Cynnal a Chadw Ffyrdd

Gyrru yn y Gaeaf

Cadw'n ddiogel wrth yrru ar yr iâ a'r eira

Gyrrwch yn ofalus y Gaeaf hwn

Cyn dechrau'r daith 

  1. Peidiwch â gyrru os nad oes rhaid  
  2. Rhowch ddigon o amser - ceisiwch beidio â gyrru wrth iddi nosi neu yn y nos
  3. Mae llenwi'r tanc yn hanfodol bwysig  - o injan y car y cewch chi'r rhan fwyaf o'ch gwres os ewch chi'n sownd.  
  4. Gofalwch bod pob golau yn gweithio, pob hylif lan i'r lefel iawn, defnyddiwch olchydd sgrin cryfach rhag ofn i'r sgrin wynt rewi, cadwch bob ffenestr yn lân a defnyddiwch ddadrewydd a theclyn crafu addas.   
  5. Os bydd rhaid i chi adael y cerbyd, gadewch e' yn y lle mwyaf diogel y gallwch chi.  
  6. Peidiwch byth â gadael yr injan yn rhedeg a neb yno gyda'r cerbyd.  Os gwnewch chi hynny, fydd eich yswiriant ddim yn cyfrif os caiff y car ei ddwyn.   
  7. Gwisgwch ar gyfer yr amgylchiadau. Ewch â thermos o ddiod neu gawl twym a bwyd sy'n rhoi llawer o egni fel losin, siocled a thameidiau gyda glwcos ynddyn nhw.   
  8. Ewch â blanced neu sach gysgu a chot neu fest loyw.   
  9. Ewch â rhyw fath o adloniant gyda chi, yn enwedig os byddwch yn cludo plant ifanc.  Ewch â sbectol haul yn erbyn golau llachar isel yr haul, gwefrydd i'r ffôn symudol, rhif ffôn y gwasanaeth torri lawr a rhowch wybod i rywun eich bod ar eich taith yn enwedig os byddwch yn gyrru mewn ardal ddiarffordd.   

Ar yr heol

  1. Pan fyddwch yn gyrru, gan bwyll ar y sbardun ac wrth lywio a phwyso'r brêc - gyrru'n bwyllog ac yn gall yw'r ffordd i deithio'n ddiogel.   
  2. Ceisiwch symud bant yn yr ail neu'r trydydd gêr.  Mewn awtomatig dewiswch yr ail gêr.  Mae modd gosod rhai ceir awtomatig ar gyfer y gaeaf.  
  3. Gwyliwch eich cyflymdra a chofiwch am feicwyr a cherddwyr – byddant yn llai gweladwy na cherbydau eraill
  4. Yn yr iâ a'r eira mae eisiau lan i 10 gwaith yn rhagor o le i stopio.  
  5. Peidiwch byth â throi'r injan yn galed. Yr unig beth fydd hynny'n ei wneud yw rhoi sglein ar yr eira a'r iâ. Os bydd y cerbyd yn dechrau llithro, codwch eich troed gan bwyll oddi ar y sbardun a throi i mewn i'r cyfeiriad y mae'n llithro iddo. Ceisiwch beidio â brecio. Defnyddiwch y gêr cyntaf  fel brêc.   
  6. Mae iâ du yn aml mewn mannau wedi eu cysgodi rhag yr haul, yn enwedig ar heolydd sy'n mynd o'r de i'r gogledd, felly byddwch yn garcus.   
  7. Er bod y cerbyd yn  dwym tu mewn, mae hi'n gallu bod yn rhewi tu fas, felly cadwch lygad ar fesurydd tymheredd allanol y cerbyd. Heolydd heb eu graeanu - ceisiwch beidio â gyrru ar olion olwynion eraill.  Mae'n fwy tebygol y byddwch yn llithro ar  eira wedi'i wasgu'n galed nag ar eira sydd heb gael ei symud.
  8. Mae goleuadau wedi'u gostwng yn hanfodol bwysig er mwyn gweld a chael eich gweld. Peidiwch â defnyddio'r goleuadau niwl oni bai eich bod yn gweld llai na 100 metr o'ch blaen - maen nhw'n dallu cerbydau sy'n dod i'ch cwrdd ac mae goleuadau niwl ar y cefn yn gwneud goleuadau'r brêc yn anodd eu gweld.  
  9. Peidiwch â fflachio eich goleuadau blaen i gydnabod gyrwyr eraill.  Mae hyn yn gallu eu dallu. 

