byw y tu fas i'r ardal, y gallwch chi ei alw er mwyn dweud eich bod yn ddiogel
- Dodwch restr o'r rhifau argyfwng wrth bob ffôn sydd yn y tŷ. Dysgwch y plant sut a phryd i ffonio rhif 999
- Dodwch becyn at ei gilydd, sy'n cynnwys manylion y cwmnïau yswiriant, banciau, cofrestriadau'r car ac yn y blaen. Gofynnwch i ffrind neu berthynas gadw copi ar eich cyfer
- Os ydych chi'n berson anabl cofiwch gadw cyflenwadau ychwanegol o bethau y byddai arnoch eu hangen fel batris ychwanegol i'r gadair olwyn, ocsigen, cathetrau, moddion, bwyd ar gyfer cŵn tywys neu gŵn clywed ac ati
- Dylech wybod pwy yn eich cymdogaeth neu'ch adeilad sy'n anabl er mwyn ichi allu eu cynorthwyo yn ystod argyfwng
Paratoi pecyn argyfwng
Yn ystod argyfwng efallai na fydd y gwasanaethau argyfwng sy'n gofalu am ardal helaeth yn gallu dod atoch ar unwaith. Efallai y bydd rhaid ichi ofalu amdanoch eich hun am beth amser. Bydd ymbaratoi at hynny o gymorth ichi. Os bydd gyda chi gyflenwad o fwyd a chyflenwadau argyfwng a'ch bod wedi ymbaratoi i ddod i ben â'r sefyllfa, os bydd y trydan, nwy ac/neu'r dŵr wedi pallu, fe allai hynny fod yn hanfodol bwysig ichi
Mewn argyfwng
Cofiwch ddilyn y cyngor a gewch gan y gwasanaethau argyfwng. Efallai y dywedir wrthych am wneud hyn:
- Aros yn eich cartref a chau'r drysau, ffenestri, gwyntyllau'r gegin, ac ati
- Gwrando ar y gorsafoedd radio/cyfryngau lleol er mwyn cael gwybodaeth ychwanegol
- Ffonio cyn lleied ag y bo modd er mwyn ichi beidio â gorlwytho'r system