Cynllunio er mwyn Gwella

Strategaeth Gorfforaethol 2025-30

Mae ein Strategaeth Gorfforaethol yn nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni ein prif flaenoriaethau yn y tymor byr a'r tymor canolig.  Mae'n strategaeth bum mlynedd, y cytunwyd arni gan y cyngor, a chaiff ei hadolygu a'i hadnewyddu o bryd i'w gilydd er mwyn ystyried materion sy'n dod i'r amlwg ac er mwyn ymateb i heriau wrth iddynt godi. 

Mae’r strategaeth yn cyd-fynd â rhaglen weinyddu’r Cabinet (a gymeradwywyd ym mis Ionawr 2023), sy’n nodi’r nodau a’r dyheadau gwleidyddol ar gyfer y tymor gweinyddol.

Mae’r Strategaeth Gorfforaethol yn elfen hollbwysig o’n ‘llinyn aur’ (gweler tudalen 9 am ragor o fanylion).  Mae’n darparu’r fframwaith trosfwaol ar gyfer datblygu cynlluniau gwasanaeth tymor canolig manwl, cynlluniau uned (pan fônt yn briodol) a chynlluniau perfformiad a llesiant unigol yn y pen draw. Wrth wneud hynny, mae'r cyngor yn sefydlu cysylltiad clir rhwng blaenoriaethau strategol sefydliadol a chyflawni, ac mae'n cefnogi ac yn gwella dealltwriaeth o sut mae pawb sy'n gweithio i'r cyngor yn gwneud cyfraniad hanfodol i waith y sefydliad yn ei gyfanrwydd.

O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’n ofynnol i’r cyngor gynhyrchu amcanion llesiant i ddangos y cyfraniad y bydd y cyngor yn ei wneud tuag at y nodau llesiant cenedlaethol i Gymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Ddeddf. 

Ein Strategaeth Gorfforaethol yw’r cyfrwng a ddefnyddir gan y cyngor i osod a mynegi ein hamcanion llesiant. Mae’r rhain yn bwysig, yn yr ystyr eu bod yn darparu fframwaith ar gyfer yr holl waith a wnawn, ac yn gosod y cyfeiriad ar gyfer sut y mae’r cyngor yn bwriadu gwneud gwahaniaeth o ran gwella llesiant pobl a chymunedau Sir Benfro.

ID: 12903, adolygwyd 01/04/2025