Cynllunio er mwyn Gwella

Sut gwyddom ni a ydym ni'n gwella ai peidio?

Er mwyn penderfynu a ydym yn sicrhau gwelliant gwirioneddol ai peidio, byddwn yn dibynnu ar ‘sgorgerdyn cytbwys' mewn perthynas â mesurau perfformiad.  Mae'r sgorgerdyn hwn yn swnio'n gymhleth ond yn y bôn casgliad ydyw o wahanol fathau o gamau pwyso a mesur, y mae pob un ohonynt yn ymwneud ag un neu ragor o'n hamcanion ar gyfer gwella.  Bydd rhai o'r mesurau a ddefnyddir gennym yn cael eu pennu'n genedlaethol - mae'n rhaid inni roi adroddiad am y dangosyddion perfformiad statudol - caiff y rhai eraill eu pennu'n lleol.  Fe allai'r mesurau a ddefnyddir gennym ymwneud â chost y camau gweithredu penodol, eu hansawdd (pa mor dda yr ydym yn gwneud rhywbeth neu, mewn rhai achosion, faint o rywbeth y byddwn yn ei wneud) a'r effaith a gaiff camau gweithredu penodol ar ein cwsmeriaid ac ar y gymuned.

Rydym yn rhoi sylw penodol i'r math olaf hwn o fesur. Er ein bod yn pennu targedau mewn rhai meysydd, mae cadarnhau a ydym wedi sicrhau gwelliannau, yn wirioneddol, ar gyfer ein cwsmeriaid yn fater llawer pwysicach na phwyso a mesur safon y gwasanaeth yn rhannol.

Caiff proses coladu'r wybodaeth hon ei chytuno gan uwch reolwyr y sefydliad.  Yna bydd data a thystiolaeth yn cael eu hymgorffori mewn system rheoli perfformiad ac yn cael eu monitro'n barhaol gan y rheolwyr a'r cyfarwyddwyr.  Mae'r system rheoli perfformiad a ddefnyddir gennym yn caniatáu inni addasu'n bwrpasol yr wybodaeth a adolygir, ar gyfer gwahanol haenau'r maes rheoli.  Mae pob un o'r staff yn gyfrifol am wella perfformiad, ond mae gofyn i'n uwch reolwyr allu adolygu'r cynnydd a wnaed yn yr awdurdod drwyddo draw.

Adolygiad Corfforaethol gan Gymheiriaid Chwefror 2020

Gwnaethom ymgymryd ag Adolygiad Corfforaethol gan Gymheiriaid er mwyn llywio’r gwaith o wella’r Cyngor yn y dyfodol.

Arweiniwyd y tîm adolygu gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol. Treuliodd y tîm hwn o swyddogion cymheiriaid a chynghorwyr, wythnos gyda’r Cyngor ganol mis Chwefror 2020 gan gyfweld ag ystod eang o gynghorwyr, gweithwyr a chydweithwyr o sefydliadau eraill.

Mae adroddiad y tîm (gweler isod) yn cynnig adolygiad adeiladol ac yn rhannu dysgu ar sut i wella’r ffordd y caiff y Cyngor ei redeg.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynhyrchu cynllun gweithredu yn seiliedig ar argymhellion yr adroddiad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Adolygiad Corfforaethol gan Gymheiriaid, cysylltwch â: Dan Shaw, Rheolwr Cynllunio Corfforaethol, 01437 775857 dan.shaw@pembrokeshire.gov.uk

ID: 597, adolygwyd 07/09/2023