Pecyn Argyfwng:

Gwnewch becyn argyfwng ar gyfer teithiau hir, yn enwedig mewn tywydd gaeafol. 

  • Teclyn crafu iâ a dadrewydd
  • Tortsh.
  • Dillad twym a blanced.
  • Pâr o sgidiau mawr.
  • Pecyn cymorth cyntaf.
  • Gwifrau gwefru ar gyfer y batri.
  • Rhaw.

Ewch â bwyd a diod dwym mewn fflasg pan fyddwch yn teithio mewn tywydd gaeafol.   

Os byddwch mewn trafferthion

Os oes ffôn symudol gyda chi, peidiwch â'i defnyddio tra'r ydych yn gyrru. Sefwch mewn lle diogel neu gofynnwch i deithiwr arall wneud yr alwad.  

Mae cerbydau wedi'u gadael yn gallu bod yn drafferth i gerbydau achub ac i'r aradr eira. Er mwyn sicrhau y bydd yr heol wedi ei chlirio cyn gynted ag y bo modd sefwch gyda'ch cerbyd hyd nes daw cymorth atoch. Os bydd rhaid i chi adael eich cerbyd i fynd am gymorth, gofalwch bod modd i gerbydau eraill eich gweld.

Cyflwr y cerbyd

Yn y gaeaf mae'n fwy pwysig fyth eich bod yn gofalu bod eich cerbyd wedi ei gynnal a'i gadw ac mewn cyflwr da.  .

  • Cadwch eich goleuadau, ffenestri a drychau yn lân, heb iâ nac eira arnyn nhw.  
  • Cadwch eich batri wedi ei wefru lan yn llwyr.
  • Ychwanegwch wrthrewydd i'r rheiddiadur ac ychwanegyn gaeaf i boteli golchi'r sgrin wynt. 
  • Gofalwch bod sychwyr a goleuadau yn gweithio'n dda.  
  • Gofalwch bod gwadnau digon dwfn ar eich teiars a bod y pwysedd iawn ynddyn nhw.  

Gwasanaeth Cynnal a Chadw'r Gaeaf

Mae Gwasanaeth y Gaeaf yn rhan bwysig o waith cynnal a chadw'r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys dodi halen ar y prif ffyrdd pan yw rhew yn debygol, clirio'r eira ac ymateb i lifogydd a choed sydd wedi cwympo.      

Mae halen yn cael ei ddefnyddio i iselhau pwynt rhewi'r dŵr pan yw'r tywydd yn rhewi. Mae hyn yn lleihau'r iâ sy'n ffurfio a'r perygl o lithro neu ddamweiniau mwy difrifol ar yr heol. Wedi ei storio mewn ysguborion halen o amgylch Sir Benfro, mae'r Cyngor yn gallu mynd ag e' mas yn glou pan yw rhagolygon y tywydd yn dweud ei bod yn mynd i rewi. 

Pethau pwysig i'w cofio

  • Efallai y bydd angen amser ar yr halen i weithio'n iawn.  Mae cawodydd neu law yn gallu golchi'r halen oddi ar yr heolydd ac mae perygl iddyn nhw rewi o ganlyniad.   
  • Nid yw'r rhagolygon bob amser yn gywir, ac mae'r tywydd yn gallu newid yn glou.
  • Nid yw 80% o'r heolydd yn cael eu trin yn arferol.  
  • Pan  yw hi'n rhewi neu'n bwrw eira wedi iddi fwrw glaw, efallai na fydd digon o amser i drin y rhwydwaith i gyd cyn iddi rewi.    
  • Mae angen mwy na 2 awr i ddodi halen ar y rhwydwaith

Pa heolydd maen nhw'n dodi halen arnyn nhw?

I weld yr heolydd maen nhw'n dodi halen arnyn nhw yn Sir Benfro: Mapiau Rhwydwaith Halltu

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddan nhw'n halltu heolydd ychwanegol, fodd bynnag, fyddan nhw ddim yn gwneud hyn oni bai fod y rhwydwaith uchod y mae blaenoriaeth iddo wedi ei gwblhau, a bydd yn dibynnu ar y tywydd.   

