i bob ffordd gerbyd a llwybr troed gael eu harchwilio yn rheolaidd i chwilio am ddiffygion (fel yn y tabl isod);
bydd diffygion brys, fel cloriau tyllau caead coll, yn cael eu gwneud yn ddiogel o fewn 4 awr;
bydd diffygion eraill yn cael eu hunioni yn unol ag adnoddau ac yn ôl blaenoriaeth;
archwiliadau diogelwch i gael eu cynnal fel yn y tablau isod:
FFYRDD CERBYD
Dosbarth A
6 mis
Dosbarth B
6 mis
Ffyrdd llai
6 mis
Ystadau (heb ffyrdd drwyddynt)
12 mis
LLWYBRAU TROED
Prif ardal siopa
3 mis
Trefol prysur
3 mis
Trefol arall
6 mis
Ystadau
12 mis
Bydd ochrau ffyrdd y tu allan i ardaloedd trefol yn cael eu torri unwaith y flwyddyn, ym mis Gorffennaf/Awst. Cyn ac ar ôl yr amser hwn byddwn yn gwneud toriadau ychwanegol am resymau diogelwch yn ôl yr angen.
Bydd ysgubo brys yn cael ei wneud ar ôl damweiniau, stormydd ac yn ystod cwymp dail yr Hydref yn unig;
Bydd systemau draenio’r priffyrdd yn cael eu cynnal i sicrhau bod y dŵr yn cael ei gludo’n effeithiol o wynebau’r priffyrdd;
Bydd cafnau a phibelli cysylltiedig yn cael eu gwacáu a’u golchi unwaith y flwyddyn. Bydd ffosydd yn cael eu clirio fel bo angen. Bydd llifogydd ar y priffyrdd yn cael eu lleddfu cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl, a blaenoriaeth yn dibynnu ar ddifrifoldeb a pherygl arfaethedig i eiddo;
Bydd arwyddion a marciau ffyrdd newydd yn cael eu gosod a’r rhai presennol yn cael eu glanhau fel bo angen, a blaenoriaeth yn dibynnu ar leoliad a math (p’un ai’n statudol, yn rhoi gwybodaeth neu’n cyfeirio);
Bydd gosod halen o flaen llaw ar ffyrdd sydd â blaenoriaeth yn cael ei wneud pan fydd rhew, iâ neu eira yn cael eu rhagweld, ynghyd â gosod halen ar ôl hynny neu glirio ffyrdd yr effeithir arnynt fel bo angen gan ddibynnu ar ddifrifoldeb yr amgylchiadau;
Bydd gosod halen o flaen llaw ar Briffyrdd yn cael ei gwblhau o fewn 2 awr a Ffyrdd Sirol o fewn 3 awr o’r dechrau. Mae ymateb i alwad Frys yn un awr cyn dechrau gosod halen.