Cynnal a Chadw Ffyrdd
Cynnal a Chadw Ffyrdd
Gallwch ddisgwyl:
- i bob ffordd gerbyd a llwybr troed gael eu harchwilio yn rheolaidd i chwilio am ddiffygion (fel yn y tabl isod);
- bydd diffygion brys, fel cloriau tyllau caead coll, yn cael eu gwneud yn ddiogel o fewn 4 awr;
- bydd diffygion eraill yn cael eu hunioni yn unol ag adnoddau ac yn ôl blaenoriaeth;
- archwiliadau diogelwch i gael eu cynnal fel yn y tablau isod
Ffyrdd cerbyd
Harchwilio yn rheolaidd i chwilio am ddiffygion
Ffyrdd cerbyd |
mis |
---|---|
Dosbarth A | 6 mis |
Dosbarth B | 6 mis |
Ffyrdd llai | 6 mis |
Ystadau (heb ffyrdd drwyddynt) | 12 mis |
Llwybrau troed
Harchwilio yn rheolaidd i chwilio am ddiffygion
Llwybrau troed |
mis |
Prif ardal siopa | 3 mis |
Trefol prysur | 3 mis |
Trefol arall | 6 mis |
Ystadau | 12 mis |
- Bydd ochrau ffyrdd y tu allan i ardaloedd trefol yn cael eu torri unwaith y flwyddyn, ym mis Gorffennaf/Awst. Cyn ac ar ôl yr amser hwn byddwn yn gwneud toriadau ychwanegol am resymau diogelwch yn ôl yr angen.
- Bydd ysgubo brys yn cael ei wneud ar ôl damweiniau, stormydd ac yn ystod cwymp dail yr Hydref yn unig;
- Bydd systemau draenio’r priffyrdd yn cael eu cynnal i sicrhau bod y dŵr yn cael ei gludo’n effeithiol o wynebau’r priffyrdd;
- Bydd cafnau a phibelli cysylltiedig yn cael eu gwacáu a’u golchi unwaith y flwyddyn. Bydd ffosydd yn cael eu clirio fel bo angen. Bydd llifogydd ar y priffyrdd yn cael eu lleddfu cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl, a blaenoriaeth yn dibynnu ar ddifrifoldeb a pherygl arfaethedig i eiddo;
- Bydd arwyddion a marciau ffyrdd newydd yn cael eu gosod a’r rhai presennol yn cael eu glanhau fel bo angen, a blaenoriaeth yn dibynnu ar leoliad a math (p’un ai’n statudol, yn rhoi gwybodaeth neu’n cyfeirio);
- Bydd gosod halen o flaen llaw ar ffyrdd sydd â blaenoriaeth yn cael ei wneud pan fydd rhew, iâ neu eira yn cael eu rhagweld, ynghyd â gosod halen ar ôl hynny neu glirio ffyrdd yr effeithir arnynt fel bo angen gan ddibynnu ar ddifrifoldeb yr amgylchiadau;
- Bydd gosod halen o flaen llaw ar Briffyrdd yn cael ei gwblhau o fewn 2 awr a Ffyrdd Sirol o fewn 3 awr o’r dechrau. Mae ymateb i alwad Frys yn un awr cyn dechrau gosod halen.
A wyddech chi?
- Ein prif swyddogaeth yw cynnal a chadw isadeiledd y Priffyrdd Sirol fel ei fod yn gadarn ac yn darparu llwybr diogel ar gyfer ei holl ddefnyddwyr.
- Rydym yn gyfrifol am y 2,431 cilomedr o Ffyrdd Sirol, y mae 495 km yn drefol a 1956 km yn wledig. Mae yna hefyd 120 km o briffyrdd yn Sir Benfro, ac mae’r rhain yn cael eu cynnal gan Asiantaeth Priffyrdd De Cymru (SWTRA) ac Asiantaeth Priffyrdd Canolbarth Cymru (MWTRA) ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.
- Pe bai’r holl ffyrdd sirol yn cael eu gosod ben wrth ben byddent yn ymestyn o Hwlffordd i St Petersburg yn Rwsia.
- Mae dros 4000 tunnell o halen yn cael ei storio yn y sir ar gyfer ei ddefnyddio ar ffyrdd a phalmentydd yn ystod y tywydd oer.
- Mae system swyddog wrth gefn yn gweithredu tu allan i oriau rhwng canol mis Hydref a chanol Ebrill i sicrhau ymateb cyflym i newidiadau yn y rhagolygon.
Sut gallwch chi ein helpu ni
P’un ai ydych chi am roi galwad neu ysgrifennu atom, byddwch yn benodol ynghylch y diffyg neu broblem ac, os yw’n briodol, ei leoliad. Mae braslun yn ddefnyddiol a gall arbed amser i staff a galluogi i’r broblem gael ei chydnabod yn gyflymach. Rhowch wybod am unrhyw beryglon i gerddwyr ar lwybrau troed fel cloriau sydd wedi torri neu sydd ar goll, neu rwystrau. Rhowch wybod am dyfiant ar ymylon sy’n amharu ar welededd.
Hefyd, rhowch wybod am unrhyw broblemau o ganlyniad i ddŵr neu dyllau ar y ffordd.
 phwy dylwn i gysylltu?
Cynnal a Chadw Priffyrdd
Ffôn: 01437 764551
ID: 194, adolygwyd 22/09/2023