Yn y prif drefi yn Sir Benfro, efallai y bydd llwybrau cerdded prysur yn cael eu trin, pan yw'n debygol iawn y bydd hi'n rhewi am gyfnodau hir drwy'r dydd.    

Mae dewis yr heolydd sydd i'w halltu o flaen llaw fel mater o drefn yn dibynnu ar faint o draffig sydd arnyn nhw, faint o werth strategol sydd iddyn nhw o ran symud o gwmpas y Sir, cost-effeithiolrwydd a blaenoriaethau penodol lleol, e.e. ysbytai.  Yr egwyddor yn gyffredinol yw gofalu y bydd y gwaith halltu o flaen llaw o les i gymaint ag y bo modd o ddefnyddwyr yr heolydd, a'i fod yn ddigon hyblyg i weld anghenion lleol pwysig.  Mae'r holl heolydd yn y Sir sy'n cael eu halltu o flaen llaw yn ymestyn dros 592 cilometr o heol, sef 23% o holl rwydwaith y Sir.

Cofiwch: nid yw'r rhan fwyaf o'r heolydd yn cael eu trin fel mater o drefn.  Mae angen mwy na dwy awr i halltu ein rhwydwaith o heolydd - peidiwch byth â chymryd bod heol wedi ei halltu eisoes.   

Pryd maen nhw'n dodi halen?

Mae gweithwyr Cyngor Sir Penfro yn cadw llygad ar y tywydd drwy'r dydd a'r nos, gan gadw cysylltiad agos â'r daroganwyr y mae'r Cyngor yn eu cyflogi'n arbennig i wneud y gwaith hwn. Ar ben hynny, mae cryn nifer o synwyryddion ar ymyl heolydd yr ardal sy'n mesur tymheredd yr heol a ffactorau pwysig eraill, ac yn anfon yr wybodaeth hon yn ôl i gyfrifiaduron y mae'r daroganwyr a gweithwyr y priffyrdd yn eu defnyddio.    

Mae penderfynu halltu yn dibynnu, lle bo hynny'n briodol, ar ffactorau fel daearyddiaeth yr ardal, mesuriadau lleithder a chyflymder y gwyntoedd. Mae'r penderfyniad yn cael ei wneud gan swyddogion profiadol mewn gwaith cynnal a chadw gaeaf yn y Cyngor.    

Mae rhannau uwch o'r heol, yn cynnwys pontydd, a rhannau ar dir isel yn fwy tebygol o rewi ac fel arfer mae angen sylw arbennig ar y rhain.

Sut maen nhw'n dodi halen?

Mae'r rhwydwaith y maen nhw'n dodi halen arno ‘rhag ofn' yn ymestyn ar hyd 11 o heolydd, sy'n sicrhau mewn amgylchiadau arferol bod y gwaith halltu wedi ei wneud o fewn dwy awr. Mae pob lori halltu wedi ei chynnal a'i chadw'n ofalus i sicrhau ei bod yn lledaenu'r maint iawn o halen ar yr heolydd, ac  mae pob gyrrwr wedi ei hyfforddi'n llwyr.     

Mae'r halen yn dod o bwll halen yn Sir Gaer. Rydym yn cadw cyflenwadau o halen o dan do i sicrhau nad yw'n mynd yn llai effeithiol o ganlyniad i ddeunyddiau gweithredol yn llifo mas a bod cyn lleied ag y bo modd hefyd o effeithiau amgylcheddol arno.      

Biniau halen

Yn draddodiadol, darparwyd biniau halen ar droadau cas a rhiwiau ar is-ffyrdd gwledig ac o fewn ardaloedd preswyl. Fodd bynnag, oherwydd goblygiadau cost, fandaliaeth, dwyn a pheryglon posibl y cyhoedd yn ceisio defnyddio halen mewn lleoliadau peryglus, yn gyffredinol, ni newidiwyd hen finiau am rai newydd ac ni osodwyd biniau halen newydd yn y blynyddoedd diwethaf.

