Cynllunio er mwyn Gwella

Beth ydym ni'n ei olygu wrth welliant?

Gall gwelliant, yn y cyd-destun yr ydym yn gweithio ynddo, olygu llawer o bethau.  Gall olygu darparu gwell gwasanaethau neu wella fel sefydliad.  Un o'r prif bethau sy'n ein symbylu ni yw sicrhau gwell canlyniadau i'n cwsmeriaid a'r gymuned.  Fodd bynnag bydd gwella awdurdodau lleol yn ymwneud, yn fwy a mwy, â chynnal y gwasanaethau a ddarperir eisoes mewn sefyllfa lle mae llai a llai o adnoddau ariannol ar gael.  Bydd rhaid inni wneud dewisiadau anodd ynghylch beth y byddwn yn ceisio ei wella a beth fydd y ffordd orau o sicrhau gwelliant yn y dyfodol.  

ID: 596, adolygwyd 07/09/2023