Cynnal Annibyniaeth
Cymorth Pellach gan Gyflenwyr Cyfleustodau
Mae cymorth i’w gael, yn rhedeg o anawsterau ariannol i anawsterau oherwydd gallu gwybyddol, synhwyraidd neu gorfforol ac mae’n cynnwys y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol (yn agor mewn tab newydd) ddi-dâl sy’n bwriadu cynorthwyo a chadw pobl agored i niwed yn ddiogel yn eu cartref eu hunain.
Darllen Mesuryddion
Os yw’n anodd i chi gael mynediad at, neu gymryd darlleniadau o, eich mesuryddion ynni, efallai y byddech yn dymuno ystyried gosod mesurydd clyfar (yn agor mewn tab newydd), sydd â buddion ychwanegol ar gyfer cwsmeriaid rhagdalu (yn agor mewn tab newydd).
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ailosod trip-switsh neu newid ffiwsiau, gall trydanwr ail-leoli uned defnyddiwr heb orfod cysylltu â’ch darparwr.
Os ydych chi’n meddwl ei bod hi’n angenrheidiol symud eich mesurydd, dylech gysylltu â’ch darparwr ynni (h.y. enw’r cwmni ar eich bil) i ddechrau, i symud eich mesurydd nwy neu drydan (yn agor mewn tab newydd), ac os ydych chi ar y Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth (yn agor mewn tab newydd), efallai y bydd eich cyflenwr yn symud y mesurydd am ddim.
Fodd bynnag, efallai y bydd eich darparwr ynni yn eich cynghori y bydd symud eich mesurydd yn gofyn am drydanwr a/neu y bydd costau ymlaen llaw y bydd disgwyl i chi eu talu.
Os na allwch gael mynediad at eich mesurydd neu’ch uned defnyddiwr oherwydd anabledd ac nad ydych yn gallu talu costau o’r fath, yna cyn i unrhyw waith ddechrau, cewch ofyn am asesiad Therapi Galwedigaethol a fydd yn ystyried eich anghenion ac opsiynau gwahanol. Yn ddibynnol ar eich tenantiaeth, gallai hyn gynnwys gwneud argymhelliad naill ai i dîm Tai’r Sector Preifat neu i’ch Landlord Tai Cymdeithasol am Grant Addasiadau Ffisegol (yn agor mewn tab newydd).
Os ydych chi’n byw yn eich cartref eich hun neu gartref rhent preifat, ac mae gennych chi anabledd corfforol neu rydych chi’n hŷn na 65 oed, efallai y gall Gofal a Thrwsio (yn agor mewn tab newydd) eich cynorthwyo chi trwy drefnu i grefftwr lleol gynorthwyo i symud eich mesurydd neu uned defnyddiwr.
Darparwyr Ynni
I gael rhagor o wybodaeth am ba gefnogaeth sydd ar gael gan eich darparwr, gwelwch yr isod:
Nwy Prydain
British Gas Energy Trust (yn agor mewn tab newydd) yn helpu teuluoedd ac unigolion sy’n mynd trwy galedi ac sy’n cael trafferth gyda dyledion nwy a thrydan trwy ddyfarnu grantiau i glirio’r dyledion hynny.
Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth (yn agor mewn tab newydd) yn darparu gwasanaethau hanfodol i gwsmeriaid diamddiffyn.
British Telecom
BT Help & Support (yn agor mewn tab newydd) ddewis o gyngor a ffeithlenni i’ch cefnogi chi gydag ystod o bynciau o dalu biliau i sut i ddefnyddio ffôn pan fo gennych nam ar y synhwyrau
Pecyn cost isel, hawdd ei ddeall yw BT Basic (yn agor mewn tab newydd) sy’n eich helpu chi i gadw mewn cysylltiad, hyd yn oed os ydy pethau ychydig yn dynn
Mae ein cynllun Protected Services Scheme (yn agor mewn tab newydd) wedi’i ddylunio i’ch diogelu chi os na allwch neu os na fyddwch yn talu’ch bil ffôn oherwydd amgylchiadau eithriadol, fel bod yn yr ysbyty.
Nod y BT Free Priority Fault Repair Scheme (yn agor mewn tab newydd) yw darparu gwasanaeth di-nam i bobl ddiamddiffyn, sy’n methu gadael y tŷ oherwydd salwch neu anabledd ac y mae’r ffôn yn llinell hollbwysig iddynt. Os oes gennych salwch cronig tymor hir neu anabledd difrifol, gallwch wneud cais. Mae BT yn gofyn bod eich cais yn cael ei gefnogi gan weithiwr meddygol.
Gall ein gwasanaeth 195 (yn agor mewn tab newydd) helpu os na allwch ddarllen neu ddal cyfeiriadur rhifau ffôn oherwydd ichi golli’ch golwg neu oherwydd anabledd arall er mwyn defnyddio gwasanaeth ymholiadau cyfeiriadur rhifau ffôn am ddim. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth os mai BT yw’ch cwmni ffôn neu beidio.
Gwasanaeth Dehongli SignVideo (yn agor mewn tab newydd) - Os ydych chi’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a’ch bod yn gwsmer BT, gallwch gysylltu â ni trwy ddefnyddio BSL a gwe-gamera.
Gall gwasanaeth cyfnewid Next Generation Text (yn agor mewn tab newydd) helpu os ydych chi ar y ffôn a’ch bod chi neu’ch galwr yn cael trafferth deall neu glywed eich gilydd.
Wales and West Utilities
Mae’r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth (yn agor mewn tab newydd) yn wasanaeth rhad ac am ddim a gynigir trwy’r diwydiant ynni ac mae ar gael i gefnogi Cwsmeriaid Blaenoriaeth (yn agor mewn tab newydd) gyda gwasanaethau ychwanegol mewn perthynas â’u hanghenion cyfathrebu, mynediad a diogelwch. Gyda’ch caniatâd chi, gallwn drosglwyddo’ch manylion i’r cwmnïau sy’n gyfrifol am ddanfon a chyflenwi trydan, nwy a dŵr i’ch cartref.
Cloi Falfiau Poptai (yn agor mewn tab newydd) (rhad ac am ddim) - Addas i gwsmeriaid sy’n methu gweithredu eu cwcer nwy yn ddiogel mwyach, fel pobl sy’n byw gyda chlefyd Alzheimer neu Ddementia, a allai fod mewn perygl o niweidio’u hunain a’u cartref trwy adael ymlaen nwy heb fflam neu drwy anghofio diffodd y pentan.
Western Power Distribution
Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth (yn agor mewn tab newydd) – Gallwn roi rhif uniongyrchol i chi i’w ffonio os bydd toriad i’r pŵer er mwyn i chi allu cysylltu â ni’n syth; byddwn yn cytuno ar gyfrinair gyda chi cyn i ni ymweld â chi, er mwyn i chi deimlo’n ddiogel; byddwn yn darparu help arbenigol, os bydd angen, trwy mae'r Groes Goch Brydeinig (yn agor mewn tab newydd).
Dwr Cymru
Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth (yn agor mewn tab newydd) – Gallwn ni eich helpu chi gyda’ch bil dŵr neu fesurydd dŵr, cynnig help ymarferol ac o bosibl cynnig gwasanaethau ychwanegol os oes gennym nam ar y golwg, nam ar y lleferydd, yn drwm eich clyw, yn oedrannus neu os oes gennych anableddau corfforol neu ddysg
Mae gan Cymorth i Dalu’ch Bil (yn agor mewn tab newydd) ffyrdd amrywiol o’ch cefnogi chi’n ariannol i dalu’ch bil.
Newid Cyflenwyr
Gwasanaeth cymharu a newid cyflenwr ar-lein neu dros y ffôn yw uSwitch (yn agor mewn tab newydd) sy’n helpu cymharu prisiau ar nwyddau a gwasanaethau fel cyfleustodau, a allai’ch helpu chi i arbed arian
Gallwch gael cyngor hefyd ar gyflenwyr gwasanaethau a newid eich cyflenwr ynni gan Ofgem (yn agor mewn tab newydd) neu Cyngor Ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd)