Cynnal a Chadw Ffyrdd

Cynllunio rhag Argyfyngau

Beth yw Cynllunio rhag Argyfyngau?

Mae damweiniau dynol a naturiol yn digwydd o dro i dro, a gallant ddigwydd ar raddfa fechan neu fawr.  Fe allant gael eu hachosi gan neu gallant gynnwys tywydd garw, afiechydon heintus cyffredin i laweroedd o bobl neu anifeiliaid, argyfwng trafnidiaeth, digwyddiad llygredd, llifogydd ar yr arfordir, digwyddiadau sy'n tarfu ar y gwasanaethau hanfodol neu ymosodiad gan derfysgwyr.

Nod yr Uned Cynllunio rhag Argyfyngau yw pwyso a mesur y bygythiadau a'r peryglon i Sir Benfro a gwneud cynlluniau i ymateb ac ymadfer, pe ceid digwyddiad.  Yr amcan yn y pen draw yw lleihau hyd yr eithaf effaith y trychineb ar fywydau beunyddiol y gymuned, yn enwedig felly'r bobl sydd fwyaf agored i niwed a'r amgylchedd, a chynorthwyo pawb a phopeth i ddychwelyd i'w cyflwr arferol.

Er mwyn paratoi ar gyfer argyfyngau bydd yr Uned Cynllunio rhag Argyfyngau yn gwneud hyn:

  • Cynnal asesiadau risg â'r asiantaethau eraill sy'n ymateb
  • Sefydlu cynlluniau a gweithdrefnau er mwyn galluogi Cyngor Sir Penfro i ymateb, mewn modd mor effeithiol ag y bo modd, i argyfwng pe byddai un yn digwydd
  • Sicrhau bod ein cynlluniau a'n gweithdrefnau argyfwng yn cydweddu â'r cynlluniau hynny o eiddo'r holl asiantaethau ymateb eraill, fel y gwasanaethau argyfwng, ysbytai, cwmnïau cyfleustodau, asiantaethau gwirfoddol a'r lluoedd arfog
  • Rhoi hyfforddiant ac ymarferion i'r ymatebwyr ynghylch y cynlluniau a'r gweithdrefnau
  • Cynnal y Gofrestr Risg Gymunedol
  • Cynorthwyo i wneud trefniadau ar gyfer rhybuddio a hysbysu'r cyhoedd ynghylch argyfyngau
  • Cynorthwyo i hybu dilyniant busnesau ymysg y busnesau lleol
  • Cynorthwyo'r Cyngor i wneud trefniadau dilyniant busnes
  • Cyfrannu at a gweithio mewn cyswllt â Fforwm Cydnerthu Lleol Dyfed Powys

Wrth ymateb i argyfyngau bydd Cyngor Sir Penfro'n gwneud hyn:

  • Cynorthwyo'r gwasanaethau argyfwng
  • Rhoi gofal i'r gymuned leol a'r gymuned ehangach
  • Rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd
  • Defnyddio'r adnoddau sydd ar gael er mwyn lleihau effeithiau'r digwyddiad
  • Cydlynu'r modd y bydd yr asiantaethau gwirfoddol a'r asiantaethau cymorth eraill yn ymateb i argyfyngau
  • Cymryd yr awenau pan fydd y gwaith ymadfer yn mynd rhagddo mewn argyfwng

Pwy yw pwy a sut i gysylltu â ni

Richard Brown
Pennaeth yr Amgylchedd a'r Argyfyngau Sifil Posibl

Steve Jones
Uwch Swyddog Cynllunio rhag Argyfyngau

Pauline Louchart
Swyddog Cynllunio rhag Argyfyngau

Uned Cynllunio rhag Argyfyngau
Cyngor Sir Penfro
Uned 23 Parc Busnes Thornton
Aberdaugleddau
Sir Benfro
SA73 2RR

Emergency.planning.unit@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn 01437 775661
Ffacs 01437 775704

ID: 172, adolygwyd 25/03/2022