Cynllunio er mwyn Gwella
Strategaeth Gorfforaethol 2025-30
Mae ein Strategaeth Gorfforaethol yn nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni ein prif flaenoriaethau yn y tymor byr a'r tymor canolig. Mae'n strategaeth bum mlynedd, y cytunwyd arni gan y cyngor, a chaiff ei hadolygu a'i hadnewyddu o bryd i'w gilydd er mwyn ystyried materion sy'n dod i'r amlwg ac er mwyn ymateb i heriau wrth iddynt godi.
Mae’r strategaeth yn cyd-fynd â rhaglen weinyddu’r Cabinet (a gymeradwywyd ym mis Ionawr 2023), sy’n nodi’r nodau a’r dyheadau gwleidyddol ar gyfer y tymor gweinyddol.
Mae’r Strategaeth Gorfforaethol yn elfen hollbwysig o’n ‘llinyn aur’ (gweler tudalen 9 am ragor o fanylion). Mae’n darparu’r fframwaith trosfwaol ar gyfer datblygu cynlluniau gwasanaeth tymor canolig manwl, cynlluniau uned (pan fônt yn briodol) a chynlluniau perfformiad a llesiant unigol yn y pen draw. Wrth wneud hynny, mae'r cyngor yn sefydlu cysylltiad clir rhwng blaenoriaethau strategol sefydliadol a chyflawni, ac mae'n cefnogi ac yn gwella dealltwriaeth o sut mae pawb sy'n gweithio i'r cyngor yn gwneud cyfraniad hanfodol i waith y sefydliad yn ei gyfanrwydd.
O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’n ofynnol i’r cyngor gynhyrchu amcanion llesiant i ddangos y cyfraniad y bydd y cyngor yn ei wneud tuag at y nodau llesiant cenedlaethol i Gymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Ddeddf.
Ein Strategaeth Gorfforaethol yw’r cyfrwng a ddefnyddir gan y cyngor i osod a mynegi ein hamcanion llesiant. Mae’r rhain yn bwysig, yn yr ystyr eu bod yn darparu fframwaith ar gyfer yr holl waith a wnawn, ac yn gosod y cyfeiriad ar gyfer sut y mae’r cyngor yn bwriadu gwneud gwahaniaeth o ran gwella llesiant pobl a chymunedau Sir Benfro.
Beth ydym ni'n ei olygu wrth welliant?
Gall gwelliant, yn y cyd-destun yr ydym yn gweithio ynddo, olygu llawer o bethau. Gall olygu darparu gwell gwasanaethau neu wella fel sefydliad. Un o'r prif bethau sy'n ein symbylu ni yw sicrhau gwell canlyniadau i'n cwsmeriaid a'r gymuned. Fodd bynnag bydd gwella awdurdodau lleol yn ymwneud, yn fwy a mwy, â chynnal y gwasanaethau a ddarperir eisoes mewn sefyllfa lle mae llai a llai o adnoddau ariannol ar gael. Bydd rhaid inni wneud dewisiadau anodd ynghylch beth y byddwn yn ceisio ei wella a beth fydd y ffordd orau o sicrhau gwelliant yn y dyfodol.
Pryd mae cynllunio gwelliant yn dod i ben?
Nid yw'n dod i ben. Proses barhaol yw cynllunio gwelliant; mae'n bwysig ein bod byth a hefyd yn ailystyried a diwygio ein cynlluniau yn sgil yr amgylchiadau newidiol yr ydym yn gweithio ynddynt. Byddwn hefyd yn gwneud newidiadau parhaol yn y modd yr ydym yn mynd ati i gynllunio gwelliant; bydd gwahanol sefydliadau'n defnyddio gwahanol ddulliau ymdrin a bob cyfle posibl byddwn yn ceisio dysgu trwy fanteisio ar y dulliau ymdrin y mae awdurdodau lleol eraill wedi eu defnyddio.