Y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAS) sy'n gyfrifol am ddarparu cadeiriau olwyn yng Nghymru i'r rhai sydd â nam parhaol neu hirdymor. Os oes angen cadair olwyn arnoch ar gyfer defnydd hirdymor ac rydych yn bodloni meini prawf ALAS, dylech ofyn i weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n eich adnabod eisoes fel Meddyg Teulu, Nyrs Ardal, Therapydd Galwedigaethol neu Ffisiotherapydd eich atgyfeirio er mwyn lleihau unrhyw oedi.
Os oes angen cadair olwyn arnoch am gyfnod byr neu os byddai'n well gennych brynu eich cadair olwyn eich hun ar gyfer defnydd hirdymor, dylech ystyried benthyg, llogi neu brynu cyfarpar gan Siopau Lleol neu chwilio am gyflenwr ar-lein.
Os ydych yn ymwneud â'r tîm Therapi Galwedigaethol ar hyn o bryd neu wedi cael eich atgyfeirio atynt, gallwn asesu eich angen am gadair olwyn at ddefnydd hirdymor fel rhan o asesiad cyffredinol. Fodd bynnag, os mai dim ond cadair olwyn sydd ei hangen arnoch, cyfeiriwch at y wybodaeth uchod am arweiniad.
Nid yw pob cadair olwyn wedi eu dylunio na'u profi i’w defnyddio fel sedd mewn cerbyd, a dylech allu canfod os ydyw trwy holi’r gwneuthurwr neu ddarllen y llawlyfr cyfarwyddiadau i ddefnyddwyr.
Fodd bynnag, os oes angen i chi deithio yn eich cadair olwyn heb fod yn siŵr a yw eich cadair olwynion yn addas, mae Cymdeithas Sefydliadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO) yn cynnig Cynllun Pasport Cadeiriau Olwyn am ddim sy'n cynnwys: