Cynnal a Chadw Ffyrdd

Goleuadau Stryd - Atgyweirio

I roi gwybod am olau stryd sydd wedi torri Fy Nghyfrif.  

Os bydd rhaid ichi ffonio er mwyn rhoi gwybod am y diffyg, byddwch cystal â ffonio 01437 764551 a rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallwch am leoliad y golau stryd.

Mae gan bob uned golau stryd ei rhif adnabod ei hunan, ac mae hyn yn cynnwys rhifau du ar gefndir gwyn, 3 neu 4 rhif ar wastad a 3 neu 4 rhif yn unionsyth fel hyn.

Trwy ddefnyddio'r Rhif Adnabod hwn gallwn ni ddweud yn union lle mae'r golau stryd, a bwrw golwg ar holl hanes yr uned ddiffygiol.

Bydd y rhan fwyaf o alwadau ffôn a gawn yn ymwneud â goleuadau stryd, fodd bynnag mae gan bob un o'r arwyddion a'r bolardiau yr un math o Rif Adnabod.

Os yw'r Rhif Adnabod wedi cael ei dynnu bant neu os yw'r rhif wedi mynd yn rhy aneglur i'w ddarllen, gyda threigl amser, bydd yn rhaid inni gael cymaint o wybodaeth ag y bo modd er mwyn inni allu lleoli'r uned golau stryd ddiffygiol, er enghraifft

  • cyfeiriad y tŷ agosaf at yr uned ddiffygiol
  • cod post
  • rhif ffôn y person sy'n ffonio
  • os yw'r uned ar gornel y stryd, bydd angen inni gael gwybod beth yw enw'r 2 stryd ac yn y blaen.

Rhoddir trefn flaenoriaeth ar y galwadau, fel hyn:

  • Blaenoriaeth 1 - bydd galwadau Blaenoriaeth 1 yn cael eu hystyried yn adran wedi diffodd (stryd gyfan), unrhyw oleuadau traffig neu groesfannau ‘pelican', colofnau goleuadau stryd sy'n ansad, neu unrhyw golofnau goleuadau stryd sydd wedi cael eu bwrw i lawr. Byddwn yn rhoi sylw, ar yr un diwrnod, i ddiffygion Blaenoriaeth 1.
  • Blaenoriaeth 3 - dyma oleuadau stryd unigol sydd wedi diffodd. Byddwn yn rhoi dyddiad targed o 7 diwrnod gwaith ynghylch diffygion Blaenoriaeth 3.

Cwtogi Oriau'r Goleuadau Stryd

Mae Cyngor Sir Penfro yn cwtogi oriau'r goleuadau stryd, mewn ymdrech i geisio lleihau allyriadau carbon ac arbed arian.

Byddwn yn troi bant oddeutu 14,000 o oleuadau stryd rhwng hanner nos a 5.30 y bore.

Ni fydd yr un o'r 16,250 golau stryd yn y Sir yn cael eu troi bant yn barhaol, ac oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch ni fydd y camau uchod yn cynnwys ardaloedd lle mae llawer o fynd a dod, gyda'r nos, ymysg pobl sy'n cerdded o amgylch (fel canolau trefi), na llwybrau traffig prysur chwaith.

Dodwyd band melyn adlewyrchol ar y goleuadau stryd a fydd yn goleuo'r strydoedd am ran o'r noson.

Am ragor o wybodaeth mae croeso ichi ffonio 01437 764551

 

ID: 215, adolygwyd 22/09/2022