Cynnal a Chadw Ffyrdd

Torri Ymylon Priffyrdd

Dim ond un prif doriad sydd, ac mae’n cychwyn ar ddydd Llun cyntaf mis Gorffennaf. Bydd yn parhau am oddeutu 6-8 wythnos yn ddibynnol ar y tyfiant. O boptu’r prif doriad, bydd toriadau diogelwch yn cael eu gwneud ar gyffyrdd, ymlediadau gwelededd, troeon cas, ac ar leoliadau eraill pan fydd y tyfiant yn ymyrryd ar welededd defnyddwyr y ffordd. Bydd y toriad diogelwch cyn y prif doriad yn cael ei wneud yng nghanol Mai, unwaith eto’n ddibynnol ar y tyfiant.

Mae’r polisi wedi’i sefydlu ers 2011 er mwyn lleihau’r nifer o doriadau a oedd yn cael eu gwneud, ac er mwyn caniatáu i flodau gwylltion ffynnu ar ymylon ein priffyrdd trwy gychwyn y prif doriad yn hwyrach yn y tymor.

Caiff y ffactorau canlynol eu hystyried hefyd:

  •  Gwarchodfeydd Natur ar ymyl y ffordd - Bydd y rhain yn cael eu hadnabod o fewn yr amserlen torri, a’u marcio gan ddefnyddio pyst gwyn ar ymyl y ffordd. Bydd y torwyr yn cael eu hysbysu i beidio â thorri’r ardaloedd. Bydd ambell i ardal yn cael eu torri’n hwyrach yn y flwyddyn, ym mis Medi/Hydref. Ar y funud, mae oddeutu 20 safle hyd a lled y rhwydwaith i’w harolygu cyn y flwyddyn nesaf.
  • Bydd y torwyr hefyd yn cael eu hysbysu i osgoi gwrychoedd sy’n amlwg yn cael eu cynnal gan dirfeddianwyr. Ni fyddant ychwaith yn torri ardaloedd sydd ag amrywiaeth o flodau gwylltion, oni bai y byddai hynny’n peri peryglon i ddefnyddwyr y ffyrdd.
  • Bydd y torwyr yn cael eu hysbysu i beidio â thorri clymog Japan, nac unrhyw rywogaethau ymledol anfrodorol eraill. Caiff yr ardaloedd eu nodi, a bydd y torwyr yn hysbysu’r rheolwyr fel bo’r ardaloedd yn cael eu rhestru fel ardaloedd i’w trin gyda chwynladdwyr.

Hysbysu Torri Ymylon    

 

ID: 3720, adolygwyd 09/06/2022