Ar hyn o bryd rydym yn cyfeirio ceisiadau am finiau halen at y Cynghorau Tref a Chymuned sydd yn y sefyllfa orau i drefnu bod gwirfoddolwyr lleol yn gwasgaru halen yn ystod tywydd garw. Bydd y Cyngor Sir yn trefnu cyflenwi biniau i Gynghorau Tref a Chymuned a bydd yn parhau i gyflenwi'r halen sydd ei angen ar gyfer y gwaith hwn pan ofynnir amdano. Fodd bynnag, ni allwn gyflenwi biniau halen newydd nac ail-lenwi rhai gwag ar fyr rybudd.

Heolydd dan ddŵr

  • Peidiwch â cheisio croesi os yw'r dŵr i'w weld yn rhy ddwfn.   
  • Gyrrwch yn araf yn y gêr cyntaf ond cadwch yr injan i droi'n gyflym trwy bwyso ar y cydiwr i wneud iddo droi'n fwy clou - bydd hyn yn eich cadw rhag  pallu. 
  • Cadwch mas o'r dŵr mwyaf dwfn, ger ymyl y pafin fel arfer.
  • Cofiwch roi prawf ar eich brêcs pan fyddwch chi wedi dod drwy'r llif cyn i chi yrru ar y cyflymder arferol.   

Gofal o amgylch cerbydau cynnal a chadw'r gaeaf  

Nod pob asiantaeth sy'n ymwneud â hyn yw bod cyn lleied o oedi a damweiniau ag y bo modd mewn tywydd gaeafol trwy glirio'r heolydd blaenoriaeth cyn gynted ag y bydd y tywydd yn caniatáu. Mae gyrwyr cerbydau cynnal a chadw'r gaeaf yn cymryd pob gofal yn ystod eu gwaith i gadw pawb arall ar yr heolydd yn ddiogel.  

Cerbydau halltu - Maen nhw'n garcus iawn wrth ddodi halen ar yr heol i sicrhau eu bod yn taenu'n iawn i'r lled iawn. Mae cerbydau halltu yn bwerus tu hwnt ac yn teithio lan i 40mya gan chwalu halen ar draws pob lôn ar gefnffyrdd.  Dylai gyrwyr gadw pellter diogel y tu ôl iddyn nhw. Peidiwch â cheisio achub y blaen.    

Aredig yr Eira - Fe ddylech fod yn arbennig o ofalus i wylio am bentyrrau afreolaidd o eira o ganlyniad i waith aredig eira. Peidiwch â chael eich temtio i achub y blaen ar aradr eira trwy wthio i mewn i lonydd sydd wedi eu clirio'n rhannol.   

Ynglŷn â Gwasanaeth Cynnal a Chadw'r Gaeaf

Mae gan Sir Benfro arwynebedd o 616 o filltiroedd sgwâr ac mae ei rhwydwaith o heolydd yn cynnwys cefnffyrdd, priffyrdd, heolydd nad ydyn nhw'n briffyrdd a heolydd di-ddosbarth. Mae'n rhwydwaith gwledig ar y cyfan ond gyda rhan sylweddol ohono mewn trefi hefyd.    

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am gynnal a chadw'r cefnffyrdd yng Nghymru. Mae Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (South Wales Trunk Road Agency (SWTRA)) yn gyfrifol am gynnal a chadw'r rhan fwyaf o rwydwaith y cefnffyrdd yn Sir Benfro.  

Mae cefnffordd yr A487 o Gapel Newydd i ffin y Sir yn cael ei chynnal a'i chadw gan Asiantaeth Cefnffyrdd y Canolbarth (Mid Wales Trunk Road Agency (MWTRA)). Mae Cyngor Sir Penfro yn is-asiantau ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf o fewn  ffiniau'r Sir ar gyfer SWTRA.    

Bydd Cyngor Sir Penfro yn gwneud pob ymdrech i ddarparu Gwasanaeth Cynnal a Chadw'r Gaeaf a fydd, cyn belled ag y bo modd rhesymol, yn fodd i i gerbydau deithio'n ddiogel ar y rhannau o rwydwaith yr heolydd sydd o bwys strategol a sicrhau y bydd cyn lleied ag y bo modd o oedi a damweiniau oherwydd tywydd garw.

ID: 170, adolygwyd 15/11/2023